Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roeddwn yn bresennol mewn cyfarfod eithriadol o Gyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ym Mrwsel, dydd Llun 7 Medi, fel rhan o Ddirprwyaeth Weinidogol y DU.

Galwyd y cyfarfod i drafod yr anawsterau y mae’r sector ffermio yn eu hwynebu ar hyn o bryd mewn perthynas â marchnadoedd y byd. Mae ffermwyr ar draws yr UE yn wynebu amser caled wrth i ffactorau fel gor-gynhyrchu, llai o alw yn fyd-eang, cystadleuaeth ddwys yn y gadwyn gyflenwi a gwaharddiad Rwsia ar fewnforion arwain at brisiau is am nwyddau ac wrth gât y fferm. Roedd cryfder y teimladau'n amlwg ym Mrwsel wrth i filoedd o ffermwyr o bob cwr o Ewrop ddod i brotestio ger adeilad y Cyngor.

Cyn y cyfarfod, bûm yn trafod y sefyllfa yng Nghymru gyda Llywydd NFU Cymru, Stephen James, cyn cymryd rhan mewn cyfarfod ehangach rhwng pob un o'r pedwar gweinidog amaeth o'r DU a phrif gynrychiolwyr undebau ffermio’r DU. Trafodwyd ffyrdd o gydweithio o fewn y DU ar faterion fel gwell ffyrdd o labelu cynnyrch, prynu cynnyrch a'r pwysau sydd ar y gadwyn gyflenwi.

Yn y cyfarfod briffio gyda'm cydweithwyr o ddirprwyaeth y DU cyn y cyfarfod, nodais y materion sy'n bwysig i ffermwyr Cymru. Pwysleisiais nad oedd anawsterau'r farchnad wedi'u cyfyngu i'r sector llaeth: mae cynhyrchwyr cig coch, yn arbennig y sector defaid, yn wynebu sefyllfa hynod o heriol hefyd.  Yn bresennol yno roedd yr Ysgrifennydd Gwladol, Liz Truss, Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros Faterion Gwledig, Richard Lochhead MSP, Bwyd a'r Amgylchedd, Gweinidog Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Michelle O’Neill MLA a'r Arglwydd Gardiner o Kimble.

Yng nghyfarfod y Cyngor cyflwynodd Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jyrki Katainen - ar ran y Comisiynydd Hogan a oedd yn sâl - becyn cymorth gwerth €500m wedi'i anelu at leddfu anawsterau llif arian y mae ffermwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd, gyda chymorth wedi'i dargedu ar gyfer pob Aelod-wladwriaeth.  

Cafwyd mesurau eraill hefyd â'r nod o sefydlogi'r marchnadoedd, fel cynllun storio dros dro newydd ar gyfer cynnyrch protein llaeth, mwy o gyllid i hyrwyddo cynnyrch amaethyddol, gwaith i roi sylw i rwystrau rhag masnach, chwilio am farchnadoedd newydd a mwy o swyddogaeth i Arsyllfa'r Farchnad Laeth.

Mae'r Comisiwn hefyd yn bwriadu sefydlu grŵp lefel uchel i ystyried atebion i broblemau yn y gadwyn gyflenwi, megis credyd i ffermwyr, creu marchnad dyfodolion a mesurau i fynd i'r afael ag arferion masnachu annheg.

Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r mesurau hyn yn fras, ond yn edrych ymlaen at weld manylion ynghylch sut y byddant yn gweithredu'n ymarferol, a sut y bydd cymorth sydd wedi'i dargedu'n cael ei ddosbarthu i'r Aelod-wladwriaethau ac yn eu mysg.

Byddaf yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid y diwydiant, gweinidogion sy'n gyfrifol am ffermio ar draws y DU a’r sefydliadau Ewropeaidd er mwyn symud y gwaith hwn yn ei flaen cyn gynted ag sy'n bosibl.