Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi ein hymrwymiad newydd i'n Cynllun Seibiant Byr cenedlaethol a'n Cronfa Gymorth i Ofalwyr am dair blynedd bellach, tan ddiwedd mis Mawrth 2029. Mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol o £15.75m pellach.
Sefydlwyd ein Cynllun Seibiant Byr yn 2022 i ddarparu cyfleoedd ychwanegol i ofalwyr di-dâl gael seibiant o'u rolau gofalu, y tu hwnt i'r dyletswyddau presennol ar yr awdurdodau lleol i'w cefnogi. Yn ystod 2022-25, darparodd y cynllun seibiannau i dros 50,000 o ofalwyr di-dâl o bob oedran. Mae'r cynllun yn cyrraedd llawer o ofalwyr nad ydynt wedi cael unrhyw fath arall o seibiant yn ystod y 12 mis diwethaf, ac nad yw hanner ohonynt yn cael unrhyw fath arall o gymorth. Mae hyn yn caniatáu hefyd iddynt gael eu hadnabod ac i gymorth arall gael ei gynnig iddynt.
Rydym yn gwybod bod llawer o ofalwyr di-dâl yn dioddef anfantais ariannol oherwydd cyfrifoldebau eu rôl fel gofalwyr. Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn rhoi cymorth ariannol brys i ofalwyr di-dâl ar incwm isel o bob oedran i dalu am eitemau hanfodol. Yn hanfodol, mae'r cynllun yn darparu gwybodaeth hefyd am hawlogaethau a rheolaeth ariannol, a all gael effaith gadarnhaol barhaol ar aelwydydd gofalwyr.
Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, iechyd a'r trydydd sector i sbarduno gwell cymorth i ofalwyr di-dâl, sy'n gwneud cymaint i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed.
