Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers iddo ddod yn weithredol ym mis Ionawr 2013, mae Busnes Cymru wedi helpu i greu bron 9,000 o swyddi ac i ddiogelu 2,300 o swyddi eraill. Mae wedi helpu hefyd i greu dros 6,580 o fusnesau newydd yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw.

Sefydlais wasanaeth Busnes Cymru er mwyn ei gwneud yn haws i fusnesau a darpar entrepreneuriaid yng Nghymru gael gafael ar yr wybodaeth, y cyngor a’r cymorth y mae eu hangen arnynt er mwyn dechrau eu busnesau a’u datblygu ymhellach. Erbyn hyn, mae Busnes Cymru wedi hen ennill ei blwyf fel ‘siop un stop’ ar gyfer unigolion sydd am ddechrau busnes, a hefyd ar gyfer mentrau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru sy’n awyddus i weld eu busnesau’n tyfu.

Mae tair prif ffordd o fanteisio ar wasanaethau Busnes Cymru:

  1. Ar-lein drwy www.busnes.cymru.gov.uk a thrwy’r ddarpariaeth sydd ganddo ar y cyfryngau cymdeithasol; 
  2. Drwy linell gymorth dros y ffôn - 03000 6 03000; a
  3. Drwy rwydwaith o ganolfannau ledled Cymru.

Mae Busnes Cymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor eang sy’n amrywio o wasanaethau cynllunio busnes i gyngor ar farchnadoedd allforio newydd a sut i gael gafael ar gyllid.  

Yn ogystal â helpu i greu swyddi, mae Busnes Cymru, drwy ei rwydwaith o gynghorwyr, wedi rhoi cyngor i dros 15,300 o BBaChau, wedi rhoi gwybodaeth i dros 35,800 o fusnesau eraill a’u cyfeirio at wasanaethau eraill. Mae hefyd wedi cynorthwyo 25,800 o unigolion.

Mae Busnes Cymru wedi delio â dros 62,500 o ymholiadau drwy’r Llinell Gymorth, ac ymwelwyd â’i wefan bron miliwn o weithiau. Mae hefyd, drwy’r ddarpariaeth sydd ganddo ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi cyrraedd dros 58,000 o ddilynwyr. Yn ogystal, mae ei chwaer wasanaeth ‘GwerthwchiGymru’ bellach yn rhoi help llaw i bron 33,000 o gyflenwyr o Gymru i gystadlu am gyfleoedd i ennill contractau gyda’r gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’n dda gweld y cyfraniad y mae Busnes Cymru  yn ei wneud i’r economi yn ei chyfanrwydd. Yn ôl data diweddaraf StatsCymru, mae 231,110 o fusnesau yng Nghymru erbyn hyn, o gymharu â 219,410 yn 2013. Ac yn 2013 hefyd, o gymharu â’r flwyddyn gynt, gwelwyd cynnydd o 37% yn nifer y busnesau cofrestredig (h.y. ar gyfer TAW neu’r Cynllun Talu wrth Ennill) newydd sbon.

Er bod hyn oll yn galonogol iawn i economi Cymru, mae angen inni barhau i ymateb yn gyflym i sefyllfaoedd anodd. Dyna pam, pan fethodd y cytundeb i brynu Purfa Olew Murco, y lansiais i Grant Buddsoddiad Cyfalaf Busnes Cymru gwerth £500k ar gyfer BBaChau, yn ychwanegol at gylch arall o Gronfa Twf Economaidd Cymru, fel y bo modd creu a diogelu swyddi ym Musnesau Bach a Chanolig Sir Benfro. Trefnwyd hefyd fod Busnes Cymru yn agor man cyswllt yn Aberdaugleddau er mwyn i’r busnesau yr effeithiwyd arnynt fedru cael gafael ar y cyngor a’r cymorth perthnasol.

Rwyf yn hynod falch o’r cynnydd y mae Busnes Cymru wedi’i wneud yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ond rwyf i a Chadeirydd y Bwrdd Cynghori, Robert Lloyd Griffiths (Cyfarwyddwr Wales IoD), a James Taylor (Rheolwr Gyfarwyddwr SuperStars – y Panel Entrepreneuriaeth) yn llwyr gydnabod bod angen  parhau i wella ansawdd y gwasanaeth a gynigir i BBaChau ac i entrepreneuriaid, ac i sicrhau hefyd fod y gwasanaeth hwnnw ar gael i gynifer ag y bo modd. Byddaf, yn ystod y misoedd nesaf, yn mynd ati’n rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am strategaeth gyflawni Busnes Cymru at y dyfodol, a fydd yn cael ei gefnogi gan gronfeydd strwythurol yr UE. Bydd hyn yn cynnwys yr Adolygiad Parod i Fenthyca a fydd yn cael ei gynnal gan Robert Lloyd Griffiths, mwy o sylw i fusnesau twf, a gwaith Llywodraeth Cymru i wella’r amgylchedd busnes yng Nghymru, gan gynnwys cydweithio â Sefydliad Technoleg Massachusetts ar ein strategaeth a’n ffordd o weithredu yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n gwbl ymrwymedig i gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid Cymru ac i weithio gyda nhw i’w helpu i ddechrau a datblygu busnesau a chreu swyddi yng Nghymru.