Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ym mis Ionawr 2025, cyflwynais Barth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yng Nghymru, a ddaeth â mesurau bioddiogelwch gorfodol i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill. Roedd y mesurau hyn yn hanfodol i ymateb i'r cynnydd yn y risg o ffliw adar ar y pryd.
Yn anffodus, mae'r risg honno wedi cynyddu eto yn ddiweddar, ac mae Cymru bellach yn wynebu lefel uchel iawn o risg ffliw adar. Mae nifer cynyddol o achosion mewn adar cadw ac adar gwyllt yn cael eu gweld ledled Prydain Fawr ar hyn o bryd. Mae ffliw adar yn fygythiad difrifol nid yn unig i iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd i gynaliadwyedd cynhyrchu bwyd ac iechyd pobl.
Yng ngoleuni'r sefyllfa hon, bydd mesurau gorfodol newydd i gadw dofednod ac adar caeth dan do yn cael eu cyflwyno yng Nghymru. Bydd y mesurau hyn i gadw adar dan do yn cael eu hymgorffori yng ngofynion gorfodol AIPZ Cymru a byddant yn dod i rym ddydd Iau 13 Tachwedd.
Bydd gofynion bioddiogelwch gorfodol ychwanegol hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y sector adar hela fel rhan o AIPZ diwygiedig Cymru gyfan.
O'r dyddiad cyntaf, bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw ei adar dan do. Yn ogystal, bydd rhaid cadw heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth o dan do os bydd unrhyw wyau neu gynhyrchion dofednod yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd. Hynny oherwydd y risg uwch o drosglwyddo clefydau, er enghraifft trwy symudiadau cerbydau a gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â masnachu neu roi'r cynhyrchion hyn i ffwrdd.
Rwy'n cynghori ceidwaid adar i ddechrau paratoi nawr. Rhaid i dai fod yn addas ac wedi'u haddasu i sicrhau lles adar. Ar gyfer rhywogaethau adar lle mae eu cadw dan do yn anymarferol neu'n berygl difrifol i'w lles, gellir caniatáu iddynt fynd o dan reolaeth i'r awyr agored - ond dim ond os oes mesurau bioddiogelwch ychwanegol llym ar waith. Yn eu plith mae:
- Netin a ffensys o gwmpas pyllau
- Mannau crwydro wedi'u hamgáu’n llwyr gan netin
- Mesurau i atal adar gwyllt
Rydym yn cynghori ceidwaid yn gryf i drafod â'u milfeddyg am arweiniad.
Rwy'n annog pob ceidwad dofednod ac adar caeth i ddarllen y rhestr hunanasesu bioddiogelwch orfodol a'i chwblhau. Mae’r rhestr yn help mawr i ddarganfod bylchau yn eich arferion hylendid a bioddiogelwch i amddiffyn eich haid.
Mae hefyd yn bwysig cofio ei bod yn ofyn cyfreithiol i bob ceidwad gofrestru ei adar gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Trwy gofrestru ei adar, bydd ceidwad yn sicrhau ei fod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am achosion o'r clefyd yn ei ardal, y rheolau bioddiogelwch i'w helpu i amddiffyn ei heidiau rhag ffliw adar ac yn helpu APHA i reoli achosion posibl o'r clefyd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag APHA a gweinyddiaethau eraill y DU i fonitro'r sefyllfa'n agos a chadw golwg ar yr holl fesurau. Gweithredwch nawr i amddiffyn eich adar a'ch heidiau.
