Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu y bydd yr Adolygiad ar Wariant eleni yn cynnwys toriadau pellach i gyllideb Cymru. Fel rhan o'n paratoadau, byddaf yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol ar y gyllideb ledled Cymru dros yr Haf. 

Mae taith 2015 yn dechrau yn Aberystwyth ar 18 Mehefin, lle byddaf yn cwrdd â staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, awdurdodau lleol, prentisiaid ifanc sy'n gweithio yn ardal Aberystwyth a chynrychiolwyr o gymdeithasau tai a'r trydydd sector. Mae rhagor o gyfarfodydd ac ymweliadau wedi'u trefnu rhwng mis Gorffennaf a mis Medi a chânt eu cynnal ledled Cymru ar y dyddiadau canlynol:

2 Gorffennaf  - Cyffordd Llandudno
16 Gorffennaf  - Caerdydd
23 Gorffennaf - Abertawe
3 Awst - Y Drenewydd
9 Medi  - Cyffordd Llandudno
10 Medi  - Merthyr Tudful

Mae'r rhagolygon ariannol yn parhau i edrych yn heriol, felly mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn manteisio ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael a datblygu'r hyn sy'n gweithio'n dda.  Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith ymgysylltu sydd wedi digwydd gyda staff o awdurdodau lleol, y maes iechyd, tai a'r trydydd sector; mae wedi bod yn hanfodol wrth reoli'r toriadau hyd yma. Byddaf yn manteisio unwaith eto ar brofiad uniongyrchol ein partneriaid a'r rheini sy'n defnyddio'r gwasanaethau rydym yn eu darparu, i helpu i lywio ein paratoadau ar gyfer Cyllideb 2016-17. Byddaf hefyd yn defnyddio'r Daith i baratoi ar gyfer gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn llawn, a fydd yn dylanwadu ar ein gwaith ar Gyllidebau yn y dyfodol.

Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar Daith y Gyllideb 2015 yn y Cyfarfod Llawn, ar 23 Mehefin.