Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heddiw rwy'n cyhoeddi ein Canllawiau Deddf Teithio Llesol wedi'u diweddaru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Rydym yn adolygu'r canllawiau hyn i wella ansawdd cynlluniau cerdded, olwyno a beicio, gan sicrhau eu bod yn hygyrch ac wedi'u cynllunio gyda chynhwysiant wrth eu gwraidd.
Mae ein dull o ddiweddaru'r canllawiau yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau a nodir yn "Teithio i Bawb", gyda'r nod o wneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Mae'r canllawiau diwygiedig drafft yn adlewyrchu adborth a gasglwyd gennym gan ddefnyddwyr y canllawiau cyfredol, tystiolaeth newydd, yn ogystal â newidiadau polisi a rheoleiddiol ers ei gyhoeddi yn wreiddiol.
Bwriad y diwygiadau arfaethedig yw:
- Gwella dyluniad dogfennau gwybodaeth trwy wella eglurder, fformatio, cynhwysiant a hygyrchedd y darnau
- Defnyddio iaith symlach sy'n fwy cyson â Deddf Cydraddoldeb 2010
- Diweddaru cyd-destun y polisi
- Egluro safonau dylunio
- Symleiddio penodau, a chryfhau canllawiau ymgysylltu i ysgogi cyfranogiad cynhwysol
- Cefnogi gwell integreiddio rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded, olwyno a beicio
- Pwysleisio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a defnyddio terminoleg gyson i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu rhwydweithiau teithio llesol cynhwysol o ansawdd uchel ledled Cymru
Trwy gydol y cyfnod ymgynghori 12 wythnos byddwn yn ymgysylltu'n eang y tu hwnt i'r ymgynghoriad ar-lein i sicrhau bod y canllawiau newydd yn adlewyrchu arferion gorau. Byddwn yn gofyn barn defnyddwyr proffesiynol y canllawiau - sef y rhai sy'n cynllunio ac yn dylunio ar gyfer cerdded, olwynio a beicio, a chyda'r rhai sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol ganddo - defnyddwyr llwybrau cerdded, olwyno a beicio. Yn benodol, byddwn yn gofyn am farn pobl anabl, menywod a phobl ifanc.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 13 Chwefror 2026. Mae’r dogfennau ymgynghori a'r cwestiynau ar-lein i’w gweld yma: https://www.llyw.cymru/canllawiaur-ddeddf-teithio-llesol
