Demograffeg busnes: 2024
Data sy'n crynhoi gwybodaeth ar y nifer o enedigaethau a marwolaethau a stoc mentrau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW/PAYE ar gyfer 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2024 ac yn cyfeirio at fusnesau oedd yn weithredol rhwng Rhagfyr 2023 a Rhagfyr 2024.
Prif bwyntiau
Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2024 oedd 100,420. Roedd hyn yn ostyngiad o 1,795 o fentrau (1.8%) ar 2023 a gostyngiad o 1,195 o fentrau (1.2%) ers 2019.
Ers 2019, cynyddodd nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru nes cyrraedd uchafswm o 105,815 yn 2021, cyn gostwng yn raddol ers hynny.
Gwelwyd 10,105 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2024, sy'n gyfradd o 10.1%. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 11.1%.
Bu 9,710 o fentrau farw yng Nghymru yn ystod 2024, sef cyfradd o 9.7%. Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 9.8%.
Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2019 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2024 yng Nghymru oedd 38.1%, ychydig yn is na chyfradd oroesi’r DU o 38.4%.
Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2023 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2024 yng Nghymru oedd 93.2%, ychydig yn is na chyfradd oroesi'r DU o 93.4%.
Nodyn
Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.
Bydd y setiau data manwl ar StatsCymru yn cael eu diweddaru i gynnwys y data newydd maes o law.

