Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, yn chwilio am dri saer maen i’w hyfforddi ac i ymuno â’r tîm o seiri maen proffesiynol.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda thua thraean adeiladau Cymru wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau traddodiadol, carreg, brics neu fframiau pren cyn 1919, ni fu erioed cymaint o alw am seiri maen crefftus a chadwraethwyr proffesiynol.

Mae'r adeiladau hyn yn llawn cymeriad ac yn creu naws trefi a strydoedd ledled Cymru, ond mae'n frwydr gynyddol cael hyd i grefftwyr sydd â'r arbenigedd i ofalu amdanynt.

Bydd y tair swydd dan hyfforddiant yn gyfle unigryw i recriwtio tri saer maen i weithio law yn llaw â Cadwraeth Cymru, sef tîm crefftwyr treftadaeth proffesiynol mewnol Cadw. Bydd y dysgwyr yn dilyn rhaglen hyfforddi dwy flynedd fydd yn arwain at gymhwyster NVQ3 mewn Gwaith Maen Treftadaeth, gan ennill profiad ymarferol wrth gael eu mentora gan seiri maen cadwraeth arbenigol.

Yn ogystal â hyfforddiant ymarferol, bydd y dysgwyr yn cael cyfle i weithio gyda'r cyhoedd a chymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n arddangos sgiliau treftadaeth.

Un o bryderon mwya'r sector treftadaeth yw bod y gweithlu'n heneiddio ac nad oes digon o gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiynau hyn.

Dywedodd Fleur Gordon, Pennaeth Cadwraeth Henebion yn Cadw:

Mae angen sgiliau traddodiadol i ofalu am adeiladau traddodiadol, ac yn Cadw rydym am greu llwybrau gyrfa a fydd yn helpu pobl ifanc i ddarganfod y gwaith buddiol a hanfodol hwn.

Mae gofalu am ein hadeiladau a'n henebion hanesyddol niferus yng Nghymru yn gofyn am ymroddiad ac arbenigedd. Trwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o seiri maen ac arbenigwyr cadwraeth, rydyn ni am wneud mwy na diogelu'r adeiladau hyn; rydyn ni am ddiogelu'r sgiliau, y wybodaeth a'r grefft sydd wedi cyfrannu at greu hunaniaeth ein cenedl ers canrifoedd.

Ddydd Iau, fel rhan o ddiwrnod arbennig o ddiwylliant yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, gwnaeth nifer o seiri maen Cadw ddangos eu doniau a'u sgiliau i'r cyhoedd a’r arbenigedd y gallai'r seiri maen dan hyfforddiant ei ddatblygu.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:

Mae gan bob adeilad hanesyddol yng Nghymru stori i'w hadrodd – am y bobl a'i adeiladodd, a fu'n byw ynddo, ac a ofalodd amdano dros y cenedlaethau.Trwy fuddsoddi mewn hyfforddiant treftadaeth, rydym yn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu gofalu am yr adeiladau unigryw sy'n cyfrannu at gymeriad a hunaniaeth ein trefi, pentrefi a dinasoedd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Tachwedd 2025 ac mae'r manylion i'w gweld trwy chwilio Swyddi Gwag.