Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

O 25 Tachwedd, bydd bydwragedd yn dechrau helpu teuluoedd yn ardaloedd Dechrau'n Deg i gofrestru ar gyfer Bwndel Babi, mewn apwyntiadau cynenedigol, pan fydd y rhiant rhwng 25 a 28 wythnos o feichiogrwydd. Bydd y Bwndeli Babi cyntaf yn cael eu dosbarthu i deuluoedd o ddechrau mis Chwefror 2026.

Mae Bwndel Babi yn cynnwys eitemau hanfodol i gefnogi rhieni newydd a'u babanod, fel dillad 0-6 mis, blancedi, thermomedr, llyfr dwyieithog a mat chwarae. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynghylch rhaglenni cymorth a magu plant. 

Ar 3 Tachwedd, ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, cyfarfûm â swyddogion o APS, prif gyflenwr y rhaglen Bwndeli Babi, ac â rhai o isgontractwyr APS sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Roedd ansawdd rhagorol cynnwys y bwndel wedi creu argraff arnaf. Roedd hefyd yn galonogol clywed am yr effaith gadarnhaol y mae'r rhaglen yn ei chael wrth greu a chynnal cyflogaeth leol.

Ers mis Medi, mae bydwragedd ledled Cymru wedi bod yn rhoi gwybod i deuluoedd cymwys am y rhaglen yn ystod apwyntiadau cynenedigol 16 wythnos. Bydd bydwragedd hefyd yn gallu cofrestru nifer cyfyngedig o rieni newydd ar gyfer y rhaglen sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, ond sydd angen cymorth arbennig arnynt. 

Gan fod costau byw yn parhau i fod yn uchel, mae llawer o deuluoedd yn dal i wynebu anawsterau wrth dalu am hanfodion y cartref, fel bwyd a gwres. Mae targedu buddsoddiad nid yn unig yn helpu teuluoedd i leihau costau hanfodol ond hefyd yn cryfhau ein heconomi leol ac yn cefnogi ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â thlodi plant.

Yn ogystal, mae'r rhaglen Bwndeli Babi yn helpu i sicrhau manteision economaidd i Gymru. Drwy weithio mewn partneriaeth â chyflenwyr a mentrau cymdeithasol yng Nghymru, mae'r rhaglen yn creu a chynnal swyddi a phrentisiaethau, yn cefnogi cyflogaeth gynhwysol, ac yn ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi teuluoedd ledled Cymru, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Edrychaf ymlaen at roi diweddariad pellach ichi yn y flwyddyn newydd.