Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch iawn bod y Senedd, ar 11 Tachwedd, wedi cymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol a Phenderfyniad Ariannol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a bod y Bil wedi symud yn llwyddiannus i Gyfnod 2. 

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'r rhanddeiliaid sydd wedi cyfrannu, cefnogi a gweithio gyda ni i ddatblygu'r cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth hanfodol hon. Mae eu persbectif, eu harbenigedd a'u herio wedi bod yn allweddol wrth lunio a mireinio'r Bil hwn hyd yn hyn a bydd eu mewnbwn yn parhau i fod yn bwysig wrth i ni fynd trwy gamau nesaf y broses ddeddfwriaethol.

Cyn fy ymateb ffurfiol i’r Pwyllgorau, ac ochr yn ochr ag ef,  hoffwn fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at feysydd penodol yr hoffwn ymchwilio iddynt gyda’r pwyllgor, sef y cyfle am welliannau gan y Llywodraeth yn ystod camau’r Bil yn y dyfodol. 

Rhan 1 – Amcan ac Egwyddorion Amgylcheddol 

Mewn perthynas â Rhan 1 o'r Bil, rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliannau i: 

  • bennu dyddiad pendant ar gyfer pryd y mae'n rhaid gosod y datganiad egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu'r amgylchedd ('datganiad adran 6') gerbron y Senedd a'u cyhoeddi
  • cynnwys proses i alluogi craffu ac argymhellion gan y Senedd cyn i ddatganiad adran 6 gael ei gwblhau'n derfynol
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu datganiad adran 6 yn rheolaidd, o leiaf unwaith yn ystod tymor y Senedd.
  • egluro bod dyletswydd Gweinidogion Cymru i roi sylw arbennig i'r egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu'r amgylchedd yn berthnasol i bob achos llunio polisi oni bai bod modd dangos nad oes unrhyw effaith negyddol neu effaith negyddol fach iawn ar yr amgylchedd, sy'n drothwy isel iawn
  • yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru egluro yn natganiad adran 6 sut y maent yn bwriadu penderfynu a yw polisi yn cael unrhyw effaith neu effaith fach iawn ar yr amgylchedd
  • yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru esbonio yn natganiad adran 6 sut y maent yn ystyried y dylid dehongli'r egwyddorion amgylcheddol. 

Byddaf hefyd yn archwilio ymhellach egluro'r diffiniad o "bolisi" i sicrhau bod y dyletswyddau'n glir ac yn effeithiol.

Rhan 2 – Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru 

Ar gyfer Rhan 2 o'r Bil, rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliannau i: 

  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu digon o gyllid i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (SLlAC)
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i ddiogelu annibyniaeth SLIAC wrth arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â hi
  • sicrhau nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw rôl yn y broses sy'n gysylltiedig â'r pwyllgor adolygu drwy ddileu'r gofyniad iddynt gadw rhestr o aelodau unigol i'w penodi
  • lleihau nifer y personau annibynnol sy'n ofynnol ar gyfer proses y pwyllgor adolygu i fod yn 'o leiaf 1'.
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â SLIAC, ac unrhyw bersonau eraill y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol, wrth ddiwygio'r diffiniad o gyfraith amgylcheddol drwy reoliadau.
  • sicrhau bod dinasyddion yn gallu cael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol trwy ddarparu sylwadau yn uniongyrchol i SLIAC a sicrhau y byddant yn cael eu hysbysu am ymateb SLIAC i sylwadau ac unrhyw gamau a gymerwyd
  • ei gwneud yn ofynnol i swyddogaethau SLIAC gael eu cychwyn o fewn dwy flynedd i dderbyn Cydsyniad Brenhinol, gydag opsiwn i ymestyn am gyfnod cyfyngedig pellach ar yr amod bod y Senedd yn cytuno   
  • galluogi'r Senedd i gael mwy o ran yn y broses benodi drwy fod yn rhan o'r panel recriwtio ar gyfer rolau anweithredol
  • darparu bod yn rhaid cwblhau adolygiad o hysbysiad cydymffurfio/hysbysiad cydymffurfio brys gan bwyllgor adolygu SLIAC cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Rhan 3 – Targedau Bioamrywiaeth 

Ar gyfer Rhan 3 o'r Bil, rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliannau i:

  • leihau'r amserlen ar gyfer cyflwyno rheoliadau drafft sy'n gosod targedau mewn meysydd blaenoriaeth o dair blynedd i ddwy flynedd
  • lleihau'r amserlen i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad gerbron y Senedd yn esbonio pam nad yw targed wedi'i gyrraedd a pha gamau y byddant yn eu cymryd i gyrraedd y targed o ddeuddeg mis i chwe mis.
  • gofyn i Weinidogion Cymru osod targedau tymor byr a hirdymor ar gyfer meysydd blaenoriaeth rhywogaethau ac ecosystemau
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad sy'n crynhoi'r broses ymgynghori a'r sylwadau a dderbyniwyd cyn gosod targedau ac wrth gyhoeddi eu cynllun adran 6
  • cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu, o leiaf unwaith bob deng mlynedd, effeithiolrwydd y targedau presennol wrth gyfrannu at atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Os bydd adolygiad o'r fath yn dod i'r casgliad y dylid gosod targedau pellach, dylid gosod targedau o'r fath gerbron y Senedd o fewn dwy flynedd i'r adolygiad
  • cyflwyno gofynion ychwanegol ar gyfer cynllun adran 6 Gweinidogion Cymru, gan gynnwys cymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wrth baratoi'r cynllun hwnnw. Bydd hefyd angen nodi'r camau sydd i'w cymryd i gyfrannu at weledigaeth Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang 2050, cynigion sy'n cwmpasu meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru, sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cynnal safon darged ar ôl iddi gael ei chyflawni, a sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu hyrwyddo ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth.

Edrychaf ymlaen at ymgysylltu parhaus ag Aelodau a rhanddeiliaid wrth i ni symud trwy gamau nesaf y broses ddeddfwriaethol. Nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae'n rhaid i ni i gyd weithredu i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru, sydd mor hanfodol i'n llesiant.