Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol 22 Medi 2025: cofnodion
22 Medi 2025, 10.30am to 12.30pm, Parc Busnes Penllergaer, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Abertawe (Cyfarfod Hybrid).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Eitem 1 ar yr agenda: croeso/sylwadau agoriadol
- Croesawodd y Prif Weinidog y rhai oedd yn bresennol i wythfed cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC). Cadarnhaodd fod yr aelodau wedi derbyn copi o Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol Gweinidogion Cymru 2024 i 2025 a oedd wedi’i osod gerbron y Senedd. Rhoddodd y Prif Weinidog drosolwg o'r agenda, gan gadarnhau y byddai'n gadael ar ôl eitem 2 ac y byddai'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedyn yn cadeirio gweddill y cyfarfod. Cadarnhaodd hefyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn bresennol ar gyfer eitem 3 ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-7.
Eitem 2 ar yr agenda: strategaeth ddiwydiannol y DU
- Esboniodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at lunio Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a bod Cymru mewn sefyllfa dda i elwa o'r cyfleoedd a gyflwynai. Cadarnhaodd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar hyn o bryd yn ystyried sut i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru fel y gallai eu barn helpu i lunio safbwynt cydlynol i’w gyfleu yn ôl i Lywodraeth y DU ar anghenion busnesau Cymru. Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn croesawu adborth gan aelodau er mwyn llywio'r trafodaethau hyn a phwysleisiodd bwysigrwydd defnyddio iaith glir i gyfleu’r cynnydd i’r partneriaid cymdeithasol.
- Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod swyddogion hefyd yn parhau i fod yn ymwneud â datblygu'r wyth cynllun sector twf, gan nodi cryfderau a rhannu gwybodaeth i sefydlu pa fuddsoddiadau yn seiliedig ar leoedd oedd yn allweddol i ysgogi twf economaidd yng Nghymru. Dywedodd fod sgyrsiau cynnar gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi canolbwyntio ar flaenoriaethau cyffredin ar gyfer twf economaidd i hybu cynhyrchiant a chyfleoedd i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru. Tynnodd sylw at bwysigrwydd adeiladu ar fomentwm yr ymgysylltiad hwn a chadarnhaodd y byddai uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnal ar 1 Rhagfyr gyda ffocws ar gryfderau sectorol fel yr amlinellir yn y strategaeth.
- Cyfeiriodd Shavanah Taj (TUC Cymru) at rwystredigaeth y sector preifat ac undebau llafur yng Nghymru ynglŷn ag ymgysylltu â'r Strategaeth Ddiwydiannol. Tynnodd Shavanah sylw at yr angen i gysoni gweithgarwch y Strategaeth gyda Strategaeth Sgiliau Llywodraeth Cymru, gan bwysleisio ei bod yn bwysig bod pobl yn deall y llwybrau at dwf a chreadigaeth swyddi yng Nghymru er mwyn creu ymdeimlad o obaith i weithwyr.
- Cefnogodd Janis Richards (Busnes) bwynt olaf Shavanah a soniodd a yr angen i ddatblygu’r gwaith cyfathrebu i ddangos sut y byddai’r Strategaeth yn gweithio yng Nghymru ar gyfer y gynulleidfa gyhoeddus.
- Cefnogodd Russell Greenslade (Busnes) y sylwadau blaenorol hefyd a phwysleisiodd bwysigrwydd datblygu map ffordd i fusnesau i'w helpu i ddeall beth fyddai'r Strategaeth yn ei olygu iddyn nhw.
- Roedd y Fonesig Elan Closs-Stephens (Cyrff Cyhoeddus) yn deall yr angen i dargedu yng Ngham 1 y Strategaeth ond anogodd yr aelodau i beidio ag anghofio anghenion penodol cymunedau gwledig ar gyfer Cam 2 lle’r oedd effaith lefelau uchel o dlodi parhaus yn cael eu profi.
- Cydnabu’r Prif Weinidog yr ansicrwydd ynglŷn â'r Strategaeth Ddiwydiannol a chefnogodd alwadau am fap ffordd. Eglurodd fod manylion y Strategaeth yn dal i gael eu hystyried ond pwysleisiodd bwysigrwydd ei defnyddio i gefnogi polisïau presennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â sgiliau. Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod strategaeth gweithlu wedi'i datblygu ar gyfer pob maes blaenoriaeth i ymateb i brinder sgiliau ac y byddai cynllun ymgysylltu yn cael ei ddarparu i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol maes o law.
Cam Gweithredu: Swyddogion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun ymgysylltu pan fydd ar gael.
Eitem 3 ar yr agenda: cyllideb ddrafft 2026 i 2027
- Cyflwynodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, gan esbonio y byddai'n sôn wrth yr aelodau am ymagwedd Llywodraeth Cymru at Gyllideb Ddrafft 2026-7 fel rhan o’r gwaith o gyflawni Dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol Gweinidogion Cymru.
- Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yr heriau o basio Cyllideb 2026-7 trwy'r Senedd a'r angen i roi sicrwydd i wasanaethau cyhoeddus wrth fynd ymlaen i'r tymor nesaf ar ôl etholiad mis Mai. Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet beth fyddai’r canlyniadau os yw’r Senedd yn methu â phasio cyllideb a fyddai’n golygu toriad o 25% i’r lefelau dyrannu presennol (a ddiffinnir yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998) gan effeithio’n sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus a swyddi.
- Esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet mai bwriad y Llywodraeth oedd gosod cyllideb wedi'i hailddatgan, gyda chynnydd o 2% gerbron y Senedd a chydnabu'r heriau a gyflwynwyd gan hyn. Cadarnhaodd y byddai'r gyllideb wedi'i hailddatgan hefyd yn gadael cyllid canlyniadol newydd gan Lywodraeth y DU heb ei wario gan na fyddai cytundeb wedi bod ar sut y byddai'n cael ei ddyrannu. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn parhau i fod yn agored i weithio gyda phleidiau eraill i wireddu cyllideb fwy uchelgeisiol ond nododd mai'r brif flaenoriaeth oedd osgoi'r difrod a fyddai’n cael ei achosi gan fethu â phasio cyllideb o gwbl.
- Roedd yr Aelodau’n cydnabod y sefyllfa heriol a wynebai Lywodraeth Cymru a chynigiwyd yr ymatebion canlynol:
- Amlinellodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Llywodraeth Leol) yr heriau roedd ansicrwydd o'r fath yn eu creu ar gyfer gosod cyllidebau awdurdodau lleol yr oedd angen iddynt fod ar waith erbyn diwedd mis Mawrth.
- Pwysleisiodd Jess Turner (Unsain) yr effaith negyddol y byddai cyllideb a fethodd yn ei chael ar wahanol sectorau. Mynegodd Jess rwystredigaeth am y posibilrwydd na fydd cyllid canlyniadol heb ei wario ar gael a gofynnodd a allai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gael diweddariadau am y mesurau lliniaru sy'n cael eu cynllunio ar gyfer Llywodraeth Leol a sectorau eraill i reoli effaith cyllideb wedi'i hailddatgan. Gofynnodd hefyd a oedd Cymru'n derbyn cyllid teg o dan Fformiwla Barnett.
- Mynegodd Gareth Lloyd (UCU) hefyd rwystredigaeth am y posibilrwydd na fydd cyllid canlyniadol heb ei wario ar gael a gofynnodd beth fyddai'n digwydd pe bai cyllideb wedi'i hailddatgan yn cael ei phasio.
- Esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet y gellid cael mynediad at y cyllid canlyniadol, neu ran ohono, ar gyfer opsiwn Cyllideb Ailddatganedig a mwy ond y byddai hyn yn gofyn am gymeradwyaeth y Senedd. Nid oedd yn teimlo bod Cymru'n derbyn dyraniad teg ar hyn o bryd o dan Fformiwla Barnett a phwysleisiodd bwysigrwydd trosglwyddo cyllideb weithredol ar gyfer tymor nesaf y Senedd. Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith y byddai'r gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sectorau eraill wedi'i gwblhau, y byddai diweddariad yn cael ei roi i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i ddangos pa fesurau lliniaru oedd ar y gweill pe bai Cyllideb wedi'i hailddatgan.
- Roedd y partneriaid cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd creu sefydlogrwydd a dywedasant y byddent yn pwysleisio’r effaith pe bai’r Senedd yn methu â phasio cyllideb trwy eu rhwydweithiau.
- Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet y broses o osod y Gyllideb, gan esbonio ei bod wedi'i dwyn ymlaen o 5-6 wythnos fel bod mwy o amser ar gael ar gyfer trafodaethau gydag aelodau'r Senedd cyn ei diddymu pe na bai cyllideb wedi'i hailddatgan yn cael ei phasio.
- Argymhellodd Jess Turner fod datganiad o gyngor yn cael ei baratoi gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn pwysleisio pa mor bwysig yw pasio'r Gyllideb gyda barn yr aelodau o'r cyfarfod hwn wedi ei gynnwys. Awgrymodd Jess y gallai TUC Cymru gynhyrchu drafft cyntaf i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ei ystyried.
- Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i Jess Turner am yr awgrym hwn a chadarnhaodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol y byddai TUC Cymru yn darparu drafft cyntaf o'r datganiad i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol er mwyn cytuno arno.
Cam Gweithredu: Unwaith y bydd y gwaith gyda rhanddeiliaid wedi'i gwblhau, dylai swyddogion Llywodraeth Cymru roi diweddariad i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn dangos pa fesurau lliniaru sy'n cael eu cynllunio pe bai Cyllideb wedi'i hailddatgan yn cael ei phasio.
Cam Gweithredu: TUC Cymru i ddarparu drafft cyntaf o ddatganiad o gyngor yn pwysleisio pa mor bwysig yw pasio Cyllideb 2026-27 i holl aelodau'r Pwyllgor Cynllunio Strategol gytuno arno.
Eitem 4 ar yr Agenda: diweddariad am y Gweithgor ar Waith Teg mewn Grantiau Busnes
- Atgoffodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yr aelodau fod Ben Cottam (Busnes) bellach wedi ymddiswyddo o'i sedd yn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac felly nid oedd bellach yn gyd-gadeirydd y Gweithgor ar Waith Teg mewn Grantiau Busnes. Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Grŵp wedi cyfarfod ar 17 Medi ar gyfer cyflwyniad gan Lywodraeth yr Alban am eu rhaglen Gwaith Teg yn Gyntaf ac y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym mis Hydref. Gwahoddodd Shavanah Taj, a gadeiriodd gyfarfod olaf y Gweithgor yn absenoldeb Ben Cottam a Peter Hughes, i ddiweddaru'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
- Cadarnhaodd Shavanah Taj fod cyflwyniad Llywodraeth yr Alban wedi amlinellu eu taith o wreiddiau eu rhaglen Gwaith Teg yn Gyntaf hyd at ei fersiwn gyfredol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd. Dywedodd Shavannah fod hyn wedi dechrau yn gyntaf fel ymrwymiad gwirfoddol gan sefydliadau ar draws sawl elfen o waith teg, yna fel ymrwymiad cadarn gan sefydliadau a ariennir gan grantiau, nes o'r diwedd roedd y Cyflog Byw a Llais y Gweithiwr wedi dod yn elfennau amodol o gyllid y llywodraeth i bob sefydliad yn yr Alban o 2019 ymlaen.
- Dywedodd Shavannah fod y sesiwn wedi cynnig myfyrdodau defnyddiol ar y dull a gymerwyd gan yr Alban ac, ynghyd â'r dystiolaeth o werthuso'r Contract Economaidd, fod sylfaen ar gyfer symud o gasglu tystiolaeth i drafod y camau nesaf yng Nghymru. Cadarnhaodd y byddai'r cyfarfod nesaf yn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd hyd yma cyn cynhyrchu cyngor i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ei ystyried yn gynnar y flwyddyn nesaf. Canmolodd Shavanah y dull hyblyg sy'n cael ei fabwysiadu o fewn y Gweithgor a oedd wedi caniatáu i'r cynnydd da gael ei wneud.
- Diolchodd y Gweinidog i Shavanah am ei diweddariad.
Eitem 5 ar yr agenda: cynnig ar gyfer y camau nesaf ar AI
- Atgoffodd y Gweinidog yr aelodau bod AI wedi cael ei drafod sawl gwaith yn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ond nad oedd maes gweithgaredd penodol wedi'i nodi. Dywedodd fod gweithdy wedi'i gynnal ar 7 Gorffennaf gyda phartneriaid cymdeithasol i ystyried y mater ymhellach ac roedd hyn wedi nodi sgiliau AI fel maes ffocws defnyddiol. Eglurodd y Gweinidog y byddai'r dull hwn yn edrych ar ddosbarthiad sgiliau anwastad ar draws gwahanol fetrigau gan gynnwys rhanbarth, oedran, iaith a niwro-wahaniaeth er mwyn adeiladu dull moesegol. Pwysleisiodd hefyd gyflymder AI a'r angen i osgoi dyblygu gyda fforymau oedd eisoes yn bodoli.
- Dywedodd y Gweinidog fod y papur ar gyfer yr eitem hon (yn seiliedig ar drafodaethau gweithdai) yn cynnig paratoi cyngor ar y cyd ynglŷn â datblygu sgiliau AI yn y gweithle gan awgrymu tri maes posibl i'w hystyried: diffinio llythrennedd AI ar draws gwahanol lefelau’r gweithlu, datblygu gwell dealltwriaeth o degwch a chynhwysiant mewn uwchsgilio AI a datblygu dealltwriaeth gyffredinol o AI i'r gweithlu cyfan.
- Pwysleisiodd y Gweinidog ei fod yn awyddus i fwrw ymlaen â'r gwaith ond nid oedd yn credu bod amserlen cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn caniatáu digon o gyflymder. Eglurodd fod y papur yn ceisio cytundeb i sefydlu Grŵp Cyflawni (wedi'i gadeirio ar y cyd gan aelod undeb llafur ac aelod o blith cyflogwyr Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol) a fyddai'n cynhyrchu cyngor ar sgiliau gweithlu AI. Pwysleisiodd y Gweinidog y gellid dewis aelodaeth o'r Grŵp o rwydweithiau ehangach yr aelodau o ystyried yr ystod o bobl a allai fod â diddordeb neu arbenigedd a gwahoddodd farn am hyn.
- Pwysleisiodd Gareth Lloyd y gwahanol fathau o ddeallusrwydd artiffisial sy'n cael eu defnyddio gan gwmnïau. Rhybuddiodd Gareth fod rhai o'r rhain yn cael eu marchnata fel cynhyrchion moesegol ond rhybuddiodd bod angen bod yn ofalus am hyn. Pwysleisiodd yr angen am ymagwedd deg at ddefnyddio AI.
- Cyfeiriodd Russell Greenslade at y Grŵp Rhwydweithio Technegol ac AI sy'n cael ei ddatblygu gan y CBI (oherwydd galw gan fusnesau) a thynnodd sylw at y cysylltiadau defnyddiol y gellid eu gwneud rhwng y Grŵp hwn a'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Pwysleisiodd Russell hefyd gyflymder AI.
- Cyfeiriodd Shavanah Taj at y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar AI a gwerth cael Ysgol Fusnes Caerdydd yn bwydo i mewn i hyn yn ogystal â'r CBI a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.
- Pwysleisiodd Jess Turner yr angen i osgoi dyblygu ond teimlai bod y gwaith a gynigir yn y papur yn osgoi hyn, gan gynnig darn o waith y gellid ei fwydo yn ôl i fforymau fel y Grŵp Cynghori Gweinidogol.
- Tynnodd Janis Richards sylw hefyd at ba mor gyflym roedd AI yn symud a'r angen i osgoi dyblygu gyda fforymau eraill.
- Nododd y Fonesig Elan Stephens yr angen i fod yn rhagweithiol, gan sicrhau bod manteision AI yn cael eu gwireddu ac nad yw'r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio er mwyn gwneud arbedion i leihau'r gweithlu. Cadarnhaodd y Fonesig Stephens y byddai hyn yn cael ei drafod yn y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus.
- Gofynnodd y Gweinidog i'r aelodau a oeddent yn fodlon cytuno ar y papur ac os oeddent, i gynnig enwebiadau ar gyfer cyd-gadeirio'r Grŵp Cyflawni.
- Cadarnhaodd Ruth Brady (GMB) mai Jess Turner oedd enwebiad yr undebau llafur ac eiliwyd hyn gan Gareth Lloyd.
- Enwebodd Russell Greenslade ei hun fel cadeirydd arfaethedig ar gyfer ochr y cyflogwr ac eiliwyd hyn gan Janis Richards.
- Cadarnhaodd y Gweinidog Jess Turner a Russell Greenslade fel cyd-gadeiryddion Grŵp Cyflenwi AI Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a gofynnodd bod diweddariadau cynnydd ganddynt yn cael eu cynnwys ar gyfer pob cyfarfod o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn y dyfodol.
Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i sefydlu Grŵp Cyflenwi i edrych ar sgiliau AI.
Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i sicrhau bod diweddariadau gan y Grŵp Cyflenwi AI yn cael eu darparu yng nghyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.
Eitem 6 ar yr agenda: cofnodion/materion sy'n codi
- Dywedodd y Gweinidog bod saith o gamau gweithredu a gododd o gyfarfodydd blaenorol y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn dal i fynd rhagddynt, a rhoddodd amlinelliad ohonynt. Gofynnodd a oedd yr aelodau yn fodlon cytuno arnynt.
- Cytunodd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar y camau sy'n codi.
Eitem 7 ar yr agenda: cyfarfod nesaf, dyddiad a lleoliad
- Cadarnhaodd y Gweinidog mai 3 Rhagfyr fyddai dyddiad y cyfarfod nesaf a byddai'n rhithwir gan fod y cyfarfod hwn wedi'i gynnal wyneb yn wyneb. Gofynnodd i'r aelodau a oedd unrhyw broblemau ac ni chodwyd unrhyw beth.
Presenoldeb yn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: 22 Medi 2025
Cynrychiolwyr Gweithwyr
Shavanah Taj, TUC Cymru
Jess Turner, UNISON
Ruth Brady, GMB
Neil Butler, NASUWT
Gareth Lloyd, UCU
Peter Hughes, Unite
Cynrychiolwyr Cyflogwyr
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Llywodraeth Leol
Y Fonesig Elan Closs-Stephens, Cyrff Cyhoeddus
Russell Greenslade, Busnes
Nicola Prygodzicz, Iechyd
Janis Richards, Busnes
Kathryn Robson, Addysg Bellach
Llywodraeth Cymru
Eluned Morgan AS, Prif Weinidog
Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Sharon West, Diwygio'r Bartneriaeth Gymdeithasol
Liz Lalley, Polisi a Strategaeth Economaidd
Emma Watkins, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth
Jodye Kershaw, Polisi a Chyflawni Cyllideb
Liz Matthews, Polisi Cyllideb
Andrew Granville, Polisi Sero Net a Sgiliau Digidol
Arsylwyr
Llyr ap Gareth, FSB
Chris Llewellyn, WLGA
Bethan Collins, RCN
Ben Arnold, Higher Education
Ymddiheuriadau
Helen Whyley, RCNWales
Mike Walker, USDAW
Sian Boyles, PCS
Pippa Britton, Sector Gwirfoddol
Yr Athro Wendy Larner, Addysg Uwch
