Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl o oed gweithio sydd wedi'u cau allan o'r farchnad lafur yn anfwriadol. Mae hyn yn cynnwys pobl a allai fod eisiau gweithio ond sy'n methu â gwneud hynny oherwydd diweithdra, salwch neu anabledd, neu gyfrifoldebau gofalu. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 20% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 3.1: dangosydd maes cyflogaeth, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 3.1: mae’r diagram yn dangos pa fudd-daliadau sy'n cael eu defnyddio fel sail i'r maes cyflogaeth, sy’n cael ei ddisgrifio hefyd isod.

Mae gan y maes un dangosydd, sy’n cynnwys sawl cydran, sef ciplun o bobl oed gweithio sy'n derbyn budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra. Fe'i mynegir fel canran o'r boblogaeth amcangyfrifedig rhwng 18 a 66 oed mewn Ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI). Mae'r rhifiadur yn cynnwys nifer yr unigolion 18 i 66 oed, wedi'u cyfartaleddu dros 12 o bwyntiau amser misol ar wahân o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, yr oedd ganddynt hawl i:

  • Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar gyfraniadau a seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Ceisio Gwaith Arddull Newydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar gyfraniadau a seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Arddull Newydd
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Gofalwyr
  • Cymhorthdal Incwm
  • hawlwyr Credyd Cynhwysol yn y grwpiau amodoldeb canlynol:
    • dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
    • cynllunio ar gyfer gwaith
    • paratoi ar gyfer gwaith
    • chwilio am waith

Mae manylion llawn y dangosydd ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Prif bwyntiau

Ffigur 3.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd cyflogaeth, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 3.2: mae'r map yn dangos ym maes cyflogaeth MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd cyflogaeth uchel yng nghymoedd y de a'r dinasoedd mawr, ac mewn rhai trefi ar arfordir y gogledd.

  • Roedd gan bob awdurdod lleol, ac eithrio Sir Fynwy, o leiaf un ardal gyda mwy na  32% o bobl mewn amddifadedd cyflogaeth, sy'n gyfwerth â bod yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (ar 24%) gyda Chastell-nedd Port Talbot i ddilyn (ar 20%).
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd cyflogaeth ym MALlC 2025 yn debyg i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.
  • O ran y maes cyflogaeth, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Gorllewin y Rhyl 2, Sir Ddinbych (o gwmpas Stryd Fawr y Rhyl), a oedd yr un peth ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2014.
  • Roedd 6 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Roedd 20% o'r bobl sy'n ddifreintiedig o ran cyflogaeth yn y 10% mwyaf difreintiedig o ardaloedd bach ar gyfer y maes cyflogaeth (yr ardaloedd sydd wedi'u graddio o 1 i 191).
  • Mae hanner y bobl sy'n ddifreintiedig o ran cyflogaeth yn byw yn y 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer y maes cyflogaeth.
  • Ledled Cymru, mae 17% o bobl mewn amddifadedd cyflogaeth.
  • Mae ystod eang yn y ganran o'r bobl sy'n ddifreintiedig o ran cyflogaeth o fewn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, o 64% yng Ngorllewin y Rhyl 2, i 32% ar gyfer ‘Bedwas Trethomas a Machen 2’, yr ardal yn safle 191. 

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Gellir canfod mwy o wybodaeth am ddosbarthiad y boblogaeth sy'n deillio o gyflogaeth ym MALlC 2025 yn adroddiad canllawiau MALlC.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Mae cyflwyno UC wedi cael dylanwad sylweddol ar y ffordd y caiff amddifadedd cyflogaeth ei fesur ym MALlC, gan arwain at fabwysiadu dangosyddion newydd a ddatblygwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a DWP sy'n adlewyrchu newidiadau i bolisïau a data. Mae'r dull wedi'i ddiweddaru hyn hefyd yn cynnwys pobl a allai fod eisiau gweithio ond sy'n methu â gwneud hynny oherwydd cyfrifoldebau gofalgar, newid ers MALlC 2019. Nid oes modd cymharu'r dangosydd amddifadedd cyflogaeth yn uniongyrchol â'r un ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler Adroddiad Technegol MALlC 2025 ac adroddiad technegol mynegeion amddifadedd Lloegr (MHCLG).

Tabl 3.1: symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd cyflogaeth rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
78%19%2%1%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
19%56%22%3%0%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
3%22%44%30%1%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
0%2%16%63%19%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%0%0%8%92%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu symud grwpiau ym MALlC 2025.

I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos:

  • bod y rhan fwyaf o ACEHIau wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025, ac eithrio'r grŵp mwyaf difreintiedig o 20% i 30%
  • yr oedd 78% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • yr oedd 92% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025

Dim ond un AGEHI symudodd fwy na 2 grŵp amddifadedd (gweler yr ail bwynt bwled isod). Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai a symudodd fwyaf yn y grwpiau mwyaf difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Dwy ardal a symudodd o grŵp y 30% i'r 50% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 10 i 20% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 oedd: 

  • Ringland 1 yng Nghasnewydd (ardal Coldra)
  • ‘Aberdaugleddau: Gogledd 2’ yn Sir Benfro, AGEHI sydd wedi newid ffin ers MALlC 2019, pan gafodd ei grwpio gyda'r hyn sydd bellach yn cael ei alw'n ‘Aberdaugleddau: Gogledd 1’ (yn y 30% i'r 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer amddifadedd cyflogaeth)

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd un ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 30% i'r 50% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025. Plasnewydd 7 yng Nghaerdydd oedd hwn, ardal sy'n agos at ganol y ddinas, gan gynnwys cyffordd Heol y Ddinas a Heol Casnewydd.

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur 3.3: plot blychau o safleoedd maes cyflogaeth MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 3.3: dengys y siart isod ddosbarthiad safleoedd y maes cyflogaeth ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot).

Yng Nghaerdydd roedd dosbarthiad y safleoedd maes cyflogaeth ar ei fwyaf, gydag Abertawe i ddilyn, tra roedd y rhai mwyaf cul yn Ynys Môn a Cheredigion. Sir Fynwy sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r un isaf (mwyaf difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran cyflogaeth, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes cyflogaeth MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (24% neu 11 o ardaloedd) gyda Chastell-nedd Port Talbot i ddilyn (20% neu 18 o ardaloedd)
  • nid oedd gan Sir Fynwy unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig, wedi'u dilyn gan Geredigion, Gwynedd a Phowys gyda dim ond un yr un
  • Powys a Sir Fynwy hefyd oedd yr awdurdodau lleol gyda'r crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, ar 22% a 24% yn y drefn honno
  • Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig, ar 87% a 81% yn y drefn honno

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran cyflogaeth ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Data ar gyfer Cymru a Lloegr

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a llywodraethau datganoledig eraill i archwilio cyfleoedd i gynhyrchu allbynnau wedi'u cysoni. Bydd cynlluniau rhyddhau'n cael eu cyhoeddi ar GOV.UK maes o law.

Ystadegau budd-daliadau

Mae offeryn lledaenu Stat-Xplore yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn caniatáu i chi i lawrlwytho ac addasu ystadegau ar fudd-daliadau, gan gynnwys data ardal leol a chyfres amser.

Ystadegau'r farchnad lafur

Mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi data'r farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer rhanbarthau economaidd ac awdurdodau lleol Cymru, yn seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Aelwydydd sy'n gweithio a heb waith

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data ar lefel leol am aelwydydd a'r oedolion a'r plant sy'n byw ynddynt, yn ôl eu statws gweithgarwch economaidd. Mae'r rhain yn seiliedig ar setiau data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.