Pedwerydd diweddariad chwemisol Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir: Rhagfyr 2024 i Fehefin 2025
Ein dull o ymdrin â chyfraith yr UE a ddargedwir (REUL) a'n disgwyliadau dros y 6 mis nesaf.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cyflwyniad
Cafodd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) y cydsyniad brenhinol ar 29 Mehefin 2023 a'i gwnaeth yn Ddeddf ("Deddf REUL"). Rhoddodd Deddf REUL bwerau eang i weinidogion y DU ac awdurdodau datganoledig i ddirymu, disodli a diwygio is-ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir. Mae adran 17 o Ddeddf REUL yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl pob cyfnod adrodd (bob chwe mis hyd at 23 Mehefin 2026), ddiweddaru dangosfwrdd y gyfraith gymathedig a chyhoeddi a gosod adroddiad ar ddirymu a diwygio cyfraith gymathedig (sef 'cyfraith yr UE a ddargedwir' fel y'i galwyd ddiwedd 2023 a chyn hynny) gerbron Senedd y DU.
Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Llywodraeth y DU i Senedd y DU ar Gyfraith Gymathedig: Rhagfyr 2025 i Fehefin 2025 ('adroddiad Llywodraeth y DU'), mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r adroddiad hwn i'r Senedd ar yr offerynnau statudol (OSau) a wnaed o dan Ddeddf REUL sy'n berthnasol i'r Senedd am y cyfnod rhwng Mehefin 2024 a Rhagfyr 2025.
Mae adroddiad Llywodraeth y DU yn cadw'r un fformat â'i hadroddiadau blaenorol. Fel gyda'n hadroddiad blaenorol, mae'r isod yn dilyn yr un templed ag adroddiad Llywodraeth y DU ac yn cwmpasu'r un cyfnod o amser. Yr unig OSau y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â nhw yw’r rheini y mae Gweinidogion Cymru wedi cydsynio bod Llywodraeth y DU yn defnyddio pwerau cydamserol Deddf REUL ar eu cyfer. Mae Llywodraeth yr Alban yn dilyn yr un trywydd. Cyhoeddir eu hadroddiad nhw gan eu pwyllgor seneddol. Mae dolen i adroddiad Llywodraeth yr Alban yma.
2. Polisi a rheolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfraith gymathedig
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phwerau REUL yn gymesur ac yn bwyllog. Ni fyddwn yn ystyried defnyddio pwerau Deddf REUL oni bai bod manteision clir i Gymru o wneud hynny. Credwn drwy’r polisi hwnnw, ein bod yn neilltuo’n hadnoddau’n briodol ar gyfer rhoi’n rhaglen ddeddfwriaethol a'n Rhaglen Lywodraethu ar waith. Rhwng Rhagfyr 2024 a Mehefin 2025, ni welodd Llywodraeth Cymru unrhyw fantais fyddai'n cyfiawnhau defnyddio pwerau Deddf REUL. Felly, ni wnaeth Gweinidogion Cymru unrhyw OSau gan ddefnyddio'r pwerau o dan Ddeddf REUL yn y chwe mis hwn.
Yn ôl Adroddiad Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth y DU wedi gosod deuddeg OS rhwng Rhagfyr 2024 a Mehefin 2025 gan ddefnyddio pwerau Deddf REUL.
- Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Dirymu) 2025
- Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2025
- Rheoliadau Deddf Cwmnïau 2006 (Cydnabod Cymwysterau a Hyfforddiant Ymarferol Trydydd Gwledydd) (Diwygio) 2025
- Rheoliadau Cwmnïau (Tâl Cyfarwyddwyr ac Archwilio) (Diwygio) 2025
- Rheoliadau Mecanwaith Capasiti Trydan (Diwygio) 2025
- Rheoliadau Ynni (Penderfyniadau Euratom a Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio a Dirymu) 2025
- Rheoliadau Cerbydau Nwyddau Trwm Newydd (Safonau Perfformiad Allyriadau Carbon Deuocsid) (Diwygiadau Amrywiol) 2025
- Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025
- Rheoliadau Gyrwyr Cerbydau (Tystysgrifau Cymhwysedd Proffesiynol) (Diwygio) 2024
- Rheoliadau Dyrannu Slotiau mewn Meysydd Awyr (Lliniaru Gofynion Defnydd ac ati) 2025
- Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion a Reoleiddir) (Diwygio, Dirymu, Darpariaeth Ganlyniadol a Throsiannol) 2025
- Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) 2023 (Cydlynu Nawdd Cymdeithasol) (Cydnawsedd) 2025
Roedd naw o'r OSau mewn meysydd sydd wedi'u llwyr ddargadw ac felly ni wnaeth Llywodraeth y DU ofyn i Lywodraeth Cymru am ei chydsyniad.
Gofynnodd Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru am ei chydsyniad ar gyfer y tri rheoliad sy'n weddill, a oedd ag elfennau o fewn cymhwysedd datganoledig. Disgrifir y tri rheoliad yn Atodiad A: Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Dirymu) 2025; Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025; a Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion a Reoleiddir) (Diwygio, Dirymu, Darpariaeth Ganlyniadol a Throsiannol) 2025.
Mae Llywodraeth y DU yn cadw Dangosfwrdd o gyfraith yr UE a ddargedwir ac sydd wedi'i chymathu. Mae'r rhestr ar gael i'r cyhoedd ei gweld. Adeg paratoi'r adroddiad hwn, cafodd y Dangosfwrdd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 22 Gorffennaf 2025 ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa ar 17 Gorffennaf 2025. Cafodd ei ddiweddaru yr un pryd â chyhoeddi trydydd Adroddiad Llywodraeth y DU ar Gyfraith Gymathedig a pharheir i ddefnyddio'r dangosfwrdd i dracio statws cyfraith gymathedig.
Mae diwedd yr Adroddiad ar Gyfraith Gymathedig yn ymdrin â chadw hawliau Adran 4. Mae hyn yn ganlyniad i Ddeddf REUL sy'n diddymu'r egwyddor o oruchafiaeth cyfraith yr UE (i'r graddau ei bod yn dal i fod yn rheol ddehongli) ac egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE fel ffyrdd o ddehongli cyfraith y DU.
Mae Deddf REUL yn rhoi pwerau i godeiddio cyfraith achos a ddargedwir, hawliau adran 4 ac effeithiau deongliadol eraill yng nghyfraith y DU a fyddai fel arall wedi peidio â bod ddiwedd 2023. Mae'r Adroddiad yn nodi ers yr Adroddiad Seneddol blaenorol ar Gyfraith Gymathedig, ni fu gofyn am ailddatgan na chodeiddio pellach ar hawliau adran 4. Hynny oherwydd, yn bennaf, bod deddfwriaeth ddomestig eisoes yn rhoi amddiffyniad cyfatebol. Mae'r pwerau ailddatgan hyn ar gael tan 23 Mehefin 2026.
Mae'r trafod rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar lefel swyddogion ar y defnydd o bwerau Deddf REUL wedi parhau'n bositif.
Mae dangosfwrdd REUL yn cynnwys deddfwriaeth y DU a ddargedwir, sydd â chymhwysedd cymysg neu sy'n perthyn i faes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Ni cheir unrhyw ddeddfwriaeth arno a wnaed gan lywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
3. Cynlluniau Llywodraeth y DU yn y dyfodol i ddirymu a diwygio Cyfraith Gymathedig
Mae'r Adroddiad ar Gyfraith Gymathedig yn nodi y bydd diwygio'r gyfraith gymathedig yn help i reoleiddio yn unol â Strategaeth Ddiwydiannol fodern y DU a'r wyth sector a enwir ynddi, y Strategaeth Fasnach, y Strategaeth Seilwaith a'r Strategaeth BBaChau. Cysylltir hyn ag ymrwymiadau ehangach ar gyfer diwygio'r drefn reoleiddio ac i Gynllun Gweithredu a gyhoeddwyd gan y Canghellor. Dywed yr Adroddiad hefyd bod diwygio'r gyfraith gymathedig yn helpu i gyflymu Sero Net, twf rhanbarthol, ac yn hwb i ddiogelu'r economi a'i gwneud yn fwy gwydn.
Bydd diwygio'r gyfraith gymathedig yn rhan o ymagwedd gyffredinol Llywodraeth y DU at ddiwygio rheoleiddio, a byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar y defnydd o bwerau Deddf REUL wrth wneud hynny. Mae'r Adroddiad ar Gyfraith Gymathedig yn disgrifio'r cynlluniau i ddiwygio a dirymu cyfraith gymathedig. Ni fydd mwyafrif y cynigion yn gofyn am ddefnyddio pwerau Deddf REUL, ond bydd rhai'n dal i ddefnyddio'r pwerau hynny (e.e. diogelwch hedfan, llongau masnach, a mân newidiadau eraill).
Wrth i gynlluniau ehangach Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio rheoliadau ddod yn glir ac wrth i ni ddeall y goblygiadau i Gymru, byddwn yn gweithio gyda hi i wneud y gorau o'r cyfleoedd a'r manteision i Gymru ac i leihau unrhyw risgiau. Mae Llywodraeth y DU yn ailddatgan hefyd yn ei Hadroddiad ar Gyfraith Gymathedig ei hymrwymiad i gryfhau ei pherthynas â'r llywodraethau datganoledig a'r UE.
4. Edrych tua'r dyfodol
Bu cynnydd bach yn nefnydd Llywodraeth y DU o bwerau Deddf REUL ers ein hadroddiad chwemisol diwethaf wrth i raglen ddeddfwriaethol newydd Llywodraeth y DU ddatblygu. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar gynigion sydd â goblygiadau datganoledig. Nid ydym yn disgwyl cynnydd sylweddol yn nefnydd Llywodraeth y DU o bwerau REUL cyn iddynt ddod i ben ym mis Mehefin 2026.
Pan fydd Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad i ddefnyddio pwerau cydredol, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau yn unol â'n blaenoriaethau ni ac Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar Ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig. Bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu Senedd Cymru yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt a Rheolau Sefydlog y Senedd.
Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ddefnyddio pwerau Deddf REUL, ond bydd yn adolygu'r sefyllfa.
Disgwylir ein hadroddiad chwemisol olaf ond un yn gynnar yn 2026, yn dilyn adroddiad Llywodraeth y DU.
Atodiad A: defnydd Llywodraeth y DU o bwerau Deddf REUL y rhoddodd Gweinidogion Cymru eu cydsyniad ar eu cyfer yn ystod y cyfnod adrodd
Offeryn statudol
Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Dirymu) 2025
Manylion
Gwnaeth yr OS ddirymu, naill ai'n llawn neu yn rhannol, bum eitem o ddeddfwriaeth gaffael sy'n ddiangen yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn dilyn Cychwyn Deddf Caffael 2023 ar 24 Chwefror 2025.
Cynnydd
Cawsant eu gosod gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar 25 Ebrill 2025, a chyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar 30 Ebrill 2025. Daeth y rheoliadau i rym ar 15 Mai 2025.
Offeryn Statudol
Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2025
Manylion
Gwneud y set olaf o ddiwygiadau canlyniadol sydd eu hangen i is-ddeddfwriaeth i ail-labelu REUL (a thermau cysylltiedig) fel "cyfraith gymathedig" (a thermau cysylltiedig) mewn is-ddeddfwriaeth.
Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i ddileu cyfeiriadau mewn is-ddeddfwriaeth at egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE a hawliau a ddargedwir o dan adran 4 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae Deddf REUL yn dileu'r ddau.
Nod hyn yw gwneud y llyfr statud yn fwy eglur, a gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch a haws ei deall.
Cynnydd
Cawsant eu gosod gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar 27 Ionawr 2025, a chyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar 30 Ionawr 2025. Daeth y rheoliadau i rym ar 27 Chwefror 2025.
Offeryn Statudol
Manylion
Mae cynhyrchion a reoleiddir yn golygu cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid y mae angen awdurdodiad i'w gwerthu ar y farchnad. Yr FSA sy'n rheoli awdurdodiadau ar gyfer marchnad cynnyrch a reoleiddir yng Nghymru a Lloegr.
Daeth yr OS Prydain Fawr i rym ar 1 Ebrill 2025 ac mae'n diwygio deddfwriaeth ar gynnyrch a reoleiddir sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd anifeiliaid; ychwanegion bwyd; ensymau bwyd; blasau bwyd; deunydd sy'n dod i gysylltiad â bwyd; bwyd neu fwyd anifeiliaid sy'n cynnwys, sydd wedi'i wneud o neu sydd wedi'i gynhyrchu o organebau wedi'u haddasu'n enetig (GMOs); bwydydd newydd; a blasau cochi.
Gwnaeth yr OS ddau newid allweddol:
(i) dileu gofynion statudol ar gyfer adnewyddu cyfnodol awdurdodiadau ar gyfer tri chynnyrch a reoleiddir a
(ii) caniatáu awdurdodiadau i ddod i rym yn dilyn penderfyniad gan weinidog a'u cyhoeddi wedyn mewn cofrestr neu restr swyddogol, yn hytrach na chael eu henwi gan is-ddeddfwriaeth.
Gwnaeth yr OS hefyd ddirymu deddfwriaeth sy'n cynnwys awdurdodiadau ar gyfer cynhyrchion a reoleiddir tra'n cadw'r awdurdodiadau eu hunain er mwyn iddynt allu parhau i gael effaith a chael eu cyhoeddi yn y gofrestr neu'r rhestr berthnasol. Gwnaeth yr OS ddiwygiadau canlyniadol i amrywiol offerynnau statudol yr Alban, Cymru a Lloegr ac i bedwar offeryn deddfwriaeth uniongyrchol cymathedig.
Cynnydd
Cawsant eu gosod gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar 17 Mawrth 2025, a chyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar 30 Ionawr 2025. Daeth y rheoliadau i rym ar 1 Mai 2025.
