Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddeallusrwydd Artiffisial Strategol: 24 Medi 2025
Nodiadau o gyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddeallusrwydd Artiffisial Strategol a chafodd ei gynnal ar 24 Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Y Cadeirydd: Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Diane Gutiw, CGI
Alexander Iosad, Sefydliad Tony Blair ar gyfer Newid Byd-eang
Shavanah Taj, TUC Cymru
Walter Pasquarelli, Cynghorydd ar AI a Realiti Synthetig
Marloes Pomp, Fforwm AI Ewrop
Gina Neff, Prifysgol y Frenhines Mary Llundain
Santosh Takoor, Microsoft UK
Ruth McGuinness, Kainos
Harriet Green, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Matt Lewis, Y Grŵp Arweinyddiaeth AI Ar Draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Anthony Tracey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Glyn Jones, Llywodraeth Cymru
Jas Pal Baydal, Llywodraeth Cymru
Mike Thomas, Llywodraeth Cymru
Mike Emery, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Rachel Purchase, Admiral
Eitem 1 ar yr agenda: croeso a chyflwyniadau
1.1 Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet Alexander Iosad fel aelod newydd o'r grŵp.
Eitem 2 ar yr agenda: trosolwg ac adborth ar gynllun AI Llywodraeth Cymru
2.1 Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru y cynllun AI drafft ar gyfer Cymru, gan nodi ei weledigaeth a'i gamau gweithredu arfaethedig, gan ganolbwyntio ar bedwar piler strategol: twf economaidd, addysgu Cymru, cyflawni teg, a rhagoriaeth ac ymddiriedaeth.
2.2 Croesawodd y grŵp uchelgais y cynllun, gan bwysleisio'r angen am amcanion clir, ymgysylltu â'r cyhoedd a'r gweithlu, ac integreiddio effaith amgylcheddol a dull Cymreig amlwg.
2.3 Fe wnaeth y grŵp argymell gwneud y cynllun AI yn gydnaws â meysydd polisi ehangach, megis ynni, yr hinsawdd a'r strategaeth ddiwydiannol, gan sicrhau ei fod yn bodloni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Tynnodd y grŵp sylw hefyd at yr angen i gyfathrebu ac ymgysylltu'n effeithiol i wneud AI yn berthnasol ac yn hygyrch i bobl ledled Cymru.
Eitem 3 ar yr agenda: strategaeth sgiliau ac uwchsgilio AI i Gymru
3.1 Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru gynigion ar gyfer dull cydgysylltiedig Cymreig o uwchsgilio mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial, gan dynnu sylw at yr angen i'r dull gyd-fynd â mentrau'r DU a chynnwys partneriaid diwydiant a'r sector cyhoeddus.
3.2 Fe wnaeth y grŵp adnabod heriau sylweddol, gan gynnwys nifer cyfyngedig o bobl yn ymgymryd â hyfforddiant AI, aeddfedrwydd digidol, seilwaith, cydraddoldeb (gan gynnwys darpariaeth Gymraeg), a'r risg y bydd rhai grwpiau a chymunedau'n cael eu gadael ar ôl.
3.3 Cynigiodd y grŵp y dylid datblygu rhaglen sgiliau AI blaenllaw i Gymru, treialu rhaglen addysg AI mewn ysgolion, creu canolfannau rhagoriaeth, a chynnal digwyddiadau 'hacathon' a sesiynau blwch tywod er mwyn dysgu'n ymarferol. Dylai'r mentrau hyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fanteisio ar hyfforddiant.
Eitem 4 ar yr agenda: cydlynu a llywodraethu
4.1 Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp ar sefydlu a recriwtio parhaus ar gyfer Swyddfa AI'r Llywodraeth a nododd gynlluniau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol a chyhoeddi allbynnau'r cyfarfodydd.
4.2 Trafodwyd cynlluniau ar gyfer cyfarfod nesaf y grŵp a gynhelir yn ystod Wythnos Dechnoleg Cymru ym mis Tachwedd 2025, gan anelu at gynnal y cyfarfod wyneb yn wyneb yn y digwyddiad.
4.3 Cadarnhawyd y bydd cofnodion cryno yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, ac y bydd mewnbwn y grŵp yn llywio gwaith polisi AI parhaus ledled Llywodraeth Cymru.
Eitem 5 ar yr agenda: y camau nesaf
5.1 Cytunodd y grŵp ar y camau nesaf canlynol:
- mapio a chydgrynhoi treialon a phrosiectau AI parhaus ar draws sectorau yng Nghymru er mwyn sicrhau cyngor cydgysylltiedig ac osgoi ailadrodd gwaith
- trin a thrafod dulliau effeithiol ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd a llythrennedd AI, a'u rhoi ar waith
- ymchwilio i ddichonoldeb hacathon neu ddigwyddiad tebyg i hyrwyddo sgiliau AI ac arloesedd yn y sector cyhoeddus, a'i gynllunio
- sefydlu ffordd o olrhain effaith a chyrhaeddiad mentrau hyfforddi AI yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys asesiadau sylfaenol a dulliau mesuriad parhaus
- rhannu'r swydd Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer y Swyddfa AI
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 24 Tachwedd 2025.
