Anafusion ffyrdd adroddwyd amdanynt: 2024
Data ar ddamweiniau ac anafiadau beicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr, a cheir dadansoddiadau yn ôl nodweddion demograffig ar gyfer 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r bwletin hwn yn darparu dadansoddiad manylach o'r anafusion sy'n deillio o wrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2024. Mae'r bwletin Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: 2024, a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd 2025, yn canolbwyntio ar y gwrthdrawiadau a gofnodwyd yn fanylach.
Mae'r datganiad hwn yn ymdrin â data 2024 a gyhoeddwyd yn amodol ar 21 Mai 2025. Mewn blynyddoedd cynt, mae data ar wrthdrawiadau chwarter 4 wedi'u cyhoeddi fel rhan o gyhoeddiad manwl blynyddol ar anafusion yn yr haf. Ond am i un heddlu gyflwyno'i ddata'n hwyr, gwnaethom gyhoeddi data chwarter 4 a blynyddol 2024 fel rhai dros dro ym mis Mai 2025 fel rhan o ddatganiad gwrthdrawiadau chwarterol. Mae'r oedi hwn wedi'i ddatrys erbyn, ac rydym bellach yn gallu cyhoeddi bwletin ystadegau manylach am anafusion yn 2024.
Oherwydd y cynnydd yn y diddordeb mewn data am wrthdrawiadau ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar 17 Medi 2023, cyhoeddon ni ddiweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafusion ffyrdd’ (Blog Digidol a Data) ar 24 Mai 2024.
Mae'r holl ddata sylfaenol yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru, ac ar ein dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae’r data’n cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau ac anafusion yn ôl ardal, terfyn cyflymder, difrifoldeb a math o gerbyd.
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data'r flwyddyn galendr lawn gyntaf ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya.
Prif bwyntiau
Yn 2024 cofnododd yr heddlu yng Nghymru 4,005 o anafusion ar y ffyrdd, 7.9% yn llai nag yn 2023 a 31.0% yn llai nag yn 2019 (cyn pandemig COVID-19).
O'r anafusion hyn, lladdwyd 84, cafodd 1,007 o bobl anafiadau difrifol a chafodd 2,914 o bobl fân anafiadau.
Ffigur 1: cyfran yr anafusion ffyrdd a gofnodwyd yn ôl difrifoldeb, 2024
Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart doesen yn dangos cyfran yr anafusion yn ôl difrifoldeb yn 2024. Ym mis Mai 2023, symudodd Heddlu Dyfed Powys i system cofnodi ar sail anafiadau (CRaSH - Cofnodi a Rhannu Gwrthdrawiadau) ar gyfer cofnodi gwrthdrawiadau ffyrdd lle mae anafusion yn fwy tebygol o gael eu cofnodi fel rhai difrifol nag yn y system casglu data flaenorol. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Roedd dynion yn fwy tebygol na menywod o fod yn anafusion, gan gyfrif am 61% o'r holl anafusion a 68% o'r holl bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol yng Nghymru yn 2024.
Mae pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol o fod yn anafusion mewn damweiniau ffordd, a hynny'n anghymesur. Maen nhw'n ffurfio 11% o'r boblogaeth ond roeddent yn cyfrif am 22% o'r holl anafusion yn 2024.
Wrth addasu ar gyfer y pellter a deithiwyd, mae beicwyr modur a beicwyr pedal yn fwy tebygol o fod yn anafusion na defnyddwyr ceir.
Diffiniad a chwmpas y data
Mae'r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn dangos y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. Er mai'r data hwn yw'r wybodaeth fanylaf a mwyaf dibynadwy am wrthdrawiadau ac anafusion ar y ffyrdd, nid ydynt yn gofnod llawn o bob digwyddiad o'r fath - er enghraifft, mae data ysbytai, arolygon a hawliadau iawndal yn dangos nad yw'r heddlu'n cael gwybod am lawer o wrthdrawiadau nad oeddynt yn angheuol ac na chafodd yr heddlu wybod amdanynt.
Yn gyffredinol, mae'r ffynonellau sydd ar gael yn dangos mai dim ond is-set o'r holl wrthdrawiadau lle ceir anaf personol yw'r rheini y rhoddir gwybod i heddluoedd amdanynt ac a gofnodir ganddynt, ond bod lefel yr anafiadau difrifol a'r marwolaethau wedi'u cofnodi'n dda. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Newidiadau i gasglu a chofnodi data gwrthdrawiadau ers 2023
Mae dau newid sydd wedi effeithio ar ddata STATS19 ar wrthdrawiadau ar y ffordd a gofnodwyd gan yr heddlu ers 2023. Dyma'r newidiadau.
1. Mabwysiadu system cofnodi ar sail anafiadau ar gyfer cofnodi gwrthdrawiadau ffyrdd
Ar 15 Mai 2023, Heddlu Dyfed Powys oedd yr heddlu cyntaf yng Nghymru i newid i'r offeryn cofnodi safonol newydd, sef CRaSH (Collision Recording and Sharing) sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ffordd gyffredin i heddluoedd gasglu a chyflwyno data am wrthdrawiadau ffyrdd. Mae CRaSH yn system cofnodi ar sail anafiadau, ac mae'r Adran Drafnidiaeth wedi canfod bod heddluoedd sy'n defnyddio systemau o'r fath yn debygol o gofnodi mwy o wrthdrawiadau difrifol nag mewn casgliadau data blaenorol.
Esbonnir hyn ymhellach yn ein hadroddiad ansawdd, a byddwn yn parhau i adolygu'r ffordd mae hyn yn effeithio ar ein data.
2. Cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya
Ar 17 Medi 2023, newidiwyd y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru trwy gyfraith o 30mya i 20mya. Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer yn golygu strydoedd preswyl neu brysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd. Byddai’r newidiad wedi effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd oedd yn 30mya cyn 17 Medi, ond nid pob un. Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd sydd wedi aros yn rhai 30mya.
Anafusion ar y ffyrdd
Mae'r adran hon yn cyflwyno crynodebau lefel uchel ar gyfer yr holl anafusion yng Nghymru, gan gynnwys rhai dadansoddiadau yn ôl oedran a rhyw. Mae'r adrannau diweddarach yn y bwletin hwn yn canolbwyntio ar anafusion a oedd yn feicwyr modur, yn feicwyr pedal, yn gerddwyr ac yn bobl ifanc. Mae rhagor o ddadansoddiad o'r anafusion hyn ar gael yn y dangosfwrdd Gwrthdrawiadau ffyrdd cysylltiedig o dan y pennawd anafusion ac o dablau StatsCymru.
Yn ystod 2024, cofnododd heddluoedd yng Nghymru gyfanswm o 2,917 o wrthdrawiadau ffyrdd yn ymwneud ag anafiadau personol, a arweiniodd at 4,005 o anafusion. O'r marwolaethau a'r anafiadau hyn:
- lladdwyd 84 (2%)
- cafodd 1,007 (25%) o bobl eu hanafu’n ddifrifol
- cafodd 2,914 (73%) o bobl fân anafiadau
Cafodd 84 o bobl eu lladd mewn gwrthdrawiadau yng Nghymru yn 2024, sef y nifer isaf a gofnodwyd mewn blwyddyn galendr ac eithrio 2020 (74). Noder, mae'n debygol bod cyfyngiadau teithio'r coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar 2020 pan welwyd lefelau traffig is ar y ffyrdd. Mae nifer y gwrthdrawiadau angheuol a gofnodwyd wedi bod yn sefydlog ar y cyfan ers 2010.
Rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau i niferoedd bach, megis nifer yr anafusion a laddwyd y flwyddyn. Er mwyn manylu neu ddadansoddi’r newid dros amser, gallai fod yn fwy priodol edrych ar dueddiadau o ran yr anafusion a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol (KSI).
Roedd 1,091 (27%) o anafusion KSI yn 2024. Roedd hyn 3.2% yn is na 2023 ac 8.5% yn is na 2019 (cyn pandemig COVID-19).
Mae Ffigur 2 yn dangos y duedd o ran nifer yr anafusion KSI ers 1994. Dros y cyfnod hwn, bu gostyngiad sylweddol o 2,208 yn 1994 i 820, y ffigur isaf, yn 2020. Rhaid wrth ofal wrth gymharu â 2020 gan fod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar ffigurau gwrthdrawiadau ac anafusion.
Bydd Heddlu Dyfed Powys wedi effeithio ar nifer yr anafusion KSI a gofnodwyd ers 2023 am iddynt newid i gofnodi ar sail anafiadau. Byddem yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer yr anafusion difrifol a gofnodwyd yn ardaloedd Heddlu Dyfed Powys, a gostyngiad mewn mân anafusion a gofnodwyd.
Ffigur 2: Anafusion KSI, yn ôl difrifoldeb, 1994 i 2024
Disgrifiad o ffigur 2: mae'r siart linell yn dangos y duedd mewn anafusion KSI yn ôl difrifoldeb, rhwng 1994 a 2024. Ym mis Mai 2023, symudodd Heddlu Dyfed Powys i system cofnodi ar sail anafiadau (CRaSH - Cofnodi a Rhannu Gwrthdrawiadau) ar gyfer cofnodi gwrthdrawiadau ffyrdd lle mae anafusion yn fwy tebygol o gael eu cofnodi fel rhai difrifol nag yn y system casglu data flaenorol.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion ar y ffyrdd yn ôl math o ddefnyddiwr ffordd
Mae Ffigurau 3 a 4 yn dangos y tueddiadau yn nifer yr anafusion ar y ffyrdd ar gyfer gwahanol fathau o ddefnyddwyr ffyrdd. Mae pob categori o ddefnyddiwr ffordd wedi gweld gostyngiad cyffredinol mewn anafusion ffyrdd dros amser.
Ffigur 3: anafusion ar y ffyrdd a oedd yn teithio mewn ceir, tacsis a bysiau mini, 1994 i 2024
Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart linell yn dangos y duedd mewn anafusion ffyrdd ar gyfer defnyddwyr ffyrdd mewn ‘ceir, tacsis a bysiau mini’ yng Nghymru rhwng 1994 a 2024. Mae'r siart yn dangos gostyngiad cyffredinol dros y ddau ddegawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Ffigur 4: anafusion ar y ffyrdd yn ôl math o ddefnyddiwr ffordd ac eithrio mewn ‘ceir, tacsis a bysiau mini’, 1994 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4: mae'r siartiau llinell yn dangos y tueddiadau mewn anafusion ffyrdd ar gyfer beicwyr modur, beicwyr pedal, cerddwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill dros amser. Mae'r siartiau yn dangos gostyngiad cyffredinol mewn anafusion ffyrdd a gofnodwyd ar gyfer pob math o ddefnyddiwr ffordd.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Beic modur: Yn cynnwys mopeds, sgwteri modur, beiciau modur a chyfuniadau. Cerbydau eraill: Yn cynnwys bysiau/coetsys, faniau a cherbydau nwyddau.
Bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr anafusion KSI ar ffyrdd Cymru ers y 1970au ar gyfer pob math o ddefnyddiwr ffordd.
Mae gan bob categori o ddefnyddiwr ffordd siawns wahanol o gael anaf difrifol. Mae cerddwyr, beicwyr pedal a beicwyr modur yn cael eu hystyried yn ddefnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed gan eu bod yn wynebu risg uwch o fod mewn gwrthdrawiad (o gymharu â'r pellter a deithiwyd) neu'n fwy agored i niwed o ran cael eu hanafu neu eu lladd, os ydynt mewn gwrthdrawiad.
Roedd defnyddwyr ceir, tacsis a bysiau mini yn cyfrif am 63% o gyfanswm yr anafusion ond 49% o anafusion KSI yn 2024.
Beicwyr modur oedd 12% o gyfanswm yr anafusion, fodd bynnag, roedden nhw'n cyfrif am 22% o anafusion KSI. Roedd cerddwyr hefyd yn cyfrif am gyfran uwch o anafusion KSI nag y gwnaethant am gyfanswm yr anafusion, gan adlewyrchu eu bod yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol os ydynt mewn gwrthdrawiad.
Mae rhagor o ddadansoddiad o'r anafusion hyn ar gael o'r dangosfwrdd Gwrthdrawiadau ffyrdd cysylltiedig o dan y pennawd anafusion ac o dablau StatsCymru.
Anafusion ar y ffyrdd yn ôl rhyw ac oedran
Roedd anafusion ar y ffyrdd yn fwy tebygol o fod yn ddynion na menywod. Dynion oedd 61% o'r holl anafusion a 68% o anafusion KSI yng Nghymru yn 2024.
Ffigur 5: anafusion ar y ffyrdd yn ôl rhyw a difrifoldeb, 2024
Disgrifiad o ffigur 5: mae'r siart golofn yn cymharu nifer yr anafusion gwrywaidd a benywaidd yn ôl difrifoldeb yn 2024.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Mae Ffigur 6 yn dangos y duedd hirdymor yn nifer yr anafusion KSI yn ôl grŵp oedran. Ers 1994, mae'r niferoedd wedi gostwng ar draws pob grŵp oedran. Gwelwyd y gostyngiad canrannol mwyaf (80.4%) gyda phlant (dan 16), ac yna'r grŵp oedran 16 i 24 (59.1%). Ar gyfer y grŵp oedran rhwng 45 a 69 oed, mae'r nifer wedi gostwng 23.4% ers 1994.
Bydd Heddlu Dyfed Powys wedi effeithio ar nifer yr anafusion KSI a gofnodwyd ers 2023 am iddynt newid i gofnodi ar sail anafiadau. Byddem yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer yr anafusion difrifol a gofnodwyd yn ardaloedd Heddlu Dyfed Powys, a gostyngiad mewn mân anafusion a gofnodwyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Ffigur 6: Anafusion KSI yn ôl grŵp oedran, 1994 i 2024
Disgrifiad o ffigur 6: mae'r siart linell yn dangos y duedd mewn anafusion KSI yn ôl grŵp oedran yng Nghymru rhwng 1994 a 2024.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Un ffordd o archwilio pa ddefnyddwyr ffyrdd yw'r rhai mwyaf agored i niwed yw edrych ar nifer yr anafusion fel cyfran o'r boblogaeth. Mae'r adrannau canlynol o'r bwletin hwn yn dangos nifer yr anafusion ar y ffyrdd a gofnodwyd fel cyfradd fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth yng Nghymru yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2024. Mae amcangyfrifon poblogaeth Cymru yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.
Yn 2024, pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) oedd y grŵp oedran mwyaf mewn perygl o gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad ffordd, gyda 262 o anafusion fesul 100,000 o bobl ifanc yn y boblogaeth. Plant (rhwng 0 ai 15 oed) oedd y grŵp oedran lleiaf mewn perygl, gyda 67 o anafusion fesul 100,000 o blant yn y boblogaeth.
Mae Ffigur 7 yn dangos yr anafusion KSI a gofnodwyd fel cyfradd fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth. Mae'n tynnu sylw at y gyfradd anghymesur o uchel o anafusion KSI ymhlith pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) yn 2024, lle roedd 72 o anafusion KSI fesul 100,000 o bobl yn y grŵp oedran.
Mae dosbarthiad anafusion KSI yn ôl grŵp oedran yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol yng Nghymru.
Ffigur 7: Anafusion KSI fesul 100,000 o'r boblogaeth, yn ôl grŵp oedran, 2024
Disgrifiad o ffigur 7: mae'r siart far yn dangos nifer yr anafusion KSI fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru yn 2024 yn ôl grŵp oedran. Pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) oedd â'r gyfradd uchaf o anafusion, sef 72 fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Cyfraddau anafusion yn ôl grŵp oedran a defnyddiwr ffordd
Mae ffigurau 8 a 9 yn dangos anafusion fel cyfradd fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth (yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2024), yn ôl grŵp oedran a math o ddefnyddiwr ffordd. Nid yw'r cyfraddau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu'r risg fesul taith neu fesul cilometr a deithiwyd oherwydd gall fod gwahaniaethau o ran nifer y defnyddwyr ffyrdd ym mhob categori yn ôl oedran.
Pobl ifanc yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod yn anafusion a oedd yn ddefnyddwyr ceir (177 fesul 100,000) ac anafusion a oedd yn feicwyr modur (39 fesul 100,000).
Yn 2024, y grŵp oedran fwyaf mewn perygl o ddamweiniau beiciau pedal oedd y rhai rhwng 25 a 44 oed.
Plant (rhwng 0 a 15 oed) oedd y cerddwyr mwyaf mewn perygl yn 2024 gyda chyfradd anafusion o 22 fesul 100,000, ac yna pobl rhwng 16 a 24 oed (19 fesul 100,000).
Ffigur 8: cyfraddau anafusion yn ôl grŵp oedran ar gyfer defnyddwyr ceir, tacsis a bysiau mini, 2024
Disgrifiad o ffigur 8: mae'r siart golofn yn dangos cyfradd yr anafusion fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth, yn ôl grŵp oedran, ar gyfer defnyddwyr ffyrdd mewn ‘ceir, tacsis a bysiau mini’ yn 2024. Cofnodwyd mai pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) sydd â'r gyfradd uchaf gyda 177 o anafusion fesul 100,000.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Ffigur 9: cyfraddau anafusion yn ôl grŵp oedran yn ôl defnyddwyr ffyrdd a oedd yn feicwyr modur, beicwyr pedal, a cherddwyr, 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 9: mae'r siart golofn yn dangos cyfradd yr anafusion fesul 100,000 o bobl yn y boblogaeth, yn ôl grŵp oedran, ar gyfer defnyddwyr ffyrdd sy'n feicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr yn 2024. Ar gyfer defnyddwyr beiciau modur, cofnodwyd mai pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) sydd â'r gyfradd uchaf gyda 39 o anafusion fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Beic modur: yn cynnwys mopeds, sgwteri modur, beiciau modur a chyfuniadau
Gallwn hefyd edrych ar y cysylltiad â risg, wedi'i fynegi fel nifer yr anafusion fesul biliwn o gilometrau cerbyd a deithiwyd. Mae'r cyfraddau yn yr adran hon ac yn nhabl 1 yn cael eu cyfrifo drwy rannu, ar gyfer pob math o ddefnyddiwr ffordd, nifer yr anafusion a gofnodwyd â'r amcangyfrif cyfatebol o lefel y traffig yn 2024. Mae amcangyfrifon traffig ffyrdd Cymru yn cael eu rhyddhau gan yr Adran Drafnidiaeth fel rhan o'u gwaith casglu ystadegau traffig ffyrdd.
Mae hyn yn dangos, ar gyfer y pellter cyfatebol a deithiwyd:
- Er bod defnyddwyr ceir yn cyfrif am y mwyafrif helaeth o anafusion, mae'r risg gymharol i feicwyr modur a beicwyr pedal yn llawer uwch.
- Yn 2024, roedd beicwyr modur 22 gwaith yn fwy tebygol na'r rhai mewn ceir a thacsis o fod yn anafusion a 50 gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
- Roedd beicwyr pedal 11 gwaith yn fwy tebygol na'r rhai mewn ceir a thacsis o fod yn anafusion ac roeddent 14 gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
| Difrifoldeb | Beiciau modur | Ceir a thacsis | Beiciau pedal |
|---|---|---|---|
| Lladdwyd | 140 | 2 | 17 |
| Difrifol | 1,065 | 23 | 322 |
| KSI | 1,205 | 24 | 339 |
| Mân | 1,215 | 84 | 872 |
| Cyfanswm | 2,420 | 109 | 1,211 |
Disgrifiad o dabl 1: mae'r tabl yn dangos cyfradd yr anafusion fesul biliwn o gilometrau o lefel y traffig ffyrdd, yn ôl math o ddefnyddiwr ffordd a difrifoldeb, yn 2024.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru. Amcangyfrifon traffig ffyrdd, Yr Adran Drafnidiaeth
[Nodyn 1] Efallai na fydd y ffigurau unigol gyda'i gilydd yn dod i'r cyfanswm oherwydd talgrynnu ffigurau.
Anafusion ar y ffyrdd yn ôl terfyn cyflymder
Yn yr adran hon rydym yn cyflwyno anafusion ffyrdd a gofnodwyd yn ôl terfyn cyflymder y ffordd lle y bu'r gwrthdrawiad.
Mae rhai problemau ag ansawdd y data wedi'u nodi mewn perthynas â therfyn cyflymder cofnodedig y ffyrdd lle digwyddodd y gwrthdrawiadau. Mae archwiliadau dilysu ychwanegol wedi'u cynnal gyda chymorth awdurdodau lleol i sicrhau bod data am y ffyrdd sydd â therfynau cyflymder 20mya neu 30mya y mae gwrthdrawiadau'n digwydd arnynt o ansawdd da. Oherwydd y problemau hyn â'r data, rhaid wrth ofal wrth ddehongli'r data hwn. Disgrifir y problemau'n fanylach yn adran materion ansawdd data gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu: Bwletin 2023.
Wrth ystyried nifer y gwrthdrawiadau yn ôl terfyn cyflymder y ffordd y digwyddon nhw arni, mae rhai ffactorau pwysig i'w hystyried:
- Yn 2022, roedd 870km o ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya. Ar 17 Medi 2023, cynyddodd hyn i oddeutu 13,000km oherwydd y newid yn y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya. Cafodd y rhan fwyaf o ffyrdd a oedd yn 30mya eu newid i 20mya.
- Roedd 13,100km o ffyrdd â therfyn cyflymder o 30mya yn 2022. Gostyngodd hynny i 980km yn 2023.
- Ar hyn o bryd, nid oes ffynonellau data swyddogol ar lefel y traffig ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder gwahanol.
Yn 2024, roedd 1,354 o anafusion ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya, y nifer uchaf o anafusion o'i gymharu â chyflymderau ffyrdd eraill. Dilynwyd hyn gan ffyrdd â therfyn cyflymder o 60mya gyda 1,264 o anafusion.
Ffigur 10: anafusion ffyrdd a gofnodwyd, yn ôl terfyn cyflymder ffyrdd, 2024
Disgrifiad o ffigur 10: mae'r siart far yn dangos nifer yr anafusion yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yn ôl terfyn cyflymder ffyrdd yng Nghymru yn 2024.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Mae cyfran yr anafusion sy'n KSI yn tueddu i gynyddu gyda therfyn cyflymder y ffordd. Yn 2024, roedd 24% o'r anafusion ar ffyrdd 20mya yn KSI, o gymharu â 35% ar ffyrdd 60mya.
Mae Tabl 2 yn dangos nifer yr anafusion o bob math o ddefnyddiwr ffordd a gofnodwyd ac yn dangos terfyn cyflymder y ffordd lle digwyddodd y gwrthdrawiad. Roedd y mwyafrif helaeth o anafusion a oedd yn feicwyr pedal ac yn gerddwyr mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya. Cafodd defnyddwyr ceir, tacsis a bysiau mini, yn ogystal â beicwyr modur, eu hanafu amlaf mewn gwrthdrawiadau a gofnodwyd ar ffyrdd 60mya.
| Terfyn cyflymder (mya) | Ceir, tacsis a bysiau mini | Beic modur | Arall | Beic pedal | Cerddwr | Holl ddefnyddwyr y ffordd |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 20 | 602 | 146 | 89 | 150 | 367 | 1,354 |
| 30 | 249 | 62 | 21 | 23 | 50 | 405 |
| 40 | 326 | 65 | 22 | 8 | 19 | 440 |
| 50 | 232 | 26 | 35 | 5 | 9 | 307 |
| 60 | 939 | 169 | 99 | 29 | 28 | 1,264 |
| 70 | 183 | 16 | 31 | 3 | 2 | 235 |
| Cyfanswm | 2,531 | 484 | 297 | 218 | 475 | 3,770 |
Disgrifiad o dabl 2: mae'r tabl yn cofnodi nifer yr anafusion ar y ffyrdd yn ôl defnyddiwr ffordd a therfyn cyflymder yng Nghymru yn 2024. Roedd y nifer fwyaf o anafusion yn gysylltiedig â gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya (cyfanswm o 1,354 o anafusion).
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion ar ffyrdd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno)
Mae'r adran hon yn ystyried yr anafusion a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn gallu eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Mae data ar wrthdrawiadau ffyrdd ar ôl newid y terfyn cyflymder diofyn i 20mya wedi'i gyfyngu i gyfnod eithaf byr o amser ar hyn o bryd (17 Medi 2023 i 31 Rhagfyr 2024) a gall fod yn gyfnewidiol dros y tymor byr. Rhaid wrth ofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr. Byddwn yn parhau i fonitro hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd (Blog Digidol a Data) yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Yn 2024, cofnodwyd 1,759 o anafusion ar ffyrdd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno), sef y nifer blynyddol isaf a gofnodwyd yng Nghymru. Mae hyn 19.5% yn llai nag yn 2023 (2,185 o anafusion), sef y flwyddyn y newidiwyd y terfyn cyflymder diofyn, a 25.0% yn llai nag yn 2022 (2,344 o anafusion), sef y flwyddyn galendr lawn ddiweddaraf cyn y newid i'r terfyn cyflymder diofyn.
Mae nifer yr anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder is (20mya a 30mya), yn gyffredinol wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffigur 11: anafusion ffyrdd a gofnodwyd ar ffyrdd 20mya a 30mya, rhwng 2010 a 2024
Disgrifiad o ffigur 11: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer yr anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, rhwng 2010 a 2024. Mae'r nifer wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion ffyrdd yn ôl defnyddwyr ffyrdd agored i niwed
Mae'r adrannau isod yn ystyried defnyddwyr ffyrdd agored i niwed (beicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr) yn ogystal ag yn edrych ar anafusion a oedd yn bobl ifanc yn fanylach.
Mae gwybodaeth fanwl arall am anafusion ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, megis dadansoddiadau awdurdodau lleol, ar gael o'r dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd cysylltiedig a thablau StatsCymru.
Anafusion a oedd yn feicwyr modur
Prif bwyntiau
Cofnodwyd 484 o anafusion a oedd yn feicwyr modur gan yr heddlu yn 2024, sy'n cynrychioli 12% o'r holl anafusion yng Nghymru.
O'r anafusion hyn, roedd 241 yn KSI a chafodd 243 fân anafiadau. Mae nifer y KSI a'r mân anafusion yn 10% a 9% yn is nag yn 2023 yn y drefn honno. Bydd Heddlu Dyfed Powys wedi effeithio ar nifer yr anafusion KSI a gofnodwyd ers 2023 am iddynt newid i gofnodi ar sail anafiadau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Gostyngodd nifer yr anafusion a oedd yn feicwyr modur 10% o'i gymharu â 2023. Mae cyfanswm yr anafusion a oedd yn feicwyr modur wedi bod yn gostwng yn gyffredinol dros amser (ffigur 12).
Mae cyfran yr anafusion a oedd yn feicwyr fodur sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn gyffredinol yn cynyddu gydag oedran, hyd at a chan gynnwys y grŵp oedran 45 i 69.
Yn 2024, dydd Sadwrn oedd y diwrnod o'r wythnos â'r nifer fwyaf o anafusion a oedd yn feicwyr modur (22% o'r holl anafusion a oedd yn feicwyr modur).
Ffigur 12: anafusion a oedd yn feicwyr modur yn ôl difrifoldeb, 2004 i 2024
Disgrifiad o ffigur 12: mae'r siart linell yn dangos y tueddiadau mewn anafusion a oedd yn feicwyr modur yn ôl difrifoldeb, rhwng 2004 a 2024. Yn 2024 bu gostyngiad o 10% mewn anafusion o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion a oedd yn feicwyr pedal
Prif bwyntiau
Yn 2024 gostyngodd anafusion a oedd yn feicwyr pedal 27% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gall nifer yr anafusion blynyddol a oedd yn feicwyr fod yn gyfnewidiol a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr.
Roedd 218 o anafusion a oedd yn feicwyr pedal yn 2024 (ffigur 13), sy'n 5.4% o'r holl anafusion yng Nghymru.
O'r anafusion hyn, roedd 61 yn anafusion KSI a 157 wedi cael mân anafiadau.
Yn 2024, roedd y mwyafrif helaeth o anafusion a oedd yn feicwyr pedal yn ddynion, gan gyfrif am 89% o'r cyfanswm.
Digwyddodd 69% o'r holl anafusion a oedd yn feicwyr pedal ar gyffyrdd.
Ffigur 13: anafusion a oedd yn feicwyr pedal yn ôl difrifoldeb, 2004 i 2024
Disgrifiad o ffigur 13: mae'r siart linell yn dangos nifer yr anafusion a oedd yn feicwyr pedal rhwng 2004 a 2024. Yn 2024 gostyngodd anafusion a oedd yn feicwyr pedal 27% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr anafusion a oedd yn feicwyr pedal o ddiwedd y 1980au ymlaen, gyda'r cyfanswm isaf wedi'i gofnodi yn 2009 cyn cynyddu rhwng 2010 a 2014 a gostwng ers hynny. Mae nifer yr anafusion KSI a gofnodwyd wedi aros yn fras yr un fath dros y cyfnod cyfan.
Anafusion a oedd yn gerddwyr
Prif bwyntiau
Yn 2024 cafwyd 475 o anafusion a oedd yn gerddwyr, sy'n cynrychioli 12% o'r holl anafusion yng Nghymru.
O'r anafusion hyn, cafodd 13 o gerddwyr eu lladd, cafodd 129 anafiadau difrifol a chafodd 333 fân anafiadau.
Gostyngodd cyfanswm yr anafusion a oedd yn gerddwyr 17% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Yn 2024, dynion oedd mwyafrif yr anafusion a oedd yn gerddwyr, gan gyfrif am 54% o'r anafusion.
Ffigur 14: anafusion a oedd yn gerddwyr yn ôl difrifoldeb, 2004 i 2024
Disgrifiad o ffigur 14: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser o anafusion a oedd yn gerddwyr yn ôl difrifoldeb yng Nghymru rhwng 2004 a 2024. Bu gostyngiad ym mhob difrifoldeb dros amser.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Yn 2024, roedd 119 o anafusion a oedd yn gerddwyr rhwng 0 a 15 oed (25% o'r holl anafusion a oedd yn gerddwyr), mwy nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae nifer yr anafusion a oedd yn gerddwyr rhwng 0 a 15 oed 32% yn is nag yn 2023 (176 o anafusion a oedd yn gerddwyr).
Ffigur 15: anafusion a oedd yn gerddwyr yn ôl grŵp oedran, 2022 i 2023
Disgrifiad o ffigur 15: mae'r siart golofn yn dangos cymhariaeth o anafusion a oedd yn gerddwyr yn ôl grŵp oedran yng Nghymru yn 2024 a 2023.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion a oedd yn bobl ifanc
Prif bwyntiau
Yn 2024, cafwyd 886 o anafusion ar y ffyrdd rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru, gostyngiad o 10.1% o'i gymharu â 2023. Roedd 244 o anafusion rhwng 16 a 24 oed yn KSI.
Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o fod yn anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd, a hynny'n anghymesur. Maent yn ffurfio 11% o'r boblogaeth (yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth 2024) ond 22% o'r holl anafusion ar y ffyrdd yn 2024. Yn benodol, roedd pobl ifanc yn cyfrif am 27% o'r holl anafusion a oedd yn feicwyr modur, llawer uwch na'r gyfran o'r boblogaeth o 11%.
Yn 2024, o'r anafusion a oedd yn bobl ifanc, roedd 65% ohonynt yn ddynion a 35% yn fenywod.
Mae dynion rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol na menywod o fod yn anafusion ym mhob categori defnyddiwr ffordd. Ar gyfer beicwyr modur, roedd 11 gwaith cymaint o anafusion a oedd yn ddynion ifanc na menywod ifanc (ffigur 16).
Roedd y mwyafrif o anafusion a oedd yn bobl ifanc (63%) yn y categori defnyddiwr ffordd mewn ceir, tacsis a bysiau mini.
Ffigur 16: anafusion ar y ffyrdd rhwng 16 a 24 oed yn ôl rhyw a math o ddefnyddiwr ffordd, 2024
Disgrifiad o ffigur 16: mae'r siart golofn yn dangos cymhariaeth o nifer yr anafusion a oedd yn bobl ifanc yn ôl rhyw a math o ddefnyddiwr ffordd yn 2024. Roedd mwyafrif yr anafusion yn ddefnyddwyr mewn ‘ceir, tacsis a bysiau mini’ (63%).
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwybodaeth am ansawdd
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig. Mae rhai pwyntiau allweddol isod.
Mae’r ystadegau’n cyfeirio’n unig at bobl a gafodd anafiadau personol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu. Ceir rhywfaint o bosibilrwydd o dangofnodi achosion o’r fath, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau llai difrifol lle nad oedd swyddogion yr heddlu yn bresennol.
Nid yw’r ystadegau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau:
- na roddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
- lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle cadarnhawyd y gwrthdrawiad yn hwyrach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner i fod yn hunanladdiad neu episod meddygol.
Darperir manylion y prosesau casglu a dilysu data, cryfderau a chyfyngiadau'r data, a'r polisi adolygu yn yr adroddiad ansawdd.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ystadegau swyddogol achrededig yw'r rhain. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn ym mis Gorffennaf 2013. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.
Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw'n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir ynghylch dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Mae’r ystadegau hyn yn defnyddio data a gasglwyd gan Heddluoedd Cymru trwy system STAT19. I weld y data ar lefel y DU, a disgrifiad llawn o’r ffynonellau a’r dulliau a ddefnyddiwyd i grynhoi’r data, ewch i wefan GOV.UK (Ystadegau diogelwch ffyrdd (Adran Drafnidiaeth)).
Mae’r ystadegau hyn yn cael eu rhag-gyhoeddi yn adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Wrth ei brosesu, yr unig rai sy’n cael gweld y data yw’r rheini sy’n gysylltiedig â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd a dibenion gweithredol. Dim ond y rheini sydd â hawl yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU) sy’n cael gweld y datganiad cyn ei ryddhau.
Ansawdd
Mae’r ffigurau a gyhoeddir yn cael eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol sy’n defnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael ac yn defnyddio dulliau yn unol â’u barn broffesiynol a’u set sgiliau dadansoddi. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru’n cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU) ac egwyddorion System Ystadegau Ewrop ynghylch ansawdd allbynnau ystadegol.
Yna caiff y datganiad ystadegol ei ddrafftio a’i gymeradwyo gan uwch ystadegwyr a’i gyhoeddi ar-lein yn unol â datganiad Llywodraeth Cymru ar gyfrinachedd a gweld data.
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi ar yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw rhoi tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi a hysbysu’r cyfryngau a’r cyhoedd am y newidiadau i wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR, a lywir gan golofn dibynadwyedd Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (WFG)
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegau Trafnidiaeth
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 32/2025
