Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 8 Mehefin, ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru, gosodwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y camau y mae Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd wedi'u cymryd yn yr wythnosau ers hynny.

Yn ei ddatganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 9 Mehefin, amlinellodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y meysydd lle y mae’n rhaid i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys fel rhan o'r mesurau arbennig - llywodraethu, arweiniad a throsolwg; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd; gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau, ac ailgysylltu â'r cyhoedd.

Mae Simon Dean, dirprwy brif weithredwr GIG Cymru, wedi’i benodi’n brif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y cyfnod hwn o fesurau arbennig, ac mae'r bwrdd yn cael cymorth gan dri unigolyn allweddol:

  • Dr Chris Jones, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae Dr Jones yn rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas â gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae wedi ymweld â phob un o'r gwasanaethau y tu allan i oriau ac wedi cynnal trafodaethau gyda meddygon teulu, rheolwyr gofal sylfaenol ac aelodau'r bwrdd. Mae wedi rhoi adborth am gryfderau'r gwasanaethau a'r cyfleoedd i wneud gwelliannau. Mae'r rhain wedi dylanwadu ar y camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r meysydd sy'n peri pryder mewn perthynas â gwasanaethau y tu allan i oriau;
  • Mae Peter Meredith-Smith, cyn-gadeirydd dros dro y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru a chyfarwyddwr cysylltiol y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, yn rhoi cyngor a chymorth ym maes nyrsio iechyd meddwl. Ar hyn o bryd mae'n adolygu’r camau sydd wedi'u cymryd hyd yma mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys manylion y cynllun 100 diwrnod ar gyfer iechyd meddwl, i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl gamau o ran Tawel Fan;
  • Mae Ann Lloyd, cyn-brif weithredwr GIG Cymru a chadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, yn rhoi cyngor a chymorth ar lywodraethu ac atebolrwydd, ac mae'n gweithio'n agos i gynorthwyo'r cadeirydd a'r prif weithredwr dros dro. Mae Mrs Lloyd wedi adolygu'r trefniadau llywodraethu presennol; wedi arwain gweithdy ar gyfer y bwrdd ac wedi datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â materion allweddol yn gyflym. Bydd hyn yn golygu bod fframwaith llywodraethu clir ar gyfer y bwrdd iechyd yn cael ei roi ar waith yn yr hydref. Mae hi hefyd yn cynnal adolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd, a fydd yn nodi’r meysydd sydd angen sylw. Bydd y rhain wedyn yn cael eu cynnwys yn rhaglen ddatblygu’r bwrdd.

Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i adolygu a, lle bo angen, i nodi pa gymorth pellach y bydd gofyn ei gael o ran materion yn ymwneud â'r gweithlu, gwasanaethau iechyd meddwl strategol a chynllunio gwasanaethau.

Mae Mr Dean wedi cydnabod bod angen bwrw ymlaen yn gyflym ac ar fyrder o ran yr angen am newidiadau a gwelliannau. Mae wedi cyhoeddi cyfres o gynlluniau 100 diwrnod, sy'n pennu camau penodol, mesuradwy y gellir eu cyflawni mewn perthynas â phob o feysydd y mesurau arbennig.

Mae pob cynllun wedi’i amlinellu’n eglur ac yn cynnwys cerrig milltir clir ar gyfer mesur cynnydd. Mae’r cynlluniau wedi’u cyhoeddi ar wefan y bwrdd iechyd a byddant yn cael eu trafod yng nghyfarfod cyhoeddus y bwrdd heddiw. http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/82421

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn cynnal proses wrando gynhwysfawr gyda'r cyhoedd a staff y GIG. Bydd mwy na 40 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y Gogledd dros yr haf a bydd y bwrdd hefyd yn mynychu nifer o ddigwyddiadau cymunedol.

Dros y mis diwethaf, mae 15 o ddigwyddiadau gwrando wedi'u cynnal, gan roi’r cyfle i bobl mewn cymunedau lleol fynegi eu barn am y gwasanaeth iechyd yn y Gogledd. Cynhaliwyd 10 digwyddiad hefyd i roi cyfle i’r staff drafod eu barn gydag uwch-reolwyr. Mae'r adborth o'r digwyddiadau hyn yn cael ei gasglu ar hyn o bryd a bydd camau gweithredu’n cael eu cymryd ar sail yr adborth hwnnw.

Mae nifer o sefydliadau wedi cynnig helpu a chefnogi'r bwrdd iechyd gan gynnwys byrddau iechyd eraill a chyrff proffesiynol a chynrychiadol megis Cymdeithas Feddygol Prydain, y Coleg Nyrsio Brenhinol ac UNISON. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r sefydliadau hyn ac yn croesawu'r gefnogaeth y maent wedi’i chynnig. Mae’r bwrdd iechyd yn ystyried y cynigion hyn a'r manteision posibl a allai ddod yn eu sgil o ran dwyn ynghyd safbwyntiau clinigol a safbwyntiau staff.

Mae sylfeini da wedi'u gosod ar gyfer bwrw ymlaen â gwaith pellach i adennill hyder pobl yn ansawdd y gwasanaethau yn y Gogledd.