Cyfarfod Grŵp Cynghori Draenogiaid y Môr: 4 Chwefror 2025
Nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd 4 Chwefror 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Presenoldeb
Y grŵp
Kevin Denman (KD)
Mark Boulton (MB*)
Sion Williams (SW)
Chris Davies (CD)
Jim Evans (JE)
Brett Garner (BG)
Holly Kaiser (HK)
David Curtis (DC)
Simon Frobisher (SF)
Sean Jukes (SJ)
Richard Harrison (RH)
Colin Charman (CC)
Peter Elliott (PE)
Hannah Rudd (HR)
John O’Connor (JO)
Mark Owen (MO)
Andy Davies (AD)
Kieran Hyder (KH)
Llywodraeth Cymru
Michelle Billing (MB)
Julian Bray (JB)
Seb Evans (SE)
Nathan Wyer (NW)
Matthew Sayer (MS)
Barrie John (BJ)
Ymddiheuriadau
Richard Strudwick (RS)
Ian McCarthy (IM)
Nodiadau
Croeso a chyflwyniadau, diben y cyfarfod
Croesawodd JB bawb i gyfarfod cyntaf 2025 a chyfleodd ymddiheuriadau gan Richard Strudwick ac Ian McCarthy.
Amlinellodd yr agenda a diolchodd i Hannah Rudd (yr Ymddiriedolaeth Genweirio) a Kieran Hyder (Cefas) am gynnig cyflwyno yn y cyfarfod.
Gofynnodd aelod a allai ofyn rhai cwestiynau yn ymwneud â chofnodion y cyfarfod blaenorol. Ymdrinnir â’r rhain o dan Unrhyw Fater Arall.
Adolygu a chymeradwyo cofnodion a chamau gweithredu cyfarfodydd blaenorol
Cadarnhaodd MB fod nodiadau drafft a chamau gweithredu cyfarfod 7 a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr wedi cael eu cylchredeg gyda’r agenda cyn y cyfarfod, a nododd y canlynol:
- mae camau gweithredu 1, 2, 6 ac 8 wedi cael eu cwblhau
- camau gweithredu 3 a 4: mae angen cael cyngor o hyd; trosglwyddo’r rhain ymlaen i’r cyfarfod nesaf
- cam gweithredu 5: mae’r broses o lunio’r fanyleb economaidd-gymdeithasol yn parhau; trosglwyddo ymlaen i’r cyfarfod nesaf
Dywedodd MO y bu’n bresennol yn y cyfarfod ond nad oedd wedi’i gynnwys yn y rhestr o fynychwyr.
Cadarnhaodd MB fod nodiadau cyfarfodydd 3 i 6 wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru (LlC).
Cam gweithredu: Gwneud gwaith dilynol ar gamau gweithredu 3, 4 a 5 o gyfarfod 7:
- cael cyngor ar sut gellid amrywio terfynau niferoedd hamdden
- siarad â’r adran orfodi ynglŷn â monitro cychod draenogiaid môr hamdden yn ne Cymru
- rhannu amlinelliad o’r dull o fynd i’r afael â’r arolwg economaidd-gymdeithasol â’r grŵp cyn i’r contract gael ei osod
Cam gweithredu 1: diweddaru nodiadau cyfarfod 7 i gynnwys MO yn y rhestr o fynychwyr.
Diweddariad ar system cofnodi dalfeydd wirfoddol (VCRS) bosibl
Ailgydiodd NW mewn trafodaethau â’r grŵp ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatblygu VCRS a cheisiodd fewnbwn ar sut gellid defnyddio’r system i gasglu gwybodaeth am ble mae rhwydi o’r lan yn cael eu defnyddio:
- yr awdurdod lleol agosaf i’r man lle gosodir y rhwyd: 15 awdurdod: dull syml ond nid yw’n fanwl gywir. Gellid ychwanegu ail ran at y cwestiwn i ganiatáu ar gyfer dewis lleoliad mwy penodol h.y. rhestr o draethau neu ffiniau rhwng ardaloedd awdurdodau
- porthladdoedd Cymru: tua 50
- trefi/dinasoedd arfordirol: Gellid casglu’r rhain ynghyd mewn grwpiau rhanbarthol gydag uchafswm o 25 o opsiynau ym mhob cwymplen, h.y. y gogledd, y canolbarth, y de, a’r gorllewin gyda lleoliadau o fewn pob un
Cadarnhaodd NW y gellid arbed dewisiadau lleoedd a gadarnhawyd a’u llenwi’n awtomatig ar gyfer cofnodion ychwanegol.
Awgrymodd KH betryalau ICES ac efallai lledred/hydred ar gyfer lleoliad mwy manwl gywir, a hefyd y gallai diben y data a’r eglurdeb sy’n ofynnol bennu’r dull a ddefnyddir.
Esboniodd NW yr ystyriwyd defnyddio petryalau ICES, ond bod cymhlethdodau yn gysylltiedig â sut mae hyn yn arddangos ar ffôn symudol, sy’n gallu arwain at gofnodion anghywir.
Esboniodd NW hefyd yr ystyriwyd na fyddai’n fuddiol defnyddio blychau testun rhydd i gofnodi lleoliad o ganlyniad i gamsillafu a’r gwahanol sillafiadau o rai ardaloedd.
Nododd aelod lwyddiant wrth ddefnyddio What3Words i bennu lleoliad – mae’r ap yn syml ei lawrlwytho ac yn ddi-dâl.
Credai un aelod y byddai’r rhestr o leoliadau’n eithaf byr gan fod y rhan fwyaf o rwydwyr o’r lan yn tueddu i ddefnyddio’r un ardaloedd yn gyson. Mynegodd pryder hefyd ynglŷn â gorfod dysgu sut i ddefnyddio ap arall dim ond i bennu lleoliad.
Teimlai aelod arall, er mwyn cael y gefnogaeth fwyaf, y byddai’n synhwyrol cadw’r ardaloedd yn rhesymol amwys oherwydd ni fyddai pysgotwyr yn gwerthfawrogi petai cyhoeddusrwydd yn cael ei roi i’w mannau.
Awgrymodd JB os nad oedd mwy na 25 o draethau ar y rhestr, gallai’r opsiwn enw awdurdod lleol/traeth weithio ac fe allai data o’r alwad am dystiolaeth helpu i adnabod y traethau sy’n cael eu defnyddio.
Gan siarad o brofiad, dywedodd KH y dylid cytuno ar faint o fanylion rydych eisiau adrodd arnynt, ac yna penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio technoleg i gyflawni hynny. Teimlai fod union leoliadau’n amgenach, ond byddai adrodd fel petryalau ICES yn addas hefyd.
Diweddariad ar yr alwad am dystiolaeth
Cadarnhaodd SE fod yr alwad am dystiolaeth wedi agor ar 20 Ionawr ac y bydd yn para tan 28 Chwefror. Diolchodd i aelodau’r grŵp am eu cymorth wrth ddatblygu’r ddogfen a gofynnodd iddynt barhau i annog cynifer o ymatebion â phosibl.
Data pysgodfeydd hamdden
Atgoffodd MB y grŵp o’r blaenoriaethau tystiolaeth cytunedig ar gyfer data hamdden:
- cynyddu cyfranogiad mewn cofnodi data (e.e. dyddiaduron genweirio môr)
- archwilio ffyrdd o wella systemau cofnodi presennol neu ddatblygu rhai newydd
- annog partneriaid yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi casglu data hamdden
Pwysleisiodd MB fod diffyg data yn arwain at ansicrwydd ynglŷn ag effaith y sector hamdden ar iechyd y stoc, a bod angen mynd i’r afael â hyn.
Casglu data am enweirio môr: cyflwyniad gan KH a HR
Datganodd KH fod ganddo fuddiant mewn parhau i ddatblygu’r dyddiaduron genweirio môr a’i fod wedi tybio y byddai’r rheiny’n parhau i fod yn blatfform ar gyfer casglu data genweirio hamdden yn hytrach na datblygu system newydd.
Nodwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y cyflwyniad a’r drafodaeth:
- defnyddir y system dyddiaduron genweirio môr ledled y Deyrnas Unedig, ond mae’n bosibl dadansoddi’r manylion ar lefel Cymru i ddarparu data dalfeydd, cyfranogiad ac economaidd-gymdeithasol
- dibynnir ar wirfoddolwyr i adrodd am ddalfeydd bob mis ac mae manylion am eu demograffig yn hysbys. Cyfunir hyn â data arolwg wyneb yn wyneb ar gyfer cyfrifo
- cynhelir 1 i 2 arolwg cyflym â dyddiadurwyr bob blwyddyn yn holi ynghylch pethau penodol h.y. gwariant, a sut mae pysgota’n effeithio ar les ac iechyd corfforol a meddyliol
- mae’n ystyried yr effaith economaidd a ddaw yn sgil aelodau sy’n gyrru i’r arfordir, yn aros mewn gwesty ac yn prynu bwyd a thacl o siopau lleol, yn ogystal â gwariant cyfalaf h.y. aelodau sydd wedi prynu cwch, gwialenni cychod ac ati
- mae modelu cyfrifiadurol yn caniatáu ar gyfer rhagfynegi cyfanswm y gwariant, dileu trethi a mewnforion ac, yn y pen draw, rhagfynegi gwerth ychwanegol gros, er y cydnabyddir ei bod yn anodd rhannu hyn yn ôl rhywogaethau pysgod penodol h.y. pa gyfran sy’n gysylltiedig â draenogiaid môr
- taith lithio draenogiaid môr Sir Benfro: digwyddiad 3 diwrnod yn ymwneud â draenogiaid môr yn benodol. Gellid cysylltu â’r cyfranogwyr i gael data penodol am ddraenogiaid môr (tua 130 o gyfranogwyr yn 2024)
- awgrymwyd y byddai cymhariaeth ar gyfer y bysgodfa fasnachol yn ddiddorol o ran buddsoddiad pysgotwyr masnachol a’i heffaith economaidd-gmdeithasol, ac felly ei phwysigrwydd. Esboniodd KH nad yw’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd (FMP) draenogiaid môr yn gwahaniaethu rhwng gweithgarwch masnachol a hamdden a’i fod yn cyfeirio at werth y bysgodfa i gymunedau arfordirol lleol
- gwerthu tacl ar-lein: esboniodd KH ei fod wedi ceisio gweld ble’r oedd arian yn cael ei wario yn y bysgodfa tiwna (yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol). Cysyniad economaidd o’r enw ‘gollyngiad’: faint o’r gwariant sy’n mynd i’r economi leol
- ‘parodrwydd i dalu’: parodrwydd i dalu o dan wahanol fesurau rheoli; archwilio effeithiau rheoli ar werth lles
- gall data o’r cyfrifiad, ymdrech a dalfeydd gael ei fodelu gyda’i gilydd a dangoswyd bod y dull hwn yn gweithio’n dda gyda’r tueddiadau sy’n bodoli yn y dyddiadur
- catchwise: ymwelodd gwirfoddolwyr â hydoedd o’r arfordir ledled Cymru a Lloegr i gyfrif nifer y genweirwyr a’u cyfweld i gael gwybod am eu dalfeydd. Dyma’r dull gorau o gasglu data, ond mae’n ddrud. Fe’i defnyddiwyd i gymharu dalfeydd a gofnodwyd yn y dyddiadur â dalfeydd o catchwise
- cydnabyddir y bydd angen gwella’r ddealltwriaeth o lefelau tuedd yn catchwise i gyflawni cymhariaeth dda
Canolbwyntiodd ail ran y drafodaeth ar sut i gynyddu lefelau cyfraniad yng Nghymru. Mae’r cwestiynau i’w hystyried fel a ganlyn:
- sut gallwn:
- ddangos pwysigrwydd genweirwyr fel rhanddeiliaid yng Nghymru?
- cydnabod pwysigrwydd data yn briodol er mwyn annog pobl i’w gyflenwi?
- cynyddu nifer y dyddiadurwyr yng Nghymru?
- cael ystod eang o ddyddiadurwyr yng Nghymru?
- sicrhau setiau data cyflawn?
- a ydym yn fodlon defnyddio’r Dyddiaduron Genweirio Môr fel cyfrwng ar gyfer hyn?
Awgrymodd HR fod drwgdybiaeth yn y gymuned enweirio ynglŷn â sut y defnyddir data. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’n allweddol addysgu genweirwyr ynglŷn â phwysigrwydd y data a sut mae’n dylanwadu ar drafodaethau rheoli.
Trafodwyd yr heriau sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel platfform marchnata. Gwirfoddolodd rhai aelodau i hyrwyddo’r dyddiaduron genweirio mewn grwpiau genweirio ar-lein i geisio chwalu rhwystrau.
Nododd un aelod fod cyflawni prif amcan yr FMP, sef cynaliadwyedd hirdymor y stoc draenogiaid môr, yn golygu gallu cyfrif yn gywir am yr holl farwolaethau, a bod dalfeydd hamdden yn arwyddocaol.
Awgrymodd HR fod angen i Lywodraeth Cymru a Defra bwysleisio pwysigrwydd data genweirio hamdden yn gryfach wrth gyflawni’r FMPau a bod genweirwyr hamdden yn rhanddeiliaid.
Awgrymodd HR y gellid cyhoeddi datganiad ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod bod y sector hamdden wedi’i integreiddio yn Neddf Pysgodfeydd 2020 a’r cysylltiad â’r FMP. Gellid defnyddio hyn i esbonio pwysigrwydd y dyddiaduron genweirio môr fel prif ffynhonnell data am enweirio hamdden a sut byddai’r data hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio’r broses benderfynu. Teimlwyd bod hyn yn dir newydd ac y byddai datganiad gan y llywodraeth i gyflwyno’r sefyllfa yn fuddiol.
Teimlai un aelod fod y ffaith na soniwyd am enweirio hamdden yn y dull strategol o fynd i’r afael â physgodfeydd a dyframaethu a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ychwanegu at y teimlad nad oedd genweirio hamdden yn bwysig.
Cam gweithredu 2: paratoi datganiad ynglŷn â rôl genweirio hamdden a phwysigrwydd data hamdden wrth gyflawni’r FMP draenogiaid môr.
Gofynnodd aelod a fyddai cyfranogiad Cymru yn y dyddiaduron yn cael ei gynyddu a beth fyddai’n cael ei ystyried yn lefel dda o gyfranogiad.
Dywedodd KH y byddai hyn yn gofyn am gyfrifiad pŵer i bennu maint y sampl, oherwydd er bod meintiau samplau’n berthynol i hyder, gall sampl fach roi data da os yw’r sampl yn gynrychioliadol ac mae’n dibynnu ar sut rydych yn ei dadansoddi.
Dywedodd KH mai ychydig filoedd o gyfranogwyr yw’r cyfranogiad gorau a gyflawnwyd yn fyd-eang.
Cam gweithredu 3: trefnu cyfarfod â KH i archwilio sut gellid cynnal cyfrifiad pŵer i bennu’r ffigur cyfranogiad gorau ar gyfer y dyddiaduron genweirio môr i weithredu fel targed.
Trafodwyd manteision ac anfanteision dulliau o hyrwyddo’r dyddiaduron genweirio môr/yr angen i gasglu data a sut y meintiolir llwyddiant, gan gynnwys:
- taflenni mewn siopau tacl: bydd angen cefnogaeth siopau tacl i ddosbarthu’r taflenni; anodd meintioli budd/llwyddiant
- facebook: mae gan lawer o grwpiau genweirio dudalennau a allai hyrwyddo’r dyddiaduron; cyrhaeddiad da ar draws y gymuned enweirio; angen cefnogaeth gweinyddwyr tudalennau; mae postiadau’n diflannu
- llysgenhadon: rhywun enwog, o bosibl, i hyrwyddo’r dyddiaduron a’r angen am ddata; codi’r proffil
Gofynnodd JB a wnaed gwaith ar amlygu’r hyn sy’n rhwystro genweirwyr rhag defnyddio’r dyddiaduron.
Dywedodd KH fod dadansoddiad yn 2018 wedi dangos bod 50% o’r genweirwyr y gofynnwyd iddynt yn fodlon darparu data, ond dim ond pe na byddai’n cael ei ddefnyddio yn eu herbyn.
Daeth JB â’r drafodaeth i ben gan nodi y bu’n ddefnyddiol ond bod angen iddi fynd ymhellach i bennu pa gamau y gellid eu cymryd.
Awgrymwyd cyfarfod ar wahân gyda HR a KH i lunio pecyn o gamau gweithredu i’w gyflwyno i’r cyfarfod nesaf.
Cam gweithredu 4: archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio llysgenhadon i hyrwyddo’r dyddiaduron genweirio môr.
Cam gweithredu 5: trefnu cyfarfod gyda KH a HR i ddatblygu pecyn o gamau gweithredu fydd â’r nod o wella ansawdd data hamdden.
Y camau nesaf; unrhyw fater arall; dyddiad y cyfarfod nesaf
Atgoffodd JB yr aelodau o’r ymrwymiad i adolygu Cylch Gwaith ac aelodaeth y grŵp bob blwyddyn, ond teimlodd nad dyma oedd yr adeg iawn. Yn lle hynny, awgrymodd JB fod hyn yn cael ei newid i bob 2 flynedd. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau.
Cam gweithredu 6: Diwygio’r ymrwymiad i adolygu Cylch Gwaith ac aelodaeth y grŵp i bob dwy flynedd yn hytrach na phob blwyddyn.
Gofynnodd aelod a gâi godi rhai materion eraill:
- A yw’r ddogfen trosolwg wedi cael ei chyhoeddi ar y wefan? Cadarnhaodd MB ei bod ar y wefan, ond mai camgymeriad ydoedd. Yr adolygiad o rwydo o’r lan sydd wedi cael ei gyhoeddi, nid y Trosolwg.
- Bydd y Trosolwg o’r FMP draenogiaid môr yn cael ei gyhoeddi yr un pryd â’r Trosolwg o’r FMP cregyn y brenin. Rhoddir gwybod i’r aelodau pan fydd hyn yn digwydd.
- Nodwyd bod genweirio hamdden wedi cael ei hepgor o ddatganiad ysgrifenedig y Dirprwy Brif Weinidog “Dull Strategol o fynd i’r afael â Physgodfeydd a Dyframaethu yng Nghymru”.
- A gafwyd y sgwrs ynglŷn â rhwydo o’r lan gyda’r Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd? Esboniodd MS fod yr amserlen yn cael ei threfnu o hyd. Bwriedir cynnal y trafodaethau technegol ar 10 Chwefror, ond nid yw draenogiaid môr ar yr agenda.
- A adroddir ar weithgarwch gorfodi? Byddai hyn yn rhoi sicrwydd bod camau gorfodi’n cael eu cymryd. Dywedodd BJ nad yw gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar hyn o bryd, ond gellid ystyried hyn yn y dyfodol.
- A oes diweddariad ar y gwaith ar strategaethau cywain amgen? Dywedodd NW fod y gwaith yn parhau a’i fod yn gobeithio gallu rhannu mwy yn y cyfarfod nesaf.
- Yn sgil y penderfyniad diweddar i leihau’r stoc 3%, byddai’n adeg dda i drafod FSMY. Gofynnodd JB i’r aelod gyflwyno’r mater arall hwn yn ysgrifenedig gan fod amser yn brin.
Caeodd JB y cyfarfod a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.
Camau gweithredu
Camau gweithredu sy’n weddill o gyfarfodydd blaenorol
Cyfarfod 5: 17 Medi 2024
- Astudiaeth ddesg yn mynd i’r afael â bylchau posibl mewn tystiolaeth i allu ystyried amcanion rheoli amgen. NW: cwblhawyd 26 Awst 2025.
Cyfarfod 7: 5 Rhagfyr 2024
- Cael cyngor ar sut gellid amrywio terfynau niferoedd hamdden. MB: parhaus.
- Siarad â’r adran orfodi ynglŷn â monitro cychod draenogiaid môr hamdden yn ne Cymru. MB: parhaus.
- Rhannu amlinelliad o’r dull o fynd i’r afael â’r arolwg economaidd-gymdeithasol â’r grŵp cyn i’r contract gael ei osod. MB: cwblhawyd 6 Mehefin 2025.
Camau gweithredu newydd o’r cyfarfod hwn
- Diweddaru nodiadau cyfarfod 7 i gynnwys MO yn y rhestr o fynychwyr. SE: cwblhawyd 4 Mawrth 2025.
- Paratoi datganiad ynglŷn â rôl genweirio hamdden a phwysigrwydd data hamdden wrth gyflawni’r FMP draenogiaid môr. SE/HR: parhaus.
- Trefnu cyfarfod â KH i archwilio sut gellid cynnal cyfrifiad pŵer i bennu’r ffigur cyfranogiad gorau ar gyfer y dyddiaduron genweirio môr i weithredu fel targed. KH: cwblhawyd 14 Hydref 2025.
- Archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio llysgenhadon i hyrwyddo’r Dyddiaduron Genweirio Môr. MB: parhaus.
- Trefnu cyfarfod gyda KH a HR i ddatblygu pecyn o gamau gweithredu fydd â’r nod o wella ansawdd data hamdden. MB: cwblhawyd 24 Chwedror 2025.
- Diwygio’r ymrwymiad i adolygu Cylch Gwaith ac aelodaeth y grŵp i bob dwy flynedd yn hytrach na phob blwyddyn. SE: cwblhawyd 7 Chwefror 2025.
