Cael cymorth ychwanegol mewn addysg:
y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Addysg yng Nghymru
Mae addysg yng Nghymru yn cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau addysgol y bydd eu hangen arnynt i wneud y gorau o fywyd.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi'i gynllunio ar gyfer pob plentyn. Mae'n cael ei ddarparu ledled Cymru i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn, i'w helpu i gyrraedd eu llawn botensial.
Beth yw'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)?
Efallai y bydd angen cymorth neu ddarpariaeth ychwanegol ar rai plant a phobl ifanc i'w helpu i gyflawni eu llawn botensial.
Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn fframwaith cymorth unedig ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ag ADY yng Nghymru.
Beth yw anghenion dysgu ychwanegol?
Os yw eich plentyn neu berson ifanc yr ydych yn gofalu amdano:
- yn ei chael yn anodd dysgu
- yn byw ag amhariad sy'n gwneud dysgu yn llawer anoddach nag i eraill o'r un oedran
- angen cefnogaeth ychwanegol neu wahanol i'r hyn sydd ar gael yn gyffredinol i eraill o'r un oedran
mae'n bosibl bod ganddynt ADY.
Pecyn cymorth ADY i rieni a gofalwyr
Rydym wedi datblygu'r pecyn cymorth ADY i'ch helpu â'r canlynol:
- defnyddio'r system ADY
- egluro beth yw cynllun datblygu unigol
- deall â phwy i siarad pan ydych yn ansicr neu'n anfodlon
- deall hawliau plant a phobl ifanc o dan y Ddeddf ADY
- canfod ffynonellau eraill o wybodaeth, cyngor ac arweiniad
Mae'r pecyn cymorth yn adlewyrchu:
Darllenwch y pecyn cymorth ADY
I gael cymorth, cyngor ac arweiniad, darllenwch y pecyn cymorth ADY i rieni a gofalwyr ar LLYW.CYMRU.
ADY ar waith
Angen cefnogaeth nawr?
Mae pob ysgol yn cyhoeddi gwybodaeth am ADY ar eu gwefannau ar gyfer disgyblion a rhieni. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am eich ysgol yma: Fy Ysgol Leol
Siaradwch ag athro dosbarth eich plentyn, neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu bennaeth yr ysgol/coleg i godi unrhyw bryderon ac i gael rhagor o arweiniad a gwybodaeth ynghylch sut y gellir cefnogi eich plentyn neu berson ifanc.
Gallwch gael help a chefnogaeth gan eich awdurdod lleol.
