Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod y gofynion hyn yw sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â Hawliau Tramwy Cyhoeddus a thir mynediad agored.

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys:

  • llwybrau troed
  • llwybrau ceffylau
  • cilffyrdd cyfyngedig
  • cilffyrdd sydd ar agor i'r holl draffig

Rheolwr y tir a'r awdurdod priffyrdd lleol sy'n gyfrifol am hawliau tramwy cyhoeddus. 

Dylid defnyddio’r ddogfen ganlynol ochr yn ochr â'r ddogfen hon: Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i reolwyr tir (ar Cyfoeth Naturiol Cymru)

Prif ofynion

Rhaid i chi sicrhau bod y gofynion cyfreithiol canlynol yn cael eu bodloni:

  • ni ddylid rhwystro hawliau tramwy cyhoeddus (naill ai'n barhaol neu dros dro) a rhaid iddynt aros ar agor, yn hygyrch ac ar gael i'w defnyddio yn ddi-dâl. Mae’n rhaid atal coed sy’n pentyrru ac, a choed a llysiau sy’n tyfu o ymylon hawliau tramwy cyhoeddus
  • rhaid cynnal adeileddau fel gatiau a chamfeydd, neu adeileddau tebyg eraill yn unol â Deddf Priffyrdd 1980. Gall Awdurdodau Lleol neu Awdurdodau Parc Cenedlaethol ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar adeileddau, ond mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar ran y tirfeddiannwr
  • rhaid adfer hawliau tramwy cyhoeddus ar ôl aredig
  • rhaid caniatáu mynediad ar droed ar draws yr holl dir a nodwyd fel tir mynediad agored ar y mapiau sydd wedi'u paratoi o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (ar legislation.gov.uk):
  • dylid cysylltu â'ch awdurdod lleol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol drwy e-bost neu dros y ffôn os oes unrhyw broblemau yn ymwneud â'r hawliau tramwy cyhoeddus ar dir o dan ddatganiad blynyddol neu ddyfarniad grant gyda Llywodraeth Cymru. Fe'ch anogir i gadw cofnodion o unrhyw gysylltiad ag un o'r awdurdodau neu'r ddau awdurdod
  • bydd eich map SFS, sydd ar gael trwy eich cyfrif RPW Ar-lein, yn dangos lleoliad hawliau tramwy cyhoeddus hysbys ar eich tir er gwybodaeth. Mae gan eich Awdurdod Lleol gofnodion cyfreithiol a mapiau diffiniol o'r holl hawliau 

Gwiriadau maes

  • dylech gadarnhau bod yr holl hawliau tramwy cyhoeddus ar agor, yn hygyrch ac ar gael i'w defnyddio yn ddi-dâl a bod mynediad yn cael ei ganiatáu ar droed ar yr holl dir a nodwyd fel tir mynediad agored 

Arfer da

  • gwiriwch fapiau a lleoliad Hawliau Tramwy Cyhoeddus a thir mynediad agored ar eich fferm, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw ac nad ydynt yn cael eu rhwystro. Dylech dorri llystyfiant sy'n gordyfu o amgylch gatiau, llwybrau, pontydd a chamfeydd, gan gynnwys clirio llystyfiant uwchben
  • dylid cysylltu ag awdurdodau lleol neu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol os oes unrhyw broblemau yn ymwneud â'r Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar eich tir, gan gynnwys arwyddion. Rydym yn eich annog i gadw cofnodion o gysylltiad â'r awdurdodau hyn

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth neu i roi gwybod am rwystr, gwaith cynnal a chadw gwael neu arwydd camarweiniol ar hawl dramwy, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Ar gyfer ymholiadau am dir mynediad agored, cyflwyno tir ar gyfer mynediad cyhoeddus neu gyfyngu ar fynediad ar dir mynediad agored, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Gweler Cynllun Ffermio Cynaliadwy: llinell sylfaen reoleiddiol: cysylltiadau defnyddiol (2026).