Manteision iechyd a chymdeithasol coetiroedd a chyfleoedd cynhyrchion di-bren coedwigoedd: adolygiad llenyddiaeth (crynodeb)
Mae'r adolygiad hwn yn archwilio’r defnydd o goetiroedd, y cyfleoedd, a’r manteision i bobl gael mynediad atynt, a’r rhwystrau rhag gwneud hyn, a manteisio ar gynhyrchion di-bren coedwigoedd i fusnesau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Coedwig Genedlaethol ledled Cymru ac archwilio sut y gall y Goedwig Genedlaethol gefnogi datblygu diwydiant pren cynaliadwy. Amlinellir hyn yn y Rhaglen Lywodraethu: diweddariad.
Comisiynodd y gangen Goedwigaeth y Tîm Ymchwil i’r Hinsawdd ac i'r Amgylchedd yng Ngwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llenyddiaeth i archwilio manteision coetiroedd. Roedd hyn yn canolbwyntio ar ddau faes ymchwil:
- manteision economaidd, cyfleoedd a heriau elwa o gynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd
- manteision iechyd a chymdeithasol bod mewn coetiroedd a rhwystrau sy'n atal ymgysylltu
Nod yr adolygiad hwn oedd syntheseiddio’r dystiolaeth bresennol i gefnogi penderfyniadau polisi ac amlygu bylchau ymchwil ar gyfer astudiaeth yn y dyfodol. Gallai hyn helpu i lywio strategaethau i fanteisio ar botensial economaidd, diwylliannol a hamdden y Goedwig Genedlaethol.
Cynhaliwyd y chwiliadau llenyddiaeth gan Wasanaethau Llyfrgell Llywodraeth Cymru a'r Tîm Ymchwil i’r Hinsawdd ac i'r Amgylchedd rhwng 26 Medi 2024 a 27 Chwefror 2025. Canolbwyntiodd yr adolygiad ar lenyddiaeth rhwng 2014 a 2024, ac eithrio ffynonellau nad ydynt yn Saesneg. Cynhwyswyd astudiaethau cyn 2014 lle bo hynny'n berthnasol, yn enwedig pan oeddent yn esbonio cysyniadau allweddol neu fframweithiau damcaniaethol. Cytunwyd gyda'r gangen Goedwigaeth y byddai'r adolygiad yn canolbwyntio ar gynhyrchion di-bren coetiroedd i ategu'r dystiolaeth sefydledig ar gynhyrchion pren. Felly, defnyddiwyd termau chwilio ehangach megis 'cynhyrchion sy'n seiliedig ar goetiroedd'. Trwy drafodaethau cwmpasu gyda'r gangen Goedwigaeth, datblygwyd chwe chwestiwn ymchwil penodol.
- Sut mae busnesau wedi manteisio ar gynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd i gefnogi twf economaidd eu busnes?
- Pa gyfleoedd economaidd y mae cynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd wedi'u darparu i fusnesau?
- Pa rwystrau y mae busnesau wedi'u hwynebu wrth fanteisio ar gynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd?
- Pa fanteision iechyd seicolegol a ffisiolegol sy'n gysylltiedig â choetiroedd?
- Pa fanteision cymdeithasol nad ydynt yn ymwneud ag iechyd sy'n gysylltiedig â choetiroedd?
- Pa rwystrau sy'n bodoli sy'n atal ymgysylltu mewn coetiroedd?
Wrth adolygu'r canfyddiadau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn, dylid ystyried unrhyw gyfyngiadau'r astudiaeth. Dylanwadwyd ar y llenyddiaeth a nodwyd gan y termau chwilio a ddefnyddiwyd, felly gallai fod termau chwilio eraill wedi cynhyrchu rhagor o ffynonellau perthnasol. Oherwydd nifer cyfyngedig y canlyniadau o ffynonellau'r DU, ehangwyd y chwiliad i astudiaethau rhyngwladol o wledydd â hinsoddau tebyg gan gynnwys Ewrop a Gogledd America. Ehangwyd y chwiliad llenyddiaeth hefyd i gynnwys tystiolaeth ar fannau gwyrdd ehangach lle’r oedd ymchwil penodol i goetiroedd yn gyfyngedig neu le’r oedd ymchwil yn grwpio coetiroedd o fewn mannau gwyrdd ehangach. Er y gallai’r canfyddiadau fod yn berthnasol i bolisi coedwigaeth yng Nghymru, dylid ystyried y cyfyngiadau hyn wrth gymhwyso'r canfyddiadau hyn i Gymru.
Prif ganfyddiadau
Y defnydd o gynhyrchion di-bren a gwasanaethau coedwigoedd ledled Ewrop a Chymru
Mae'r dystiolaeth a nodwyd yn yr adolygiad yn tynnu sylw at gyfraniad coedwigoedd a choetiroedd at economi leol a chenedlaethol Cymru. Disgrifiodd tystiolaeth o Gymru ac yn rhyngwladol sut y mae'r adnoddau naturiol hyn yn cynhyrchu refeniw a chyflogaeth drwy weithgareddau megis cynhyrchu pren a thanwydd pren, yn ogystal â chynaeafu cynhyrchion di-bren coedwigoedd. Yn ogystal, mae coedwigoedd yn cynnal gwasanaethau megis gweithgareddau hamdden ac yn chwarae rôl wrth hybu'r sectorau twristiaeth a lletygarwch.
Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth a nodwyd yn tynnu sylw at y ffaith y gallai argaeledd cynhyrchion di-bren coedwigoedd yng Nghymru fod yn fwy cyfyngedig nag mewn gwledydd eraill, yn bennaf oherwydd y gorchudd coed cymharol isel. Serch hynny, mae gan y cyhoedd ddiddordeb mewn casglu'r cynhyrchion hyn yng Nghymru megis cynhyrchion addurnol, blodeuol, crefft, a bwyd neu ddiod. Mae tystiolaeth o astudiaethau Ewropeaidd yn dangos bod cyfranogiad y cyhoedd wrth gasglu'r cynhyrchion hyn a’r mathau o gynhyrchion di-bren coedwigoedd a gesglir yn amrywio'n sylweddol ar draws gwahanol ranbarthau.
O ran gwasanaethau coedwigoedd, nododd yr adolygiad dystiolaeth bod coedwigoedd a choetiroedd yn chwarae rhan werthfawr mewn hamdden sy'n seiliedig ar natur, gan gynnig gwasanaethau sy'n denu ymwelwyr ac yn cefnogi economïau lleol megis busnesau twristiaeth a lletygarwch. Pwysleisiodd y sawl sy'n gweithio yn y sector coedwigaeth addasrwydd mannau coetir at ddefnydd hamdden gan eu bod yn gallu addasu i ystod o weithgareddau twristiaeth a gofynion tymhorol ac maent yn gallu gwrthsefyll niferoedd uchel o ymwelwyr. Nodwyd bod coedwigoedd sydd wedi'u lleoli ger ardaloedd trefol ac sy'n cynnwys cynefinoedd amrywiol megis coetir a glaswelltir, hefyd yn fwy deniadol ar gyfer hamdden, gan eu bod yn cynnig profiadau amrywiol ac yn cynyddu gwerth cyffredinol twristiaeth coetiroedd.
Cyfleoedd economaidd cynhyrchion di-bren a gwasanaethau coedwigoedd
Nododd yr adolygiad dystiolaeth y gall cynhyrchion di-bren coedwigoedd gynnig cyfleoedd busnes pwysig a chreu swyddi mewn ardaloedd gwledig. Mae ganddynt botensial i arallgyfeirio bywoliaethau, cefnogi datblygu gwledig, a chynyddu incwm i dirfeddianwyr a busnesau gwledig, yn enwedig lle mae cyflogaeth am dâl yn gyfyngedig. Ar ben hynny, nododd nifer fach o ffynonellau y gall cynhyrchu pren a chynhyrchu di-bren ategu ei gilydd i gefnogi cynhyrchu incwm.
Dangosodd tystiolaeth fod gwerth economaidd cynhyrchion di-bren coedwigoedd yn amrywio'n fawr ar draws Ewrop. Mae'r gwerth cyffredinol yn cynyddu pan fydd cynhyrchion a gesglir at ddefnydd personol yn cael eu hystyried. Er gwaetha’r twf mewn swm a gwerth marchnadol, canfu'r adolygiad fod cynhyrchion di-bren coedwigoedd yn dal i fod yn is na gwerth marchnadol cynhyrchu pren.
O ran gwasanaethau coedwigoedd, mae'r dystiolaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod coetiroedd yn cyfrannu'n sylweddol at y sector twristiaeth gweithgareddau awyr agored yng Nghymru, sydd wedi gweld twf nodedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cydnabuwyd yn y llenyddiaeth sydd ar gael bod hamdden coetiroedd yn sbardun allweddol gwariant twristiaeth, gyda chyfleoedd cynyddol i gynhyrchu incwm i fusnesau coetiroedd.
Nododd yr adolygiad hefyd ddiddordeb cynyddol yng Nghymru mewn fforio am ffyngau a marchnadoedd ffermwyr a allai adlewyrchu brwdfrydedd ehangach dros brofiadau sy'n gysylltiedig â natur. Mae astudiaethau'n awgrymu y gallai'r sector twristiaeth fanteisio ar hyn i gynnig cyfleoedd i gysylltu â natur trwy arosiadau dros nos neu weithgareddau diwylliannol, chwaraeon neu iechyd a llesiant mewn coedwigoedd neu ger coedwigoedd.
Rhwystrau i fanteisio ar gynhyrchion di-bren a gwasanaethau coedwigoedd
Mae'r dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad yn tynnu sylw at ddau brif rwystr i fanteisio ar gynhyrchion di-bren coedwigoedd. Y rhwystr cyntaf yw ansawdd a chwmpas data, canfu'r adolygiad anghysondebau mewn adrodd swyddogol, yn aml oherwydd gwahaniaethau yn y ffordd y cafodd y rhain eu mesur a natur amrywiol, safle-benodol cynhyrchion di-bren coedwigoedd, sy'n cymhlethu eu dosbarthu a’u hintegreiddio i arolygon coedwigoedd cenedlaethol. Nododd ymchwilwyr y gall gwybodaeth gyfyngedig mewn rhai meysydd ystumio canfyddiadau ac arwain at danamcangyfrif eu gwerth economaidd.
Canfu’r ail rwystr a nodwyd yn yr ymchwil fod cynhyrchion di-bren coedwigoedd yn aml yn anoddach i’w masnacheiddio na chynhyrchion eraill oherwydd heriau'r farchnad a chynhyrchu. Nododd yr adolygiad fod llwyddiant yn dibynnu ar ffactorau megis y math o gynnyrch ac amodau'r farchnad. Mae ymchwil yn awgrymu bod masnacheiddio effeithiol yn gofyn am ddull hirdymor, sy'n cyfuno gwybodaeth am y farchnad â rheoli da o adnoddau naturiol.
Nodwyd sawl rhwystr i dwristiaeth a datblygu busnes yn y sector coedwigaeth megis cydweithio cyfyngedig rhwng busnesau twristiaeth a busnesau coedwigaeth, pwysau ecosystemau, pryderon y cyhoedd am orddefnyddio coedwigoedd, a'r angen i gydbwyso cynhyrchion traddodiadol a newydd coedwigoedd.
Mae'r adolygiad hefyd yn nodi nifer o brosiectau sydd â'r nod o ddatblygu rheoli, marchnadwyedd a phroffidioldeb cynhyrchion di-bren coedwigoedd ledled Cymru, gan gynnwys StarTree, Dewis Gwyllt, Nwyddau o’r Goedwig, a LEADER. Daeth ymchwilwyr i'r casgliad o'r ffynonellau hyn bod y rhan fwyaf o'r mentrau hyn wedi llwyddo i wella dealltwriaeth o botensial economaidd cynhyrchion coedwigoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn wynebu problemau tyfu yn unol â'r anghenion oherwydd bylchau yn y gadwyn gyflenwi, capasiti cyfyngedig ymhlith sefydliadau lleol a busnesau bach, a diffyg cymorth ariannol.
Yn fwy cyffredinol, mae'r adolygiad yn tynnu sylw at y ffaith bod angen mwy o dystiolaeth ar sut mae busnesau yng Nghymru wedi manteisio ar gynhyrchion di-bren a gwasanaethau coedwigoedd. Byddai'r sylfaen dystiolaeth yn elwa o fwy o ymchwil a gwerthusiadau o weithgareddau busnes yn y maes hwn.
Manteision iechyd seicolegol a ffisiolegol sy'n gysylltiedig â choetiroedd
Canfu'r adolygiad y gall amrywiaeth o ffactorau ddylanwadu ar y graddau y mae unigolion yn profi manteision iechyd a chymdeithasol o goedwigoedd a choetiroedd. Mae'r rhain yn cynnwys anghydraddoldebau demograffig a chymdeithasol, amlder ymweliadau, agosrwydd at fannau gwyrdd, y mathau o weithgareddau y mae pobl yn cymryd rhan ynddynt, a’u hoffter am nodweddion penodol coedwigoedd megis ardaloedd gwyllt ac estheteg naturiol. Nododd yr adolygiad hefyd dystiolaeth gymysg ar ddefnydd goddefol yn erbyn defnydd gweithredol, mae rhai ymchwil yn awgrymu y gall amgylchedd y goedwig ei hun arwain at ganlyniadau llesiant cadarnhaol, ond mae ffynonellau eraill yn awgrymu bod gweithgareddau penodol megis cerdded neu ymweliadau hirach yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol.
O ran manteision iechyd seicolegol, nododd yr adolygiad ystod o ffynonellau tystiolaeth sy'n dangos effeithiau adferol amlygiad i goetiroedd a'u gallu i leihau straen, rhoi hwb i hwyliau a gwella llesiant goddrychol. Ar ben hynny, nododd ymchwil hefyd sut y mae coedwigoedd yn cynnig lle ar gyfer gweithgarwch corfforol yn yr awyr agored a sut y gall ymarfer corff mewn coetiroedd hefyd gefnogi iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolyn.
Mae tystiolaeth o astudiaethau empirig a rhaglenni yn awgrymu bod ansawdd yr amgylchedd ac ymdeimlad unigolion o gysylltiad â natur yn dylanwadu ar y canlyniadau hyn, er efallai na fydd y manteision yn cael eu profi'n gyfartal ar draws grwpiau cymdeithasol.
Mae tystiolaeth o'r adolygiad hefyd yn dangos y gall ymweliadau â choedwigoedd ddarparu manteision iechyd ffisiolegol trwy gefnogi adfer o straen gan gynnwys gostwng cortisol a phwysedd gwaed. Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall amgylcheddau coedwigoedd mewn rhai achosion gael effeithiau manteisiol ar amrywioldeb cyfradd curiad y galon (HRV) unigolion, er bod un astudiaeth a nodwyd yn dangos nad oedd unrhyw wahaniaeth yn y mesur hwn.
Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at y rhyng-gysylltiad rhwng iechyd seicolegol ac iechyd ffisiolegol, gan fod yr effeithiau hyn yn aml yn cyd-ddigwydd yn ystod cyswllt uniongyrchol ag amgylcheddau coedwigoedd. Pwysleisiodd yr adolygiad gyfyngiadau yn y sylfaen dystiolaeth, gan gynnwys dyluniadau astudiaethau anghyson a diffyg ymchwil hydredol sy'n effeithio ar y graddau y gellir cymhwyso'r canfyddiadau hyn i gyd-destunau eraill, gan gynnwys yng Nghymru. Felly, mae angen ymchwil hirdymor pellach o ansawdd uchel i egluro'r cysylltiadau hyn a sicrhau bod ymyriadau sy'n seiliedig ar goedwigoedd yn gynhwysol ac yn effeithiol ar draws poblogaethau a lleoliadau amrywiol.
Manteision nad ydynt yn ymwneud ag iechyd sy'n gysylltiedig â choetiroedd
Canfu nifer fach o ffynonellau a nodwyd yn yr adolygiad y gall amrywiaeth o werthoedd cymdeithasol a diwylliannol fod yn gysylltiedig â choedwigoedd er enghraifft, trwy bwysigrwydd diwylliannol coed mewn llên gwerin a myth. Mae'r sylfaen dystiolaeth gyfredol ar y berthynas rhwng gwerthoedd diwylliannol a chymdeithasol a sut y mae pobl yn eu profi yn ddamcaniaethol i raddau helaeth ac mae angen mwy o ymchwil i ddeall y berthynas hon yn llawn yn ymarferol.
Rhwystrau sy'n atal ymgysylltu mewn coetiroedd
Roedd y dystiolaeth yn tynnu sylw at rwystrau strwythurol a demograffig sy'n cyfyngu ar fynediad teg at natur, yn enwedig ar gyfer grwpiau incwm isel a grwpiau a ymyleiddiwyd. Canfuwyd bod rhwystrau strwythurol megis argaeledd cyfyngedig mannau gwyrdd gerllaw, amgylcheddau o ansawdd gwael, a'r costau sy'n gysylltiedig â theithio ac offer yn cyfyngu ar fynediad, yn enwedig ar gyfer cymunedau incwm isel a lleiafrifoedd ethnig. Gwelwyd y gwaethygir yr heriau hyn gan groestoriad o ffactorau demograffig, gan gynnwys oedran, rhywedd a statws iechyd, sy’n gallu dylanwadu ar y tebygolrwydd o ymweld â choedwigoedd, a'r manteision sy'n deillio o ymweliadau o'r fath. Nododd yr adolygiad hefyd fod deinameg ddiwylliannol a chymdeithasol yn chwarae rôl, gyda rhai grwpiau yn teimlo eu bod wedi'u hallgáu neu eu tangynrychioli mewn mannau gwyrdd.
Yn gyffredinol, roedd y dystiolaeth yn amlygu, er y gall coedwigoedd gynnig manteision ystyrlon, nid yw'r rhain bob amser yr un mor hygyrch i bawb ac mae mynd i'r afael â rhwystrau strwythurol a chymdeithasol yn hanfodol i sicrhau canlyniadau mwy teg.
Casgliad
Nodwyd sawl thema ar draws y chwe chwestiwn ymchwil a archwiliwyd yn yr adroddiad. Gall y rhain fod yn berthnasol wrth ystyried ymchwil bellach yng Nghymru.
Y prif themâu a nodwyd o’r ymchwil o fewn yr adolygiad llenyddiaeth
- Mae'r defnydd o gynhyrchion di-bren coedwigoedd yn amrywio ar draws Ewrop, gyda diddordeb yng Nghymru ond mae'r potensial i gasglu cynhyrchion di-bren coedwigoedd o bosibl yn cael ei gyfyngu gan orchudd coed isel.
- Mae gwasanaethau sy’n seiliedig ar goedwigoedd yn darparu cyfleoedd i fusnesau lleol megis y rhai yn y sector twristiaeth a lletygarwch.
- Mae cynhyrchion di-bren a gwasanaethau coedwigoedd yn darparu cyfleoedd i gefnogi economïau gwledig trwy greu busnesau, arallgyfeirio incwm, a phrofiadau sy'n seiliedig ar natur.
- Mae rhwystrau i ddatblygu cynhyrchion di-bren coedwigoedd yn cynnwys data anghyson, heriau masnacheiddio, a chapasiti cyfyngedig ymhlith busnesau bach.
- Mae rhwystrau i wasanaethau coedwigoedd yn cynnwys cydweithio gwan, pwysau amgylcheddol, pryderon y cyhoedd, a her cydbwyso defnyddiau coedwigoedd traddodiadol a rhai sy'n dod i'r amlwg.
- Nodwyd ymchwil sy'n dangos manteision iechyd a chymdeithasol coedwigoedd a choetiroedd. Roedd y dystiolaeth a amlygwyd yn cynnwys ystod o ffynonellau ar yr effeithiau cadarnhaol ar iechyd seicolegol gyda rhywfaint o lenyddiaeth hefyd ar gael ar fanteision iechyd ffisiolegol amlygiad i goetiroedd.
- Tynnodd ymchwil sylw at sut mae rhwystrau strwythurol a demograffig yn croestorri i lunio pwy sy'n cael budd o goedwigoedd a choetiroedd.
O ran ansawdd a math y dystiolaeth a nodwyd, nododd yr adolygiad adolygiadau llenyddiaeth, erthyglau cyfnodolion, traethodau ymchwil, ac adroddiadau biofeddygol yn bennaf o Ewrop ac Asia. Roedd y dystiolaeth yn aml yn canolbwyntio ar fannau gwyrdd yn fwy cyffredinol ac roedd diffyg gwerthusiadau hirdymor ar sut roedd busnesau yng Nghymru yn defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd. Yn ogystal, mae’n bosibl bod y dystiolaeth a ddarganfuwyd yn yr adolygiad hwn wedi cael ei dylanwadu gan y termau chwilio a ddefnyddiwyd ac, fel y cyfryw, gallai fod termau chwilio gwahanol wedi arwain at ganlyniadau gwahanol.
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Meghan Duffin
Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Tîm Ymchwil Hinsawdd a'r Amgylchedd
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YmchwilHinsawddAcAmgylchedd@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 108/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-613-5
