Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ym mis Hydref 2024, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ynghylch camau i leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth ar gyfer staff addysg. Rwyf bellach mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y cynnydd.
Dros y 18 mis diwethaf, mae'r Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol, grŵp o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r system, wedi parhau â'i waith i nodi a gweithredu newidiadau i leihau'r llwyth gwaith ar gyfer ein gweithlu ysgolion. Canolbwyntiodd ei dri gweithgor ar Gyllid; Datblygu a Gweithredu Polisi; ac Adrodd ac Ymgysylltu. Mae'r Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol bellach wedi cwblhau ei waith, ac mae'r cadeirydd annibynnol, Anna Brychan, Deon Cynorthwyol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ac i wneud cyfres o argymhellion.
Rwy'n derbyn yr holl argymhellion y mae Anna wedi'u gwneud ac yn cydnabod eu pwysigrwydd o ran datblygiad a chyfeiriad y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg.
Mae llythyr Anna Brychan a'm hymateb innau ynghlwm.
