Adolygiad o gymorth i fusnesau
Adroddiad ar sut rydym yn cefnogi busnesau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Crynodeb gweithredol
Mae'r adolygiad hwn yn cynnig asesiad o'r ddarpariaeth cymorth i fusnesau, yn bennaf o fewn portffolio economaidd Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio dadansoddiad mewnol ac allanol, ymchwil bwrdd gwaith ac ymgysylltu â rhanddeiliaid dethol. Mae'r adolygiad yn nodi bod cryfderau i’r system bresennol, gan gynnwys y gallu i addasu, gweithio mewn partneriaeth a’r effaith gadarnhaol ar dwf busnesau ac arloesi.
Fodd bynnag, mae hefyd yn tynnu sylw at feysydd i'w gwella - yr angen am strategaeth gliriach, egluro a symleiddio'r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael, canolbwyntio’n fwy penodol ar flaenoriaethau allweddol, integreiddio'n well â sgiliau a chyflogadwyedd, gwelliannau parhaus i fesur canlyniadau, a chymorth mwy cynhwysol sy'n barod ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a chanolig, denu mewnfuddsoddiad, grwpiau gwledig a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae'r argymhellion wedi'u rhannu'n gamau gweithredu tymor byr (rhwng nawr a mis Ebrill 2026) a blaenoriaethau tymor canolig (o fis Ebrill 2026 ymlaen), gan ddarparu map ar gyfer cryfhau ecosystem cymorth i fusnesau Cymru.
2. Cefndir a methodoleg
Pwrpas yr adolygiad hwn yw cynnal adolygiad sylfaenol o'r cymorth i fusnesau sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd a beth allai newid neu gael ei ailffocysu nawr gan amharu cyn lleied â phosibl ar ddarpariaeth gwasanaethau, i wella'r cymorth ar gyfer blaenoriaethau'r llywodraeth hon ac i adlewyrchu cyfleoedd economaidd sy'n dod i'r amlwg. Rhennir argymhellion yn rhai tymor byr a rhai tymor canolig. Mae tymor byr yn cwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon. Mae'r tymor canolig yn cwmpasu'r cyfnod yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026.
Comisiynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio swyddogion i gynnal adolygiad o'r cymorth i fusnesau a ddarperir yn ei phortffolio economaidd yn bennaf a dylai gynnwys y canlynol:
- dadansoddiad o'r ystod o weithgareddau cymorth i fusnesau, canlyniadau ac a yw'r rhain yn cyd-fynd â'r cyfleoedd economaidd presennol
- argymhellion ar bwysau cymharol yr adnoddau y dylid eu rhoi i wahanol sectorau, gan gynnwys y rhesymeg dros y ffordd y dylid dyrannu adnoddau, ac opsiynau ar gyfer newid
- effaith ymyrraeth Llywodraeth y DU, i ba raddau y mae'n dyblygu'r ddarpariaeth bresennol a'r ffordd orau o'i symleiddio; a
- dadansoddiad o’r drefn o gyfeirio a chydlynu’r cymorth cyffredinol i fusnesau sy’n cael ei ddarparu yng Nghymru a chyfleoedd i wneud arbedion effeithlonrwydd y gellir eu hailfuddsoddi i gefnogi economi Cymru
Mae'r adolygiad yn pwyso a mesur y sefyllfa bresennol, yn egluro cryfderau a chyfyngiadau'r ddarpariaeth bresennol ac yn nodi lle gellir cymryd camau ymarferol i gefnogi blaenoriaethau'r llywodraeth. Bwriedir i'r gwaith fod yn amserol ac yn gymesur, gan ganolbwyntio ar feysydd lle gellir cyflawni newid cadarnhaol yn effeithlon, ac yn seiliedig ar dystiolaeth, barn rhanddeiliaid ac astudiaethau mewnol ac allanol blaenorol.
Byddai angen mwy o fewnbwn allanol, meincnodi, amser ac adnoddau nag y bwriadwyd i'r adolygiad mewnol hwn eu cynnal er mwyn cael dadansoddiad hirdymor mwy cynhwysfawr. Ond, mae'n ystyried pa gamau y gallwn eu cymryd nawr i gefnogi gwerthusiadau manwl yn y dyfodol o ba mor dda y mae gwasanaethau'n cyd-fynd â strategaeth economaidd a nodi'r opsiynau gorau ar gyfer gwella.
Cynhaliwyd yr adolygiad yn fewnol yn bennaf, dan arweiniad tîm gweithrediadau'r Economi, Ynni a Thrafnidiaeth, gan ddefnyddio'r gronfa o ddata a gwerthusiadau presennol ynghyd ag adborth presennol a gasglwyd yn fewnol. Mae'r gwaith wedi cael ei gefnogi gan OB3 Research Ltd sydd wedi cynnal cyfweliadau, wedi dilysu data ac wedi cynnal ymchwil desg i'r adroddiadau a'r dogfennau sydd ar gael, gan gynnwys trafod gydag un o’r partneriaid cyflawni allweddol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, yng ngoleuni'r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud ynghylch darpariaeth cymorth i fusnesau.
Mae tîm yr adolygiad wedi defnyddio canllawiau presennol gan gynnwys Fframwaith Gwerthuso Cymorth i Fusnesau BEIS (2019) ac adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gynlluniau cymorth i fusnesau (2020) ac wedi ystyried adroddiadau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, Dirnad Economi Cymru, asesiadau effaith Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
Hoffai tîm yr adolygiad ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hwn. Hoffem ddiolch i Carys Williams (Cyfarwyddwr Anweithredol, Llywodraeth Cymru) am ei dealltwriaeth a'i her.
3. Amodau economaidd
Mae seilwaith yn hanfodol i iechyd a thwf economi Cymru, gan weithredu fel sbardun allweddol ar gyfer cynhyrchiant, gwydnwch a chynhwysiant. Mae gwelliannau i drafnidiaeth (er enghraifft, deuoli'r A465 a’r stoc newydd o drenau), cysylltedd digidol ac ynni yn cysylltu pobl a busnesau ac yn hwyluso masnach.
Mae tua 250,000 o fusnesau yng Nghymru, a microfusnesau a busnesau bach a chanolig yw'r mwyafrif helaeth ohonynt, a dyma asgwrn cefn economi Cymru. Mae microfusnesau (y rheini sy'n cyflogi llai na 10 o bobl) yn arbennig o gyffredin, ac yn cyfrif am dros 94% o holl fusnesau Cymru. Cyfran fechan o’r cyfrif cyfansymiol sy’n gwmnïau mwy, y rheini sy'n cyflogi mwy na 250 o bobl, ond mae ganddynt ran fawr i’w chwarae o ran cyflogaeth ac allbwn economaidd.
Cyn 2006, Awdurdod Datblygu Cymru (ADC) oedd yn gyfrifol am feithrin twf economaidd yng Nghymru drwy annog datblygiad busnesau a buddsoddi ynddynt, gan ddarparu cymorth ariannol, adfer tir diffaith a datblygu safleoedd diwydiannol. Roedd gweithgarwch yr asiantaeth yn cynnwys denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor a chefnogi busnesau lleol. Sefydlwyd Cyllid Cymru yn 2001 fel is-gwmni i Awdurdod Datblygu Cymru.
Yn 2006, trosglwyddwyd swyddogaethau a chyfrifoldebau Awdurdod Datblygu Cymru i Lywodraeth Cymru. Daeth Cyllid Cymru yn endid ar wahân sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru nes iddo newid i fod yn Fanc Datblygu Cymru yn 2017.
Ers trosglwyddo'r cyfrifoldebau, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cyfres eang o fecanweithiau cymorth sydd wedi'u teilwra i anghenion esblygol busnesau Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth drwy lwyfannau digidol penodol a llinell gymorth, cymorth cynghori a mentora ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach a chanolig; cymorth ar gyfer allforio a thwf rhyngwladol; cymorth arloesi ac ymchwil a datblygu; mewnfuddsoddiad; cymorth penodol ar gyfer y sectorau creadigol a thwristiaeth a chymorth brandio cysylltiedig; cymorth ariannol drwy Gronfa Dyfodol yr Economi; cymorth benthyca uniongyrchol drwy gorff hyd braich Llywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru; a chymorth i ffermwyr drwy Cyswllt Ffermio.
Caiff yr amodau economaidd sy'n effeithio ar y ddarpariaeth cymorth i fusnesau yng Nghymru ei diffinio ar hyn o bryd gan ansicrwydd sylweddol a thrawsnewid cyflym. Mae nifer o ffactorau'n dod at ei gilydd i greu sefyllfa arbennig o gymhleth, yn fwyaf nodedig, canlyniadau ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (UE), pandemig Covid-19, y pwysau chwyddiant presennol, cyflwyno a chau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, colli fframwaith perfformiad cyffredinol a oedd yn arfer bod yn gysylltiedig â chyllid yr UE, ac, yn hollbwysig, absenoldeb fframwaith rhanbarthol wedi'i ddiffinio'n glir rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch dyrannu cyllid newydd. Gyda'i gilydd, mae'r ddeinameg hon yn dylanwadu ar y cyfleoedd i gael eglurder ynghylch y cymorth sydd ar gael a'r heriau sy'n wynebu busnesau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae ymadawiad y DU â'r UE wedi cael effaith fawr ar dirwedd economaidd Cymru. Am flynyddoedd, cronfeydd strwythurol sylweddol yr UE oedd conglfaen twf busnesau, arloesi a datblygu rhanbarthol yng Nghymru. Yn gysylltiedig â'r cronfeydd hyn roedd fframwaith perfformiad cadarn y cytunwyd arno a oedd yn gosod amcanion a meincnodau cyffredin a rhesymeg glir ar gyfer gwerthuso effaith ymyriadau cymorth i fusnesau. Mae colli'r oruchwyliaeth unedig hon, ynghyd â'r cyllid ei hun, wedi creu bwlch sylweddol, yn enwedig o ran y gallu i gydlynu, mesur a gwella'r cymorth i fusnesau a chymunedau yng Nghymru a oedd yn arfer dibynnu ar fuddsoddiad Ewropeaidd.
Mae Brexit hefyd wedi arwain at rwystrau masnachu, tariffau a gwahaniaethau rheoleiddiol newydd, gan gymhlethu gweithgareddau allforio a mewnforio i gwmnïau yng Nghymru, yn enwedig yn y sectorau gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth a gwasanaethau a oedd yn arfer dibynnu ar farchnadoedd yr UE. Ar ben hynny, mae effeithiau pandemig Covid-19 a phwysau chwyddiant yn ogystal â rhwystrau masnach ar y lefel macroeconomaidd wedi rhoi pwysau sylweddol ar economi Cymru ac ar gyflogaeth, gan greu ansicrwydd sylweddol yn y penderfyniadau ynghylch buddsoddi ar gyfer busnesau.
Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i siapio'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Ddiwydiannol, a gafodd ei lansio ym mis Mehefin 2025. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y strategaeth yn cyd-fynd â Chenhadaeth Economaidd Cymru a'i chryfderau rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ganolbwyntio ar gyflawni dros Gymru. Mae hyn yn cynnwys mewn meysydd fel y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol, Ardal Twf Deallusrwydd Artiffisial, Bargen Amddiffyn a Chlwstwr i Gymru, lleihau costau ynni i fusnesau a darparu cyllid mewn meysydd fel Partneriaethau Arloesi Lleol ac Ardaloedd Strategaeth Ddiwydiannol.
4. Cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru
Mae gan Gymru gyfran uchel o fentrau micro a bach, dros 94%, sy'n aml heb y capasiti i dyfu, arloesi ac allforio. Mae lefelau cynhyrchiant yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU. Mae cryn sylw wedi ei roi i'r her o ran cynhyrchiant yng Nghymru. Er enghraifft, mae gweithgynhyrchu yn cyfrannu 15.6% at Werth Ychwanegol Gros (GVA) Cymru, sy'n uwch na chyfartaledd y DU, sef 9.2%. Fodd bynnag, mae cynhyrchiant yn dirywio yn y sector gweithgynhyrchu oherwydd darnio’r sector, diffyg buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu a bylchau o ran sgiliau.
Mae’r heriau daearyddol yn cynnwys y dirwedd wledig, seilwaith gwael a mynediad digidol anwastad. Mae gwaddol hanesyddol y dirywiad ôl-ddiwydiannol wedi golygu bod rhanbarthau sydd â dwysedd isel o fusnesau, anweithgarwch economaidd a phrinder sgiliau. I fynd i’r afael â’r pwysau'r farchnad lafur, mae angen ymyriadau wedi'u targedu ar gyfer creu swyddi, cadw swyddi ac uwchsgilio.
Ar lefel syml, mae gan Lywodraeth Cymru rôl ddeublyg mewn cymorth i fusnesau - cefnogi'r gwaith o gyflawni cyfeiriad polisi strategol ac amodau busnes; a darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth ledled Cymru ac yn rhanbarthol. Ar lefel strategol, mae Cenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru yn nodi pedair blaenoriaeth:
- Pontio teg a ffyniant gwyrdd.
- Llwyfan ar gyfer pobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant.
- Partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'r economi bob dydd.
- Buddsoddi ar gyfer twf.
Mae'r Genhadaeth Economaidd yn seiliedig ar amrywiaeth o fwriadau polisi sy'n canolbwyntio ar greu'r amodau a'r cyfleoedd i gyflawni'r pedair blaenoriaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio, yn cydlynu ac yn darparu sbectrwm eang o wasanaethau cymorth sydd wedi'u teilwra i anghenion busnesau a chymunedau Cymru:
- gwybodaeth, arweiniad a chyngor: ar feysydd fel cynllunio busnes, Adnoddau Dynol a gwaith teg, datgarboneiddio, allforio, gweithgarwch y gadwyn gyflenwi ac arferion gorau drwy Busnes Cymru. Cymorth i helpu busnesau bach a chanolig i sicrhau contractau a lleihau costau drwy GwerthwchiGymru
- mynediad at gyllid: mae Banc Datblygu Cymru, corff hyd braich Llywodraeth Cymru, yn pontio bylchau cyllid drwy fenthyciadau ac ecwiti, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig a microfusnesau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan fenthycwyr prif ffrwd. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd gronfa benodol, sef Cronfa Dyfodol yr Economi.
- arloesi a thechnoleg: cymorth ar gyfer digideiddio, ymchwil a datblygu a mabwysiadu technolegau newydd
- allforio a Rhyngwladoli: amrywiaeth o wasanaethau cymorth allforio sy'n cysylltu busnesau â chyfleoedd byd-eang, gan gynnig arweiniad wedi'i deilwra ac offer ymarferol i helpu cwmnïau Cymru i ehangu'n rhyngwladol
- rhwydweithio a chydweithio: mae digwyddiadau, clystyrau a fforymau sector, sy'n aml yn cael eu cynnull gan Lywodraeth Cymru, yn annog rhannu gwybodaeth, meithrin partneriaethau rhwng busnesau, y byd academaidd a'r sector cyhoeddus
- cyfeirio: mae mentrau fel Busnes Cymru yn darparu un pwynt cyswllt, gan sicrhau bod busnesau'n gallu cael gafael ar y cymorth mwyaf perthnasol yn gyflym heb ddyblygu diangen na dryswch
- rhaglenni penodol i sector - bwyd, creadigol, twristiaeth, adeiladu, yr economi sylfaenol
- sgiliau ac arloesi: Rhaglen Sgiliau Hyblyg, SMART Cymru, Cronfa'r Economi Gylchol
- twf yn seiliedig ar leoedd: timau rhanbarthol, buddsoddi mewn eiddo, mentrau'r economi sylfaenol
- ymyriadau penodol sy'n seiliedig ar brosiectau o Arfor i GCRE.
- Cyswllt Ffermio: cymorth i fusnesau ffermio a chymunedau gwledig.
- yn fwy cyffredinol, mae'r llywodraeth hefyd yn cefnogi busnesau sydd ag ysgogiadau sylweddol ehangach, yn enwedig rhyddhad Ardrethi Annomestig i bob busnes bach sydd ag eiddo ardrethol
Ar hyn o bryd, rhoddir blaenoriaeth i sectorau strategol fel gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd, twristiaeth a'r diwydiannau creadigol. Mae pecynnau wedi'u teilwra'n cael eu datblygu ar gyfer sectorau â thwf uchel, ac mae buddsoddi mewn gwasanaethau bob dydd yn cefnogi economïau lleol. Gan gydnabod rhanbarthau amrywiol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth sy'n seiliedig ar leoedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a heriau lleol, o Gymoedd de Cymru i gadarnleoedd gwledig. Mae Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol yn arwain buddsoddiad wedi'i dargedu mewn seilwaith, sgiliau lleol, a chymorth pwrpasol i fusnesau, gan helpu pob cymuned i gymryd rhan mewn twf economaidd.
Amcan cymorth i fusnesau yw annog ac ysgogi twf economaidd, entrepreneuriaeth ac arloesi. Yn ei hanfod, nod cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru yw:
- rhoi hwb i gyflogaeth a chreu swyddi o safon, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â heriau economaidd parhaus
- cau'r bwlch cynhyrchiant gyda gweddill y DU drwy fuddsoddi mewn arloesi a sgiliau'r gweithlu
- grymuso microfusnesau i ddechrau, tyfu, arloesi a goroesi mewn tirwedd sy'n newid
- lleihau gwahaniaethau rhanbarthol drwy sicrhau cymorth wedi'i dargedu sy'n sensitif i leoedd ar gyfer pob cymuned
- cryfhau gwydnwch, gan alluogi busnesau Cymru i addasu i newidiadau byd-eang (fel Brexit a'r newid i sero net) a manteisio ar gyfleoedd newydd, gan gynnwys mewn marchnadoedd rhyngwladol
Dyma rai o'r adnoddau a'r polisïau allweddol yn system cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru:
- Porth Busnes Cymru: prif borth y llywodraeth i gael cyngor, arweiniad a chymorth
- Cyswllt Ffermio: cymorth penodol i fusnesau ffermio a’r gymuned wledig
- Banc Datblygu Cymru: yn rhoi mynediad hollbwysig i fusnesau Cymru at gyfalaf ac arbenigedd
- Cynllun Gweithredu ar yr Economi: y fframwaith strategol sy'n pennu blaenoriaethau ar gyfer twf cynhwysol, gwydnwch a chynaliadwyedd.
- Llwyfannau cymorth digidol: adnoddau ar-lein ac offer diagnostig i symleiddio mynediad a theilwra cymorth yn effeithlon
- Allforio a Rhyngwladoli: rhaglenni a luniwyd i helpu busnesau i ymuno â marchnadoedd tramor a ffynnu ynddynt
Creu swyddi
Mae blaenoriaeth y Prif Weinidog o gael ‘rhagor o swyddi’ yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth ledled Cymru. Mae'r flaenoriaeth hon yn cael ei datblygu drwy amrywiaeth o ymyriadau wedi'u targedu a dulliau trawslywodraethol sy'n cefnogi’r gwaith o greu swyddi, diogelu cyflogaeth bresennol a gosod y sylfeini ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Er nad yw hwn yn un o dargedau’r Rhaglen Lywodraethu, mae'n ymrwymiad trawslywodraethol i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ledled Cymru.
Er nad yw'n rhestr gynhwysfawr, mae nifer o bolisïau a rhaglenni allweddol sy'n cefnogi'r agenda o greu mwy o swyddi drwy raglenni penodol fel Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru a Chronfa Dyfodol yr Economi.
Mae rhaglenni fel Busnes Cymru, Cyswllt Ffermio a Croeso Cymru i gyd yn darparu cymorth i fusnesau i feithrin cynaliadwyedd hirdymor, gan wreiddio egwyddorion gwaith teg, cryfhau'r gwaith o reoli'r gweithlu a chael mynediad at gadwyni cyflenwi newydd.
Mae rhaglenni sy'n cynnwys Porthladdoedd Rhydd ac Ardaloedd Buddsoddi wedi'u cynllunio i ddatgloi potensial cyflogaeth hirdymor, cefnogi'r newid i economi sero net a chreu'r amodau ar gyfer twf swyddi yn y dyfodol.
Er bod yr holl ymdrechion hyn yn aml yn arwain at greu swyddi newydd a diogelu swyddi presennol, nid yw pob ardal yn coladu swyddi fel metrig, mae methodoleg anghyson o ran y diffiniad o greu swyddi ac anghysondeb yn y ffordd mae'r data hwn yn cael ei gasglu. Fodd bynnag, daethom o hyd i gysondeb ym mhortffolio Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â Busnes Cymru, Cronfa Dyfodol yr Economi, Arloesi a Banc Datblygu Cymru.
5. Yr ecosystem cymorth i fusnesau ehangach
Mae'r ecosystem cymorth i fusnesau yng Nghymru yn eang ac yn amlochrog, gan gwmpasu amrywiaeth o bartneriaid sy'n darparu cymorth i fusnesau. Er bod Llywodraeth Cymru yn rhanddeiliad canolog, mae nifer sylweddol o sefydliadau eraill hefyd yn chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi busnesau Cymru ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn dod â nifer o awdurdodau lleol at ei gilydd i gynllunio ac maent yn dechrau cyflawni datblygu economaidd, trafnidiaeth strategol a defnydd tir ar lefel ranbarthol. Maent yn canolbwyntio ar y canlynol:
- cynllunio economaidd strategol a chydlynu blaenoriaethau datblygu rhanbarthol
- cronni cyllid, adnoddau ac arbenigedd i wella effaith mentrau cymorth i fusnesau
- hwyluso prosiectau rhanbarthol ar raddfa fawr ym maes seilwaith, arloesi a sgiliau
Mae partneriaethau economaidd rhanbarthol, gan gynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Bargen Twf Gogledd Cymru a Bargen Twf Canolbarth Cymru, yn cydlynu buddsoddiad cyhoeddus, preifat ac academaidd mewn seilwaith economaidd, arloesi a datblygu sectorau. Maent fel arfer yn cynnwys:
- buddsoddi mewn trawsnewid digidol, technolegau carbon isel a sectorau cryf
- rhaglenni cymorth i fusnesau ac arloesi pwrpasol
- Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn cysoni'r ddarpariaeth sgiliau ag anghenion busnes
Mae prifysgolion a cholegau'n cefnogi twf busnesau ac arloesi drwy’r dulliau canlynol:
- Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) sy'n cysylltu busnesau ag arbenigedd academaidd a thalent graddedigion, sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru
- mae deorfeydd, cyflymwyr a chanolfannau menter ar gyfer busnesau newydd ac entrepreneuriaid yn aml yn cael eu darparu drwy gydweithio
- ymchwil ar y cyd, cymorth ymchwil a datblygu a chyngor arbenigol mewn meysydd fel digidol, peirianneg a charbon isel
Mae Siambrau Masnach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn darparu eiriolaeth, cyngor busnes, rhwydweithio a hyfforddiant ac yn cynrychioli buddiannau busnes i'r llywodraeth a chyllidwyr.
Mae mentrau cymdeithasol drwy Busnes Cymdeithasol Cymru a sefydliadau cynrychioliadol fel Cwmpas, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Unlimited, DTAW a WCVA yn cefnogi modelau busnes sy'n cael eu gyrru gan gymdeithas ac sy'n cael eu harwain gan y gymuned. Mae cynghorau sector, cyrff masnach, a chlystyrau diwydiant fel Bwyd a Diod Cymru, Cymru Greadigol a Twristiaeth Cymru, yn darparu cymorth wedi'i dargedu, eiriolaeth i’r sector a mynediad at gyllid ar gyfer arloesi ac ehangu'r farchnad.
Mae banciau'r stryd fawr, cwmnïau cyfrifeg, banciau her a chyfalaf menter yn cynnig opsiynau cyllid a buddsoddi ychwanegol, gyda phwyslais cynyddol ar gynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol.
Mae'r dirwedd hon yn fwy cymhleth fyth gan fod cyfres Llywodraeth y DU o ymyriadau polisi a ffrydiau cyllido sy'n siapio'r amgylchedd busnes yng Nghymru yn aml yn seiliedig ar sefyllfa polisi Lloegr heb gyfeiriad penodol at yr ecosystem yng Nghymru. Dyma rai o’r rhaglenni ac asiantaethau nodedig:
- ar ôl i gronfeydd strwythurol yr UE ddod i ben, mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn darparu cyllid yn ei le, ac mae ganddo ei flaenoriaethau a'i fecanweithiau dyrannu ei hun
- mae Innovate UK a Banc Busnes Prydain yn cynnig cyllid arloesi, benthyciadau a chymorth twf sydd ar gael i fusnesau Cymru
- rhaglenni ar gyfer sectorau ac allforio, mentrau ledled y DU ym maes gweithgynhyrchu, technoleg a chymorth allforio, sy'n aml yn cael eu cydlynu gan yr Adran Busnes a Masnach
Mae'r mentrau hyn yn cyflwyno adnoddau ychwanegol a chyfeiriad polisi, a phan maent yn cael eu cydlynu (er enghraifft drwy'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Innovate UK) maent yn darparu adnoddau ychwanegol sylweddol, ond yn ehangach mae eu meini prawf a’u blaenoriaethau strategol yn amrywiol o'u cymharu â dulliau datganoledig. Mae awdurdodau lleol hefyd wedi gallu cefnogi busnesau, yn enwedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae’r gweithgarwch sylfaenol yn cynnwys y canlynol:
- grantiau uniongyrchol a chyngor busnes drwy'r tîm datblygu economaidd, cefnogi busnesau bach a chanolig, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol
- prosiectau adfywio a mentrau seiliedig ar leoedd sy'n canolbwyntio ar seilwaith, datblygu eiddo ac adfywio'r stryd fawr a'r ardaloedd menter
- rhaglenni sgiliau a chyflogadwyedd mewn partneriaeth â cholegau a darparwyr hyfforddiant sy'n mynd i'r afael ag anghenion y gweithlu lleol
Mae strategaeth a pholisi Llywodraeth y DU yn cael effaith sylweddol ar Gymru. Mae Deddf y Farchnad Fewnol, pan nad yw'n cael ei defnyddio ar y cyd i gynnig gwerth ychwanegol, yn darparu sicrwydd deddfwriaethol i gyflawni gweithgarwch datganoledig yng Nghymru sy'n aml yn gwrthdaro â darpariaeth leol ac felly'n aml yn colli'r cyfle y mae cydweithio'n ei ddarparu. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn sefydlu Bwrdd Strategaeth Ddiwydiannol a Chronfa Cyfoeth, ac mae Senedd y DU eisoes wedi cyflwyno chwe bil. Mae Llywodraeth Cymru’n tynnu sylw at bwysigrwydd strategol sicrhau buddsoddiad ar gyfer adeiladu ffermydd gwynt yn y Môr Celtaidd a'r seilwaith cysylltiedig o amgylch Port Talbot i'r DU ac i Gymru. Llywodraeth y DU sydd hefyd yn deddfu ar y rheilffyrdd; mae dau o dri bil yn effeithio ar Gymru. Mae'r cyntaf eisoes yn y Senedd a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gaffael gweithredwr sector cyhoeddus. Mae hyn yn cyflawni ein huchelgais hirdymor. Disgwylir yr ail fil yn ddiweddarach eleni, a fydd yn creu Great British Railways i uno gwasanaethau â seilwaith, a chyflawni diwygiadau eraill.
Bydd yn bwysig deall sut mae Great British Energy yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau cyflenwi Llywodraeth Cymru, Trydan Gwyrdd Cymru ac Ynni Cymru, i gyflawni'r uchelgais o gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd hefyd yn bwysig deall sut mae'r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol, Ystadau'r Goron a GB Nuclear yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Ar ben hynny, mae gwaith yn parhau ar y Porthladdoedd Rhydd a’r Ardaloedd Buddsoddi, a disgwylir y bydd ehangu'r sectorau amddiffyn a phŵer niwclear yn cynnig cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru.
Mae'r holl gymorth sydd ar gael wedi arwain at amgylchedd cymorth i fusnesau sy’n fwy tameidiog a chymhleth. Yn hytrach nag un system unedig gyda mesurau perfformiad y cytunwyd arnynt, mae busnesau a sefydliadau bellach yn llywio amrywiaeth o fentrau ar wahân, pob un â'i gymhwysedd, ei amserlenni, ei ofynion adrodd a'i ddulliau atebolrwydd ei hun. Mae hefyd yn cymhlethu aliniad rhaglenni ac mae perygl y bydd yn arwain at ddyblygu, gan ei gwneud yn anoddach sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rheini sydd ei angen fwyaf.
Er mwyn symleiddio'r cynnig cymorth i fusnesau yng Nghymru, rydym yn argymell cyhoeddi cyfres o seminarau, rhwng nawr a diwedd tymor y Senedd hon, gan dynnu ynghyd y prif ddarparwyr cymorth i fusnesau. Y nod fydd egluro'r ystod o gymorth, cael gwared ar ddyblygu a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth; gan arwain at ddull gweithredu wedi'i adnewyddu a'i addasu ar gyfer busnesau yng Nghymru.
Ar ben hynny, rydym yn argymell y dylid profi’r canlyniad mewn cyfres o weithdai’n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid a busnesau allweddol.
6. Meincnodi a chymariaethau cenedlaethol a rhyngwladol
Yn ystod yr adolygiad, codwyd y posibilrwydd o ddefnyddio corff hyd braich i arwain a rheoli gwasanaethau cymorth i fusnesau yng Nghymru. Fodd bynnag, canfu tîm yr adolygiad hefyd fod gan wasanaethau cymorth i fusnesau enw da fel y maent, ac y gellir mynd i'r afael â’r gwelliannau posibl a nodwyd heb y gorbenion a’r aflonyddwch y byddai cyflwyno sefydliad newydd yn ei achosi. Clywsom hefyd y farn y byddai Corff Hyd Braich yn ychwanegiad arall at dirwedd sydd eisoes yn orlawn o ddarparwyr na fyddai'n rhan o'r Corff Hyd Braich hwnnw (gan gynnwys llywodraeth leol, Llywodraeth y DU, Bargeinion Dinesig, ac ati).
Ar ben hynny, clywodd tîm yr adolygiad gyfeiriadau cadarnhaol at y modelau cymorth i fusnesau sy’n bodoli mewn gwledydd eraill fel Canada a Sweden. Er na ofynnwyd iddynt ddarparu dadansoddiad llawn o fodelau cymorth i fusnesau rhyngwladol, cynhaliwyd ymchwil lefel uchel.
Nododd yr ymchwil bwrdd gwaith y gellir disgrifio cymorth i fusnesau fel yr ecosystem o wasanaethau, cyngor, cyllid, seilwaith a mentora sydd ar gael i helpu busnesau i ddechrau, i oroesi ac i dyfu. Er y gall manylion y modelau fod yn wahanol, dyma rai o’r modelau cyffredin o gymorth i fusnesau:
- asiantaethau cymorth dan arweiniad y Llywodraeth: asiantaethau canolog neu ranbarthol a sefydlwyd gan lywodraethau i ddarparu grantiau, benthyciadau, gwasanaethau cynghori a hyfforddiant.
- deorfeydd a chyflymwyr: sefydliadau, sydd weithiau’n cael eu cefnogi gan gyllid cyhoeddus, ac weithiau cyllid preifat, sy’n cynnig rhaglenni strwythuredig, mentora, buddsoddiad a mannau gwaith i gwmnïau newydd
- Siambrau Masnach a sefydliadau cynrychioladol: sefydliadau sy'n cael eu harwain gan eu haelodau sy'n eirioli, yn rhwydweithio ac yn darparu cymorth
- banciau a sefydliadau cyllid micro: darparu credyd, benthyciadau a chyngor ariannol.
- cyfalaf menter a rhwydweithiau angylion: buddsoddwyr preifat neu grwpiau sy'n buddsoddi cyfalaf ac arbenigedd, yn aml yn gyfnewid am ecwiti.
- prifysgolion a sefydliadau ymchwil: cefnogi cwmnïau deillio, arloesi, a masnacheiddio ymchwil.
- llwyfannau ar-lein a rhwydweithiau digidol; cymorth wedi'i alluogi gan dechnoleg drwy fentora rhithwir, adnoddau a llwyfannau cyllido.
Dyma rai enghreifftiau o fodelau mewn mannau eraill:
Yr Alban
Mae gan yr Alban system gadarn ac integredig o gymorth bi fusnesau, sy'n cael ei chydnabod am ei harweinyddiaeth gyhoeddus gref a'i phartneriaeth â sefydliadau yn y sector preifat a'r trydydd sector.
- Scottish Enterprise: mae asiantaeth datblygu economaidd genedlaethol yr Alban yn darparu cyllid, buddsoddiad, cymorth allforio a chyngor i fusnesau ar wahanol gamau o ran eu twf, mae'n targedu sectorau â thwf uchel ac yn cynnig cyllid arloesi a chymorth rhyngwladoli
- Business Gateway: mae'n gweithredu ar lefel fwy lleol, gan ddarparu cyngor, gweithdai ac adnoddau am ddim i fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig ar draws awdurdodau lleol yr Alban, yn aml, Business Gateway yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer entrepreneuriaid newydd
- Highlands and Islands Enterprise: mae'n canolbwyntio ar anghenion unigryw busnesau mewn rhanbarthau gogleddol ac mewn rhai gwledig, gyda chymorth pwrpasol wedi'i deilwra i flaenoriaethau economaidd lleol
- canolfannau arloesi: endidau sector-benodol sy'n meithrin cydweithio rhwng diwydiant a'r byd academaidd i sbarduno arloesi
Mae model cymorth yr Alban yn nodedig am ei ddull haenog, asiantaethau cenedlaethol sy’n gosod cyfeiriad strategol, ac mae asiantaethau lleol yn darparu cymorth wedi'i deilwra, y cyfan o fewn fframwaith sy'n gwerthfawrogi arloesi, cynhwysiant a thwf cynaliadwy.
Iwerddon
Mae ecosystem cymorth i fusnesau Iwerddon yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, yn enwedig am ei llwyddiant yn denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor ac am feithrin diwylliant bywiog o fusnesau newydd.
- Enterprise Ireland: prif asiantaeth y llywodraeth ar gyfer datblygu busnesau cynhenid a thyfu allforion; mae'n darparu cyllid, gwasanaethau cynghori a chymorth rhyngwladoli, gan ganolbwyntio ar dyfu cwmnïau Gwyddelig yn fyd-eang
- Swyddfeydd Menter Lleol: wedi'u gwasgaru ledled y wlad, LEOs yw asgwrn cefn cymorth i fusnesau lleol, gan gynorthwyo mentrau micro a bach drwy gynnig grantiau, hyfforddiant a mentora
- IDA Ireland: yn canolbwyntio ar ddenu a chefnogi mewnfuddsoddiad gan gorfforaethau amlwladol
- Cyflymyddion a rhwydweithiau menter: mae gan Iwerddon rwydwaith bywiog o gyflymwyr ac angylion buddsoddi sy'n ategu cymorth y wladwriaeth ac yn rhoi busnesau newydd mewn cysylltiad â chyfalaf ac arbenigedd
Mae dull Iwerddon yn cyfuno asiantaethau strategol wedi’u canoli gyda chefnogaeth leol a phwyslais pendant ar ryngwladoli a sectorau gwerth uchel fel technoleg, cynhyrchion fferyllol a chyllid.
Canada
Mae Canada'n defnyddio model cymorth i fusnesau amlhaenog, sy'n cyfuno cynlluniau ffederal, taleithiol a threfol.
- Arloesi, Gwyddoniaeth a Datblygu Economaidd Canada: yr adran ffederal sy'n gyfrifol am sbarduno arloesi, cefnogi busnesau bach a chanolig, ac ariannu mentrau ymchwil a datblygu
- Asiantaethau datblygu rhanbarthol: gan gynnwys Western Economic Diversion Canada, FedDev Ontario, Canada Economic Development ar gyfer Rhanbarthau Quebec ac eraill; mae'r asiantaethau hyn yn darparu cymorth a chyllid sy'n benodol i’w rhanbarthau i adlewyrchu blaenoriaethau economaidd lleol
- Business Development Bank of Canada: corfforaeth y Goron sy'n cynnig cyllid, gwasanaethau cynghori a chyfalaf i fusnesau bach a chanolig nad ydynt yn gallu cael gafael ar gyllid gan fanciau traddodiadol
- MaRS Discovery District, Communitech, a deoryddion eraill: mae gan Ganada dirwedd gyfoethog o ddeorfeydd a chyflymwyr annibynnol a rhai sy'n gysylltiedig â phrifysgolion ac sy'n meithrin cwmnïau cam cynnar, yn enwedig ym maes technoleg a gwyddorau bywyd
- Export Development Canada: yn cefnogi busnesau Canada i ehangu'n rhyngwladol drwy gyllid, yswiriant a gwybodaeth am y farchnad
Mae model Canada yn pwysleisio cynhwysiant, gyda rhaglenni penodol ar gyfer entrepreneuriaid sy’n fenywod ac yn fewnfudwyr, yn ogystal â chanolbwyntio’n benodol ar dechnoleg lân, arloesi digidol a chynhwysiant.
Sweden
Mae Sweden yn cael ei hystyried yn arweinydd o ran meithrin arloesi ac entrepreneuriaeth, wedi'i hategu gan gyfraniad sylweddol gan y wladwriaeth a diwylliant cydweithredol.
- Asiantaeth Twf Economaidd a Rhanbarthol Sweden (Tillväxtverket): mae'n cefnogi datblygiad rhanbarthol, entrepreneuriaeth ac arloesi drwy gyllid, trosglwyddo gwybodaeth a chydlynu â bwrdeistrefi
- Vinnova: mae asiantaeth arloesi Sweden yn ariannu partneriaethau ymchwil, datblygu ac arloesi cyhoeddus-preifat, gyda mandad i hybu twf cynaliadwy
- Almi Företagspartner: yn darparu benthyciadau, cyfalaf menter a chyngor datblygu busnes, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gwmnïau newydd â chwmnïau â thwf uchel
- Deorfeydd a pharciau gwyddoniaeth: mae gan Sweden rwydwaith dwys o barciau gwyddoniaeth sy'n aml yn gysylltiedig â phrifysgolion, ac yn meithrin cydweithio a masnacheiddio ymchwil
Rhai o nodweddion system gymorth Sweden yw’r ffordd mae wedi’i hintegreiddio â'r wladwriaeth les, y pwyslais ar gynaliadwyedd, a'r bartneriaeth agos rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a'r sector preifat.
Denmarc
Mae model cymorth i fusnesau Denmarc wedi'i ddatganoli ac yn canolbwyntio'n bendant ar feithrin arloesi, digideiddio a thwf gwyrdd.
- Awdurdod Busnes Denmarc (Erhvervsstyrelsen): mae'n goruchwylio polisi cenedlaethol, yr amgylchedd rheoleiddio, ac yn cynnig offer a rhaglenni cyngor digidol ar gyfer busnesau newydd a chwmnïau sefydledig
- Canolfannau Datblygu Busnes Rhanbarthol: yn darparu cyngor lleol, hyfforddiant ac yn adeiladu rhwydweithiau ar gyfer busnesau bach a chanolig, gyda gwasanaethau wedi'u teilwra i anghenion rhanbarthol
- Cronfa Arloesi Denmarc: yn cefnogi ymchwil ac arloesi, gan alluogi cydweithio ar draws sectorau ac ariannu prosiectau â photensial uchel
- Vækstfonden: cronfa fuddsoddi gwladwriaethol Denmarc, sy'n darparu cyfalaf menter a benthyciadau twf i entrepreneuriaid a busnesau arloesol
- Sefydliadau Clwstwr: mae clystyrau diwydiant Denmarc yn meithrin trefn o groesbeillio syniadau a thechnoleg, yn enwedig mewn sectorau fel technoleg lân, biotechnoleg ac arloesedd bwyd
Mae Denmarc yn enwog am ei dull gweithredu ‘siop un stop’, lle mae llwyfannau digidol yn symleiddio mynediad busnesau at wasanaethau'r llywodraeth. Mae'r model cymorth yn annog datblygu cynaliadwy, trawsnewid digidol a thwf allforion.
Gwlad yr Iâ
Mae tirlun cymorth i fusnesau Gwlad yr Iâ, er ei fod ar raddfa lai, yn ddeinamig ac yn ymatebol i'w gyd-destun economaidd unigryw.
- Canolfan Arloesi Gwlad yr Iâ: y brif asiantaeth gyhoeddus ar gyfer cymorth arloesi ac entrepreneuraidd, sy'n cynnig gwasanaeth deori, ymgynghoriaeth ymchwil a datblygu, cyfleusterau prototeipio a mynediad at rwydweithiau
- Busnesau Newydd Gwlad yr Iâ: yn darparu cyflymwyr, mentora a chysylltiadau cyllido ar gyfer mentrau newydd, yn enwedig mewn diwydiannau creadigol a thechnoleg
- Mentrau NSA: cronfa cyfalaf menter y wladwriaeth, buddsoddi mewn cwmnïau sydd newydd gael eu sefydlu yng Ngwlad yr Iâ a chefnogi twf drwy bartneriaethau strategol
- Sefydliadau Datblygu Rhanbarthol: yn hyrwyddo entrepreneuriaeth y tu allan i Reykjavik, gan sicrhau bod rhanbarthau gwledig ac arfordirol yn elwa o fentrau datblygu economaidd
Rhai o nodweddion dull Gwlad yr Iâ yw ystwythder, gyda chymorth yn aml wedi'i deilwra i weddu sectorau cryf fel ynni adnewyddadwy, pysgota, twristiaeth a TG. Mae cydweithio rhwng sefydliadau cyhoeddus, prifysgolion a'r sector preifat yn nodwedd ddiffiniol.
Singapôr
Singapore sy’n gosod y safon aur ar gyfer cymorth i fusnesau gan y wladwriaeth, gyda phwyslais ar effeithlonrwydd, tryloywder a rhyngwladoli.
- Enterprise Singapore: mae'r asiantaeth hon o'r llywodraeth yn cefnogi busnesau i dyfu, gan sbarduno arloesi ac ehangu dramor
- Startup SG: fframwaith cenedlaethol sy'n cynnig cyllid, mentora a phartneriaethau cyflymu, mae hefyd yn hwyluso mynediad at farchnadoedd rhyngwladol drwy rwydwaith o bartneriaid y Gynghrair Arloesi Byd-eang
- rheoleiddio a seilwaith ffafriol: mae system gyfreithiol dryloyw, seilwaith o'r radd flaenaf a chymhellion treth syml yn ei gwneud hi'n haws gwneud busnes.
- datblygu talent: mae mentrau'n cefnogi dysgu gydol oes ac uwchsgilio'r gweithlu, gan sicrhau mynediad at dalent o’r safon uchaf
Yr Almaen
Mae model cymorth i fusnesau yr Almaen wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ei threftadaeth ddiwydiannol, gyda phwyslais cryf ar gefnogi busnesau bach a chanolig, sy’n cael ei alw’n Mittelstand.
- Banc Datblygu KfW: conglfaen allweddol, sy'n cynnig benthyciadau â llog isel a grantiau ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach a chanolig, ac sy'n ariannu prosiectau trawsnewid gwyrdd a digidol
- Clystyrau a siambrau diwydiant: mae clystyrau rhanbarthol, fel y rheini ym maes moduron a pheirianneg, yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio, hyfforddiant a throsglwyddo arloesedd; mae'r Siambrau Masnach (IHK) yn hanfodol i gefnogi'r gwaith o greu busnesau a’u rhyngwladoli
- hyfforddiant galwedigaethol: mae system addysg ddeuol yr Almaen yn sicrhau bod busnesau'n gallu manteisio ar lif parhaus o weithwyr medrus.
- mesurau diogelu cyfreithiol cryf: mae eglurder rheoleiddiol a gwarchodaeth i arloesi ac eiddo deallusol yn annog buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu
Ar draws y gwledydd hyn, mae sawl tuedd allweddol yn dod i'r amlwg:
- integreiddio cymorth cenedlaethol a lleol - mae modelau llwyddiannus yn cysoni strategaeth genedlaethol â darpariaeth leol (Yr Alban, Iwerddon, Denmarc, Canada)
- pwyslais ar arloesi a chynaliadwyedd - mae’r cyllid a’r cymorth yn blaenoriaethu arloesi, digideiddio a thwf gwyrdd (Sweden, Denmarc, Gwlad yr Iâ)
- rhaglenni cymorth cynhwysol - mae mentrau arbennig yn targedu grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli, gan adlewyrchu ymrwymiad i amrywiaeth a thegwch cymdeithasol (Canada, yr Alban)
- cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat - mae'r rhan fwyaf o systemau'n cynnwys cydweithrediad rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a'r sector preifat
- symleiddio a digideiddio - mae llwyfannau digidol un stop yn dod yn fwyfwy cyffredin, gan wneud cymorth y llywodraeth yn fwy hygyrch (Denmarc, Sweden)
Nodweddion cyffredin mewn modelau llwyddiannus
Er bod modelau cymorth i fusnesau yn amrywio yn ôl cyd-destun cenedlaethol, mae sawl tebygrwydd yn dod i'r amlwg ymysg y rhai sy’n arwain y byd:
- cyfraniad rhagweithiol ac wedi'i ariannu'n dda gan y llywodraeth
- mynediad at gyfalaf ar draws camau twf busnes
- diwylliant sy'n dathlu entrepreneuriaeth ac arloesi
- fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol cadarn
- cydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat ac academaidd
- polisïau cynhwysol sy'n meithrin amrywiaeth a gwydnwch
Adolygiad mewnol yw hwn yn bennaf, ac nid ydym wedi edrych ar y posibilrwydd o wneud newidiadau strwythurol sylfaenol. Fodd bynnag, fel rhan o ymdrechion arferol Llywodraeth Cymru i wella'n barhaus, rydym yn argymell y dylid gwneud rhagor o waith i edrych ar fodelau rhyngwladol o gymorth i fusnesau a chadw golwg barhaus ar ba sylfaen dystiolaeth a allai fodoli i wneud rhagor o newidiadau a chael opsiynau i ddarparu gwasanaethau cymorth i fusnesau yng Nghymru yn y dyfodol.
7. Canfyddiadau allweddol
OB3 Research Ltd
Mae'r canlynol yn nodi canfyddiadau ac ystyriaethau ymchwil a wnaed gan OB3 Research Ltd. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad bwrdd gwaith o adroddiadau ymchwil a gwerthuso diweddar o amrywiaeth eang o ffynonellau, ynghyd â chyfweliadau ag uwch swyddogion yn Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol allweddol. Mae'r ymchwil bwrdd gwaith yn cyfuno prif ganfyddiadau astudiaethau diweddar ar ddarpariaeth cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru. O'r deunaw ffynhonnell a ystyriwyd, roedd dwy yn adroddiadau arolwg sector diwydiant (y sectorau creadigol a thwristiaeth), ac roedd tair yn canolbwyntio ar sector y farchnad gyllid, yn benodol Banc Datblygu Cymru.
Y ffynonellau a oedd yn weddill oedd yr adroddiadau gwerthuso a oedd yn ymwneud â chyllid grant a benthyciadau, darpariaeth gynghori Busnes Cymru a chymorth gan y trydydd sector. Er bod y gwaith hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar faterion ar lefel prosiectau neu raglenni yn hytrach nag argymhellion strategol, gallai eu mewnwelediadau lywio rhaglen strategol fanylach, gan gynnwys cyfweliadau â rhanddeiliaid a dadansoddiad ehangach o bolisiau a’r economi.
Mae'r adolygiad yn casglu tystiolaeth o rolau Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid (gan gynnwys Banc Datblygu Cymru a chyrff y trydydd sector) o ran cymorth i fusnesau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn crynhoi effaith gwahanol strwythurau cymorth, er bod ansawdd y data'n amrywio o un astudiaeth i’r llall. Nodwyd meysydd sy'n cael yr effaith leiaf, fel gwerth, cynhyrchiant a buddsoddiad, ac mae'r adolygiad yn nodi y byddai gwneud defnydd mwy cyson o ddangosyddion perfformiad allweddol yn ei gwneud yn bosibl cymharu rhaglenni mewn ffordd fwy ystyrlon yn y dyfodol.
Dyma’r prif ganfyddiadau:
Cyd-fynd â pholisiau a hyblygrwydd
Mae cymorth i fusnesau yng Nghymru’n cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru, fel cynyddu gwerth ychwanegol gros, cefnogi allforion a hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Dangosodd rhaglenni allu sylweddol i addasu mewn ymateb i argyfyngau fel Brexit a phandemig Covid-19 - er enghraifft, yn lle canolbwyntio ar dwf, dechreuodd Cronfa Fusnes Cymru ganolbwyntio ar gymorth i oroesi. Nodwyd bod dyrannu adnoddau hyblyg a rheoli rhaglenni mewn ffordd ymatebol yn arferion gorau ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol.
Modelau darparu a phrofiad cleientiaid
Yn ystod y pendemig, llwyddwyd i wella cyrhaeddiad ac effeithlonrwydd cymorth i fusnesau drwy fabwysiadu modelau darparu hybrid. Argymhellir cadw'r modelau hyn oherwydd eu bod yn cael effaith gadarnhaol. Mae Busnes Cymru yn cael ei gydnabod fel siop un stop ddibynadwy, gyda brand cryf a hygyrchedd uchel i entrepreneuriaid newydd a rhai anodd eu cyrraedd. Mae bodlonrwydd cleientiaid yn uchel (84% ar ei gilydd), yn enwedig o ran arbenigedd y cynghorwyr a’u gwasanaeth diduedd. Gellid gwneud gwelliannau pellach o ran pa mor amserol yw gwasanaethau a chyfathrebu. Mae allgymorth wedi'i dargedu, gan gynnwys Canolfannau Menter a Grant Rhwystrau Busnes Cymru, wedi bod yn effeithiol o ran cyrraedd grwpiau sy'n llai tebygol o gael mynediad at wasanaethau prif ffrwd.
Canlyniadau, llwyddiannau a gwerth am arian
Llwyddodd y rhan fwyaf o’r rhaglenni a aseswyd i ragori ar eu targedau meintiol, yn enwedig o ran arloesi, creu swyddi a diogelu swyddi. Yn benodol, cyfrannodd Cronfa Fusnes Cymru at 58% o’r twf cyflogaeth â chymorth, ac fe wnaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru gyflawni bron pob un o'r amcanion creu swyddi. Mae cymorth gan Busnes Cymru wedi arwain at gyfraddau goroesi busnes uwch - mae busnesau sy’n cael cymorth fwy na ddwywaith yn fwy tebygol o oroesi am bedair blynedd na busnesau nad ydynt yn cael cymorth.
Mae rhaglenni grant fel y Grant Rhwystrau wedi sicrhau enillion sylweddol o ran gwerth ychwanegol gros, ac mae mentrau busnes cymdeithasol wedi gwella cynaliadwyedd ariannol, trosiant a nifer y swyddi sy’n cael eu creu. Mae'r rhaglenni hyn hefyd wedi dangos gwerth am arian cadarn, ac mae'r gost wirioneddol o greu bob swydd unigol, yn aml islaw’r targedau a gynlluniwyd, ac maent yn perfformio’n dda o'u cymharu ag ymyriadau tebyg mewn mannau eraill.
Fodd bynnag, mae anghysondeb o ran sut mae’r rhaglenni'n gosod ac yn adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cymharu canlyniadau a mesur gwir effaith gwahanol ymyriadau. Mae diffyg dangosyddion perfformiad allweddol cyson a chymaradwy ar draws ymyriadau yn cyfyngu ar y gallu i asesu gwerth am arian ac elw ar y buddsoddiad.
Fodd bynnag, lle mae data ar gael, mae'r canlyniadau'n galonogol: Amcangyfrifir bod Busnes Cymru yn cynhyrchu £10 mewn gwerth ychwanegol gros am bob £1 a fuddsoddir. Llwyddodd Rhaglenni Cymorth Allforio i sicrhau cymhareb gwerth allforio gros o’i gymharu â chostau uniongyrchol rhaglenni o 20.5 (£20 am bob £1 a wariwyd), gyda rhaglen bwyd a diod Helix yn nodi hyd at £15 am bob £1. Mae pa mor gost-effeithiol yw hi i greu swyddi hefyd yn amrywio, gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf yn sefyll allan fel un arbennig o effeithlon
Cynllunio a rheoli rhaglenni
Canfu'r adolygiad fod prosesau ymgeisio a monitro wedi'u strwythuro'n dda, fel asesiadau grant dau gam a rheolaeth bwrpasol o gyfrifon, wedi cyfrannu at weinyddu cyllid yn effeithiol ac yn dryloyw. Mae cymorth sy'n seiliedig ar fenthyciadau, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu darparu drwy Gronfa Fusnes Cymru, wedi helpu i symud y diwylliant cymorth i fusnesau oddi wrth ddibyniaeth ar grantiau tuag at fodel sy'n seiliedig ar gyllid cynaliadwy, ad-daladwy, meithrin arbenigedd hirdymor a chronfeydd gwaddol. Canfuwyd bod rhaglenni a oedd yn gwreiddio blaenoriaethau trawsbynciol fel cydraddoldeb, cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol yn eu darpariaeth graidd, yn hytrach na'u trin fel ychwanegiadau, yn creu canlyniadau mwy ystyrlon. Serch hynny, mae heriau'n dal i fodoli, gan gynnwys rhaglenni newydd sy’n dechrau’n araf, yr angen am well data monitro a phwysigrwydd cysoni dangosyddion perfformiad allweddol â'r ystod lawn o ganlyniadau rhaglenni.
Fodd bynnag, mae heriau’n gysylltiedig â'r system. Mae ymdeimlad cyffredinol o ddarnio gyda thair lefel, sef llywodraeth, addysg bellach ac addysg uwch, a'r sector preifat i gyd yn cynnig cymorth i fusnesau o ryw fath. Ar adegau, mae hyn yn dangos gorgyffwrdd a diffyg cydlynu, yn enwedig rhwng cymorth i fusnesau, cyllid benthyciadau, datblygu sgiliau, brandio a gwasanaethau cyflogadwyedd. Gall fod y cymhlethdod hwn ei gwneud hi'n anodd i fusnesau ganfod eu ffordd, yn enwedig y rheini mewn sectorau gwledig neu sectorau sy'n datblygu a heb fynediad at gymorth galw heibio. Mae'n parhau i fod yn thema gyffredin i fusnesau bod cymorth syml, cysylltiedig a gweladwy yn hanfodol ac nad oes mewn gwirionedd ‘drws anghywir’ i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael.
Cydweithio ac atgyfeiriadau
Er bod yr adolygiad wedi nodi bod gwelliannau mewn rhwydweithiau atgyfeirio rhwng darparwyr fel Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru ac awdurdodau lleol, mae lle sylweddol o hyd i integreiddio, i rannu data ac i roi cymhelliant pellach i ddarparu teithiau syml i gleientiaid. Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylai darpariaeth yn y dyfodol ganolbwyntio ar gynyddu cydleoli a defnyddio mannau deori i gryfhau cydweithio, meddalwedd rheoli cwsmeriaid a rennir a chymorth.
Gwybodaeth am sectorau penodol
Mae dadansoddiad o sectorau ers y pandemig yn dangos bod y sector creadigol yn addasu ei ffocws tuag at broffidioldeb a chynaliadwyedd, er bod y sector yn parhau i wynebu bylchau mewn sgiliau, yn enwedig o safbwynt galluoedd arbenigol ac o ran y Gymraeg. Mae'r farchnad gyllid wedi dod yn fwy amrywiol ond mae gwahaniaethau rhanbarthol a rhwystrau rhag mynediad yn parhau ar gyfer rhai grwpiau demograffig. Yn y cyfamser, mae'r sector twristiaeth yn dal yn sensitif i ffactorau allanol fel y tywydd a thueddiadau economaidd, ac mae pryderon parhaus ynghylch costau gweithredu ac ansawdd amwynderau o'u cymharu â rhanbarthau eraill yn y DU.
Canfyddiadau o Adroddiad Ffederasiwn Busnesau Bach ar y Dirwedd Cymorth i Fusnesau yng Nghymru
- Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn cynnal adolygiadau rheolaidd o sut mae cymorth i fusnesau bach yn cael ei ddarparu ledled y wlad. Roedd yr adroddiad yn ceisio deall pa mor effeithiol yw cymorth i fusnesau o ran meithrin ‘ecosystem entrepreneuraidd’ yng Nghymru, nodi meysydd i'w gwella ac ystyried ei chyfeiriad yn y dyfodol.
- Canfyddiad canolog yr adroddiad yw bod ecosystem cymorth i fusnesau Cymru’n fantais strategol a chystadleuol sylweddol. Yn benodol, mae lefel uchel o adnabyddiaeth o frand sefydliadau cymorth i fusnesau yng Nghymru yn fantais strategol sylweddol wrth lunio polisi a’i roi ar waith yn y dyfodol.
- Fe wnaeth yr ymchwil dynnu sylw hefyd at feysydd y mae’n glir bod angen eu gwella o ran darparu cymorth i fusnesau ar draws gwahanol sefydliadau, yn enwedig yr angen am fwy o oruchwyliaeth a chraffu, a chanfyddiadau allweddol yr adroddiad yw bod llawer o fusnesau bach yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r cymorth cywir a manteisio arno.
- Mae gwybodaeth yn aml yn ddryslyd ac yn anodd ei defnyddio, yn enwedig i'r rheini mewn ardaloedd gwledig neu ranbarthau difreintiedig.
- Gall cymorth i fusnesau deimlo'n gyffredinol ac mae weithiau'n eithrio microfusnesau a sectorau traddodiadol. Mae angen cyngor wedi'i deilwra.
- Mae’n dal i fod yn her i gael gafael ar gyllid, gyda phrosesau ymgeisio'n cael eu disgrifio fel rhai cymhleth sy'n cymryd llawer o amser i’w cwblhau. Mae rhai busnesau’n ffafrio benthyciadau tymor hir neu ryddhad treth dros grantiau.
- Mae heriau allanol fel canlyniadau Covid-19, Brexit a chostau cynyddol yn ychwanegu rhagor o bwysau, yn enwedig ar gyfer busnesau allforio a'r rheini y tu allan i ganolfannau trefol.
- Mae bylchau yn y cymorth ar gyfer datblygu sgiliau, gyda llawer o gwmnïau bach yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar hyfforddiant a phrentisiaethau.
Adolygiad tymor byr o gynhyrchiant Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru
Ddechrau 2025, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad tymor byr i benderfynu ar y ffordd orau o gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru i gynyddu cynhyrchiant. Gan gydnabod rôl hanfodol busnesau bach a chanolig yn yr economi, roedd yr adolygiad yn chwilio am gamau ymarferol i hybu cynhyrchiant a hyrwyddo cadernid economaidd a thwf cynhwysol.
Nod yr adolygiad oedd nodi camau gweithredu, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith yn y tymor byr i ganolig i helpu busnesau bach a chanolig i wella eu cynhyrchiant dros amser. I'r perwyl hwn, sefydlwyd panel o ymarferwyr ac arbenigwyr allanol sydd â phrofiad uniongyrchol o fusnesau bach a chanolig, gyda'r dasg o ddatblygu argymhellion ymarferol a chydweithio â'r llywodraeth i edrych ar atebion effeithiol ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Prif ganfyddiadau:
- gall busnesau bach a chanolig yng Nghymru wynebu heriau o ran cael gafael ar gyllid a gallant fod ar ei hôl hi i o ran arloesi o’u cymharu â chwmnïau mwy o faint
- daeth hybu arloesedd a gwella sgiliau'r gweithlu i'r amlwg fel strategaethau hanfodol ar gyfer cau'r bwlch cynhyrchiant yng Nghymru
- mae ffactorau allanol fel seilwaith rhanbarthol, fframweithiau rheoleiddio ac amodau'r farchnad hefyd yn dylanwadu'n sylweddol ar gynhyrchiant
- nododd yr adolygiad saith thema greiddiol i ysgogi cynhyrchiant busnesau bach a chanolig ar lefel cwmni
Adolygiad tymor byr o ddeallusrwydd artiffisial
Cynhaliwyd yr adolygiad tymor byr o ddeallusrwydd artiffisial yng Nghymru i nodi camau gweithredu uniongyrchol a thymor canolig y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyflymu twf economaidd drwy fabwysiadu deallusrwydd artiffisial. Cafodd yr adolygiad ei osod yn erbyn cefndir o ehangu cyflym yn sector deallusrwydd artiffisial y DU, sy’n werth £72.3 biliwn ac y rhagwelir a fydd yn werth mwy nag £800 biliwn erbyn 2035. Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i elwa o'r twf hwn oherwydd ei seilwaith presennol, ei sylfaen academaidd gref a'i sector cyhoeddus sy'n gyfoethog o ran data.
Daeth yr adolygiad ag arweinwyr o'r byd academaidd, diwydiant, llywodraeth ac undebau llafur at ei gilydd i edrych ar y bum thema graidd - canolfannau data a seilwaith, datblygu ecosystem deallusrwydd artiffisial, cymorth i fusnesau, addysg a sgiliau, ac arweinyddiaeth a negeseuon.
Dyma brif ganfyddiadau’r arolwg hwn:
- canolfannau data a seilwaith: mae Cymru'n datblygu’n ganolfan ar gyfer seilwaith deallusrwydd artiffisial, gyda buddsoddiadau sylweddol gan gwmnïau fel Vantage Data Centres a Microsoft. Mae naw canolfan ddata newydd ar y gweill sy'n cael eu cefnogi gan fentrau fel yr Ardaloedd Twf Deallusrwydd Artiffisial. Er bod hyn yn cynnig cyfleoedd enfawr i greu swyddi a sicrhau twf economaidd, mae heriau'n parhau o ran cyflenwad ynni, cysylltiad â’r grid a sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn elwa
- ecosystem deallusrwydd artiffisial ac asedau data cyhoeddus: tynnodd yr adolygiad sylw at fframwaith cyfreithiol a llywodraethu cadarn Cymru a'i chryfderau academaidd mewn meysydd sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial. Mae posibilrwydd cryf i adeiladu ar yr asedau hyn drwy greu amgylcheddau cydweithredol lle gellir sbarduno arloesi a masnacheiddio drwy rannu arbenigedd a mynediad at setiau data'r sector cyhoeddus. Nodwyd bod llywodraethu, diogelwch data ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn sylfeini hanfodol ar gyfer llwyddiant
- cymorth i fusnesau: mae sawl busnes yng Nghymru’n awyddus i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial ond mae angen mwy o arweiniad, cymorth a mynediad at arferion gorau arnynt. Mae'r heriau'n cynnwys ansawdd data, prinder sgiliau, costau a phryderon cyfreithiol/moesegol. Er bod yna gynlluniau presennol, fel Busnes Cymru a Chanolfan Hartree, mae'r cymorth yn dameidiog ac nid yw bob amser wedi'i deilwra i ddeallusrwydd artiffisial. Mae angen brys am ddull gweithredu mwy cydlynol a rhagweithiol, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a chanolig, i hybu ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd artiffisial, lleihau’r risgiau a chynyddu'r nifer sy'n ei fabwysiadu
- addysg a sgiliau: erbyn 2035, bydd miliynau o swyddi yn y DU angen rhywfaint o lythrennedd neu gysylltiad uniongyrchol â deallusrwydd artiffisial. Rhaid i Gymru fuddsoddi mewn addysg a dysgu gydol oes er mwyn parhau i fod yn gystadleuol, gan ganolbwyntio ar sgiliau deallusrwydd artiffisial technegol a sgiliau dynol ehangach fel creadigrwydd a rhesymu moesegol. Bydd yn hanfodol cael partneriaethau rhwng darparwyr addysg a diwydiant.
- arweinyddiaeth a negeseuon: mae arweinyddiaeth effeithiol gan Lywodraeth Cymru a negeseuon cyhoeddus clir yn hanfodol i sbarduno’r broses o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial, sicrhau llywodraethu moesegol a meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd. Rhaid cael strategaethau penodol ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus a chymorth i ddiwydiant wrth iddynt newid tuag at gyflwyno deallusrwydd artiffisial
Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)
Mae'r OECD wedi gwneud cryn dipyn o waith ar lywodraethu rhanbarthol. Mae eu hadroddiad yn 2024, ‘Llywodraethu Rhanbarthol a Buddsoddi Cyhoeddus yng Nghymru’, yn defnyddio'r wybodaeth ryngwladol eang honno a'r profiad cymharol hwnnw. Nid yw adroddiad yr OECD yn nodi unrhyw un system o wlad neu ranbarth arall y gellid ei throsi’n hawdd i Gymru ond, yn hytrach, mae'n defnyddio'r gwersi hynny a ddysgwyd a'i gwybodaeth fanwl am Gymru (a oedd yn seiliedig ar gryn dipyn o waith maes a thrafodaethau wyneb yn wyneb). Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod datblygu rhanbarthol yn allweddol i wella cynhyrchiant a chymorth i fusnesau ac yn pwysleisio pwysigrwydd y ffactorau canlynol:
- cydlyniad strategol: dylai Llywodraeth Cymru sefydlu llinyn strategol cydlynol ar gyfer gweithgareddau datblygu rhanbarthol ar draws y llywodraeth genedlaethol
- mecanweithiau cydgysylltu: mae creu swyddfa yn Llywodraeth Cymru ar gyfer cydlynu datblygu rhanbarthol, sef un o argymhellion allweddol adroddiad yr OECD 2020, yn dod yn fwy hanfodol wrth i Lywodraeth Cymru ddiddymu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a oedd yn gweithredu fel y cydlynydd datblygu rhanbarthol de facto o ystyried ei rôl â chyllid yr UE. Gall Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd eraill o addasu prosesau presennol i gryfhau'r gwaith o gydlynu cynlluniau datblygu rhanbarthol
- gall cryfhau ac amrywio mecanweithiau cydlynu ar draws Llywodraeth Cymru gryfhau cydweithrediad ymhellach ar draws adrannau'r llywodraeth. Mae hyn yn dechrau drwy ddynodi tîm pwrpasol i gydlynu ymdrechion datblygu rhanbarthol Llywodraeth Cymru
- rhaid i’r ffyrdd o weithio gefnogi cydweithio ar draws gwahanol dimau ac adrannau Llywodraeth Cymru. Gall disgwyliadau clir, wedi'u ffurfioli mewn Siarter Ffyrdd o Weithio, helpu i oresgyn rhwystrau biwrocrataidd sy'n atal cydweithio
- grymuso strwythurau rhanbarthol: cryfhau Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyda rolau clir, atebolrwydd a gwelededd, a defnyddio dangosfyrddau data rhanbarthol i lywio cynllunio sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- gwella'r berthynas rhwng llywodraeth ac awdurdodau lleol - hyrwyddo ymgysylltu wyneb yn wyneb a threfn dryloyw o wneud penderfyniadau
Y Gymraeg
Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i fynd i'r afael â heriau sy'n wynebu ardaloedd Cymraeg eu hiaith, gan gynnwys pobl ifanc yn allfudo a chyfleoedd gwaith cyfyngedig, sy'n bygwth cynaliadwyedd yr iaith a bywyd cymunedol. Mae adroddiad y Comisiwn yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn hanfodol cefnogi economïau lleol er mwyn cynnal cadarnleoedd y Gymraeg. Mae'r adroddiad yn argymell creu rhaglen bwrpasol o gymorth i fusnesau ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith, wedi'i chynllunio i helpu twf mentrau lleol, darparu swyddi ac annog y defnydd o'r Gymraeg mewn busnesau. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- mentora a grantiau ar gyfer mentrau busnes Cymraeg eu hiaith
- cymhellion i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithrediadau busnes
- partneriaethau i hybu entrepreneuriaeth a mynd i'r afael â heriau lleol unigryw
Mae'r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i adolygu ei chynlluniau cymorth i fusnesau i'w gwneud yn fwy ymatebol i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Dylai’r blaenoriaethau gynnwys y canlynol:
- llunio polisïau sy'n cydnabod gwerth busnesau dwyieithog
- cyllid wedi'i dargedu ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi'r Gymraeg yn y gweithle
- ei gwneud yn haws i gael gafael ar gymorth mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd Cymraeg eu hiaith
Drwy ganolbwyntio ar fesurau economaidd ochr yn ochr â chynlluniau ieithyddol a diwylliannol, mae'r Comisiwn yn credu y gall cymunedau Cymraeg eu hiaith barhau i fod yn fywiog am genedlaethau i ddod.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd argymhellion economaidd y Comisiynydd ac mae wedi amlinellu camau i fynd i'r afael â nhw gan gynnwys mwy o gyllid ar gyfer hyfforddiant iaith Gymraeg a chymorth pwrpasol i fusnesau newydd sy'n gweithio yn Gymraeg, gan gynnwys cael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chymorth a chefnogaeth ac ymgorffori integreiddiad y Gymraeg mewn strategaethau twristiaeth cenedlaethol a rhanbarthol, ymgyrchoedd marchnata a deunyddiau hyrwyddo.
8. Argymhellion
O'r holl dystiolaeth a ddadansoddwyd fel rhan o'r adolygiad hwn, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion tymor byr a thymor canolig.
Mae system cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru yn cael ei gwerthfawrogi'n eang am ei hyblygrwydd, ei gwaith partneriaeth a'i heffaith gadarnhaol ar dwf busnesau ac arloesi. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen strategaeth gliriach, gwell integreiddio â sgiliau a chyflogadwyedd, mesur canlyniadau yn well a darparu mwy o gefnogaeth sy’n barod ar gyfer y dyfodol i nifer o sectorau. Mae'r argymhellion canlynol wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r heriau hyn a gosod Cymru mewn sefyllfa well ar gyfer twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol.
- Cyhoeddi cyfres o seminarau, rhwng nawr a diwedd tymor y Senedd hon, gan ddod â'r prif ddarparwyr cymorth i fusnesau at ei gilydd. Y nod fydd egluro a symleiddio'r ystod o gymorth, cael gwared ar ddyblygu a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, gan arwain at ddull gweithredu wedi'i adnewyddu a'i addasu ar gyfer busnesau yng Nghymru. Byddai adolygu a thargedu cymorth yn cyfrannu at ystyriaethau ynghylch meysydd blaenoriaeth ar gyfer Cyllid Twf Lleol. Ar ben hynny, rydym yn argymell y dylid profi’r canlyniad mewn cyfres o weithdai’n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid a busnesau allweddol.
- Mabwysiadu dull “dim drws anghywir” i gynyddu hygyrchedd drwy greu hwb ar-lein sy’n manteisio ar ddatblygiadau technolegol mewn deallusrwydd artiffisial (AI), gan adeiladu ar byrth Busnes Cymru, Masnach a Buddsoddi a Croeso Cymru.
- Darparu pwynt cyswllt penodol i gefnogi buddsoddwyr mawr yn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi, a'r holl fuddsoddwyr newydd o bwys yng Nghymru, i'w galluogi i gael gafael ar y cymorth mwyaf priodol sydd ei angen.
- Gwella ein swyddogaeth bwrpasol o reoli cyfrifon neu fuddsoddwyr strategol a busnesau bach a chanolig mwy o faint - sy’n cael eu darparu drwy dimau rhanbarthol, Busnes Cymru a Croeso Cymru.
- Gwella'r broses o gasglu data ac adrodd ar draws yr holl raglenni a sefydlu fframwaith perfformiad unedig ar gyfer pob ymyriad, gyda dangosyddion perfformiad allweddol clir a pherthnasol.
- Ystyried mabwysiadu model dwy haen ar gyfer creu swyddi a’u diogelu:
- Sylfaenol - swyddi sy'n cael eu creu neu eu diogelu sydd wedi’u cysylltu’n uniongyrchol ag ymyrraeth y llywodraeth (e.e. Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru, Cronfa Dyfodol yr Economi).
- Eilaidd - swyddi sy’n cael eu cefnogi drwy ymyriadau anuniongyrchol (e.e. Cyswllt Ffermio, Cymru Greadigol).
- Parhau i wella'r camau gweithredu hynny sydd eisoes ar waith ac ystyried ymhellach y ffordd orau o weithio gyda Llywodraeth y DU i osgoi bylchau a dyblygu wrth ddarparu gwasanaethau.
- Cryfhau'r cymorth penodol i fusnesau newydd sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chymorth a gwreiddio’r broses o integreiddio’r Gymraeg mewn darpariaeth cymorth i fusnesau ar draws Llywodraeth Cymru.
- Ehangu modelau darparu digidol a hybrid i wella cyrhaeddiad ac effeithlonrwydd, gan gynnal gwybodaeth a pherthnasoedd lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
- Parhau i gryfhau'r cydweithio rhwng Busnes Cymru, Cymru Greadigol, Croeso Cymru, Masnach a Buddsoddi Cymru, awdurdodau lleol, Banc Datblygu Cymru a sefydliadau'r trydydd sector.
- Datblygu llwybr clir sy’n cynnwys cymorth pwrpasol, i fusnesau bach a chanolig fabwysiadu deallusrwydd artiffisial, gan gynnwys adnoddau, cyngor ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth wedi'u teilwra.
- Darparu cymorth wedi'i dargedu at sectorau penodol fel ynni (yn enwedig FLOW), y sector amddiffyn a'r sector niwclear.
- Gwneud defnydd llawnach o frand Busnes Cymru ac ystyried cysoni cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghymru o dan y faner hon.
- Ystyried sut i symleiddio a datblygu sectorau penodol a chymorth yn seiliedig ar brinder tystiolaeth a gwybodaeth am y sector.
- Dylid ystyried datblygu ffocws mwy penodol o flaenoriaethau allweddol er mwyn canolbwyntio adnoddau yn well.
- Cynnal adolygiad llawn o fecanweithiau darparu - opsiynau sy'n seiliedig ar arferion gorau, gofynion cwsmeriaid, yr amodau economaidd a gwerth am arian ar gyfer darparu cymorth mewnol i fusnesau, wedi'i hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac yn gysylltiedig â hi i nodi'r modelau mwyaf effeithiol a chynaliadwy o ddarparu cymorth i fusnesau.
- Defnyddio mesurau data a pherfformiad cadarn i lywio penderfyniadau buddsoddi a chyflawni yn y dyfodol.
- Mynd i'r afael â bylchau ffisegol (e.e. eiddo), ynni a seilwaith digidol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
- Gwneud cymorth yn fwy cynhwysol i ardaloedd gwledig a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli a chynyddu cymorth wyneb yn wyneb lle mae mynediad digidol yn gyfyngedig.
- Datblygu dull strategol o ymdrin â chymorth sy’n ymateb yn gyflym i argyfyngau yn y dyfodol, a helpu busnesau i gynllunio ar gyfer ansicrwydd.
- Gwella'r cydlyniad rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau cymorth.
- Cyd-ddylunio un strategaeth cymorth i fusnesau genedlaethol gyffredinol, wedi'i hategu gan gynllunio rhanbarthol a goruchwyliaeth gan fwrdd cynghori rhanddeiliaid.
- Integreiddio cymorth i fusnesau yn agosach â gwasanaethau sgiliau a chyflogadwyedd.
9. Casgliad
I gloi, mae gan system cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru enw da ac mae wedi sicrhau canlyniadau cryf. Drwy roi'r argymhellion a nodir yn yr adolygiad hwn ar waith, gall Cymru gryfhau ei hecosystem cymorth i fusnesau ymhellach, gan sicrhau ei bod yn fwy integredig, ymatebol a chynhwysol ac mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau a chyfleoedd economaidd yn y dyfodol.
