Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans, wedi croesawu cyhoeddiad heddiw (Dydd Gwener, 21 Tachwedd) mae de Cymru bydd yr Ardal Twf AI nesaf yn y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:
“Rwy’n falch iawn mae De Cymru bydd yr Ardal Twf AI ddiweddaraf yn y DU, gyda’r potensial i greu miloedd o swyddi newydd a denu biliynau o fuddsoddiad.
“Nawr gyda dwy Ardal Twf AI wedi’u cyhoeddi mewn wythnos, bydd Cymru wrth flaen y chwyldro AI byd-eang, wedi’i lleoli’n dda i fanteisio ar y cyfleoedd newydd cyffrous sydd ar gael i’n heconomi.
“Mae’r cyhoeddiad hwn, ychydig o ddyddiau cyn Wythnos Dechnoleg Cymru, yn dangos uchelgais Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau bod ein gwlad yn manteisio i’r eithaf ar fuddion AI a thechnoleg ddigidol.”
