Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ei Arolwg diweddaraf o'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, Dweud eich Dweud Gofal Cymdeithasol Cymru - Ymchwil, data ac arloesi - Gofal Cymdeithasol Cymru - Ymchwil, data ac arloesi, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn. Ymatebodd dros 5,700 o weithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr o bob rhan o'r sector.
Roedd yr arolwg yn archwilio themâu allweddol gan gynnwys llesiant, tâl ac amodau, datblygiad gyrfa, anghenion hyfforddiant, cymhellion ar gyfer gweithio mewn gofal cymdeithasol, a'r pethau y mae'r gweithlu yn ei werthfawrogi fwyaf. Mae'n parhau i fod yn gyfle hanfodol i'r sector rannu ei brofiadau a dylanwadu ar bolisïau a chefnogaeth yn y dyfodol.
Rwyf am ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn ymateb. Mae'n hanfodol sicrhau bod llais y gweithlu yn cael ei glywed, a byddwn yn parhau i weithio drwy'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i annog cyfranogiad ehangach mewn arolygon yn y dyfodol.
Mae'r canfyddiadau unwaith eto yn tynnu sylw at ymroddiad rhyfeddol ein gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'n galonogol gweld gwelliannau mewn llesiant, gyda lefelau bellach yn uwch na chyfartaledd y DU. Mae'r cynnydd mewn lefelau boddhad â bywyd, hapusrwydd, ac ymdeimlad o bwrpas yn awgrymu diwylliant mwy cadarnhaol yn y gweithle. Mae'r adroddiad yn dangos yn glir bod y rhai sy'n gweithio ym maes gofal yn gwneud hynny allan o ymrwymiad dwfn i helpu eraill.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod y pwysau parhaus. Mae lefelau gorbryder wedi codi, yn enwedig ymhlith gweithwyr cymdeithasol, ac maent bellach yn uwch na chyfartaledd y DU. Mae hyn yn peri pryder, ac rwyf am bwysleisio bod cymorth ar gael trwy Canopi – ein gwasanaeth iechyd meddwl am ddim i staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r arolwg hefyd yn dangos bod 68% o'r ymatebwyr wedi dweud eu bod yn fodlon â'u telerau ac amodau, ac mae'r canfyddiadau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ein gwaith a'n hymrwymiad parhaus i wella tâl ac amodau ar draws y sector.
Dangosodd y gwerthusiad diweddar o'r Cyflog Byw Gwirioneddol fod dros 80% o'r gweithlu bellach yn elwa o'r ymrwymiad hwn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wneud mwy i gyrraedd y rhai nad ydynt wedi'u cynnwys eto.
Mae'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wrthi'n cwblhau Fframwaith Tâl a Dilyniant gwirfoddol ar gyfer gofal cymdeithasol, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu yn y flwyddyn newydd. Bydd y fframwaith hwn yn cefnogi tâl cyson ac yn tynnu sylw at gyfleoedd datblygu gyrfa ar draws y sector.
Ar yr un pryd, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Hawliau Cyflogaeth a’r Cytundebau Cyflog Teg ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae'r Senedd wedi pasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Cymru, a byddwn yn ymgynghori cyn bo hir ar ddatblygu Corff Negodi i osod Cytundebau Cyflog Teg ar gyfer y sector. Er y bydd y broses hon yn cymryd amser, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r gwaith presennol nes bod y cytundebau hyn yn darparu'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer tâl teg.
Mae'r Bartneriaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gan ddod â'r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur ynghyd i gytuno ar fodelau arferion gorau ar gyfer y sector annibynnol. Ar ôl ymgysylltu â'r sector, cytunwyd ar y blaenoriaethau canlynol a byddant yn cael eu rhannu ar ddechrau'r flwyddyn nesaf:
- Cytundebau Cydnabod a Mynediad i Undebau Llafur
- Gweithdrefnau Disgyblu a Chwynion
- Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys amddiffyn rhag trais yn y gweithle
Mae recriwtio a chadw staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaethau. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu arferion gorau, creu llwybrau clir ar gyfer cynnydd, a gwella'r farn am ofal cymdeithasol fel gyrfa am oes.
Trwy barhau i weithio mewn partneriaeth agos â'r sector, rwy'n hyderus y gallwn fynd i'r afael â'r heriau a amlygwyd yn yr arolwg a chyflawni newid ystyrlon. Hoffwn ddiolch i bob aelod o'n gweithlu gofal cymdeithasol am eich ymrwymiad diwyro a'r rhan hanfodol rydych chi'n ei chwarae wrth gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Rydyn ni’n eich gwerthfawrogi, ac rwyf i'n ymrwymo i ysgogi'r newid rydych chi'n ei haeddu. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu sector gofal cymdeithasol cryfach, tecach a mwy cefnogol i Gymru.
