Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol drafft: nodiadau esboniadol
Rhagor o wybodaeth am y Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol drafft.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y Cefndir
Mae Adran 27 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr ("cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol") sydd wedi eu cynllunio i sicrhau gwelliannau i les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae'r gwelliannau wedi'u rhestru yn y Tabl yn is-adran (2) o'r Ddeddf a ddangosir isod:
Categori a gwelliannau
- Taliadau: Sicrhau a gorfodi taliadau prydlon.
- Cyflogaeth: Darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau (Mae'r Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 drafft yn rhoi "pobl anabl" yn lle'r term hwn) neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol).
- Cydymffurfedd: Sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw - National Minimum Wage and National Living Wage rates), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur.
- Hyfforddiant: Darparu hyfforddiant priodol i weithwyr.
- Is-gontractio: Darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.
- Yr amgylchedd: Gwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol.
Mae cymalau enghreifftiol wedi'u creu i'w defnyddio gyda:
- Contract Peirianneg ac Adeiladu NEC3 a 4 ("ECC") - Gellir addasu'r cymalau enghreifftiol NEC yn hawdd i'w defnyddio gyda'r Contract Gwasanaeth Tymor NEC3 a 4 ("TSC") a'r Contract Gwasanaethau Proffesiynol ("PSC").
- Contract Dylunio ac Adeiladu JCT 2016 / 2024 - Gellir defnyddio'r cymalau JCT enghreifftiol gyda mân ddiwygiadau yn y Contractau Mân Waith a'r gwahanol fathau o Amodau Isgontract.
- Contractau pwrpasol, a
- Ffurflenni dogfennau Cyfrifon* Banc Prosiectau a dogfennau Cyfrifon Dargadw.
* Os oes angen gwneud darpariaeth ar gyfer PBA o dan Gontract Byr Peirianneg ac Adeiladu neu Gontract Byr Gwasanaeth Proffesiynol, bydd angen diwygiadau pellach i ymgorffori rhai o amodau safonol y contract gan yr ECC, TSC a PSC, yn y drefn honno, gan nad yw'r mathau byr o gontract yn rhagweld yr un lefel o lywodraethu â'r mathau llawn mewn perthynas ag is-gontractio.
Taliadau: Taliadau prydlon ac is-gontractio
Nod y cymalau enghreifftiol sy'n ymwneud â thaliadau yw gwneud gwelliannau trwy:
sicrhau a gorfodi taliadau prydlon.
Maent yn anelu at wneud hynny trwy:
- glustnodi arian a ddyrannwyd i brosiectau i sicrhau bod taliadau i'r gadwyn gyflenwi yn cael eu diogelu
- sicrhau tryloywder taliadau'r gadwyn gyflenwi - mewn perthynas â thaliadau am waith a gwblhawyd ac ar gyfer arian dargadw sy'n ddyledus, a
- sicrhau prydlondeb wrth asesu a gwneud yr holl daliadau (boed yn daliadau dros dro, terfynol, rhyddhau arian dargadw neu fel arall), i gynorthwyo cynhyrchiant y gadwyn gyflenwi.
Tymor talu 30 diwrnod
Mae'r cymalau enghreifftiol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Contractwr sicrhau bod yr holl is-gontractau ac is-is-gontractau ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan yn cynnwys cymal sy'n ei gwneud yn ofynnol talu'r holl symiau sy'n ddyledus yn briodol o dan y contract perthnasol, a hynny o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad asesu / cais am daliad.
Mae'r cymalau enghreifftiol yn parhau i alluogi'r cyflogwr/cleient i "dalu llai" / dal swm dargadw lle mae ganddo hawl o dan y contract i wneud hynny, ond fel arall, rhaid talu'n llawn o fewn 30 diwrnod.
Bydd y cymalau enghreifftiol yn rhoi hawl i Awdurdodau Contractio wirio bod y tymor talu 30 diwrnod wedi'i gynnwys ym mhob is-gontract. Maent hefyd yn rhoi hawl i'r Awdurdod Contractio beidio â chymeradwyo is-gontract os nad yw'n darparu ar gyfer y cyfnod talu angenrheidiol.
Cyfrifon Banc Prosiectau
Mae'r cymalau enghreifftiol yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio cyfrifon banc prosiectau (PBA).
Ar yr amod bod y diwygiadau a'r ychwanegiadau angenrheidiol wedi'u gwneud i'r ffurf safonol o gontractau yn unol â'r cymalau enghreifftiol, gellir defnyddio'r ffurfiau enghreifftiol o ddogfennau PBA gyda phob math o gontract NEC a JCT heb eu diwygio (ac eithrio fel sy'n ofynnol eisoes gan y ffurfiau enghreifftiol). Os oes angen gwneud darpariaeth ar gyfer PBA o dan Gontract Byr Peirianneg ac Adeiladu neu Gontract Byr Gwasanaeth Proffesiynol, bydd angen diwygiadau pellach i ymgorffori rhai o amodau safonol y contract gan yr ECC, TSC a PSC, yn y drefn honno, gan nad yw'r mathau byr o gontract yn rhagweld yr un lefel o lywodraethu â'r mathau llawn mewn perthynas ag is-gontractio.
Mae'r cymalau enghreifftiol yn ei gwneud yn ofynnol i bob is-gontractwr y Contractwr a'r holl is-is-gontractwyr gael eu talu trwy'r PBA, ac eithrio'r is-gontractau hynny sydd wedi'u heithrio'n benodol trwy gytundeb â'r Awdurdod Contractio.
Bydd angen i'r Contractwr ddarparu ffurflen optio allan i'r Awdurdod Contractio a gwblhawyd gan yr is-gontractwr os nad yw'r is-gontractwr yn dymuno bod yn rhan o'r PBA. Ni chaniateir i'r endid sy'n dymuno cyflogi is-gontractwr neu is-is-gontractwr wneud hynny os nad yw'r Awdurdod Contractio yn cytuno y gellir eithrio'r is-gontractwr neu'r is-is-gontractwr o'r PBA.
Monitro Taliadau PBA
Mae'r cymalau enghreifftiol a'r PBA yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Contractio fod yn barti i'r PBA. Felly, mae gan yr Awdurdod Contractio fynediad llawn er mwyn monitro'r PBA.
Mae'r dogfennau enghreifftiol PBA yn darparu ei bod yn ofynnol i'r Contractwr dalu'r symiau llawn sy'n ddyledus i'r is-gontractwyr a rhaid iddo dalu i'r PBA unrhyw symiau a ddaliwyd yn ôl gan yr Awdurdod Contractio yn rhinwedd hysbysiad talu llai, y mae'n ofynnol i'r Contractwr ei dalu i is-gontractwyr (oni bai bod y Contractwr hefyd yn gallu cyhoeddi hysbysiad talu llai ).
Gan y bydd y PBA yn gyfrif ar y cyd rhwng yr Awdurdod Contractio a'r Contractwr, dylai'r contract hefyd ddarparu ar gyfer pryd y dylai'r defnydd o'r PBA ddod i ben.
Cyfrifon Dargadw (RBAs) a Bondiau Dargadw
Gan gyfeirio at y cymalau enghreifftiol, mae "Swm Dargadw" yn unrhyw swm o arian, p'un a yw'n cael ei dalu fel cyfandaliad arian parod ymlaen llaw neu wedi'i atal o daliadau a wneir o dan 'gontract adeiladu' (fel y'i diffinnir gan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (fel y'i diwygiwyd)) fel modd o sicrhau perfformiad.
Mae'r cymalau enghreifftiol yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo angen Swm Dargadw, i Awdurdodau Contractio roi cyfrif banc wedi'i glustnodi (tebyg i PBA) ar waith i ddal symiau dargadw ("Cyfrif Dargadw" ("RBA")), a fydd yn rhyddhau symiau yn awtomatig i'r Contractwr a'r is-gontractwyr sydd wedi cofrestru i'r RBA ar wahanol adegau wrth i'r partïon hynny gwblhau'r rhan o'r gwaith y maent yn gyfrifol amdano, yn unol â'r hawl cytundebol perthnasol.
Mae'r cymalau enghreifftiol yn ei gwneud yn ofynnol i holl is-gontractwyr y Contractwr a'r holl is-is-gontractwyr y mae hawl gytundebol ganddynt gadw symiau, i gofrestru ar gyfer RBA neu lle na ellir defnyddio RBA, byddai angen darparu Bond Dargadw fel dewis arall yn lle cadw arian parod. Darperir RBA a Bond Dargadw enghreifftiol yn y cymalau enghreifftiol.
Mae ffurf y Bond Dargadw yn darparu er mwyn i'r Awdurdod Contractio allu hawlio swm, hyd at y swm y byddai ganddo hawl i'w gadw o daliadau sy'n ddyledus i'r Contractwr o dan y contract ar bwynt yr hawliad.
Mae gwerth y bond Dargadw yn gostwng i 50% o swm y Bond wrth gynhyrchu tystysgrif cwblhau ymarferol (neu gyfwerth) i'r Gwarantwr ac mae'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod cywiro diffygion (neu gyfwerth).
Mae'r cymalau enghreifftiol yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio RBA neu Bond Dargadw fel yr unig ddull a ganiateir ar gyfer dal Swm Dargadw.
Os yw'r Contractwr yn darparu Bond Dargadw, dim ond os yw hynny'n rhesymol (o ystyried gwerth a hyd amcangyfrifedig yr is-gontract) y gall fynnu bond Dargadw gan ei is-gontractwyr. Os nad yw mynnu bond yn rhesymol, ni all y Contractwr gymryd Swm Dargadw gan ei is-gontractwr yn lle hynny. Dim ond os oes RBA ar waith ac mae'r is-gontractwr perthnasol wedi cofrestru ar gyfer yr RBA y caniateir i'r Contractwr gymryd Swm Dargadw gan is-gontractwr. Bydd y ddarpariaeth hon yn berthnasol ar bob lefel yn y gadwyn gontractiol.
Cyflogaeth
Mae'r cymalau enghreifftiol sy'n ymwneud â'r categori Cyflogaeth yn anelu at sicrhau gwelliannau trwy:
ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau* neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol).**”
* Mae'r Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 drafft yn rhoi "pobl anabl" yn lle'r term hwn.
** Mae'r rhain yn cynrychioli rhai o'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Maent yn anelu at wneud hynny trwy:
- Gynnwys rhwymedigaeth gytundebol ar y Contractwr (ac unrhyw is-gontractwr) i fabwysiadu polisïau recriwtio a chyflogaeth cynhwysol
- Ei gwneud yn ofynnol i Gontractwyr (ac is-gontractwyr) ddangos cydymffurfedd trwy gael cynllun cyflogaeth sy'n amlinellu sut y bydd y Contractwr (ac unrhyw is-gontractwr):
- yn cynnig cyfleoedd i'r grwpiau a nodwyd
- yn nodi a mynd i'r afael â bylchau sgiliau o fewn y gweithlu, a
- yn rhannu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth barhaus
- yn ei gwneud yn ofynnol i'r Contractwr ddarparu copi o'r cynllun cyflogaeth i'r Awdurdod Contractio o fewn cyfnod o amser a bennir gan y contract, ac yn
- ei gwneud yn ofynnol i Gontractwr ddarparu data o'r fath i'r Awdurdod Contractio fel sy'n ofynnol i ddangos cydymffurfedd â'r rhwymedigaeth gytundebol hon.
Mae'r cymalau enghreifftiol hefyd yn cynnwys rhai cymalau ychwanegol (a nodir gan lythrennau italig a chromfachau sgwâr) sy'n darparu er mwyn i'r Contractwr (ac unrhyw is-gontractwr) ymrwymo i'r:
- Cod Cyflogaeth Foesegol (Cod Ymarfer - Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 31 Mai 2017) ac unrhyw gynlluniau neu godau ymarfer cymwys tebyg a hyrwyddwyd gan Lywodraeth Cymru
- Cynllun Hyderus o ran Anabledd
- Hyrwyddwyr Amrywiaeth, a
- Hil - Busnes yn y Gymuned.
Mae cymal dewisol hefyd i fabwysiadu arferion cyflogaeth a llafur teg, recriwtio a chadw staff mewn modd teg a moesegol, gan gynnig gweithlu diogel a chymwys a gyflogir yn unol â Chanllaw Llywodraeth Cymru ar Waith Teg.
Mae'r cymalau ychwanegol hyn wedi'u cynnwys i gynorthwyo Awdurdodau Contractio i sicrhau gwelliannau i'r cyfleoedd cyflogaeth a ddarperir gan Gontractwyr (ac is-gontractwyr). Nid ydynt yn gymalau mandadol a gall Awdurdodau Contractio benderfynu ar eu priodoldeb yng nghyd-destun y contract sy'n cael ei ddyfarnu. Os nad yw Awdurdod Contractio yn bwriadu cynnwys y cymalau ychwanegol yn ei gontract adeiladu mawr, nid oes angen rhoi gwybod i Weinidogion Cymru.
Cydymffurfedd
Mae'r cymalau enghreifftiol sy'n ymwneud â'r categori Cydymffurfedd yn anelu at sicrhau gwelliannau trwy:
sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur.
Maent yn anelu at wneud hynny trwy:
- Osod rhwymedigaeth ar y Contractwr (ac unrhyw is-gontractwyr) i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu o'u rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â chyfraith a hawliau cyflogaeth (byddai hyn yn cynnwys y rhwymedigaethau isafswm cyflog cenedlaethol/cyflog byw), cydraddoldeb, iechyd a diogelwch a chydnabyddiaeth gan undebau llafur, ac yn cydymffurfio â hwy
- Galluogi'r Awdurdod Contractio i ofyn am wybodaeth gywir a chyflawn gan y Contractwr mewn perthynas â:
- Statws cyflogaeth
- Isafswm cyfradd cyflog yr awr ar gyfer pob categori o weithiwr
- Nifer y gweithwyr sydd ar gontractau dim oriau neu gontractau oriau heb eu gwarantu a'u telerau;
- Polisïau Iechyd a Diogelwch, asesiadau risg ac ardystiadau
- Cytundebau cydnabod undebau llafur
- Prosesau cydymffurfio ar gyfer cyfraith cyflogaeth a hawliau cyflogaeth
- Statws cyflogaeth
- Amlinellu'r math o wybodaeth y gellir gofyn amdani gan y Contractwr, ee contractau cyflogaeth, slipiau cyflog, polisïau a gweithdrefnau ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n caniatáu hyblygrwydd i'r Awdurdod Contractio o ran yr wybodaeth y gofynnir amdani
- Gosod rhwymedigaeth ar y Contractwr i sefydlu dull cyfrinachol ar gyfer adrodd arferion cyflogaeth anfoesegol, neu gyfathrebu bod un eisoes yn bodoli.
Mae'r cymalau enghreifftiol hefyd yn cynnwys cymalau ychwanegol (wedi'u nodi gan lythrennau italig a chromfachau sgwâr). Mae'r cymalau ychwanegol yn galluogi'r Awdurdod Contractio i'w gwneud yn ofynnol i'r Contractwr (ac unrhyw is-gontractwr) roi cynllun ar waith sy'n esbonio sut y bydd yn gweithredu a chynnal polisïau a gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau Caethwasiaeth Fodern, Hawliau Dynol a llafur ar y môr ac ymgymryd ag asesiad risg mewn perthynas â phob un o'r agweddau hyn. Mae rhwymedigaethau ar y Contractwr i adrodd mewn perthynas â'r agweddau hyn a gall Awdurdodau Contractio ofyn am wybodaeth am gydymffurfedd y Contractwr â'r agweddau hyn.
Mae'r cymalau ychwanegol hyn wedi'u cynnwys i gynorthwyo Awdurdodau Contractio i wneud gwelliannau i'r agweddau ychwanegol hyn ar gydymffurfiaeth gyfreithiol. Fodd bynnag, os nad yw Awdurdod Contractio yn bwriadu cynnwys y cymalau ychwanegol yn eu prif gontract adeiladu, nid oes angen hysbysu Gweinidogion Cymru.
Hyfforddiant
Nod y cymalau enghreifftiol sy'n ymwneud â'r categori Hyfforddiant, yw sicrhau gwelliannau drwy:
ddarparu hyfforddiant priodol i weithwyr.
Maent yn anelu at wneud hynny trwy:
- Ei gwneud yn ofynnol i Gontractwyr (ac is-gontractwyr) roi Cynllun Hyfforddi ar waith ac i sicrhau bod gweithwyr yn cael hyfforddiant cynhwysfawr yn unol ag arferion diwydiant da, cyfleoedd hyfforddi y mae gweithwyr yn cael eu galluogi i'w cymryd, a chyfleoedd i uwchsgilio
- Galluogi Awdurdodau Contractio i ofyn i Gontractwyr (ac is-gontractwyr) ddarparu copi o'r Cynllun Hyfforddi ynghyd â gwybodaeth am y mathau o brentisiaid sy'n cael eu defnyddio (a nifer y blynyddoedd a wasanaethwyd) wrth gyflawni'r contract, cymwysterau proffesiynol a gafwyd, a hyfforddiant iechyd a diogelwch ac ymsefydlu prosiectau.
Mae'r cymalau enghreifftiol hyn yn ategu'r gofyniad o dan y cymalau cyflogaeth enghreifftiol i nodi a mynd i'r afael â bylchau sgiliau o fewn y gweithlu. Mae hefyd yn cefnogi'r cymalau cydymffurfio wrth alluogi Awdurdodau Contractio i gael gwybodaeth ychwanegol am brentisiaethau a hyfforddiant a gymerwyd.
Is-gontractio
Nod y cymalau enghreifftiol sy'n ymwneud â'r categori is-gontractio yw sicrhau gwelliannau drwy ddarparu:
ddarparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.
Maent yn anelu at wneud hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i'r Contractwr:
- ddarparu cynllun, sy'n cofnodi'r camau y bydd yn eu cymryd i hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd is-gontractio ar gyfer busnesau bach a chanolig, micro-fusnesau a sefydliadau gwirfoddol
- Nodi, yn unol â'r cynllun, y trefniadau is-gontractio hynny y mae'r Contractwr eisoes wedi'u gwneud ar ddechrau contract, a'r trefniadau is-gontractio ychwanegol hynny y mae'r Contractwr yn rhagweld y gallai fod eu hangen yn ystod y contract
- Darparu manylion am sut y bydd yn hysbysebu cyfleoedd ac yn cadw cofnod o is-gontractau yn y ddau achos
- Hysbysebu cyfleoedd is-gontractio ar GwerthwchiGymru os ydynt yn cael eu hysbysebu yn unrhyw le
- Cadw cofnod o is-gontractau
- Adrodd i'r Awdurdod Contractio ar gynnydd y Contractwr wrth gyflawni'r cynllun.
Yr Amgylchedd
Nod y cymalau enghreifftiol sy'n ymwneud â chategori yr Amgylchedd yw sicrhau gwelliannau drwy:
wneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol.
Maent yn anelu at wneud hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i'r Contractwr:
- ddarparu cynllun sy'n cofnodi'r camau y bydd y Contractwr yn eu cymryd yn ystod y contract a'r gwaith a gwblhawyd i fynd i'r afael â gwydnwch rhag newid hinsawdd, gwella'r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth, lleihau allyriadau carbon oes gyfan, a lleihau'r ôl troed ecolegol byd-eang, ac adrodd ar gynnydd wrth gyflawni'r cynllun hwn
- Cytuno ar dargedau ar gyfer cynyddu'r defnydd o ddeunydd wedi'i ailddefnyddio, a'i ailgylchu sydd wedi dod o ffynonellau cynaliadwy sy'n ofynnol ar gyfer cyflawni'r contract, lleihau gwastraff a lleihau faint o wastraff gaiff ei anfon i safleoedd tirlenwi wrth gyflawni'r contract, a lleihau allyriadau carbon oes gyfan wrth gyflawni'r contract.
Tryloywder
Mewn perthynas â chymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol contractau adeiladu mawr, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Contractio hysbysu Gweinidogion Cymru os:
- nad oes unrhyw fwriad i gynnwys y cymalau
- nad yw'r cymalau wedi'u cynnwys
- nad oes proses ar gyfer sicrhau gweithredu'r cymalau
- nad oes proses ar gyfer sicrhau gweithredu'r cymalau mewn is-gontractau.
Mae'r Ddeddf yn darparu y gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Contractio ddarparu dogfennau neu wybodaeth arall y gallai Gweinidogion Cymru fod eu hangen er mwyn penderfynu a ydynt yn fodlon â'r rhesymau a roddir dros beidio â chynnwys y cymalau.
Nod y darpariaethau hyn yw cynnig tryloywder, gan gynnwys sut a phryd mae cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu defnyddio.
Dim ond os oes gan yr awdurdod contractio fynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arno er mwyn trosglwyddo'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru y gellir cyflawni'r tryloywder hwn. Yn unol â hynny, bydd angen i bob Awdurdod Contractio gynnwys darpariaethau yn ei gontractau sy'n ei alluogi i ofyn am wybodaeth o'r fath a'i harchwilio.
At y diben hwnnw, cynhwysir cymalau tryloywder enghreifftiol sy'n caniatáu i Awdurdodau Contractio ofyn am wybodaeth a chynnal archwiliadau mewn perthynas â hynny.
