Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae'n bleser gennyf nodi bod adroddiad Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr mewn Ysgolion Cynradd yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon. Mae'r dadansoddiad diweddaraf hwn gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn rhoi mewnwelediad hanfodol inni ar yr hyn y mae angen ei wneud i gefnogi dysgwyr. Mae'r Rhwydwaith Ymchwil yn astudiaeth gynhwysfawr o iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at werth y Rhwydwaith Ymchwil, partneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yw fy mlaenoriaeth. Mae'r Rhwydwaith Ymchwil yn ein galluogi i glywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc er mwyn deall yn well sut maen nhw'n gwneud a sut y gallwn eu cefnogi'n well. Yn ogystal â'r adroddiadau cenedlaethol, mae astudiaethau achos y Rhwydwaith Ymchwil yn arddangos y camau ymarferol y mae ysgolion yn eu cymryd mewn ymateb i adroddiadau'r Rhwydwaith Ymchwil ar ddata ysgolion, a'r effaith y mae'r rhain yn ei chael ar elfennau fel cwsg dysgwyr, fepio, a pherthnasoedd rhwng cyfoedion.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £13 miliwn bob blwyddyn yn ein Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Iechyd Meddwl - rhoddir dros £3 miliwn yn uniongyrchol i wasanaethau cwnsela mewn ysgolion, a welodd bron i 14,000 o blant a phobl ifanc ym mlwyddyn academaidd 2023/24. Mae canlyniadau arolygon y Rhwydwaith Ymchwil yn helpu i lywio'r rhaglenni hyn a blaenoriaethau'r llywodraeth, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Strategaeth Iechyd Meddwl, a Pwysau Iach: Cymru Iach. Byddwn hefyd yn defnyddio'r canfyddiadau hyn i ddiwygio ein canllawiau gwrthfwlio ar gyfer ysgolion.
Hoffwn ddiolch i'r plant a'r bobl ifanc, yr ysgolion a'r staff addysgu sydd wedi rhoi o'u hamser i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Rydym wedi ymrwymo i wrando ar y canfyddiadau a defnyddio'r rhain i wella iechyd a lles plant a phobl ifanc ledled Cymru.
