Cylch gorchwyl
Mae'r Grŵp Cynghori Strategol a sut y bydd yn gweithio.
Cynnwys
1. Rôl y Grŵp Cynghori Strategol ar AI
1.1 Mae'r Grŵp yn banel anstatudol o arbenigwyr annibynnol a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar sut i fabwysiadu, gweithredu a defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ledled Cymru.
1.2 Bydd y Grŵp Cynghori Strategol ar AI yn:
- Rhoi arweiniad strategol: cynnig cyfarwyddyd awdurdodol, traws-sector ar sut i ddefnyddio AI mewn ffordd foesegol, cynhwysol ac effeithiol ar draws sector cyhoeddus Cymru.
- Cefnogi Gweinidogion i Wneud Penderfyniadau: cynghori Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar lefel strategol ar y cyfleoedd a'r risgiau y mae AI yn eu cynnig a'i oblygiadau i bolisi.
- Rhoi Blaenoriaeth i Effeithlonrwydd a Hygyrchedd wrth Ddarparu Gwasanaethau: cyfarwyddo ymdrechion i roi technolegau AI ar waith sy'n gwella effeithlonrwydd gweithredol gan hwyluso hygyrchedd i wasanaethau cyhoeddus.
- Hyrwyddo Llythrennedd a Chapasiti AI: cefnogi arweinwyr strategol a datblygu gweithlu sector cyhoeddus iddynt allu deall AI yn well a gwneud penderfyniadau gwybodus.
- Hyrwyddo Arloesedd Cyfrifol: helpu i fabwysiadu technolegau AI yn ddiogel a thryloyw i wella'r ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus.
- Helpu i gryfhau ecosystem AI Cymru: hybu cydweithredu rhwng y llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd a chymdeithas sifil i gefnogi tirwedd arloesi ffyniannus ar gyfer AI ledled Cymru.
- Ehangu Gorwelion: rhannu arbenigeddau ymchwil a datblygu a sganio'r gorwel byd-eang er budd Cymru.
2. Rolau'r aelodau
2.1 Bydd rôl aelodau'r Grŵp Cynghori Strategol ar AI yn un bersonol a gwirfoddol. Ni fyddant yn cynrychioli eu sefydliad na chorff arall.
2.2 Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio fydd cadeirydd y Grŵp a bydd yn goruchwylio ei waith. Mae aelodau presennol y Grŵp i'w gweld yn Atodiad A.
2.3 Bydd aelodau'n ymuno trwy wahoddiad Cadeirydd y Grŵp Cynghori Strategol ar AI a byddant yn aelodau am gyfnod y cytunir arno. Bydd y Cadeirydd yn adolygu'r aelodaeth yn rheolaidd i sicrhau bod yna aelodau priodol sy'n gallu ymdrin â gwaith ymgysylltu, arbenigeddau a meysydd blaenoriaeth sy'n dod i'r amlwg.
2.4 Disgwylir i aelodau fynd i'r rhan fwyaf o gyfarfodydd y Grŵp (o leiaf 3 i 4 y flwyddyn) ac ni chânt anfon dirprwyon yn eu lle. Efallai y gofynnir i aelodau'r grŵp roi cyfeiriad a barn ar faterion penodol wrth iddynt godi.
2.5 Disgwylir i bob aelod o'r Grŵp Cynghori Strategol ar AI ddilyn y Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus a nodir yn Atodiad B. Rhaid i aelodau beidio â chamddefnyddio gwybodaeth a gafwyd drwy weithgaredd y Grŵp er budd personol nac at ddibenion gwleidyddol, na cheisio defnyddio'r Grŵp i hyrwyddo buddiannau preifat neu fuddiannau personau, cwmnïau, busnesau neu sefydliadau eraill cysylltiedig.
3. Ffyrdd o weithio
3.1 Bydd gan y Grŵp Cynghori Strategol ar AI Ysgrifenyddiaeth fechan sy'n cynnwys gweision sifil o Lywodraeth Cymru, i'w gefnogi. Prif swyddogaeth yr Ysgrifenyddiaeth yw cefnogi'r Grŵp trwy drefnu a chynnal cyfarfodydd, darparu a threfnu papurau a rhoi cyngor i'r Grŵp.
3.2 Gellir ffurfio gweithgorau yn ôl blaenoriaethau'r Grŵp Cynghori Strategol ar AI. Aelodau fydd yn yn arwain y gweithgorau hyn ond gallant gynnwys cyfranogwyr o'r gymuned AI ehangach yng Nghymru. Gan ddibynnu ar bwnc y gweithgor, gellir defnyddio aelodau o Adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru.
3.3 Gall Cadeirydd y Grŵp wahodd Gweinidogion eraill Cymru neu swyddogion i’r cyfarfod pan drafodir eitemau perthnasol.
3.4 Nid oes tâl am fod yn aelod o’r Grŵp Cynghori Strategol ar AI, er y gellir talu costau teithio a chynhaliaeth os gwelir bod angen.
4. Tryloywder
4.1 Bydd rhagdybiaeth yn y Grŵp Cynghori Strategol ar AI o blaid bod yn agored a thryloyw wrth ei waith. Pan fo hynny'n berthnasol, bydd y Grŵp Cynghori Strategol ar AI yn sicrhau bod papurau perthnasol ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Ni ddylai aelodau'r Grŵp ddatgelu cynnwys papurau nes bod yr Ysgrifenyddiaeth yn eu rhyddhau'n ffurfiol.
4.2 Bydd nodiadau cyfarfodydd y Grŵp Cynghori Strategol ar AI a phwyntiau gweithredu cysylltiedig yn cael eu cylchredeg cyn gynted â phosibl ar ôl cyfarfodydd. Caiff crynodeb o gyfarfodydd y Grŵp ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y crynodebau hyn yn cofnodi trafodaethau heb enwi'r siaradwyr, oni bai bod angen cofnodi gwrthdaro buddiannau.
4.3 Gall aelodau'r Grŵp godi unrhyw wrthdaro buddiannau neu bryderon trwy Gadeirydd neu Ysgrifenyddiaeth y Grŵp. Gellir codi pryderon yn gyfrinachol, er ein bod yn annog tryloywder ym mhob ffordd o weithio.
5. Cyfathrebu
5.1 Cadeirydd y Grŵp Cynghori Strategol ar AI fydd y prif lefarydd wrth gysylltu â'r cyfryngau.
5.2 Os gofynnir i aelod o'r Grŵp Cynghori Strategol ar AI am gyfweliad neu i gysylltu â'r cyfryngau ar ran y Grŵp, dylid holi Ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru am gyngor lle bo hynny'n bosibl.
5.3 Os bydd aelod o'r Grŵp yn siarad â'r cyfryngau neu'n sgrifennu atynt, mewn rôl bersonol neu broffesiynol, ac yn cael ei enwi fel aelod o'r Grŵp Cynghori Strategol ar AI, dylid ei gwneud yn glir nad yw barn yr unigolyn o reidrwydd yr un peth â barn y Grŵp Cynghori Strategol ar AI, ac nad yw'r Grŵp Cynghori Strategol ar AI yn cynrychioli polisi Llywodraeth Cymru.
Atodiad A: aelodau
Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (Cadeirydd)
Shavanah Taj, TUC Cymru
Walter Pasquarelli, Areithydd, Awdur a Chynghorydd
Ruth McGuinness, Pennaeth Data ac AI, Kainos
Yr Athro Diane Gutiw, CGI
Rachel Purchase, Admiral, Cyfarwyddwr Data a Dadansoddeg
Santosh Takoor, Platfformau Cwmwl ac AI ar gyfer y Sector Cyhoeddus, Microsoft UK
Marloes Pomp, Is-lywydd, Fforwm AI Ewrop
Gina Neff, AI Cyfrifol, Queen Mary University of London
Jeegar Kakkad, Tony Blair Institute
Aelodau ex-officio
Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
I’w gadarnhau, Pennaeth y Swyddfa AI, Llywodraeth Cymru
Harriet Green / Myra Hunt, Pennaeth, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Lindsey Phillips, Prif Swyddog Digidol dros Lywodraeth Leol, CLlLC
Matt Lewis, Y Grŵp Arweinyddiaeth AI Ar Draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Jas Pal Baydal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru
Helen Arthur, Cyfarwyddwyr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Adran Iechyd, Llywodraeth Cymru
Atodiad B: Saith Egwyddor Bywyd
Mae Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan fel y'u gelwir) yn berthnasol i unrhyw un sydd â swydd gyhoeddus. Mae hynny'n cynnwys pawb sydd wedi'i ethol neu ei benodi i swydd gyhoeddus, ar lefel genedlaethol neu leol, a'r holl bobl sydd wedi'u penodi i weithio yn y Gwasanaeth Sifil, mewn llywodraeth leol, yn yr heddlu, y llysoedd a'r gwasanaethau prawf, cyrff cyhoeddus anadrannol (NDPBs), ac yn y gwasanaethau iechyd, addysg, cymdeithasol a gofal. Mae holl ddeiliaid swyddi cyhoeddus yn weision i'r cyhoedd ac yn stiwardiaid adnoddau cyhoeddus. Mae'r egwyddorion yn berthnasol hefyd i bawb mewn sectorau eraill sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Yr egwyddorion yw:
Anhunanoldeb
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er lles y cyhoedd yn unig.
Uniondeb
Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus roi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth i unigolion neu fudiadau a all geisio dylanwadu arnynt mewn modd amhriodol yn eu gwaith. Ni ddylent weithredu na gwneud unrhyw benderfyniadau er mwyn sicrhau manteision ariannol neu fanteision materol eraill iddynt eu hunain, eu teulu neu eu ffrindiau. Rhaid iddynt ddatgan a datrys unrhyw fuddiannau neu berthynas.
Gwrthrychedd
Rhaid i ddeiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau yn ddiduedd, yn deg ac ar sail haeddiant, gan ddefnyddio'r dystiolaeth orau a heb wahaniaethu na rhagfarnu.
Atebolrwydd
Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i'r cyhoedd am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd a rhaid iddynt oddef pa bynnag graffu sy'n briodol i'w swydd.
Bod yn agored
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau mewn modd agored a thryloyw. Ni ddylai gwybodaeth gael ei chadw rhag y cyhoedd oni bai bod rhesymau clir a chyfreithlon dros wneud hynny.
Gonestrwydd
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod yn onest.
Arweinyddiaeth
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus ymddwyn yn unol â'r egwyddorion hyn. Dylent hyrwyddo a chefnogi'n gadarn yr egwyddorion a dylent fod yn barod i herio ymddygiad gwael pan fo'n digwydd.
