Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae aer glân yn hanfodol i'n hiechyd, ein hamgylchedd ac ansawdd bywyd. Mae degawdau o weithredu i leihau allyriadau o gynhyrchu pŵer, trafnidiaeth, amaethyddiaeth, diwydiant, a ffynonellau domestig yn golygu bod yr aer rydyn ni'n ei anadlu heddiw yn lanach nag y bu ar unrhyw adeg ers y chwyldro diwydiannol. Eto i gyd, mae llygredd aer yn parhau i fod yn her. Er ei fod yn aml yn anweledig, mae ei effeithiau'n bellgyrhaeddol - mae'n byrhau bywydau, mae'n beryglus i grwpiau sy'n agored i niwed ac mae'n cael effaith andwyol ar y byd naturiol.
Mae Cynllun Aer Glân i Gymru Llywodraeth Cymru yn nodi ein strategaeth hirdymor i fynd i'r afael â llygredd aer a gwella ansawdd aer. Roedd cyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn un o ymrwymiadau allweddol y Cynllun. Mae creu fframwaith ar gyfer gosod targedau ansawdd aer cenedlaethol yn ganolog i hyn, gan rymuso Gweinidogion Cymru i sefydlu nodau sydd wedi'u rhwymo mewn cyfraith a fydd yn sbarduno cynnydd.
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar dargedau arfaethedig ar gyfer deunydd gronynnol mân (PM2.5) — y llygrydd a gysylltir amlaf â phroblemau iechyd difrifol. Byddai'r targedau arfaethedig yn lleihau'r crynodiad cymedrig blynyddol a ganiateir o PM2.5 yn sylweddol, gan sicrhau bod lefelau Cymru'n cyd-fynd yn agosach â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r targedau hyn wedi'u cynllunio i fod yn uchelgeisiol, yn gyraeddadwy ac yn effeithiol — gan leihau amlygiad ledled Cymru a gwella canlyniadau i bawb.
Bydd cyrraedd y targedau hyn yn gofyn am weithredu ar draws cymdeithas. Er mai cyfrifoldeb y llywodraeth genedlaethol yw cyflawni’r amcanion hyn, bydd llwyddiant yn ddibynnol ar gydweithio rhwng cyrff cyhoeddus, busnesau, cymunedau ac unigolion. Bydd targedau sydd wedi'u rhwymo mewn cyfraith yn darparu eglurder a chyfeiriad, gan helpu i siapio buddsoddiad, arloesi a newid ymddygiad.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig yn ein taith tuag at aer glanach. Rwy'n annog pawb i gymryd rhan a rhannu eu barn. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol iachach a gwyrddach i Gymru.
