Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yn ddiweddar, derbyniais adroddiad 2024-25 gan Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru, sy'n cael ei gyflwyno i Weinidogion Llywodraeth y DU a'i rannu â Llywodraeth Cymru.
Rwy'n ddiolchgar i James Phillips am ei asesiad o brofiadau ein cymuned o gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru sy'n rhoi trosolwg defnyddiol iawn o'i ymgysylltiad â grwpiau eiriolaeth cyn-filwyr a chyn-filwyr eu hunain o bob cwr o Gymru. Mae'n bleser gennyf nodi asesiad y Comisiynydd bod Cymru'n parhau i fod yn lle da i gyn-filwyr a bod gwaith yn mynd rhagddo ar argymhellion adroddiad 2023-24.
Ers yr adroddiad y llynedd, rydym wedi cefnogi cyn-filwyr i gael gwaith, gan gyflwyno ffeiriau swyddi a chynadleddau cyflogwyr yng Nghaerdydd a Wrecsam a bydd y rhain yn cael eu cynnal drachefn ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2025, gyda buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Rydym hefyd wedi gweld Ymgyrch NOVA, sy'n cefnogi cyn-filwyr yn y system cyfiawnder troseddol, yn dechrau cael ei gyflwyno yng Nghymru ac rydym yn ymgysylltu ag Elusen Cyflogaeth y Lluoedd mewn perthynas â'r fenter honno. Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a ariennir gan Lywodraeth Cymru bellach yn rhan o'n cyllideb graidd ac yn parhau i gyflawni ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru, gan weithio gyda grwpiau cymorth a chanolfannau ledled Cymru a chyda ein swyddogion arweiniol a Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog gweithgar i wreiddio’r Cyfamod ar draws awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.
Mae gan Gymru system gref o gefnogaeth i Gyn-filwyr, fodd bynnag, rwy'n cydnabod y gofyn, a'r her, i ddal ati i ymdrechu i wneud bywyd hyd yn oed yn well i'n Cyn-filwyr, a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo iddo a byddwn yn gweithio gyda'r Comisiynydd a'i bartneriaid i'w gyflawni.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Comisiynydd fel rhan o Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr allweddol o'r sector cyhoeddus, y trydydd sector a chynrychiolwyr Milwrol yng Nghymru ynghyd â Chadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a'r cadetiaid. Byddwn yn ystyried yr adroddiad hwn yn fanwl yn ein cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd, ac edrychaf ymlaen at y trafodaethau hynny.
Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'n gwaith parhaus gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr wrth i ni ystyried ehangu dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog a strategaeth newydd Cyn-filwyr y DU. Mae safbwyntiau a phrofiadau cymuned Lluoedd Arfog Cymru yn ganolog i'n dull gweithredu, ac mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad pwysig i'r gwaith parhaus hwnnw.
