Neidio i'r prif gynnwy

Y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol

5 Tachwedd 2025

Annwyl Ysgrifennydd Cabinet,

Cyfarfu’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol ar 3 Tachwedd i ystyried y cynnydd a wneir ar draws Cymru o ran pontio i’r trefniadau newydd ar gyfer gwella ysgolion. Fe gofiwch fod aelodau’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn cynnwys Arweinwyr Awdurdodau Lleol, Prif Weithredwyr, Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a thîm Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Cafodd y Grŵp ddiweddariadau defnyddiol am y broses o bontio i’r trefniadau newydd ar gyfer gwella ysgolion ar draws Cymru ac am y broses o sefydlu’r corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd, sef Dysgu. Mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid wedi gwneud llawer o waith i gyflwyno’r newidiadau strwythurol hyn erbyn mis Medi 2025 ar gyfer y dull newydd o wella ysgolion.

O fewn y fframwaith cenedlaethol, rydym yn cydnabod bod yna wahaniaethau ar draws Cymru sy’n seiliedig ar wybodaeth ac angen lleol, a bod partneriaid yn teimlo ei bod yn bwysig gwarchod hynny. Mae pawb yn gweithio o fewn y fframwaith cenedlaethol, ac rydym yn cydnabod bod yna waith i’w wneud o hyd sy’n cynnwys sicrhau eglurder ynghylch rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd. Fodd bynnag, rydym yn deall bod y dull cyffredinol o weithredu wedi’i groesawu ar draws y sector.

Ni fydd newid strwythurau’n unig yn ddigon i atal y problemau sylfaenol a nodwyd gan yr Adolygiad Strategol rhag dod i’r amlwg unwaith eto. Bydd angen ymwybyddiaeth ar y cyd o’r problemau hynny, ac ymdrech ar y cyd ar draws y system i gymryd camau i sicrhau ein bod yn cyflawni’r newid mewn diwylliant sy’n angenrheidiol, er mwyn ategu’r newidiadau strwythurol sydd wedi’u gwneud. Wrth gwrs, dyma elfen fwyaf heriol unrhyw raglen ddiwygio.

Mae partneriaid yn croesawu’r ymgysylltu parhaus, ar y cyd ac mewn sefyllfaoedd un i un, rhwng y Tîm Gwella Addysg ac awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau ein bod yn deall sut y mae’r trefniadau newydd yn gweithio ac er mwyn nodi unrhyw feysydd sy’n peri pryder neu unrhyw angen ychwanegol. Mae awdurdodau lleol yn ail-lunio gwasanaethau mewn ffordd wahanol ac mae angen monitro capasiti mewn ysgolion, mewn awdurdodau lleol ac, yn wir, o fewn Llywodraeth Cymru.

Derbyniodd y Grŵp fod yna waith i’w wneud o hyd i gytuno ar sut y byddwn yn deall effaith y newidiadau hyn a sut beth fydd llwyddiant, a rhaid caniatáu amser i’r system ymateb i’r newidiadau a gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r llwyddiant hwnnw. Byddai eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau, blaenoriaethu gwaith yn glir ac mewn modd a rennir, a chyfathrebu ac ymgysylltu da yn cyfrannu’n helaeth at greu system sy’n fwy cadarn a chydnerth. Y nod yn y pen draw yw gwella addysg yng Nghymru.

Mae data yn bwysig a dylid cael ffocws parhaus, sydd wedi’i seilio ar ddata, ar gyfer gwella ysgolion. Mae angen i’r sector greu diwylliant a disgwyliad sy’n golygu bod data’n cael ei rannu’n eang ac yn cael ei ddefnyddio i hybu momentwm ynghylch gwella ysgolion, yn hytrach na’i fod yn cael ei ddefnyddio fel mesur ar gyfer atebolrwydd. Dylai data fod yno i hybu ein dealltwriaeth o’r system ac ar gyfer gwella ysgolion, yn hytrach na’i fod yno i greu ffocws ar unigolion, athrawon, ysgolion neu awdurdodau lleol.

Mae conglfeini’r trefniadau newydd ar gyfer gwella ysgolion yn eu lle. Yn ystod blwyddyn academaidd 2025 i 2026, bydd y trefniadau’n parhau i gael eu hymgorffori a’u datblygu, ac rydym o’r farn y bydd hynny’n darparu system hunanwella gydlynol a chyson o safon ar draws Cymru. Clywodd y Grŵp am gyflwyno cylch trafod cenedlaethol ynghylch blaenoriaethau, a fyddai’n cynnwys pob partner, er mwyn sicrhau bod y blaenoriaethau’n dal yn berthnasol ac yn rhai a rennir. Gwnaeth hefyd annog sefydlogrwydd ynglŷn â’r blaenoriaethau hynny dros flynyddoedd er mwyn helpu’r system ysgolion.

Hwn oedd ein cyfarfod olaf oherwydd bod camau’n cael eu cymryd i baratoi i ddod â’r trefniadau llywodraethu ffurfiol ynglŷn â’r Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion i ben, a bod y cyfrifoldeb parhaus yn cael ei drosglwyddo i weithgareddau “arferol” Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Hoffem ddiolch i chi am y cyfle i fod yn rhan o’r siwrnai tuag at sicrhau mwy o gydweithio ar bob lefel er mwyn gwella ysgolion.

Yr eiddoch yn gywir,

Kirsty Williams CBE