Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Fel rhan o weledigaeth ddiwygiedig a gyhoeddwyd heddiw, mae plant a phobl ifanc wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi nad ydyn nhw byth yn colli eu Cymraeg oherwydd eu bod wedi gorfod cael eu derbyn i ofal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Datganiad yr Uwchgynhadledd Diwygio Radical, a lofnodwyd gan Lysgenhadon Ifanc sydd â phrofiad o ofal ochr yn ochr â'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden, yn nodi sut y dylai gwasanaethau gofal plant yng Nghymru edrych a beth dylent eu darparu.

Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd eisoes i roi sylw i anghenion iaith y plentyn ac mae llofnodi'r datganiad heddiw yn pwysleisio ac yn cryfhau pwysigrwydd hyn yn y dyfodol.

Mae'r diwygiadau'n gwarantu y bydd hawl pobl ifanc i'w hiaith a'u diwylliant bob amser yn cael ei pharchu drwy gydol eu taith ofal, gyda chyfleoedd i gymdeithasu ag eraill yn Gymraeg.

Gweithiodd Llysgenhadon Ifanc ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r weledigaeth, gan sicrhau bod diwygiadau'n adlewyrchu profiad byw.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae Llysgenhadon Ifanc sydd â phrofiad o ofal wedi siapio'r weledigaeth hon o'r gwaelod i fyny. Eu lleisiau, eu profiadau a'u syniadau nhw sydd wedi sbarduno pob pwynt yn y weledigaeth rydyn ni'n ei llofnodi heddiw i helpu i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru.

Rhan allweddol o hyn yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn aros yn eu cymunedau, wedi'u hamgylchynu gan eu rhwydweithiau a'u cysylltiadau. Mae gallu siarad yn Gymraeg yn hanfodol yn hyn o beth

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

I blant sy'n mynd i'r system ofal, mae meddwl am newid rhywbeth mor sylfaenol â'r iaith maen nhw'n ei defnyddio gartref yn golygu eu bod yn teimlo'n wahanol ar unwaith, ar un o'r adegau anoddaf yn eu bywyd.

Mae plant wedi dweud wrthym fod angen iddyn nhw allu siarad Cymraeg, gwneud ffrindiau yn Gymraeg, a theimlo'n gartrefol yn eu hiaith – ac rwy'n falch ein bod ni'n parhau i gefnogi hyn

Mae'r datganiad 56 pwynt yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod plant â phrofiad o ofal yn cael cyfleoedd addysgol cyfartal, cymorth iechyd meddwl pan fo angen, ac nad ydynt byth yn cael eu gwneud yn ddigartref pan fyddant yn gadael gofal.

Dywedodd Llysgennad Ifanc a Chyd-gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Voices From Care Cymru, Mellisa Goffin:

Rydyn ni’n falch iawn o gael cynrychioli'r gymuned sydd â phrofiad o ofal. Mae'r newidiadau rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw gyda Gweinidogion Cymru a'r Datganiad newydd rydyn ni’n ei lofnodi gyda'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn dangos bod proses yr Uwchgynhadledd yn gweithio. Mae Gweinidogion yn gwrando arnom ni ac yn gweithredu ar yr hyn rydyn ni'n ei ddweud wrthyn nhw. 

Ers yr Uwchgynhadledd gyntaf dair blynedd yn ôl mae rhai camau mawr wedi'u cymryd tuag at ddiwygio gwasanaethau yn radical. Rydyn ni’n falch o hynny ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio gyda ni, ond mae mwy i'w wneud o hyd