Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn adolygiad diweddar o’r incwm a’r gwariant terfynol ar gyfer cyllideb Cenedl Noddfa ar gyfer 2024-2025, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar gyfanswm gwariant cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd ariannol llawn o 2019-2025.

Cyfanswm gwariant net Llywodraeth Cymru dros y chwe blynedd yw £63.87 miliwn.

Roedd fy Natganiad Ysgrifenedig blaenorol yn nodi ffigur o tua £54.88m a nodwyd gyntaf yng nghanol mis Mawrth 2025 ac a oedd yn cynrychioli gwariant Llywodraeth Cymru hyd at ddiwedd mis Ionawr 2025. Mae gwariant sydd wedi ei gadarnhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hyd at fis Mawrth 2025 yn mynd â chyfanswm y ffigur i £63.87m. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys £8m o gyllid ychwanegol Wcráin Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd ddiwedd mis Mawrth 2025 i’r holl Awdurdodau Lleol, a ychwanegodd at Grant Atal Digartrefedd Llywodraeth y DU (dolen allanol, Saesneg yn unig). Darparwyd y cyllid hwn i awdurdodau lleol i atal digartrefedd ar gyfer bob preswylydd sydd angen cymorth atal digartrefedd ac nid yw'n gyfyngedig i unrhyw grŵp neu ddemograffig penodol.

O'r ffigur diweddaredig hwn, cyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru ar ymateb i sefyllfa Wcráin (ers 2022) yw £58.22m sy'n cynrychioli 91% o gyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru ar Genedl Noddfa. Cyfanswm y gwariant nad oedd yn ymwneud ag Wcráin oedd £5.65m dros y chwe blynedd, sy'n cynrychioli 9% o'r cyfanswm. Mae cyfanswm y £63.87m yn parhau i gynrychioli 0.05% o gyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2019 a 2025.

O ystyried y diddordeb yn y gyllideb hon, rwyf wedi darparu dadansoddiad o wariant Cenedl Noddfa ar gyfer 2019-2025 ar wahân yn Atodiad A, gan gynnwys cefnogaeth ariannol Llywodraeth y DU ar gyfer ymateb i sefyllfa Wcráin ers 2022.

Mae ein gweledigaeth Cenedl Noddfa yn golygu cefnogi'r rhai sydd yn ffoi rhag erledigaeth a rhyfel ac yn cyrraedd yma i ailadeiladu eu bywydau. Rydym yn eu cynorthwyo i integreiddio i fywyd Cymru a chyfrannu'n gadarnhaol i'n cenedl. Credwn fod yr ymateb tosturiol hwn yn rhoi'r dechrau gorau posibl i bobl sy'n chwilio am noddfa ac yn helpu economïau, gwasanaethau a chymunedau lleol hefyd. Ers mis Chwefror 2022, mae bron i 8,000 o Wcreiniaid wedi dod o hyd i loches yng Nghymru diolch i noddwyr Cymreig. Mae'r holl awdurdodau lleol, miloedd o aelwydydd yng Nghymru a llawer o bartneriaid trydydd sector yn parhau i ddarparu cefnogaeth sylweddol.