Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn rhoi'r newydd diweddaraf ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu lefel uchel ar gyfer pob un o'r 6 ffrwd waith, sy'n cyfrannu at y strategaeth Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: 2022 i 2026.

Mae'r cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf hefyd wedi llywio adroddiad blynyddol Strategaeth Genedlaethol VAWDASV ar gyfer 2025, a fydd yn cael ei gyhoeddi’r hydref hwn, gan ddangos y cysylltiadau strategol â Strategaeth Genedlaethol VAWDASV a'i hamcanion. 

Mae camau gweithredu'r ffrydiau gwaith yn cyfrannu at amcanion Strategaeth Genedlaethol VAWDASV:

  • Amcan 1: herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono.
  • Amcan 2: cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.
  • Amcan 3: cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.
  • Amcan 4: rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.
  • Amcan 5: hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
  • Amcan 6: rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac anghenion, ac sy'n ymatebol ledled Cymru.

Aflonyddu ar sail rhywedd ym mhob mewn man cyhoeddus (cyfrannu at amcan 1, 2, 3, 4, 5 a 6)

Gweithred 1

Cryfhau a gwella'r sylfaen dystiolaeth o ran atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, a diogelwch menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, er mwyn deall graddau’r broblem, yr hyn sy’n ei achosi ac ymyriadau effeithiol.

Diweddariad

  • Comisiynodd y ffrwd waith ail adolygiad tystiolaeth, 'Adolygiad systematig o adolygiadau: Aflonyddu rhywiol ar-lein, ac aflonyddu ar-lein ar sail rhywedd'. Cynhaliwyd yr adolygiad gan Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru ac fe'i cyflwynwyd i'r ffrwd waith. Ers hynny, mae'r gofod ar-lein wedi symud ymlaen yn gyflym â'r gwaith o gyflwyno Deddf Diogelwch Ar-lein 2023.
  • Mae amryw o bartneriaid wedi cyfrannu gwaith ymchwil ac adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Roedd hyn yn cynnwys adroddiad arolwg Cymorth i Ferched Cymru o Gam 2,  'No Grey Area' (Saesneg yn unig), a gasglodd ddata ar yr achosion o aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru.
  • Bydd yr argymhellion o'r adroddiadau yn cael eu coladu mewn cronfa ddata ganolog i'r ffrwd waith eu defnyddio.
  • Mae camau i ddeall sut mae deddfwriaeth a mesurau diogelu eraill sy'n ymwneud ag aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus yn cael eu gweithredu yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae'r ffrwd waith yn aros am ganlyniad rhan 2 o'r ymchwiliad annibynnol Angiolini, a allai ofyn am wybodaeth debyg gan heddluoedd a darparu ffocws pellach ar gyfer y gwaith hwn. Mae'r ffrwd waith hefyd yn archwilio dichonoldeb astudiaeth ymchwil sylfaenol i gefnogi'r cam hwn. 

Gweithred 2

Datblygu dull ataliol ar draws ein systemau o fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, er mwyn cynyddu diogelwch menywod a merched, a’u hymwybyddiaeth o ddiogelwch.

Diweddariad

  • Darparodd yr ymarfer mapio, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag aelodau'r ffrwd waith,  drosolwg o'r mentrau presennol ledled Cymru sy'n ceisio atal neu ymateb i aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus. Mae'r ddogfen hon bellach ar gael i'w defnyddio o fewn y ffrwd waith a chan dimau polisi. Mae'n cael ei diweddaru i adlewyrchu datblygiadau parhaus ac i nodi arferion gorau a bylchau sy'n dod i'r amlwg yn y ddarpariaeth.
  • Mae'r ffrwd waith yn archwilio dichonoldeb manteisio ar chwaraeon yng Nghymru fel adnodd strategol i atal aflonyddu a thrais ar sail rhywedd, a mathau eraill o VAWDASV, mewn lleoliadau chwaraeon ac mewn cymunedau yn ehangach.
  • Mae camau graddadwy yn cael eu datblygu i drawsnewid agweddau at rywedd, drwy gydweithredu â phartneriaid allweddol. Mae perthnasoedd yn prifio ar draws Llywodraeth Cymru gyda'r Tîm Polisi Chwaraeon, y Tîm Polisi Cydraddoldeb rhwng Rhyweddau, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru. Mae tîm Polisi Atal VAWDASV Llywodraeth Cymru yn alinio â hyn drwy rai mentrau pêl-droed yng Nghymru, sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda dynion a bechgyn ifanc i herio agweddau niweidiol a hyrwyddo cydraddoldeb.
  • Mae perthnasoedd â Thrafnidiaeth Cymru wedi'u sefydlu i nodi cyfleoedd newydd i gydgysylltu a datblygu camau gweithredu ledled Cymru. Cyflwynodd aelodau'r ffrwd waith i Ddiwrnod i Ffwrdd Cyfarwyddiaeth Dylunio Trafnidiaeth Cymru ar thema Hygyrchedd a Chynhwysiant ar gyffredinrwydd ac effaith aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus.  Hefyd gwnaethant argymhellion ar gyfer newid sy'n cysylltu'n glos â chenhadaeth Trafnidiaeth Cymru:  Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn, un tîm.
  • Mae Tîm Atal Trais Cymru, mewn cydweithrediad â phrifysgolion yng Nghymru, Llywodraeth Cymru a Thîm Glasbrint VAWDASV, wedi datblygu fframwaith a luniwyd i helpu Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i nodi'r angen am ymyriadau a saernïwyd i atal ac ymateb i Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ac i gynllunio  a chyflawni'r ymyriadau hynny. Mae'r fframwaith wedi'i ddatblygu gan gyfeirio at Gynllun Strategol Medr 2025 i 2030 a Chynllun Gweithredol 2025 i 2026. Mae'n gydnaws ag ymrwymiadau sylfaenol Nod Strategol 1, yn enwedig yr ymrwymiad i weithio gyda phartneriaid i gyfrannu at ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, a thrais a cham-drin ar sail rhywedd.
  • Cynhaliwyd gweithdai gyda Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Myfyrwyr a chydweithwyr perthnasol ledled prifysgolion yng Nghymru, lle cyflwynwyd a thrafodwyd y fframwaith. Bydd y fframwaith yn cael ei ddefnyddio i nodi'r dull gweithredu presennol a ddefnyddir gan sefydliad a bydd yn gwasanaethu fel modd i gofnodi ac adrodd a fydd yn llywio'n uniongyrchol y camau y mae angen eu cymryd i gryfhau'r ffordd y mae'r sefydliad yn atal ac ymateb i VAWDASV o'i fewn. Mae diwygio'r canllawiau presennol i gyd-fynd â'r fframwaith, y cynlluniau gweithredu a'r dulliau rheoleiddio, hefyd yn cael ei archwilio.
  • Mae trafodaethau gyda Thîm Polisi Addysg Drydyddol Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol, fel Medr, yn parhau i ganolbwyntio ar nodi ffyrdd pellach o wella ymdrechion presennol.
  • Canolbwyntiodd ymgyrch gyfathrebu cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar VAWDASV ('Iawn') fynd i'r afael ag aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus. Cafodd y ffocws a'r briff penodol ar gyfer yr ymgyrch ei lywio gan fewnbwn gwerthfawr gan aelodau o'r ffrwd waith a phartneriaid ehangach. Lansiwyd yr ymgyrch ym mis Chwefror 2025 ac roedd yn canolbwyntio ar ymddygiadau gan gynnwys gweiddi sylwadau rhywiol, bygylu corfforol, a chyffwrdd amhriodol. Gan hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar ganfod atebion, nod Iawn yw addysgu dynion, ochr yn ochr â dangos beth all dynion ei wneud i fod yn gynghreiriaid o ran rhoi stop ar aflonyddu'n rhywiol ar fenywod mewn mannau cyhoeddus  yng Nghymru. Roedd y lansiad yn cynnwys digwyddiad Taith Redeg 'Iawn' gyda 10 clwb rhedeg cymysg o ran rhyw yng Nghaerdydd yn dod at ei gilydd i drafod aflonyddu rhywiol cyhoeddus, gyda sylw yn y cyfryngau ar ITV Cymru, BBC Radio Wales, BBC Online, ac S4C.

Gweithred 3

Nodi, datblygu a gweithredu ymyriadau effeithiol sy'n galluogi pawb mewn cymdeithas i herio agweddau, credoau ac ymddygiadau sy’n dirmygu menywod, er mwyn newid y diwylliant o ddirmygu menywod ac aflonyddu sy'n bwydo camdriniaeth.

Diweddariad

  • Mae cynllun peilot y fenter Hyfforddiant Ymyrryd mewn Sefyllfaoedd Niweidiol, Arwain y Newid, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i gael ei gyflwyno.  Mae'r cynllun peilot tair blynedd hwn yn cael ei ddarparu ledled Cymru gan Kindling Transformative Interventions a Plan International UK a bydd yn cynnwys gwerthusiad llawn. Bydd yr hyfforddiant hwn yn datblygu sgiliau unigolion i alluogi gwylwyr i ymyrryd yn ddiogel i atal neu ymateb i VAWDASV a bydd yn cefnogi ein nod o newid agweddau, mynd i'r afael â normau rhyweddol a gwrywdod gwenwynig, ysgogi newid mewn diwylliant a hyrwyddo'r meddylfryd nad yw unrhyw fath o VAWDASV yn dderbyniol.
  • Mae Tîm Polisi VAWDASV Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â meysydd polisi eraill i ddatblygu pecyn cymorth addysgol, sydd wedi'i anelu'n bennaf at gefnogi athrawon, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr. Mae adran o'r pecyn yn mynd i'r afael â phroblemau dybryd misogynedd a phrofiadau dysgwyr o aflonyddu rhywiol, gan adlewyrchu pryderon parhaus a wyntyllwyd ar draws lleoliadau addysgol. 

Gweithred 4

Adolygu a gwneud argymhellion ar gyfer dull teg o ddefnyddio ymyriadau a mentrau ym mhob asiantaeth a chymuned.

Diweddariad

  • Bydd y cam hwn yn dechrau unwaith y bydd cam gweithredu lefel uchel 1 wedi'i gwblhau. 

Ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle (cyfrannu at amcanion 1, 3, 4, a 6)

Gweithred 1

Sefydlu a chynnal sylfaen dystiolaeth gadarn, gan gynnwys cofnodi profiadau bywyd o aflonyddu yn y gweithle, er mwyn deall yn well raddfa aflonyddu yn y gweithle a'r camau sy'n helpu i'w atal.

Diweddariad

  • Ar ran y ffrwd waith, comisiynodd Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Hil Llywodraeth Cymru waith ymchwil ar brofiadau menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o aflonyddu rhywiol yn y gweithle yng Nghymru. Bydd y canfyddiadau yn cefnogi Glasbrint VAWDASV, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a rhaglenni Gwaith Teg. Mae'r gwaith ymchwil bellach wedi'i gwblhau, a'r adroddiad terfynol wedi'i gyhoeddi, ac mae'r canfyddiadau yn llywio gweithgarwch y ffrwd waith.
  • Trwy gydweithio â phartneriaid yn y ffrwd waith, mae sylfaen dystiolaeth yn parhau i gael ei sefydlu. Mae'r ffrwd waith yn tynnu ar hon ac yn ei defnyddio i nodi anghenion am dystiolaeth yn y dyfodol.
  • Mae ymgysylltu â phartneriaid yn parhau i ddyfnhau dealltwriaeth ac i wella dull gweithredu'r ffrwd waith. Mae dirnadaethau allweddol gan bartneriaid sydd wedi wynebu heriau, sy'n rhoi arferion addawol ar waith, ac yn darparu hyfforddiant arloesol wedi'u cael drwy'r gyfres o gynadleddau arweinyddiaeth y sector cyhoeddus ac ymgysylltu parhaus â phartneriaid. Mae'r gyfres gynadleddau hefyd yn ceisio canfod sut orau y gellir cefnogi arweinwyr i oresgyn heriau sy'n wynebu gweithleoedd ac arweinwyr wrth atal a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
  • Mae gan y ffrwd waith ymrwymiad i archwilio rolau a chyfrifoldebau rheoleiddwyr sector cyhoeddus wrth fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae cydnabyddiaeth fod angen rhagor o eglurder ynghylch llinellau atebolrwydd wrth fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol a diwylliannau rhywiaethol yn y gweithle. Fel cam cychwynnol, mae ymarfer mapio yn cael ei gynnal i nodi rheoleiddwyr y Sector Cyhoeddus ar draws adrannau gweinidogol Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn canolbwyntio ar y croestoriad rhwng dyletswyddau a chyfrifoldebau'r Sector Cyhoeddus sy'n ymwneud ag atal ac ymateb i aflonyddu yn y gweithle a hyrwyddo newid diwylliant sefydliadol.
  • Yn gysylltiedig yn agos â hyn, mae perthnasoedd yn parhau i ddatblygu gyda'r EHRC i ddeall ymhellach ei rôl fel rheoleiddiwr a sut mae blaenoriaethau yng Nghynllun Strategol EHRC yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r ffrwd waith.

Gweithred 2

Datblygu dull ar draws ein systemau o gefnogi atal ac ymateb yn effeithiol i aflonyddu yn y gweithle ar fenywod a merched, gan fynd i'r afael ag aflonyddu ym mhob gweithle ledled Cymru.

Diweddariad

  • Yn 2024, lansiodd y ffrwd waith gyfres o gynadleddau ar gyfer arweinwyr y sector cyhoeddus a phartneriaid allweddol ledled Cymru i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o dri digwyddiad, a gynhaliwyd yn Ne Cymru ym mis Medi 2024, Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2025 a Chanolbarth/Gorllewin Cymru ym mis Gorffennaf 2025.
  • Nod y cynadleddau, a drefnwyd mewn partneriaeth gymdeithasol, yw rhoi'r wybodaeth ac adnoddau i arweinwyr i feithrin gweithleoedd diogel, cynhwysol, llawn parch, a chefnogi dioddefwyr, goroeswyr a chwythwyr chwiban.  Roedd y gyfres yn cynnwys arbenigwyr yn y maes, safbwyntiau sefydliadol a lleisiau goroeswyr.
  • Roedd cynnwys llais goroeswyr, gan gynnwys y rhai ar Banel Craffu a Chyfranogiad Llais Goroeswyr y Glasbrint, yn ganolog i'r gyfres o gynadleddau. Chwaraeodd aelodau Panel Craffu Llais Goroeswyr y Glasbrint hefyd ran wrth gynghori ar agenda'r digwyddiad.
  • Roedd y gyfres o gynadleddau hefyd yn gyfle i hyrwyddo'r dyletswyddau cyfreithiol sydd ar waith, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Diogelu Gweithwyr (diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023, a ddaeth i rym ar 26 Hydref 2024.
  • Mae adroddiad wedi'i ddrafftio i grynhoi'r dirnadaethau, yr heriau a'r argymhellion allweddol a ddaeth i’r amlwg yn ystod y gyfres o gynadleddau, ac i lywio ymhellach weithgarwch a dulliau'r ffrwd waith.
  • Mae partneriaeth gref yn parhau i adeiladu gyda Chyngor Partneriaeth Gweithlu presennol Cymru i ddeall blaenoriaethau a rennir a defnyddio'r fframwaith presennol i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo arfer gorau i wella ymatebion yn y gweithle a chan arweinwyr i aflonyddu yn y gweithle. 

Gweithred 3

Defnyddio a gwella’r adnoddau a’r cyfryngau sydd gennym eisoes i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo arferion rhagorol a chefnogi newid gweithredol i ddileu aflonyddu yn y gweithle ar fenywod a merched, ac i wella’r ymateb yn y gweithle i bob math o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Diweddariad

  • Mae'r ffrwd waith wedi edrych ar yr adnoddau presennol a seiliwyd ar dystiolaeth, ac a gynlluniwyd i helpu cyflogwyr i ddefnyddio dulliau effeithiol o fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac yna wedi'u casglu mewn un man i rannu arfer gorau ac adnoddau ymarferol. Mae'r adnodd wedi'i ddiweddaru a'i rannu'n rheolaidd gydol y gyfres o gynadleddau ar gyfer Arweinwyr y Sector Cyhoeddus a bydd yn parhau i gael ei ddiweddaru gan y ffrwd waith. Mae opsiynau ar gyfer diweddaru a lletya'r adnodd yn y tymor hir yn cael eu harchwilio.
  • Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys partneriaid o'r sector cyhoeddus, cynrychiolwyr undebau, arweinwyr ac aelodau o'r panel goroeswyr, i ymchwilio i ddatblygu canllawiau ymarferol ar gyfer arweinwyr, a fydd yn cefnogi strwythurau llywodraethu mewnol cadarn ar gyfer atal a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Cyfarfu'r grŵp ac mae gwaith yn mynd rhagddo i alinio unrhyw ganllawiau â'r ymarfer mapio llywodraethu ac atebolrwydd sydd ar y gweill, ochr yn ochr â chanlyniadau'r Bil Hawliau Cyflogaeth sydd ar fin ymddangos.
  • Mae'r ffrwd waith yn cymryd camau i archwilio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i weld a ellid defnyddio hon fel ysgogiad i gynyddu'r amddiffyniad rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio sut y gellir diweddaru canllawiau a chodau ymarfer i gynnwys ffocws ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle. 

Gweithred 4

Herio a chefnogi pob sefydliad ledled Cymru i fynd y tu hwnt i'w dyletswyddau cyfreithiol a gorfodol eraill a mabwysiadu safonau ymddygiad enghreifftiol yn y gweithle.

Diweddariad

  • Defnyddiwyd y gyfres o gynadleddau ar arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus fel cyfle i ddarparu galwad glir gan y Gweinidog i arweinwyr y sector cyhoeddus fynd y tu hwnt i gydymffurfiaeth gyfreithiol a bod yn esiampl o ran safon ymddygiad yn y gweithle yng Nghymru. Galwodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip am weithredu ar hyn ym mhob un o'r tair cynhadledd, a gwnaeth ddatganiadau yn y cyfarfod llawn a pharhaodd y neges hon i gael ei phwysleisio yn Uwchgynhadledd VAWDASV ym mis Medi 2025.
  • Fel rhan o'r gwaith mapio cychwynnol o'r sefyllfa reoleiddiol a'r llinellau atebolrwydd ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, bydd cyfleoedd i ddefnyddio strwythurau a dulliau rheoleiddio presennol yn cael eu nodi i roi rhagor o gefnogaeth i'r camau gweithredu hyn. 

Y ffrwd waith ar gyfer mynd i'r afael â chyflawni (cyfrannu at amcanion 1, 2, 3 a 4)

Gweithred 1

Cryfhau a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a’r dadansoddiadau o anghenion o ran cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.

Diweddariad

  • Mae'r gwaith o ddatblygu cyfeirlyfr o wasanaethau presennol i gyflawnwyr yng Nghymru wedi'i atal yn dilyn trafodaeth gydag aelodau'r ffrwd waith drwy grŵp gorchwyl a gorffen.
  • Cyhoeddwyd adroddiad ar ganfyddiadau'r arolwg a'i rannu gyda'r Bwrdd Partneriaeth ym mis Gorffennaf 2024 ac roedd yn cynnwys 10 argymhelliad pellach ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
  • Bydd y ffrwd waith yn ailedrych ar ddatblygu cyfeiriadur yn dilyn gwaith ar gynhyrchu'r fframwaith y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2026.
  • Bydd gwaith dangosfwrdd data amlasiantaeth Cymru gyfan yn cael ei ymgorffori yn Set Ddata Genedlaethol VAWDASV. Ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau (SWSA) sy'n gweithio ar hyn. Mae drafft cyntaf wedi'i ysgrifennu gan Alma Economics, a gomisiynwyd gan ffrwd waith SWSA i ymgymryd â'r darn hwn o ymchwil sydd i'w gwblhau ddiwedd 2025. 

Gweithred 2

Datblygu dull gweithredu ar draws systemau Cymru o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cwmpasu popeth o ymyrraeth ac atal yn gynnar i ymateb y maes cyfiawnder troseddol.

Diweddariad

  • Comisiynwyd Prifysgol De Cymru i wneud gwaith ymchwil ar effeithiolrwydd ymyriadau â chyflawnwyr. Rhannwyd y drafft terfynol gydag aelodau'r ffrwd waith ym mis Hydref 2025 gyda'r bwriad iddo gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo drwy'r Bwrdd Rhaglen a Phartneriaeth yn gynnar yn 2026.
  • Mae cydweithredu â'r ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau yn mynd rhagddo trwy'r gwaith ymchwil ar y sefyllfa gyffredinol ynghylch data VAWDASV.

Gweithred 3

Sefydlu eglurder ynghylch cyfrifoldebau’r holl awdurdodau perthnasol o ran atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a chyfrifoldebau gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli.

Diweddariad

  • Mae'r cam hwn yn cysylltu â'r cynllun gweithredu lefel uchel, rhif 2 i'r ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau.

Gweithred 4

Cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau i fynd i'r afael ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Diweddariad

Mae cydweithredu â'r ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau yn mynd rhagddo trwy'r gwaith ymchwil ar y sefyllfa gyffredinol ynghylch data VAWDASV.

Dull cynaliadwy ar draws systemau (cyfrannu at amcanion 4, 5 a 6)

Gweithred 1

Adolygu'r arferion presennol i ddeall sut y gweithredir y canllawiau sydd gennym a sut y cyflawnir y cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015).

Diweddariad

  • Rhannwyd adroddiad canfyddiadau'r arolwg a'r seminar gyda Chadeiryddion a chynghorwyr Rhanbarthol VAWDASV, a fydd yn cyfrannu at lunio'r canllawiau nesaf ar gyfer rhanbarthau VAWDASV.

Gweithred 2

Adolygu ac adnewyddu'r canllawiau presennol ar gyfer datblygu asesiadau o anghenion yn ogystal â blaenoriaethu, cynllunio, dylunio, a monitro gwasanaethau i ddatblygu dull ar draws ein systemau o gomisiynu cynaliadwy.

Diweddariad

  • Mae'r ffrwd waith wedi bwydo i mewn i ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i'r dirwedd bresennol o ran data VAWDASV. Bydd y darn hwn o waith yn cynorthwyo'r gwaith o bennu'r llinell sylfaen ar gyfer data presennol a nodi bylchau er mwyn creu set genedlaethol gynhwysfawr o ddata. Rhannwyd drafft cyntaf yr ymchwil a bydd yn cael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2025.
  • Cwblhawyd drafft cyntaf y Canllawiau Strategaeth Leol ym mis Awst 2025, gyda grwpiau gorchwyl a gorffen pellach wedi'u cynllunio gyda rhandaliad i fireinio a chwblhau'r Canllawiau. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yn ystod y misoedd nesaf.
  • Ysgogodd Bwrdd Partneriaeth VAWDASV y cais am Uwchgynhadledd, a gynhaliwyd ym mis Medi 2025. Nod yr Uwchgynhadledd oedd galw ar y sector cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i fodloni gofynion Deddf VAWDASV 2015.  Rhoddodd aelodau panel Lleisiau Goroeswyr gyflwyniadau effeithiol ar eu profiadau bywyd, gan ddarparu negeseuon grymus ynghylch sicrhau bod dulliau system gyfan a pholisïau atal ar waith.

Gweithred 3

Adolygu’r canllawiau presennol ynghylch caffael a grantiau mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a disgyblaethau cysylltiedig eraill, er mwyn sicrhau tegwch, arloesedd ac ansawdd wrth gynnig gwasanaethau a darpariaeth ledled Cymru.

Diweddariad

  • Bydd y ffrwd waith yn canolbwyntio ar ddrafftio Canllawiau ar gyfer rhanbarthau VAWDASV a chanllawiau asesu anghenion cadarn, cyn adolygu'r canllawiau caffael a grantiau.  

Gweithred 4

Datblygu canllawiau i sicrhau bod strwythurau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cydlynu â’i gilydd, a bod y berthynas rhwng cynllunio lleol, darparu gwasanaethau a chomisiynu yn glir.

Diweddariad

  • Mae canllawiau drafft wedi'u datblygu ar sail y gwaith mapio cynhwysfawr a gynhaliwyd y llynedd ac ar adborth am y canllawiau presennol, drwy'r ffrwd waith a Chynghorwyr Rhanbarthol.
  • Mae grŵp llywio strategol wedi'i sefydlu ers mis Hydref 2025 i fwrw ymlaen â'r gwaith ar Ganllawiau ar gyfer Strategaethau Lleol.
  • Bydd ymgynghoriad ar y canllawiau newydd yn ystod y misoedd nesaf.

Gweithred 5

Datblygu Fframwaith Safonau Cenedlaethol a fydd yn rhoi arweiniad ar y gofynion ar gyfer darparu gwasanaethau da, pennu lefelau gwasanaeth gofynnol, a mynegi disgwyliadau clir ar gyfer partneriaid comisiynu i ymrwymo i'r Safonau hyn.

Diweddariad

  • Bydd y ffrwd waith yn blaenoriaethu datblygu canllawiau fel y nodir yng Nghamau Gweithredu Lefel Uchel 2, 3 a 4 cyn bwrw ymlaen â Cham Gweithredu Lefel Uchel 5. Mae cytundeb barn fod angen cynnal gwaith sylfaenol cyn y gallwn sefydlu lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer comisiynu partneriaid i'w rhoi ar waith ar draws rhanbarthau.

Ffrwd waith anghenion plant a phobl ifanc (cyfrannu at amcanion 1, 2, 4, 5 a 6)

Gweithred 1

Cryfhau, gwella, a nodi bylchau mewn sylfeini tystiolaeth presennol a’r dadansoddiadau o anghenion y plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Diweddariad

  • Cwblhawyd yr ail ddarn o waith a gomisiynwyd gan y ffrwd waith, dan arweiniad Cymorth i Ferched Cymru, ac amlinellwyd y dulliau ar gyfer clywed llais plant sydd ar gael yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ymgysylltu â fforymau ledled Cymru i benderfynu a oes awydd i glywed  lleisiau plant a phobl ifanc i helpu i symud ymlaen gyda chamau gweithredu'r ffrwd waith.
  • Cwblhaodd Barnardo's brosiect yn rhanbarth Gwent sy'n edrych ar Operation Encompass a'r cymorth sydd ar gael mewn ysgolion. Wedi hynny, fe wnaethant adrodd ar eu canfyddiadau i'r ffrwd waith ym mis Gorffennaf 2025 a chyflwyno eu pecyn cymorth ar gyfer ysgolion. Mae aelodau'r ffrwd waith wedi cael eu hannog i rannu'r adroddiad a'r pecyn cymorth yn eu sefydliadau ac ar draws y rhanbarthau.
  • Cafodd y ffrwd waith ganfyddiadau cynnar y prosiect ymchwil Doethuriaeth ar Drais a Cham-drin at Rieni gan Blant a Phobl Ifanc (CAPVA). Disgwylir i'r ymchwil gael ei gwblhau ddiwedd 2025 a bydd y ffrwd waith yn cael diweddariad pellach.
  • Mae aelodau'r ffrwd waith wedi gwirfoddoli i dreialu pecyn cymorth canllawiau a hunanasesu NYTH/NEST i wella integreiddio'r fframwaith ar draws y sector VAWDASV a gwella ymgysylltiad rhwng Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Thimau VAWDASV Rhanbarthol. Bydd aelodau'n adrodd yn ôl am y rhaglen beilot hon ddiwedd 2025. 

Gweithred 2

Sefydlu eglurder ynghylch cyfrifoldebau'r holl awdurdodau perthnasol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli, i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol a brofir gan blant a phobl ifanc, ymateb iddo a’i leihau.

Diweddariad

  • Gan nad yw'r ffrwd waith wedi cael cyfle eto i graffu ar y Cynllun Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion, rydym wedi argymell y gallai'r gwaith o lywodraethu'r cynllun hwn gael ei leoli'n well yn rhywle arall. Bydd y ffrwd waith yn parhau i ymgysylltu â'r cynllun a bydd cyfathrebu yn parhau trwy'r Arweinwyr Polisi perthnasol.
  • Mae'r ffrwd waith yn ymgysylltu â Chymorth i Ferched Cymru a Sefydliad Bevan i ddeall y defnydd o ganllawiau ymarfer, a sut y cânt eu cymhwyso, ar gyfer Awdurdodau Lleol mewn perthynas â Dim Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NRPF).

Gweithred 3

Datblygu dull ar draws systemau Cymru o ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, o wasanaethau mamolaeth a’r blynyddoedd cynnar i wasanaethau oedolion.

Diweddariad

  • Oherwydd absenoldeb mamolaeth, mae'r digwyddiad rhannu ymchwil a  gwybodaeth a gynhyrchwyd ar y cyd ar Drais a Cham-drin at Rieni gan Blant a Phobl Ifanc (CAPVA) wedi'i ohirio. Rhagwelir nawr y bydd y gwaith ymchwil yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2025, ac fe gynllunnir cynnal y digwyddiad yn ystod Gwanwyn 2026.
  • Bydd y ffrwd waith yn ceisio casglu gwybodaeth a thystiolaeth ar flaenoriaethau plant a phobl ifanc sy'n profi VAWDASV er mwyn llywio ymgyrchoedd cyfathrebu yn y dyfodol.
  • Derbyniodd y ffrwd waith gyflwyniad gan CAFCASS Cymru ar y Peilot Braenaru yng Nghymru a'r gwelliannau y mae hyn wedi'u gwneud o ran dod â lleisiau plant i'r canol a lleihau trawma i ddioddefwyr cam-drin domestig.

Gweithred 4

Cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gwmpasu ymatebion, prosesau archwilio, arolygu, a monitro grantiau.

Diweddariad

  • Cwblhawyd yr ail ddarn o waith a gomisiynwyd gyda Chymorth i Ferched Cymru ddiwedd 2024; roedd hyn yn cynnwys mapio helaeth o fforymau llais plant sydd ar gael yng Nghymru, ardal ddaearyddol, pynciau a gafodd eu cwmpasu ac a oes cymhelliant i gymryd rhan. Gan ddefnyddio'r gwaith mapio hwn a gweithio gydag adnoddau gan y tîm Hawliau Plant, bydd y ffrwd waith yn drafftio cynllun ar gyfer ymgysylltu'r Glasbrint â phlant a phobl ifanc wrth symud ymlaen a gwneud argymhellion ar gyfer Strategaeth VAWDASV yn y dyfodol.
  • Nodwyd bod angen diweddaru Pecyn Cymorth Addysgol VAWDASV. Mae'r pecyn cymorth yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau arfer gorau i ddarparwyr addysg gynradd, uwchradd a phellach i'w defnyddio mewn lleoliadau addysg. Bydd y diweddariad yn gysylltiedig â'r Dull Ysgol Gyfan, y Cynllun Gweithredu Cam-drin ymhlith Cyfoedion a'r Cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a rhagwelir y bydd y gwaith diweddaru yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2025.

Ffrwd waith anghenion pobl hŷn (cyfrannu at amcanion 1, 3, 4, 5 a 6)

Gweithred 1

Cryfhau a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a nodi'r bylchau er mwyn gwella’r wybodaeth am gam-drin pobl hŷn a’r ddealltwriaeth ohono, ynghyd â'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

Diweddariad

  • Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â'r ffrwd waith i bennu anghenion ymchwil a thystiolaeth; mae hyn wedi cynnwys nodi tagfa yn y gwasanaethau a ddarperir i bobl hŷn sy'n profi VAWDASV, a diffyg atgyfeiriadau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Bydd cyfle ar gael yn gynnar yn 2026 i fyfyriwr Doethurol gynnal adolygiad i gynorthwyo ag  angen y ffrwd waith am dystiolaeth. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad tystiolaeth o rolau a chyfrifoldebau diogelu  gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl hŷn sy'n profi VAWDASV.

Gweithred 2

Datblygu dull gweithredu ar draws systemau Cymru sy'n sicrhau eglurder a chydlyniant rhwng gwasanaethau diogelu a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Diweddariad

  • Cyfarfu'r grŵp gorchwyl a gorffen a fu'n adolygu'r defnydd o asesiadau risg ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru bob pythefnos rhwng Chwefror a Mehefin i sicrhau cyflymder. Mabwysiadwyd dull cydweithredol, partneriaeth i lunio papur opsiynau cychwynnol, ac yna i gyflwyno papur â'r argymhelliad terfynol i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol  ym mis Mehefin 2025. Gwnaeth y grŵp yr argymhelliad, ar sail ymchwil, tystiolaeth ac arbenigedd proffesiynol, y dylid mabwysiadu proses asesu risg bwrpasol yng Nghymru. Byddai hyn nid yn unig yn helpu wrth asesu risg i bobl hŷn sy'n profi VAWDASV, ond hefyd yn helpu â charfanau ychwanegol. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen bellach yn ystyried y camau nesaf ymarferol ynghylch sut y gellid symud ymlaen â'r gwaith hwn, gan sicrhau bod partneriaid allweddol yn ymgysylltu, a chymryd adolygiadau ehangach i ystyriaeth megis gwaith a gomisiynwyd gan Swyddfa Gartref y DU oddi wrth Safe Lives i adolygu ymatebion i gam-drin domestig.
  • Mae'r arweinwyr Polisi ar Ddiogelu a VAWDASV yn Llywodraeth Cymru wedi'u halinio'n glos ac maent wedi bod yn diweddaru'r canllawiau Diogelu Pobl Hŷn yng Nghymru. (CHECK).
  • Mae'r ffrwd waith wedi cyfrannu mewnbwn i'r cyfnod ymgynghori cychwynnol ar gyfer fersiwn newydd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn weladwy yn y cynllun newydd, oherwydd natur drawsbynciol VAWDASV a Dementia. Bydd y ffrwd waith yn parhau i fod yn rhan o'r gwaith hwn tra bo'r ymgynghoriad yn parhau.

Gweithred 3

Cynyddu’r gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma sydd ar gael i bobl hŷn, yn oroeswyr ac yn rhai sy’n cam-drin eraill, a’u gwneud yn fwy addas, gan gydnabod eu hanghenion amrywiol yn ddigonol.

Diweddariad

  • Yn dilyn yr ymgysylltiad â gwasanaethau VAWDASV, crëwyd y ffeithlun arfer gorau, "Sut allwn ni fod yn fwy hygyrch i bobl hŷn?" Cafodd hyn ei gymhwyso gan aelodau craidd o'r ffrwd waith craidd a'i rannu hefyd gyda goroeswyr i gael eu sylwadau. Yna rhannwyd y ffeithlun gyda'r gwasanaethau a gymerodd ran yn y cyfweliadau lled-ffurfiol. Gall y ffrwd waith gymhwyso'r ffeithlun hwn ymhellach trwy edrych ar sut y gellir ei ddiwygio i weddu i wahanol leoliadau y mae pobl hŷn yn ymwneud â nhw.
  • Ar ôl ymgysylltu â goroeswyr Dewis Choice i lywio ein gwaith o fod yn hygyrch i oroeswyr hŷn, mae Dewis Choice wedi cwblhau adroddiad sy'n cynnwys dadansoddiad thematig: "Deall Profiadau Dioddefwyr-oroeswyr Hŷn". Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys astudiaethau achos gan wahanol sefydliadau ledled Cymru a bydd yn hyrwyddo arfer gorau ymhellach wrth ymgysylltu â phobl hŷn yr effeithir arnynt gan VAWDASV. Mae'r adroddiad yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl ei gyfieithu.
  • Bydd y ffrwd waith yn edrych ar strategaethau ymyrraeth ac atal cynnar, gan adeiladu ar waith a gwblhawyd gan y ffrwd waith Mynd i'r Afael â Chyflawni Trais. Bydd y ffrwd waith hefyd yn ymgysylltu â cham gweithredu Trais a Cham-drin Plant a Phobl Ifanc at Rieni (CAPVA) o fewn y ffrwd waith Anghenion Plant a Phobl Ifanc, gan gydnabod bod pobl hŷn yn aml yn cael eu heffeithio fel gofalwyr i blant neu wyrion.

Gweithred 4

Rhoi blaenoriaeth i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth penodol a dylanwadu arnynt, er mwyn cynyddu’r gydnabyddiaeth i gamdriniaeth ymhlith pobl hŷn, gwybodaeth am y broblem a dealltwriaeth ohoni.

Diweddariad

  • Mae'r ffrwd waith wedi gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Cowshed i ddylanwadu ar ymgyrch gyfathrebu sy'n canolbwyntio ar bobl hŷn a'i chwblhau . Bydd yr ymgyrch yn cael ei chyflwyno trwy Byw Heb Ofn a bydd yn canolbwyntio ar drais rhywiol, i gydnabod nad yw llawer o bobl hŷn, na gweithwyr proffesiynol, yn cydnabod trais rhywiol o fewn carfannau hŷn. Bydd yr ymgyrch yn cael ei chyflwyno ym mis Tachwedd 2025, a'r gobaith yw y bydd yn cyd-fynd ag Wythnos Diogelu Oedolion. Bydd y ffrwd waith yn defnyddio gwerthusiad yr ymgyrch i lywio cyflawni gwaith cymhwyso a  gweithredu yn y dyfodol.
  • Mae'r ffrwd waith yn parhau i rannu ymgyrchoedd cyfathrebu allanol a dylanwadu arnynt lle bo hynny'n briodol.

Panel Craffu a Chynnwys Lleisiau Goroeswyr

  • Mae aelodau'r panel yn rhan annatod o'r holl Fyrddau a ffrydiau gwaith ac yn parhau i gael eu hymgorffori ar draws y llywodraeth, gyda diddordeb diweddar gan aelodau o'r panel sy'n meddu ar brofiad bywyd ohono mewn ymuno â'r Grŵp Arweinyddiaeth ar Gam-drin ar Sail Anrhydedd. Mae sicrhau bod goroeswyr yn rhan o ffrydiau gwaith Glasbrint yn flaenoriaeth, ond yr un mor bwysig yw alinio cyfleoedd â'u profiadau bywyd a'u meysydd o ddiddordeb i sicrhau bod llais goroeswyr yn cael ei glywed ar draws y llywodraeth.
  • Mae'r panel wedi darparu adborth a chraffu gwerthfawr ar brosiectau fel astudiaethau Theori Newid a Thirlunio Data o dan y ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar gyfer Systemau Cyfan, yn ogystal â'r gwaith ymchwil i effeithiolrwydd o fewn y ffrwd waith Mynd i'r Afael â Chyflawni Trais. Yn ogystal, maent wedi cefnogi datblygu canllawiau IDVA / ISVA, gan sicrhau bod safbwyntiau goroeswyr yn cael eu hymgorffori.
  • Mae goroeswyr hefyd wedi chwarae rhan allweddol mewn ymgysylltu â'r cyhoedd: rhannodd tri aelod o'r panel eu profiadau yn Uwchgynhadledd VAWDASV, a siaradodd un yn rymus am ei phrofiad o gam-drin ar sail anrhydedd yng Nghynhadledd Arweinyddiaeth y Sector Cyhoeddus. Mae'r cyfraniadau hyn wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar drafodaethau polisi ar y lefelau uchaf.