Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn lansio Cais am Dystiolaeth, gan ofyn i bobl leisio barn a chyflwyno tystiolaeth ategol ynghylch sut i sicrhau bod rhagor o fenywod a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn gwasanaethu ar Fyrddau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.  
 
Mae sicrhau mwy o amrywiaeth ar Fyrddau yn y Sector Cyhoeddus yn un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru. Rwyf yn bendant  o’r farn bod mwy o amrywiaeth ar fyrddau yn arwain at well penderfyniadau. O fanteisio ar yr holl ddoniau sydd ar gael inni, byddwn ni i gyd yn gwneud yn well, ac yn cyflawni mwy.

O weithredu mewn modd penderfynol, a pharhau i wneud hynny, gallwn symbylu newid a sicrhau mwy o amrywiaeth ar Fyrddau yn y Sector Cyhoeddus er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchiad gwell o’r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Bydd y Cais hwn am Dystiolaeth yn rhoi inni’r sylfaen dystiolaeth gref y bydd ei hangen arnom er mwyn gweithredu yn y dyfodol, a gallai’r camau gweithredu hynny gynnwys deddfwriaeth.  

Bydd yn hoelio sylw at yr heriau a’r rhwystrau sy’n ein hwynebu wrth geisio sicrhau bod rhagor o fenywod a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn gwasanaethu ar Fyrddau yn y Sector Cyhoeddus. Bydd yn ystyried hefyd a allai targedau i ymgyrraedd atynt a chwotâu fod yn fodd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sydd ohoni.  

Drwy weithredu yn hyn o beth, byddwn yn creu Cymru decach, ac yn sicrhau nad yw pobl yn cael eu dal yn ôl oherwydd eu rhyw a/neu eu cefndir. Byddwn yn sicrhau hefyd fod cyrff cyhoeddus yn adlewyrchiad tecach o’n cymdeithas drwyddi draw.  

Rwyf yn awyddus i glywed barn ein rhanddeiliaid. Rwyf am annog sefydliadau ac unigolion i gymryd rhan yn yr ymarfer hwn er mwyn gwella’n dealltwriaeth ac er mwyn inni fedru ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth sydd gennym.

Atodir y Cais am Dystiolaeth i’r datganiad hwn. Mae ynddo ragor o wybodaeth am yr hyn sydd gennym mewn golwg ac am sut i ymateb, ac mae i’w weld ar wefan Llywodraeth
Cymru

Bydd yr Gais am Dystiolaeth yn para 8 wythnos tan 27 Tachwedd 2015.

Byddaf yn mynd ati’n rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y gwaith hwn, gan wneud datganiad am hynt y gwaith yn gynnar yn 2016 er mwyn amlinellu’r canfyddiadau.