Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Prif bwyntiau

Mae cyfraddau bwydo ar y fron wedi codi'r chwarter hwn ar gyfer oedrannau 6 wythnos a 6 mis oed, gyda bwydo ar y fron ar ôl 6 wythnos yr uchaf ar gyfnod. Gostyngodd cyfraddau bwydo ar y fron adeg genedigaeth a 10 diwrnod ychydig ers y chwarter diwethaf.

Ffigur 1: cyfraddau bwydo ar y fron yn ôl oedran y plentyn, Gorffennaf 2014 i Mehefin 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell sy’n dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron ar bob oed wedi cynyddu’n raddol dros y degawd diwethaf, gyda'r lefelau uchaf wedi'u cofnodi ar gyfer 6 wythnos oed.

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

Bwydo ar y fron, cyfraddau chwarterol yn ôl bwrdd iechyd lleol gan oedran (StatsCymru)

Adeg genedigaeth, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 64.6%. Mae hyn yn ostyngiad o 1.3 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 0.4 bwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a chynnydd o 7.0 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).

Yn 10 diwrnod, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 58.6%. Mae hyn yn ostyngiad o 0.3 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 0.7 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a chynnydd o 14.0 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).

Yn 6 wythnos, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 47.4%. Mae hyn yn gynnydd o 1.2 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 2.2 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a chynnydd o 16.9 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).

Yn 6 mis, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 33.4%. Mae hyn yn gynnydd o 0.7 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 1.4 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a chynnydd o 15.1 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2015).

Cyfrifir cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer cofnodion sydd â statws bwydo ar y fron hysbys; mae statws bwydo ar y fron ar goll o leiaf 10% o'r cofnodion adeg genedigaeth, gan gynyddu i 17% o'r cofnodion ar ôl 6 mis.

Manylion cyswllt

Ystadegau iechyd cymunedol a phoblogaeth
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099