Bydd yr adroddiad hwn yn archwilio dealltwriaeth SMEs o'u cyfrifoldebau cyfreithiol, ymwybyddiaeth o arferion gweithle cynhwysol, canfyddiad o gyflogi pobl anabl a'u barn ar gynlluniau cymorth Llywodraeth.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
- Roedd yr adroddiad hwn yn anelu at archwilio rhai o'r rhwystrau i gyflogaeth a wynebir gan bobl anabl yng Nghymru gyda chyflogwyr o fentrau bach i ganolig (SMEs). Nododd y canfyddiadau anghyfartaledd amlwg rhwng sefydliadau yn seiliedig ar eu gweithgaredd busnes, trothwy ariannol, a maint.
- • Roedd sefydliadau mwy, megis y rhai gyda 10 o weithwyr neu fwy a'r rhai sydd â throsiant ariannol uchel, yn fwy tebygol o gyflogi pobl anabl. Roeddent hefyd yn dangos mwy o ymwybyddiaeth o bolisi a deddfwriaeth berthnasol yn ogystal â mwy o gyfranogiad â chynlluniau cymorth llywodraethol.
- Roedd ymwybyddiaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn isel yn gyffredinol.
- Cytunodd mwyafrif y cyfranogwyr bod eu busnes yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl a bod eu busnes yn darparu cyfleoedd cyfartal i weithwyr anabl i gynnydd. Gyda llai na hanner y cyfranogwyr yn ystyried bod eu harferion gweithio presennol yn gynhwysol i bobl anabl. Yr oedd hyn yn amrywio'n sylweddol yn ôl y rhanbarth, maint, a throsiant ariannol y sefydliad, gyda busnesau mwy a rhai sy'n seiliedig yng Ngorllewin De Cymru yn gyffredinol yn ystyried eu hunain yn fwy cynhwysol ar draws y tri datganiad.
- Mae mwy na hanner sefydliadau yn cysylltu cyflogi pobl anabl â manteision sy'n ymwneud ag amrywiaeth a delwedd fasnachol positif
- Mae mwy na hanner sefydliadau yn cysylltu cyflogi pobl anabl â heriau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch
- Nid oedd llawer o sefydliadau yn ymwybodol o'r cymorth cyfredol gan y llywodraeth sydd ar gael iddynt. Pan ofynnwyd am y math o gymorth gan y llywodraeth yr hoffent ei dderbyn, yn gyffredinol y math o gymorth mwyaf a oedd yn cael ei geisio oedd cymorth i ddeall anghenion gweithwyr anabl.
Adroddiadau
Rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl anabl , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 668 KB
PDF
668 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
