Neidio i'r prif gynnwy

Cytunodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar benodi Cadeirydd ac aelodau newydd o'r Bwrdd Anweithredol Cymru Greadigol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru Greadigol, y rhan o Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gefnogi a thyfu sectorau creadigol Cymru, wedi cyhoeddi tri phenodiad newydd i'w Bwrdd Anweithredol. 

Mae'r Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam, wedi'i benodi'n Gadeirydd newydd ar Fwrdd Anweithredol Cymru Greadigol, tra bo Sara Peacock, Pennaeth Pwrpas Cymdeithasol S4C, a Maris Latham, Uwch Ddylunydd Creadigol yn Cowshed wedi'u penodi yn aelodau o'r bwrdd. 

Mae'r Bwrdd Anweithredol yn chwarae rôl gynghorol, gan gyflwyno argymhellion i Weinidogion a swyddogion ar gyfeiriad strategol Cymru Greadigol. Mae ei gylch gwaith yn cynnwys darparu arweinyddiaeth effeithiol, craffu ar safonau cyllid cyhoeddus, monitro perfformiad, a chynghori ar ymgysylltu â'r diwydiant a strategaethau marchnata. 

Penodiadau

Yr Athro Joe Yates, Cadeirydd

Yr Athro Yates yw Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam ac mae'n arweinydd uchel ei barch ym maes addysg uwch ac ymgysylltu dinesig. Mae ganddo brofiad helaeth ym maes llywodraethiant a thrawsnewid strategol, gan hyrwyddo creadigrwydd er mwyn sbarduno twf economaidd a diwylliannol.

Sara Peacock, Aelod o'r Bwrdd

Sara Peacock sy'n arwain strategaeth pwrpas cymdeithasol S4C, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth, cynaliadwyedd a datblygu'r sector. Mae ei chefndir yn rhychwantu cerddoriaeth, cyhoeddi a chynllunio iaith, gydag ymrwymiad cryf i gyfiawnder cymdeithasol a ffyniant cymunedol.

Maris Latham, Aelod o'r Bwrdd

Mae Maris Latham yn Uwch Ddylunydd Creadigol yn Cowshed, gydag arbenigedd mewn brandio a datblygu ymgyrchoedd ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hi'n angerddol am ddylunio sy'n cyflawni effaith gadarnhaol ac mae'n mentora doniau creadigol i'r dyfodol.

Meddai Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

"Mae gan Cymru Greadigol swyddogaeth allweddol wrth gefnogi a thyfu diwydiannau creadigol Cymru. Mae gan yr Aelodau newydd hyn wybodaeth a phrofiad eithriadol, a byddant yn cyfrannu at sicrhau bod creadigrwydd yn parhau i fod yn gonglfaen i economi a diwylliant Cymru."