Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o'r cynnig

Mae'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) yn cael ei dapro o 2026 a'i gau ar 31 Rhagfyr 2028. Mae'r pontio hwn yn rhan o symudiad Llywodraeth Cymru i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys tapro taliadau blynyddol, cau'r cynllun Taliad Ffermwyr Ifanc i hawlwyr newydd, newidiadau i i drosglwyddo a phrydlesu hawliau BPS gyda thir yn unig, a chau Cronfeydd Wrth Gefn Cenedlaethol a Rhanbarthol ar gyfer hawliau BPS newydd. Nod y mesurau hyn yw cefnogi'r pontio o BPS i'r SFS rhwng 2026 a 2029.

Asesiad o’r Effeithiau

Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant

Nid yw'r cynnig yn effeithio'n uniongyrchol ar hawliau plant. Fodd bynnag, rhoddwyd sylw dyledus i ddyletswyddau statudol Llywodraeth Cymru o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Gall tapro a chau BPS gael effeithiau amrywiol ar wahanol fathau o ffermydd a chymunedau gwledig. Gall ffermydd bach a ffermydd yr ucheldir wynebu mwy o bwysau ariannol, a allai effeithio'n anuniongyrchol ar ganlyniadau cydraddoldeb. Nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol ar gydraddoldeb wedi'u nodi. Bydd yr SFS yn darparu cymorth fferm yn ei le o 2026 ymlaen.

Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg

Bydd holl ddogfennau a deunydd cyfathrebu'r cynllun ar gael yn ddwyieithog, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.

Asesiad o’r Effaith ar yr Economi

Disgwylir i dapro taliadau'r BPS leihau incwm busnesau fferm y rheini sy'n hawlio BPS, os na fyddant yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael trwy'r SFS.
Amcangyfrifir gostyngiad o £28.7m o dan y senario o 80% a £57.4m o dan y senario o 60%. Gallai Incwm Cyfanredol Busnes Fferm (FBI) ostwng 9.6% a 19.3% yn y drefn honno. Bydd effeithiau ailddosbarthu yn amrywio yn ôl y math o fferm, gan ddibynnu ar ei dibyniaeth ar BPS.

Yn gyffredinol, bydd cyllideb BPS a'r SFS Cyffredinol yn aros heb ei newid ar gyfer 2026. Disgwylir i gyllid newydd Cynllun Cyffredinol yr SFS yn 2027 liniaru'n sylweddol yr effaith economaidd gyffredinol ar y diwydiant.

Asesu'r Effaith ar yr Amgylchedd

Ni ddisgwylir newidiadau sylweddol mewn defnydd tir, stocio na mewnbynnau maetholion o dan y senarios tapro. Mae rheoliadau CoAP eisoes yn gostwng y defnydd o wrtaith nitrogen a thail gwartheg godro.

Prawfesur Gwledig

Mae'r BPS yn gynllun cymorth uniongyrchol i ffermwyr ac felly o fudd i gymunedau gwledig. Mae'r polisi i dapro a chau'r BPS wedi'i gynllunio i gefnogi'r pontio i'r SFS, sy'n cynnwys haenau cymorth cyffredinol, opsiynol a chydweithredol o 2026 ymlaen.

Ymgynghori

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 ar ddyfodol cymorth amaethyddol yng Nghymru. Roedd rhanddeiliaid gan gynnwys undebau ffermio, sefydliadau amgylcheddol a chymunedau gwledig yn cefnogi'r pontio graddol a'r egwyddorion sy'n sail i'r fframwaith cymorth newydd. Dylanwadodd yr adborth ar y mecanwaith tapro, cau'r Gronfa Genedlaethol, cyfyngu ar hawliadau newydd am y taliad Ffermwyr Ifanc a chyfyngiadau ar drosglwyddo hawliau.

Monitro ac adolygu

Argymhellir cynnal adolygiad dair blynedd ar ôl gweithredu'r tapro i asesu effaith y pontio i'r SFS. Bydd y monitro yn canolbwyntio ar y nifer sy'n ymuno â'r SFS, ei berfformiad amgylcheddol, gwytnwch ffermydd a hyfywedd economaidd. Dylid defnyddio data sylfaenol o'r Platfform Modelu Integredig (IMP), yr arolwg Busnes Fferm a metrigau cofrestru'r SFS.