Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Ken Skates AS
  • Vikki Howells AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat i'r Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, y Prif Swyddog Gweithredu
  • Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Jodye Kershaw, Pennaeth Polisi a Chyflawni'r Gyllideb
  • Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Ariannol

Eitem 1: Pecyn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2026-2027

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog bawb i gyfarfod y Cabinet yn y Gogledd i drafod pecyn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2026-2027. Dyma oedd dechrau'r broses, a fyddai'n cynnwys trafodaethau â phleidiau eraill gan arwain at drafodaeth ar y Gyllideb Derfynol ar 27 Ionawr. Diolchodd y Prif Weinidog i bawb a gyfrannodd at y gwaith o baratoi dogfennau'r gyllideb, a gwahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gyflwyno'r papur.

1.2 Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet ar strategaeth ar gyfer cyllideb blwyddyn o hyd yn 2026-2027, i adlewyrchu'r ffaith y byddai Etholiadau i'r Senedd yn cael eu cynnal ym mis Mai. Roedd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus drwy ddyrannu 98.6% o'r cyllid sydd ar gael a byddai'n parhau â'r buddsoddiad a ddechreuwyd y flwyddyn flaenorol.

1.3 Yn unol â'r strategaeth, byddai pob Prif Grŵp Gwariant yn cael cynnydd o 2%, a byddai'r rhai sydd â chyfran fawr o gyflogau'r sector cyhoeddus yn cael cynnydd o 2.2%. Byddai nifer bach o ddyraniadau hefyd i ymdrin â rhai achosion eithriadol.

1.4 Yn ogystal, o ystyried y pryderon ynghylch cyllid Llywodraeth Leol, byddai cyllid gwaelodol ar gael unwaith eto, gyda chynnydd o 2.3% o leiaf ar gyfer pob Awdurdod Lleol.

1.5 Amlinellodd y papur y sefyllfa o ran trethi. Ni fyddai unrhyw newidiadau i Gyfraddau Treth Incwm Cymru.

1.6 Byddai'r Gyllideb Ddrafft amlinellol yn cael ei chyhoeddi ar 14 Hydref, a byddai trafodaeth ar ddatganiad yn y Senedd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, heb unrhyw bleidlais.

1.7 Croesawodd y Cabinet y papur, yn enwedig y deunydd ategol arfaethedig, a fyddai'n cynnwys yr Asesiad Effaith Strategol, gan amlinellu goblygiadau cronnol gwariant y Llywodraeth i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

1.8 Yn dilyn sylwadau gan Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet a nodi sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2025