Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ail adroddiad (Saesneg yn Unig) yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid-19 sydd wedi'i gyhoeddi heddiw. Dyma adroddiad sy'n archwilio proses gwneud penderfyniadau craidd pob un o bedair llywodraeth y DU. 

Cafodd y pandemig effaith ddwys ar bawb yng Nghymru. Rydym yn cydnabod y golled a'r dioddefaint enfawr a brofwyd gan deuluoedd mewn profedigaeth a phawb y newidiwyd eu bywydau gan Covid. Rydym yn parhau i feddwl amdanynt.

Yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2024, dros gyfnod o dair wythnos o wrandawiadau Modiwl 2B yng Nghymru, rhoddodd pedwar ar ddeg o dystion o Lywodraeth Cymru dystiolaeth lafar. Gwnaethom hefyd gyflwyno mwy na 70 o ddatganiadau tystion a rhannu miloedd o ddogfennau ar gyfer ymchwiliad y modiwl hwn.

Mae'r adroddiad yn disgrifio'n fanwl yr ymateb i'r pandemig yng Nghymru ac ar draws y DU.   Mae cyhoeddi'r adroddiad cynhwysfawr hwn yn gam pwysig arall tuag at ddeall a dysgu gwersi o ymateb Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig eraill a rhannau eraill o'r sector cyhoeddus.

Byddwn yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr ymchwiliad yn ofalus. Wrth lunio ein hymateb i'r argymhellion, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig fel y gwnaethom ar gyfer adroddiad Modiwl 1. Byddaf yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd ynghylch argymhellion Modiwl 1 ym mis Ionawr 2026. 

Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar adroddiad Modiwl 2ABC yn y Senedd ar 25 Tachwedd 2025.                                                                                                                                                                                                                                 Hoffwn ddiolch i gadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Hallett, a'i thîm am eu gwaith ac am yr adroddiad heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â'r ymchwiliad mewn modd cadarnhaol ac agored, a bydd yn parhau i wneud hynny wrth i'r cam casglu tystiolaeth barhau.