Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, wedi cyhoeddi y bydd awdurdodau lleol yn cael £6.4 biliwn gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.
Mae'r buddsoddiad, sy'n dod o'r Grant Cynnal Refeniw ac ardrethi annomestig, yn golygu y bydd cynghorau Cymru yn cael cynnydd o 2.7% ar gyfartaledd yn eu cyllid. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys gofal cymdeithasol, addysg a chasglu gwastraff.
Yn ogystal, bydd llawr cyllid o £14.1 miliwn yn sicrhau na fydd unrhyw gyngor yn cael cynnydd sy'n llai na 2.3%.
Yn ogystal â'r setliad craidd, bydd grantiau hefyd i lywodraeth leol, sy’n werth cyfanswm o dros £1.3 biliwn at ddibenion refeniw a dros £1.08 biliwn ar gyfer buddsoddi cyfalaf.
Bob blwyddyn mae ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol yn golygu y bydd aelwydydd sy'n agored i niwed ac aelwydydd ag incwm isel yn parhau i gael help i dalu eu biliau treth gyngor.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
"Rydym wedi bod yn gwrando ar lywodraeth leol, ac rydym yn cydnabod yn llwyr yr heriau maen nhw'n eu hwynebu.
"Y setliad dros dro hwn yw dechrau proses y gyllideb. Ein blaenoriaeth yw rhoi'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y cynghorau i osod cyllidebau sy'n eu galluogi i ddiogelu a darparu gwasanaethau rheng flaen craidd.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr y cynghorau i weld sut y gallwn roi hyblygrwydd ychwanegol iddynt o ran rheoli eu cyllidebau.
"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl bleidiau i ddatblygu cyllideb sy'n sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus barhau i weithredu'n effeithiol ac y gall y Senedd ei phasio ym misoedd olaf y tymor hwn."
Bydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi ym mis Ionawr ar ôl ymgynghori ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid.
