Cafodd plant ysgol archwilio Castell y Fflint mewn ffordd newydd sbon heddiw, drwy Minecraft Education, pan lansiodd Cadw ei bedwerydd safle hanesyddol yng Nghymru ar y platfform gemau poblogaidd.
Daeth disgyblion o Ysgol Gwynedd y Fflint ac Ysgol Cornist Park, gan gynnwys Ceidwaid Ifanc Castell y Fflint, ynghyd i weld y castell go iawn a’i archwilio’n ddigidol yr un pryd, i ddod â 750 o flynyddoedd hanes cythryblus y castell yn fyw trwy ddysgu rhyngweithiol.
Mae'r lansiad yn nodi'r ychwanegiad diweddaraf at fyd Cadw yn Minecraft, menter addysgol arloesol sy'n cyfuno Minecraft â hanes Cymru, addysg a sgiliau.
Ers y prosiect cyntaf yng Nghastell Conwy ym mis Rhagfyr 2024, mae'r adnoddau dwyieithog wedi cael eu lawrlwytho dros 7,000 o weithiau gan addysgwyr ledled Cymru.
Mae gan Gastell y Fflint le unigryw yn hanes Prydain fel y castell cyntaf i Edward I, Brenin Lloegr, ei adeiladu yn ystod ei goncwest o Gymru yn 1277. Bu'r castell yn dyst i gyfnodau tyngedfennol eraill gan gynnwys cipio'r Brenin Rhisiart II ym 1399, a anfarwolwyd yn y ddrama Richard II gan Shakespeare, a chwaraeodd y castell ran allweddol yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1400.
Trwy brofiad Minecraft, gall dysgwyr rhwng 8 a 14 oed archwilio muriau a thyrau'r castell ar daith rithwir, dilyn y "Llwybr Gwrthdaro" newydd sy'n olrhain canrifoedd o frwydrau rhwng Cymru a Lloegr am bŵer, a hyd yn oed greu eu ffilmiau hanesyddol eu hunain mewn parthau Machinima arbennig.
Ymunodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â dathliadau'r lansiad yng Nghastell y Fflint i weld y gêm â'i lygaid ei hun. Dywedodd:
Stori am goncwest, gwrthryfel a gwytnwch yw hanes Castell y Fflint. Mae’n gyfle perffaith i bobl ifanc holi ac harchwilio. Yn Minecraft, nid dim ond hanes y mae dysgwyr yn ei ddysgu. Maen nhw'n gallu camu i'r hanes a dechrau eu stori eu hunain.
"Mae'r prosiect arloesol hwn yn dangos sut y gallwn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ymwneud â hanes a threftadaeth Cymru mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Trwy ddod â Chastell y Fflint i'r ystafell ddosbarth drwy Minecraft, rydym yn helpu pobl ifanc i 'nabod eu gorffennol wrth ddatblygu sgiliau digidol hanfodol ar gyfer eu dyfodol.
Mae'r fenter yn bwriadu ychwanegu rhyw 20 o safleoedd hanesyddol eraill a reolir gan Cadw at fyd Minecraft dros y flwyddyn nesaf, gyda Phlas Mawr yng Nghonwy a Blaenafon yn Nhorfaen nesaf ar y rhestr.
Mae byd Addysg Minecraft Castell y Fflint yn gyson â Chwricwlwm Cymru ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gyda'r fersiwn Gymraeg yn cynrychioli'r adnodd Cymraeg ymgolli cyntaf gan Minecraft.
Mae adnoddau ar gael i'w lawrlwytho drwy Hwb a gwefan Cadw.
