Rhaglen Plant Iach Cymru (cysylltiadau gyda phlant): Ebrill i Mehefin 2025
Mae’r Rhaglen Plant Iach Cymru yn rhaglen iechyd cyffredinol ar gyfer pob teulu gyda phlant oed 0 i 7 ar gyfer Ebrill i Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Gyda’i gilydd, derbyniodd 87.5% o blant cymwys gyswllt Plant Iach Cymru yn y chwarter Ionawr i Mawrth 2025, mae hyn yn ostyngiad o 0.4 pwynt canran ar y chwarter blaenorol.
Ffigur 1: cyfradd cwblhau cyswllt chwarterol Rhaglen Plant Iach Cymru, Hydref 2016 i Mehefin 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos bod canran y cysylltiadau a gwblhawyd wedi cynyddu ers dechrau'r rhaglen.
Ffynhonnell: Y Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
[Nodyn 1] Mae’r data ar gyfer pob plentyn: yn cynnwys plant a ddiffinnir fel rhai sy’n derbyn, ac nid sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg gan ddefnyddio eu cod post Dechrau’n Deg.
Derbyniodd canran uwch o blant cymwys gysylltiadau nag yn y chwarter blaenorol ar gyfer y pwyntiau cyswllt ar 8 wythnos, 12 wythnos a 3.5 mlynedd, gyda phob un o'r cysylltiadau hyn yn gosod record uchafbwyntiau newydd.
A higher percentage of eligible children received contacts than in the previous quarter for the contact points at 8 weeks, 12 weeks and 3.5 years, with each of these contacts setting new record highs.
Manylion cyswllt
Ystadegau iechyd cymunedol a phoblogaeth
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
