Canllawiau i gyrff llywodraethu ar sefydlu a gweithredu cynghorau ysgol
Mae'r canllawiau hyn wedi'u hadnewyddu ond nid ydynt yn gosod unrhyw ofynion ychwanegol ar ysgolion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ystyried barn plant a phobl ifanc
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn (CCUHP).
Mae Erthygl 12.1 o'r confensiwn yn nodi y bydd llofnodwyr "yn sicrhau i'r plentyn sy'n gallu ffurfio ei farn ei hun hawl i leisio'r farn honno'n ddirwystr ym mhob mater sy'n effeithio arno”.
Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai barn plant a phobl ifanc gael ei chlywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym mhob gwasanaeth cyhoeddus. Mae'r gofyniad statudol ar gyfer cynghorau ysgol yn un ffordd o sicrhau bod darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc mewn ysgolion yn ystyried eu hanghenion a'u dymuniadau yn briodol trwy ddarparu modd i wrando a gweithredu ar yr hyn y maen nhw'n ei ddweud.
Mae cynghorau ysgol yn ffordd hefyd o roi cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau cyfranogi, fel eu bod yn datblygu i fod yn ddinasyddion gweithgar yng nghymuned yr ysgol a thu hwnt.
Manteision cynghorau ysgol
Dysgwyr yw'r rhanddeiliaid pwysicaf mewn ysgolion. Mae eu gyrfa ysgol yn cael effaith fawr ar eu dyfodol. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddarparu'r dulliau priodol i ddysgwyr leisio eu barn a chyfrannu at wneud penderfyniadau drwy gyngor ysgol.
Gall cynghorau ysgol effeithiol wneud y canlynol:
- gwneud ysgolion yn fwy cynhwysol ac yn lleoedd gwell trwy ddwyn ynghyd dysgwyr, staff, y tîm uwch-reolwyr, a'r corff llywodraethu
- darparu sianel gyfathrebu ffurfiol rhwng dysgwyr, y tîm uwch-reolwyr a'r corff llywodraethu
- darparu corff i ymateb i syniadau i'r tîm uwch-reolwyr a'r corff llywodraethu
- cynnig ffordd drefnus a chynrychioliadol i ddysgwyr fynegi eu barn
- helpu dysgwyr i ddatblygu ac ymarfer sgiliau bywyd fel cyfathrebu a gwella eu dealltwriaeth o safbwyntiau a barn eraill
- rhoi cyfleoedd i ddysgwyr gymryd cyfrifoldeb a rhannu perchnogaeth o broblemau a'u datrys, a
- helpu i wella cyd-ddealltwriaeth rhwng dysgwyr, staff, uwch-reolwyr a llywodraethwyr
Mae cynghorau ysgol yn dangos ymrwymiad i ymgysylltu â dysgwyr ac i weld gwerth yn eu cyfraniad. Trwy wneud hynny gallant helpu i wneud y canlynol:
- gwella ymddygiad a phresenoldeb
- gwella safonau cyflawni wrth i ddysgwyr a staff weithio gyda'i gilydd mewn proses gyfranogol
- gwella rhai agweddau ar ddysgu
- darparu tystiolaeth o ystyried barn dysgwyr, a
- hwyluso newidiadau yn amgylchedd a darpariaeth yr ysgol, ac yn y cysylltiadau â'r gymuned leol
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn darparu canllawiau ac astudiaethau achos arfer da defnyddiol, gan helpu ysgolion uwchradd i greu cynghorau ysgol cryf sy’n cynrychioli llais pob person ifanc: GYDA’N GILYDD
Mae Cymru Ifanc/Young Wales yn un o fentrau Plant yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ei nod yw gwrando ar bobl ifanc a grymuso eu lleisiau ac mae’n seiliedig ar y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc a’r CCUHP: Cymru Ifanc
Y cyd-destun cyfreithiol
Gwnaed Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 o dan adrannau 19(2), 19(3), 20(2), 21(3), 210(7) a 214(1) o Ddeddf Addysg 2002 a ddaeth i rym ar 31 Rhagfyr 2005.
Yn ogystal, diwygiwyd Rheoliadau Llywodraeth Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 gan Reoliadau Cynghorau Ysgol, i ddarparu ar gyfer disgyblion-lywodraethwyr cyswllt.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u bwriadu ar gyfer cyrff llywodraethu ac fe'u cyhoeddir o dan adran 176 a 19(7) o Ddeddf Addysg 2002. Mae adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i roi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch ymgynghori â disgyblion mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae adran 19(7) o Ddeddf 2002 yn nodi y bydd awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Lywodraeth Cymru wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth a roddir gan reoliadau o dan yr adran honno.
Yn unol â hynny, rhaid i gyrff llywodraethu, ac awdurdodau addysg lleol wrth ddarparu cyngor i gyrff llywodraethu, roi sylw i'r canllawiau hyn.
Sefydlu cynghorau ysgol
Mae'n ofynnol i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, ac eithrio ysgolion meithrin a babanod, sefydlu cyngor ysgol. Gall corff llywodraethu a phennaeth gytuno i sefydlu cyngor ysgol ar y cyd â chorff llywodraethu a phennaeth ysgol arall.
Er nad yw'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion meithrin neu fabanod a gynhelir sefydlu cynghorau ysgol, mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion o'r fath i sefydlu ffyrdd llai ffurfiol, ond serch hynny cydnabyddedig ac effeithiol, o geisio barn dysgwyr ac i roi llais iddynt mewn perthynas â rhedeg yr ysgol.
Rhaid i'r pennaeth sicrhau bod y cyngor ysgol yn cyfarfod o leiaf chwe gwaith yn ystod y flwyddyn ysgol. Dylid cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd cyn belled ag y bo'n ymarferol.
Aelodaeth cynghorau ysgol ac ethol aelodau
Dim ond disgyblion sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol gaiff fod yn aelodau o gyngor yr ysgol. Rhaid rhoi trefniadau ar waith er mwyn i o leiaf un disgybl cofrestredig o Flwyddyn 3 a phob grŵp blwyddyn uwch gael ei ethol yn aelodau o'r cyngor ysgol. Dylai'r cyngor ysgol fod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol, gan adlewyrchu amrywiaeth yr holl ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol.
Rhaid i'r corff llywodraethu a'r pennaeth wneud trefniadau i ddisgyblion cofrestredig gael eu hethol i'r cyngor ysgol trwy bleidlais gyfrinachol.
Rhaid i aelodau beidio â chael eu dewis gan staff yr ysgol, y pennaeth, neu'r corff llywodraethu. Mae gan yr holl ddisgyblion cofrestredig yr hawl i bleidleisio dros ymgeisydd a ymgeiswyr yn eu grŵp blwyddyn.
Nid yw'r rheoliadau'n pennu nifer yr aelodau y dylai cyngor ysgol eu cael. Dylid taro cydbwysedd rhwng nifer ymarferol a sicrhau cynrychiolaeth gytbwys o ddysgwyr. Dylai cynghorau ysgol geisio bod yn gynrychioliadol o'r gymuned dysgwyr a rhoi sylw manwl i gynnwys dysgwyr â nodweddion gwarchodedig.
Ar ei lefel fwyaf sylfaenol, gellid cyflawni hyn trwy gael dysgwyr i ddewis dau ddysgwr o bob grŵp blwyddyn. Mewn ysgol gynradd, byddai hyn yn cynhyrchu cyngor gydag 8 aelod, ac mewn ysgol uwchradd gyda 14 aelod. Mewn ysgolion cynradd bach iawn, gyda 30 o ddysgwyr neu lai, efallai y byddai'n fwy ymarferol i bob disgybl cofrestredig fod yn aelodau o'r cyngor ysgol - byddai'r dull hwn yn bodloni'r gofynion ar gyfer etholiadau.
Rhaid i gorff llywodraethu a phennaeth ysgol a gynhelir sydd â chanolfan adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wneud trefniadau ar gyfer penodi o leiaf un disgybl cofrestredig i'r cyngor ysgol o'r ganolfan adnoddau ADY hwnnw. Mae hyn yn ofynnol waeth beth fo maint canolfan adnoddau ADY ysgol, neu'r ffaith bod unrhyw ddysgwr o'r ganolfan adnoddau ADY wedi'i ethol fel aelod grŵp blwyddyn o'r cyngor ysgol. Bydd unrhyw gynrychiolydd o’r ganolfan adnoddau ADY ar gyngor yr ysgol yn ychwanegol at gynrychiolwyr y grŵp blwyddyn ar y cyngor ysgol. Mae angen i drefniadau ar gyfer penodi cynrychiolydd dysgwyr o ganolfan adnoddau ADY fod yn sensitif er mwyn osgoi stigmateiddio wrth annog cynrychiolaeth.
Lle'r ysgolion yw penderfynu sut y dylid enwebu ymgeiswyr. Gallai dysgwyr enwebu eu hunain neu gael eu henwebu gan eu cyfoedion. Ni ddylai ymgeiswyr gael eu dewis na'u hargymell gan y staff, y pennaeth neu gorff llywodraethu.
Gellir cynnal etholiadau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Nid oes unrhyw reoliad ynghylch pa mor aml y dylid eu galw, na hyd tymor yr aelodau. Awgrymir, fodd bynnag, y byddai etholiad blynyddol yn taro cydbwysedd rhwng aelodau yn cael digon o amser i fynd i'r afael â'u rôl a chyfle i adnewyddu cyfansoddiad y cyngor. Efallai y bydd aelodau presennol yn sefyll er mwyn cael eu hailethol ond mae'n bwysig osgoi stasis a rhoi cyfle i gymaint o ddysgwyr â phosibl wasanaethu ar gynghorau ysgol. Efallai y bydd angen cyfnod o drosglwyddo ar ôl etholiadau. Gallai hyn fod ar ffurf cyfarfod ar y cyd o'r hen gyngor a'r cyngor newydd, neu wahoddiad i nifer fach o gyn-aelodau fynychu cyfarfodydd y cyngor newydd am gyfnod o amser fel cynghorwyr, neu fod dysgwyr sydd â diddordeb mewn dod yn aelodau yn cael eu cyfethol fel aelodau cysgodol.
Rheoli busnes cyngor ysgol
Mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod pob cyfarfod cyngor ysgol yn cael ei oruchwylio gan o leiaf un aelod o staff yr ysgol. Fel arall, nid yw'r rheoliadau yn nodi sut y dylai'r cyngor ysgol weithredu; lle pob cyngor ysgol yw penderfynu ar ei drefniadau ei hun. Fodd bynnag, bydd angen rheoli busnes cyngor ysgol yn esmwyth er mwyn i'r cyngor fod yn effeithiol ac i ddysgwyr, staff a'r corff llywodraethu weld gwerth ynddo.
Argymhellir bod gan gyngor ysgol gyfansoddiad sy'n nodi sut y bydd y cyngor ysgol yn gweithio. Efallai y bydd y ddogfen hon yn nodi'r canlynol:
- amcanion yr arolwg
- strwythur y cyngor
- rheolau sylfaenol ar gyfer rheoli trafodaethau y cyngor ysgol a chymryd nodiadau mewn cyfarfodydd
- dewis, os dymunir, cadeirydd, ysgrifennydd a trysorydd o'i aelodaeth a phenderfynu ar eu cyfrifoldebau
- sut y bydd y cyngor ysgol yn cyfathrebu â'r pennaeth, y corff llywodraethu, ac â dysgwyr
- trefniadau ar gyfer ethol aelodau cyngor ysgol, eu tymhorau yn y swydd, y seiliau dros derfynu aelodaeth yn gynamserol, a threfniadau ar gyfer dewis aelodau newydd yn lle aelodau sy'n ymddiswyddo'n gynnar
- trefniadau ar gyfer sefydlu is-bwyllgorau neu weithgorau i ystyried materion penodol
- trefniadau ar gyfer penderfynu ar y defnydd o unrhyw arian neu adnoddau a godir gan y cyngor ysgol neu sydd o dan ei reolaeth
Dylai pob aelod o'r cyngor ysgol gael copi o'r cyfansoddiad, a dylai fod ar gael yn rhwydd i bob disgybl cofrestredig a dylid ei adolygu'n rheolaidd.
Gall cynghorau ysgol gyfarfod unrhyw nifer o weithiau yn fwy na'r gofyniad rheoleiddiol o chwe chyfarfod o leiaf yn ystod y flwyddyn ysgol. Dylid pennu hyd y cyfarfodydd yn ôl maint a natur y busnes, ond mae'n bwysig nad yw cyfarfodydd yn rhy hir, neu gallai diddordeb a sylw bylu. Disgwylir y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn ystod y diwrnod ysgol arferol. Nid yw amser cinio, amser egwyl neu y tu allan i oriau ysgol yn cael eu hargymell fel amseroedd addas ar gyfer cyfarfodydd y cyngor ysgol.
Mae gosod agenda a rheoli busnes yn hanfodol i lwyddiant cyngor ysgol. Mae'n bwysig bod agendâu yn cynnwys eitemau sydd o wir ddiddordeb i ddysgwyr ac y gallant gyfrannu’n ystyrlon atynt. Fodd bynnag, dylai'r cyngor ysgol ei hun gytuno ar y materion sydd i'w trafod, gan ystyried materion y mae dysgwyr yn yr ysgol yn dymuno i'r cyngor eu hystyried.
Dylid neilltuo amser i aelodau cyngor ysgol i'w galluogi i ymgynghori'n llawn â'r boblogaeth ehangach o ddysgwyr ac i fwydo'n ôl ganlyniadau trafodaethau cyngor ysgol.
Mae angen rhoi trefniadau ar waith ar gyfer cymryd nodiadau. Gallai hyn gael ei rannu rhwng aelodau'r cyngor neu ei neilltuo i un aelod, gyda chefnogaeth staff yr ysgol. Gallai staff gweinyddol yr ysgol ddarparu cymorth lle mae yna gapasiti iddynt wneud hynny.
Mae angen i'r cyngor benderfynu ar benodiad swyddogion y cyngor, er enghraifft, cadeirydd, dirprwy gadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd, mewn cyfarfod cynnar ac ar y dull o benodi. Gallai hyn fod trwy bleidlais gyfrinachol gan aelodau'r cyngor ar ôl eu henwebu neu drwy godi dwylo mewn cyfarfod. Bydd angen i'r cyngor benderfynu hefyd ar dymor y penodiad - gallai hyn fod am y flwyddyn gyfan neu am gyfnod llai.
Mewn ysgolion cynradd yn benodol, mae'n debygol y bydd angen i gadeirydd y cyngor dderbyn cefnogaeth gan staff yr ysgol yn ei rôl, er enghraifft cyflwyno eitemau ar gyfer yr agenda, egluro materion, gwirio dealltwriaeth, sicrhau bod pob aelod o'r cyngor yn cael y cyfle i siarad a chrynhoi trafodaethau a phenderfyniadau. Efallai y bydd angen llai o gefnogaeth mewn ysgolion uwchradd, ond gall fod yn ddefnyddiol i'r cadeirydd gael cyfle i fynd trwy'r materion hyn gydag aelod staff cyn y cyfarfodydd.
Materion i'w hystyried gan gynghorau ysgol
Nid yw'r rheoliadau'n nodi beth y dylai cynghorau ysgol ei ystyried. Fodd bynnag, mae'r materion a awgrymir a allai fod o ddiddordeb yn cynnwys:
- gwelliannau i amgylchedd yr ysgol fel y toiledau, sbwriel, decor yr ysgol, y maes chwarae, ailgylchu
- datblygu adnoddau a chyfleusterau fel llyfrgell yr ysgol, cyfleusterau chwaraeon, cerddoriaeth neu ddrama
- gwrthfwlio, gwrth-hiliaeth, mentora, lles dysgwyr, cymorth bugeiliol, amrywiaeth a chynhwysiant
- y broses o bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ac i addysg drydyddol, addysg bellach neu addysg uwch
- bwyta'n iach a hamdden iach
- gwelliannau i ddysgu, ychwanegiadau neu newidiadau i'r amserlen neu i’r cwricwlwm fel darparu pwnc newydd neu chwaraeon gwahanol
- gweithgareddau amser cinio ac ar ôl ysgol
- codi arian ac (neu) defnyddio unrhyw gyllideb a ddyrannwyd
- prydau ysgol
- gwisg ysgol
- presenoldeb
- cod ymddygiad ar gyfer y berthynas rhwng athrawon a dysgwyr
- penderfyniadau ynglŷn â rhedeg yr ysgol (polisïau'r ysgol, cod ymddygiad, ethos)
- cysylltiadau â'r gymuned leol a prosiectau cymunedol lleol, er enghraifft, prosiectau amgylcheddol
- sylwadau i'r awdurdod lleol ar faterion sy'n peri pryder i ddisgyblion, er enghraifft, trafnidiaeth
Materion na ddylid eu hystyried gan gynghorau ysgol
Nid yw'r rheoliadau'n atal cyngor ysgol rhag trafod unrhyw bwnc. Serch hynny, argymhellir na ddylai cynghorau ysgol ystyried materion personol sy'n ymwneud â dysgwyr unigol, staff neu eraill.
Ymgysylltu â disgyblion, y pennaeth, a'r corff llywodraethu
Mae cyngor ysgol yn fforwm i ddysgwyr drafod materion sy'n ymwneud â'u hysgol, eu haddysg, neu unrhyw faterion eraill yr ystyriant sy'n peri pryder neu sydd o ddiddordeb ac i gael llais yn y ffordd y caiff yr ysgol ei rhedeg ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae'r cyngor ysgol yn darparu dull cynrychioliadol a chynhwysol o ddwyn materion at sylw'r pennaeth a'r corff llywodraethu. Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth a'r corff llywodraethu ystyried unrhyw fater a gyfathrebir iddynt gan y cyngor ysgol ac i roi ymateb.
Gall penaethiaid a chyrff llywodraethu ddefnyddio eu disgresiwn wrth benderfynu sut i ymateb i unrhyw gyfathrebu gan y cyngor ysgol, gan ystyried sut y mae'r mater yn cael ei godi (boed ar lafar neu'n ysgrifenedig) a'i natur. Fodd bynnag, disgwylir y bydd y pennaeth a'r corff llywodraethu yn ymateb i bob cyfathrebu ysgrifenedig yn ysgrifenedig. Mae'n bwysig bod rhesymau'n cael eu rhoi dros benderfyniadau a bod atebion yn amserol ac nad ydynt yn ddiystyriol nac yn nawddoglyd. Dylai unrhyw faterion a gyfathrebir i'r corff llywodraethu dderbyn ateb gan y corff llywodraethu yn uniongyrchol ac nid ateb ail-law a gyfathrebir gan y pennaeth. Dylid ymateb yn brydlon i bob cyfathrebu.
Mae'r cyngor ysgol yn darparu modd i'r pennaeth a'r corff llywodraethu gael barn gynrychioliadol gan ddisgyblion hefyd.
Dylai'r pennaeth a'r corff llywodraethu ystyried y materion yr hoffent gael barn y cyngor arnynt. Dylai'r materion fod o ddiddordeb gwirioneddol i ddysgwyr a dylai'r ymgynghori fod yn amserol ac yn ystyrlon, nid yn docenistaidd.
Bydd llwyddiant cyngor ysgol yn dibynnu ar ba mor dda y mae'n ymgysylltu â'r boblogaeth ehangach o ddysgwyr ac yn derbyn eu syniadau, eu barn a’u pryderon. Bydd angen i ddysgwyr yn yr ysgol gael cyfleoedd rheolaidd i feddwl am yr hyn yr hoffent i'r cyngor ysgol ei ystyried a thrafod hynny a bod ganddynt ffyrdd effeithiol o gyfathrebu hyn i'r cyngor ysgol. Dylai'r broses hon ddarparu cyfleoedd ar gyfer llif rheolaidd o syniadau ac awgrymiadau, i’w hystyried gan y cyngor ysgol, a dylai'r mewnbwn fod yn rhan hanfodol o gyfansoddiad agendâu cyngor ysgol. Mae'n bwysig iawn i'r cyngor roi adborth i ddysgwyr er mwyn sicrhau y caiff diddordeb a brwdfrydedd eu hennyn a’u cynnal. Felly, dylid neilltuo digon o amser ar gyfer adborth hefyd, fel bod pob dysgwr yn ymwybodol o ganlyniadau materion a ystyriwyd gan y cyngor ysgol.
Mae'n bwysig bod dysgwyr yn gwybod pwy yw aelodau eu cyngor ysgol. Bydd trafodaeth yn y dosbarth, gydag aelod o'r cyngor ysgol yn mynychu neu'n arwain, o gymorth. Awgrymir y gallai aelodau'r cyngor ysgol gael bathodynnau neu laniardiau hefyd, ac y gellid gosod enwau a lluniau aelodau'r cyngor mewn man amlwg lle gall dysgwyr eu gweld.
Adnoddau ar gyfer cynghorau ysgol
Gall y corff llywodraethu a'r pennaeth ddarparu adnoddau i'r cyngor ysgol. Bydd gwneud hynny'n helpu i roi statws i'r cyngor ysgol yn ogystal â darparu modd i hwyluso ei waith. Gall yr adnoddau fod yn beth bynnag y mae'r corff llywodraethu a'r pennaeth yn ei ystyried yn addas ac felly gallent fod ar ffurf cymorth corfforol neu ariannol neu'n gymorth staff ar gyfer gwaith ysgrifenyddol. Argymhellir bod y rheolau sylfaenol ar reoli a defnyddio adnoddau wedi eu nodi’n glir yng nghyfansoddiad y cyngor ysgol. Yn unol â'r rheoliadau, rhaid i'r corff llywodraethu a'r pennaeth ystyried unrhyw gais gan y cyngor ysgol am adnoddau a darparu ymateb.
Ysgolion arbennig
Mae trefniadau gwahanol yn berthnasol ar gyfer ysgolion arbennig cymunedol a gynhelir ac ysgolion arbennig sefydledig i gydnabod elfennau ymarferol sefydlu a chynnal cyngor ysgol cynrychioliadol. Nid yw rheoliadau 3(2)(a), 4(2), 6 a 7 yn gymwys i ysgolion arbennig cymunedol nac i ysgolion arbennig sefydledig. Mae hyn yn golygu:
- Nid oes unrhyw ofyniad ar benaethiaid y cyfryw ysgolion i sicrhau bod y cyngor ysgol yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Gall penaethiaid gynnal cyfarfodydd fel y gwelant yn dda, gyda dyddiad y cyfarfod cyntaf ar adeg o'u dewis.
- Nid yw'n ofynnol i'r corff llywodraethu na'r pennaeth wneud trefniadau ar gyfer ethol o leiaf un disgybl i'r cyngor ysgol o bob grŵp blwyddyn.
- Nid yw'n ofynnol i'r corff llywodraethu a'r pennaeth wneud trefniadau ar gyfer etholiadau i'w cynnal trwy bleidlais gudd. Gall y corff llywodraethu a'r pennaeth ddewis neu argymell dysgwyr ar gyfer aelodaeth, ond fe'u hanogir wrth wneud hynny i adlewyrchu cyfansoddiad poblogaeth yr ysgol o ran nodweddion gwarchodedig ac i gynnwys croestoriad o oedrannau.
- Nid oes gofyniad i'r pennaeth sicrhau bod y cyngor ysgol yn cael y cyfle i enwebu hyd at ddau ddysgwr o flynyddoedd 11 i 13 (yn gynwysedig) o'i aelodaeth i fod yn ddisgyblion-lywodraethwyr cyswllt. Gall penaethiaid ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig gyda'r grwpiau blwyddyn hyn ddewis ystyried trefniant o'r fath. Ond byddai angen i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ymlaen llaw ynghylch derbyn y dysgwyr enwebedig gan nad yw'r rheoliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu dderbyn disgyblion-lywodraethwyr cyswllt yn berthnasol i ysgolion arbennig cymunedol a gynhelir ac ysgolion arbennig sylfaenol.
Cyswllt disgyblion-lywodraethwyr cyswllt a chyngor ysgol â'r corff llywodraethu
Rhaid i'r pennaeth roi cyfle i'r cyngor ysgol enwebu un neu ddau o'i aelodau, o flynyddoedd 11, 12 neu 13, i fod yn ddisgyblion-lywodraethwyr cyswllt. Rhaid i'r corff llywodraethu dderbyn y dysgwyr enwebedig hyn a'u penodi fel llywodraethwyr cyswllt i'r corff llywodraethu oni bai bod rhesymau dros eu gwahardd o dan Atodlen 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
Pwrpas disgyblion-lywodraethwyr cyswllt yw lleisio barn y cyngor ysgol mewn cyfarfodydd o’r corff llywodraethu ac yn ei dro, cyfathrebu materion o'r corff llywodraethu i'r cyngor ysgol. Mae ganddynt rôl gyswllt i ddwyn dysgwyr a'r corff llywodraethu ynghyd. Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried unrhyw fater a gaiff ei gyfathrebu gan y cyngor ysgol a rhaid i'r corff llywodraethu roi ymateb. Pan fo'r cyfathrebu gan y cyngor ysgol yn ysgrifenedig, disgwylir i'r corff llywodraethu ymateb yn ysgrifenedig.
Mae disgyblion-lywodraethwyr cyswllt mewn sefyllfa dda i gyfrannu at ystyriaethau’r corff llywodraethu ar faterion fel a ganlyn:
- llunio ac adolygu polisïau sy'n effeithio ar ddysgwyr fel gwisg ysgol, polisïau gwrth-fwlio, addysg rhyw, y berthynas rhwng dysgwr ac athrawon, ymddygiad a phresenoldeb
- datblygu mentrau a newid ysgol gyfan fel rhaglenni ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang, ysgolion iach ac eco-ysgolion
- datblygu a darparu cyfleusterau’r ysgol
- llunio ac adolygu'r cynllun datblygu ysgol
- mewnbwn i unrhyw gynllun ôl-arolygiad
- adolygiad o'r cwricwlwm a sut i wella addysgu a dysgu
- cysylltiadau â'r gymuned leol a phrosiectau lleol
Mae creu disgyblion-lywodraethwyr cyswllt wedi golygu diwygio canlyniadol i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. Mae disgyblion-lywodraethwyr cyswllt:
- yn ychwanegol at aelodau eraill o'r corff llywodraethu
- nid ydynt yn cyfrif tuag at gworwm corff llywodraethu neu gyfarfodydd pwyllgor corff llywodraethu
- ni chaniateir iddynt fod yn glerc i'r corff llywodraethu neu i bwyllgor corff llywodraethu
- ni chaniateir iddynt bleidleisio yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu
- gallant ddal swydd am flwyddyn ac ar ôl hynny gellir eu hailbenodi os ydynt yn dal i fod yn aelodau o gyngor ysgol
- gellir eu tynnu oddi ar y cyngor ysgol gan y corff llywodraethu yn yr un modd ag y gellir tynnu rhiant-lywodraethwyr penodedig a llywodraethwyr partneriaeth o'r corff llywodraethu
Gall disgyblion-lywodraethwyr cyswllt fod yn aelodau o bwyllgorau corff llywodraethu anstatudol a gallant bleidleisio yn y pwyllgorau hynny os yw'r corff llywodraethu yn rhoi hawliau pleidleisio iddynt. Ni chaiff disgyblion-lywodraethwyr cyswllt fod yn aelodau o'r pwyllgorau statudol.
Efallai na fydd yn briodol i ddisgyblion-lywodraethwyr cyswllt fod yn bresennol pan fo gwybodaeth yn cael ei rhannu am faterion sensitif neu mewn trafodaethau am y materion hynny. Am y rheswm hwn, gall y corff llywodraethu eithrio disgyblion-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth sy'n ymwneud â:
- materion staffio fel tâl, disgyblaeth, rheoli perfformiad, cwyno a diswyddo
- derbyniadau
- disgyblu disgyblion unigol
- ethol, penodi a chael gwared ar lywodraethwyr
- cyllideb ac ymrwymiadau ariannol y corff llywodraethu
- yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y Weithred Ymddiriedolaeth
Mae gan y corff llywodraethu ddisgresiwn hefyd i eithrio disgyblion-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth sydd, oherwydd ei natur, yn cael ei hystyried yn gyfrinachol ac a ddylai aros yn gyfrinachol. Nid bwriad y pŵer yn ôl disgresiwn hwn yw rhoi esgus i'r corff llywodraethu eithrio disgyblion-lywodraethwyr cyswllt o drafodaethau heb reswm da. Dylai fod rhagdybiaeth bod disgyblion-lywodraethwyr cyswllt yn rhan o gyfran sylweddol o fusnes y corff llywodraethu.
Yn ogystal ag aelodau-ddisgyblion cyswllt, anogir cyrff llywodraethu i gytuno gyda'r cyngor ysgol ar ffyrdd o weithio gyda'i gilydd. Gallai'r rhain gynnwys:
- y cyngor ysgol yn gwahodd llywodraethwyr i fynychu cyfarfodydd y cyngor a (neu) ofyn am gyfarfodydd gyda chynrychiolwyr y corff llywodraethu yn rheolaidd i ystyried materion penodol
- aelodau’r cyngor ysgol ac eithrio'r aelodau-ddisgyblion cyswllt i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu fel arsylwyr
- y corff llywodraethu i adrodd ar y cyngor ysgol a'i weithgareddau a'i gyflawniadau yn ei adroddiad blynyddol i rieni
Cynhelir llawer o gyfarfodydd y corff llywodraethu ar ôl oriau ysgol ac mae angen i'r pennaeth sicrhau bod disgyblion-lywodraethwyr cyswllt yn gallu teithio adref yn ddiogel. Dylai'r corff llywodraethu ystyried unrhyw gostau yr eir iddynt yng nghyllideb yr ysgol gyda threfniadau o'r fath.
