Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dysgu, y corff cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth yng Nghymru, yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Kate Williams yn Gyfarwyddwr Arweinyddiaeth a Meurig Jones yn Gyfarwyddwr Dysgu Proffesiynol.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Kate a Meurig yn arweinwyr uchel eu parch yn y sector addysg. Yn adnabyddus am wireddu canlyniadau sy'n gwneud gwahaniaeth parhaol, maent yn dod ag arbenigedd dwfn, syniadau ffres, a hanes profedig o weithredu mewn modd sy’n cael effaith. Bydd eu harbenigedd a'u hegni yn helpu Dysgu i gyflawni ei genhadaeth i drawsnewid dysgu proffesiynol ledled Cymru.

Bydd Dysgu yn arwain dull unedig o ran datblygiad proffesiynol, gan ddod â rhaglenni cenedlaethol ynghyd ym meysydd llythrennedd, rhifedd, lles, arweinyddiaeth a mwy. Gan weithio gydag ysgolion, Estyn, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, bydd Dysgu yn sicrhau bod pob addysgwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu a bod pob dysgwr yn elwa o ganlyniad.

Kate Williams: Cyfarwyddwr Arweinyddiaeth

Mae Kate yn cael ei chydnabod yn eang am ei gallu i hyfforddi, ysbrydoli a datblygu arweinwyr ar draws y sector addysg. Gyda blynyddoedd o brofiad arweinyddiaeth uwch mewn addysg a datblygu arweinyddiaeth, mae hi wedi helpu nifer fawr o unigolion a sefydliadau i ddatgloi eu potensial ac i gyflawni newid ystyrlon. Mae ei dull yn cyfuno mewnwelediad strategol â ffocws cryf ar bobl.

Mae Kate yn ymuno â Dysgu gyda dros 20 mlynedd o brofiad arwain mewn addysg, hyfforddi a datblygiad proffesiynol. Mae gan Kate brofiad helaeth, gan iddi wasanaethu fel pennaeth ysgol uwchradd ac wedi cyfrannu’n sylweddol at welliant ysgol mewn rôl gynghorol. Gyda chefndir cadarn mewn hyfforddi arweinwyr ysgol wrth iddynt bontio i swyddi newydd, mae hi’n deall beth sydd ei angen i arwain trwy newid, adeiladu gallu ac ysbrydoli hyder mewn eraill. Mae cefndir Kate yn rhoi’r mewnwelediad iddi i lywio gwaith arweinyddiaeth Dysgu i baratoi’r proffesiwn ar gyfer yfory.

Meurig Jones: Cyfarwyddwr Dysgu Proffesiynol

Mae Meurig yn dod â chyfoeth o arbenigedd i lunio a chyflwyno rhaglenni addysg genedlaethol sy’n cael effaith ar raddfa eang. Mae ei waith wedi arwain yn gyson at welliannau mewn addysgu, arweinyddiaeth a chanlyniadau dysgwyr. Mae’n adnabyddus am ei arddull gydweithredol, gan adeiladu partneriaethau cryf sy’n troi strategaeth yn atebion ymarferol. Mae ganddo hefyd gefndir cryf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan sicrhau bod gwaith Dysgu yn adlewyrchu ac yn cefnogi anghenion addysgwyr a dysgwyr ar draws y ddwy iaith.

Mae’n ymuno â Dysgu ar fenthyg gan Lywodraeth Cymru tra ar secondiad o’i rôl fel Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Gyda 25 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn ysgolion ledled de Cymru, gan gynnwys deng mlynedd fel Pennaeth ac yn ddiweddarach fel Pennaeth Gweithredol, mae Meurig yn dod â mewnwelediad dwfn a phrofiad byw o’r proffesiwn. Mae’r cefndir hwn yn rhoi persbectif unigryw iddo i sicrhau bod gwaith Dysgu yn berthnasol, yn ymatebol, ac yn wirioneddol diwallu anghenion staff cymorth, athrawon, arweinwyr a dysgwyr ledled Cymru.

Neges gan Brif Weithredwr Dysgu

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Dysgu:

“Rwyf wrth fy modd yn croesawu Kate a Meurig i dîm arwain Dysgu. Bydd eu profiad, eu hymrwymiad a’u gweledigaeth yn amhrisiadwy wrth i ni adeiladu dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol sy’n cefnogi ein haddysgwyr. Gyda’u harweinyddiaeth, gallwn sicrhau bod gan athrawon ac arweinwyr yng Nghymru fynediad at y cyfleoedd o ansawdd uchel y maent yn eu haeddu. Mae hwn yn foment gyffrous i Dysgu ac i addysg yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau effaith barhaol ar ein hysgolion a’n dysgwyr.”

Pennod newydd i addysg Gymraeg

Amcan Dysgu yw helpu athrawon, arweinwyr a staff addysg i dyfu gyda hyder. Mae ei waith wedi'i adeiladu o amgylch tair blaenoriaeth: Gweledigaeth ac Arweinyddiaeth, Cwricwlwm ac Addysgu, a Lles a Chynhwysiant. Gyda Kate a Meurig yn ymuno â'r tîm arweinyddiaeth, mae Dysgu yn paratoi i greu system fwy cyson, symlach o ddysgu proffesiynol sy'n cefnogi pob addysgwr yng Nghymru.

Yn y misoedd i ddod, bydd Dysgu yn parhau i adeiladu ei allu a gosod cyfleoedd i athrawon ac arweinwyr ledled y wlad. Mae'r sefydliad wedi ymrwymo i weithio law yn llaw ag ysgolion a phartneriaid i ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae hon yn bennod newydd i addysg Cymru. Mae Dysgu yma i ddarparu cydlyniant yn y system, cryfhau cefnogaeth, a sicrhau bod pob addysgwr yn cael y cyfle i ffynnu.

Byddwn yn rhannu mwy yn fuan ynglŷn â sut y gall addysgwyr, arweinwyr a phartneriaid gysylltu â ni a bod yn rhan o'r daith gyffrous hon.