Erbyn hyn, mae maint Coedwig Genedlaethol Cymru gyfwerth â thros 90,000 o gaeau rygbi diolch i rwydwaith o safleoedd coetir ledled Cymru.
Mae ychwanegiadau diweddar yn cynnwys dau safle newydd: Neuadd Aberduna yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Choedwig y Castell yn Sir Gaerfyrddin, sy'n ychwanegu 24 hectar rhyngddynt.
Bydd y ddau safle hyn yn helpu i gefnogi natur, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a chefnogi mwy o bobl i dreulio amser mewn mannau gwyrdd.
Dywedodd Lucy Powell, o Outside Lives yn Neuadd Aberduna:
"Wedi'u harwain gan natur, rydym yn credu mewn adeiladu cymunedau sy'n gofalu amdanynt eu hunain a'i gilydd. Mae hyn yn golygu creu mannau croesawgar lle gall pobl gyfarfod, siarad, rhannu syniadau, a meithrin ymddiriedaeth.
"Rydym wedi gweld hyn yn digwydd ar safle coedwig ein pencadlys; mae pobl yn naturiol yn dechrau cysylltu, gweithio gyda'i gilydd, a chefnogi ei gilydd a helpu i ailadeiladu'r ymdeimlad o gymuned sydd wedi'i golli dros amser."
Mae'r Goedwig Genedlaethol bellach hefyd yn cynnwys 23 o Goetiroedd Bach ledled Cymru. Mae'r rhain yn leiniau bach maint cyrtiau tenis a grëwyd gan ddefnyddio dull Miyawaki o blannu coed brodorol trwchus.
Mae ychwanegiadau diweddar eraill at y Goedwig Genedlaethol yn cynnwys 20,000+ hectar arall o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, yn cynnwys dwy ardal sy'n cael eu rheoli gan grwpiau cymunedol yn y Creunant a Croeso i'n Coedwigoedd.
Mae yna hefyd ddau safle Coetir Coffa Covid-19 – yn Hafod y Bwch ar Ystâd Erddig Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Wrecsam ac Ynys Hywel ger Caerffili. Mae'r coedwigoedd hyn yn darparu lleoedd diogel, hygyrch i deuluoedd a ffrindiau gofio anwyliaid a fu farw yn ystod y pandemig.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae 90,000 hectar yn garreg filltir enfawr i Goedwig Genedlaethol Cymru ar ein taith tuag at greu coedwig sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de.
"Mae mwy i'r Goedwig Genedlaethol na choed yn unig - mae'n ymwneud â sicrhau bod mwy o bobl yn gallu treulio mwy o amser ym myd natur a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."
Mae safleoedd sy'n ymuno â'r Goedwig Genedlaethol yn cael arwyddion Llarwydd Cymreig a gynhyrchwyd gan Sefydliad Pobl Ddall Merthyr Tudful, menter gymdeithasol sy'n cyflogi pobl anabl a difreintiedig ledled de Cymru. Mae'r arwyddion wedi'u gwneud o Larwydd Cymreig sy'n cael ei dyfu, ei dorri a'i brosesu yng Nghymru, ac sydd wedi'i ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC).
