Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydym yn croesawu gosod Bil Rheilffyrdd y DU. Bydd y Bil yn galluogi trawsnewidiad mwyaf y sector rheilffyrdd mewn cenhedlaeth, gan foderneiddio a gwella gwasanaethau rheilffyrdd a darparu rhwydwaith rheilffyrdd mwy integredig ac atebol gyda rhagor o ffocws ar deithwyr.

Ers y cyhoeddiad y byddai Bil Rheilffyrdd yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gyflawni nifer o amcanion i sicrhau bod y bil yn sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. 

O ganlyniad i'r gwaith cydweithredol hwn, rydym wedi gallu cytuno i gynnwys cymal penodol yn y Bil, sy'n darparu ar gyfer datblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a Gweinidogion Cymru.

Mae'r cymal hwn yn cydnabod yr uchelgais a rennir i godio cyfrifoldebau datganoledig, trefniadau ariannu a mecanweithiau llywodraethu ar y cyd, a thrwy hynny gryfhau atebolrwydd wrth ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd ar draws ardal Cymru a'r Gororau. Ar yr un pryd, mae swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gweithio ar y cyd i ddrafftio Penawdau Telerau ar gyfer y Memorandwm hwn, sydd wedi bod yn broses gadarnhaol a chydweithredol.

Disgwylir i'r Memorandwm gael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2026, a bydd yn cael ei ategu gan gytundeb partneriaeth rhwng y sefydliad newydd wedi'i greu drwy'r Bil, Rheilffyrdd Prydain Fawr (GBR) a Thrafnidiaeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at amcanion y cytunwyd arnynt ar y cyd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a gwasanaethau'r DU sy'n gwasanaethu yn ardal Cymru a'r Gororau.

Mae'r Penawdau Telerau yn cynnwys ein bwriad gweinidogol ar y cyd ar gyfer:

  1. Amcanion a rennir a chynllunio cyfnod rheoli / cyfnod ariannu ar gyfer ardal Cymru a'r Gororau – Cytuno ar y cyd ar amlinelliad o amcanion a chynlluniau busnes wedi'u cyhoeddi, sydd wedi'u llunio gan y ddwy lywodraeth.
  2. Integreiddio Traciau a Threnau – Egwyddorion y cytunwyd arnynt i ddarparu rhwydwaith rheilffyrdd mwy ymatebol a gwydn drwy ddarparu rheilffyrdd symlach, gwell a mwy integredig i ddefnyddwyr rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
  3. Uned Fusnes GBR ar gyfer Cymru a'r Gororau – Darparu Uned Fusnes bwrpasol, wedi'i grymuso i ardal Cymru a'r Gororau o fewn GBR a fydd yn cyflawni yn erbyn yr amcanion a rennir wedi'u gosod gan y ddwy lywodraeth.
  4. Gwasanaethau Trawsffiniol Cymru a Lloegr – Fframwaith wedi'i alinio rhwng Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer trefniadau llywodraethu ar y cyd a threfniadau cyllido tryloyw sy'n ymwneud â gwasanaethau rheilffordd trawsffiniol, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd hanfodol y gwasanaethau hyn mewn perthynas â chysylltedd, lles a datblygu economaidd cymunedau yng Nghymru a Lloegr.
  5. Mynediad a Defnydd – Egwyddorion i alluogi GBR a Thrafnidiaeth Cymru i weithio gyda'i gilydd i symleiddio contractau mynediad a'r fframwaith codi tâl, a sicrhau bod penderfyniadau GBR ynghylch dyrannu capasiti a datblygu'r Cynllun Capasiti Seilwaith yn cyd-fynd â'r amcanion ar y cyd sydd wedi'u pennu ar gyfer ardal Cymru a'r Gororau.
  6. Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) – Cefnogi Trafnidiaeth Cymru i integreiddio traciau a threnau, lleihau cymhlethdod rheoleiddio mewnol, a datblygu fframwaith rhyngwyneb ar y cyd â GBR i sicrhau gwasanaeth parhaus ar draws y ddau rwydwaith.
  7. Bwrdd Rheilffyrdd Cymru a Gwelliannau – Bwrdd Rheilffyrdd Cymru a gwedd newydd a gydnabyddir yn ffurfiol fel corff strategol o fewn y fframwaith llywodraethu. Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru datganoledig yn adolygu dyraniadau cyllid, cynlluniau busnes, a pherfformiad cynlluniau gwella ar draws ardal Cymru a'r Gororau.
  8. Llywodraethu – Egwyddorion llywodraethu i sicrhau sianeli digonol i wneud GBR a Thrafnidiaeth Cymru yn atebol i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru.
  9. Penodiadau a Chynrychiolaeth – Rôl Gweinidogion Cymru wrth lunio'r strategaeth recriwtio gyffredinol ar gyfer Bwrdd GBR, ac ymgynghori gan Brif Swyddog Gweithredol GBR wrth recriwtio uwch swyddogion gweithredol o fewn Uned Fusnes Cymru a'r Gororau.
  10. Y broses ar gyfer cyhoeddi, adolygu a diwygio'r Memorandwm

Uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw gweld ein holl wasanaethau trenau a'n seilwaith yn cael eu datganoli'n llwyr, fel y gallwn gyflawni system drafnidiaeth gwell a mwy integredig i Gymru. Mae'r datganiad hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein dull cydweithredol o ddiwygio rheilffyrdd, ac rwy'n hyderus y bydd ein cydweithio parhaus â Llywodraeth y DU yn sicrhau ein bod yn darparu rhwydwaith rheilffyrdd modern ac integredig sy'n gweithio i deithwyr ledled y Deyrnas Unedig.