Yn dilyn proses recriwtio gystadleuol dan arweiniad Llywodraeth Cymru, mae Rebecca Godfrey wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru.
Mae Rebecca wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Dros Dro ers mis Mai 2025, a chyn hynny hi oedd y Prif Swyddog Gweithredu. Roedd Rebecca yn rhan o'r tîm a sefydlodd ACC yn 2017, gan ymuno fel ei Brif Swyddog Strategaeth cyntaf, a sefydlu dull gweithredu, siarter a diwylliant y sefydliad.
Mae ACC yn casglu ac yn rheoli Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), ac ers ei sefydlu mae wedi codi dros £2 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'r sefydliad yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd i weithredu a rheoli cofrestr llety ymwelwyr a'r ardoll ymwelwyr.
Dywedodd Ruth Glazzard, Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru:
Rwy’n falch iawn o gyhoeddi mai Rebecca sydd wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr parhaol. Yn dilyn proses recriwtio gystadleuol, daeth yn amlwg fod dealltwriaeth Rebecca o’r sefydliad, ei phrofiad o arwain, a’i gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn golygu mai hi oedd y dewis iawn.
Mae Rebecca wedi cryfhau ein gallu i gyflawni, ac wedi arddangos y math o arweinyddiaeth y mae arnom ni ei angen wrth i ni ehangu ein gwasanaethau. Mae hwn yn gyfnod pwysig iawn i ACC. Rydym yn paratoi i gyflenwi gwasanaethau newydd i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru, a Rebecca yw’r person iawn i’n harwain ar ein pennod nesaf.
Dywedodd Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru:
Mae hi’n fraint cael fy mhenodi’n Brif Weithredwr parhaol, a hynny ar adeg mor gyffrous yn hanes ein sefydliad. Trwy adeiladu ar arweinyddiaeth Dyfed Alsop, ein Prif Weithredwr cyntaf, rwyf am barhau i flaenoriaethu gwaith atal a chefnogaeth, ac am gynnal ein diwylliant cadarnhaol o arloesi, cydweithio, a bod yn garedig.
Ers 2018, rydym wedi codi dros £2 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru drwy gydweithio â'n partneriaid a'n cwsmeriaid. Rwy’n edrych ymlaen at ddyfnhau ein partneriaethau ledled Cymru wrth i ni ehangu ein gwasanaethau er mwyn cyrraedd cymunedau newydd.
Ar drothwy’r cyfnod nesaf hwn, rwy’n canolbwyntio ar gynnal safonau uchel o fewn ein gwasanaethau cyfredol, ac ar gyflwyno’r ardoll ymwelwyr a’r gofrestr llety ymwelwyr.
Mae Rebecca’n olynu Dyfed Alsop, a adawodd ACC ym mis Ebrill 2025 i ymgymryd â swydd newydd fel Prif Swyddog Gweithredu a Dirprwy Brif Weithredwr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).
