Mae mwy na 1,500 o bobl wedi trawsnewid eu hiechyd yn sgil menter bêl-droed a ariennir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gordewdra ac anweithgarwch.
Mae'r rhaglen FIT FANS yn cael ei chynnal mewn 5 clwb pêl-droed yng Nghymru sef:
- Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
- Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd
- Clwb Pêl-droed y Drenewydd
- Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
- Chlwb Pêl-droed Wrecsam
Mae'r cwrs 12 wythnos wedi cyflawni canlyniadau rhyfeddol, gan wella llesiant corfforol a meddyliol y rhai sy'n cymryd rhan.
Wedi'i gyflwyno gan gangen elusennol EFL, sef EFL in the Community, mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, mae'r rhai sydd ar y cwrs yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer corff a dosbarthiadau i wella eu harferion bwyta.
Mae'r rhaglen yn defnyddio pêl-droed i gyrraedd y rhai sy'n wynebu mwy o risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol, nad ydyn nhw efallai'n teimlo'n gyfforddus i geisio cymorth gan eu meddyg teulu.
Ar gyfartaledd, mae'r dynion sydd wedi cymryd rhan wedi colli 3.7kg o bwysau ac mae'r menywod wedi colli 2.8kg o bwysau.
Mae FIT JACKS, dan arweiniad Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, wedi helpu 267 o bobl mewn 234 o sesiynau mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y ddinas ers mis Chwefror.
Cofrestrodd Michael Kelleher â Fit Jacks y llynedd. Dywedodd:
Pan ddechreuais i Fit Jacks, roeddwn i'n dioddef o apnoea cwsg, diabetes math 2, pwysedd gwaed uchel a sawl problem feddygol arall a oedd yn achosi problemau difrifol imi.
Erbyn imi raddio ym mis Ionawr, roeddwn i wedi colli 10kg, wedi cael gwared â'r apnoea cwsg ac wedi gwella fy rheolaeth ar ddiabetes. Erbyn hyn, dw i ddim angen cymryd unrhyw feddyginiaeth a dw i hefyd wedi dechrau rhedeg. Mae'n rhaglen ryfeddol y bydda i'n ddyledus iddi am byth
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver:
Gan ddefnyddio pŵer pêl-droed i ennyn diddordeb cymunedau, mae FIT FANS wedi helpu nifer sylweddol o bobl i leihau eu risg o ddatblygu cyflyrau difrifol fel diabetes a chlefyd y galon.
Mae'n wych gweld y cysylltiadau cymdeithasol sydd wedi'u ffurfio drwy'r rhaglen, gan greu cymunedau cefnogol sy'n cyfrannu at lesiant corfforol a meddyliol.
Mae'r rhaglen hon yn ymwneud ag atal salwch cyn iddo ddechrau, gan dynnu pwysau oddi ar ein gwasanaeth iechyd, a helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach.
Dywedodd Debbie Cook, Cyfarwyddwr Cymunedol EFL in the Community
Mae iechyd a llesiant pobl yn ein cymunedau pêl-droed yn hynod o bwysig inni. Ar draws ein rhwydwaith, rydyn ni’n gweithio'n galed i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Yr elfen allweddol o FIT FANS yw bod pêl-droed yn dod â phobl at ei gilydd ac yn rhoi cyfle iddyn nhw gwrdd â phobl tebyg iddyn nhw. Maen nhw'n annog ac yn rhoi hyder i'w gilydd. Mae'r gefnogaeth a'r datrysiadau y maen nhw'n eu rhoi i'w gilydd yn allweddol i sicrhau bod newid yn para.
Amcangyfrifir bod 62% o boblogaeth Cymru dros eu pwysau neu'n ordew. Mae'r cynllun yn helpu unigolion i wneud newidiadau parhaol o ran eu ffordd o fyw.
Mae llwyddiant y rhaglen wedi parhau y tu hwnt i 12 wythnos y cynllun. Mae rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid yn cael eu sefydlu ac mae grwpiau WhatsApp yn helpu'r rhai a oedd yn rhan o'r rhaglen i gynnal eu harferion iach a pharhau â'u teithiau ffitrwydd gyda'i gilydd.
Mae'r rhaglen hefyd wedi sicrhau buddion sylweddol o ran llesiant meddyliol, gan nodi cynnydd mewn boddhad â bywyd a gostyngiad mewn lefelau gorbryder.
Mae hwb ariannol gwerth £200,000 gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni wedi helpu rhagor o bobl i fanteisio ar y rhaglen ledled Cymru.
