Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd newidiadau pellach i'r ffordd y mae galwadau 999 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn cael eu rheoli yn dod i rym o ddydd Mawrth 2 Rhagfyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y newidiadau hyn yn galluogi'r gwasanaeth ambiwlans i adnabod pobl ag ystod o gyflyrau difrifol, brys, fel strôc a thrawiadau ar y galon, y mae angen eu blaenoriaethu, ac ymateb yn gyflym iddynt.

Bydd categorïau newydd “oren – nawr”, “melyn - yn fuan” a “gwyrdd - wedi'i gynllunio” yn disodli'r categorïau ambr a gwyrdd presennol.

Mae hyn yn adeiladu ar y categorïau “porffor – ataliad” a “coch – argyfwng”, a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf ar gyfer y galwadau lle mae'r bygythiad mwyaf i fywyd.

O ddydd Mawrth, pan fydd rhywun yn ffonio 999 mewn argyfwng bydd pum categori ymateb newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans:

  • porffor - ataliad – ar gyfer pobl sy'n profi ataliad y galon neu ataliad anadlol ac sydd angen ambiwlans ar unwaith
  • coch - argyfwng – ar gyfer pobl sydd â risg uchel o gael ataliad y galon neu ataliad anadlol, er enghraifft, rhywun sy'n tagu, ac sydd angen help ar unwaith
  • oren - nawr – ar gyfer cyflyrau difrifol, sydd angen asesiad clinigol wyneb yn wyneb, profion a'u trosglwyddo i ysbyty neu ofal arbenigol – er enghraifft, rhywun sydd â symptomau sy'n awgrymu strôc neu drawiad y galon
  • melyn - yn fuan– ar gyfer pobl sydd angen eu hasesu yn gyntaf, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, cyn i glinigydd benderfynu ar y camau nesaf mwyaf priodol ar gyfer eu gofal; er enghraifft, person â phoen yn yr abdomen, neu anaf nad yw'n ddifrifol; gallai pobl aros gartref ar ôl triniaeth, neu gallai'r gwasanaeth ambiwlans drefnu cludiant iddynt i glinig neu ysbyty, yn dibynnu ar y camau mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion
  • gwyrdd - wedi'i gynllunio – ar gyfer galwadau llai brys, fel rhywun sydd â haint ysgafn; gallai pobl gael eu trin yn ddiogel gartref gyda'r gofal cywir gan wasanaethau lleol

Bydd y model newydd yn categoreiddio galwadau brys yn ôl angen, nid amser ymateb ambiwlans yn unig, gyda'r nod o wella canlyniadau a phrofiadau i bobl.

Bydd pobl yn cael eu hasesu gan ddefnyddio trefn brysbennu clinigol gwell i nodi eu hanghenion clinigol yn fwy effeithiol, a bydd pobl sydd angen ymateb cyflymach a'u cludo i'r cyfleuster gofal iechyd cywir yn cael eu blaenoriaethu.

Byddant yn cael eu paru gyda'r adnodd mwyaf priodol, boed hynny'n ambiwlans brys, ymarferydd parafeddygol uwch neu ddewisiadau amgen, fel cludiant cleifion wedi'i gynllunio neu hunan-ofal.

Mae'r newidiadau wedi'u cynllunio i leihau derbyniadau diangen i'r ysbyty yn ddiogel a chefnogi gofal yn agosach at adref lle bo hynny'n glinigol ddiogel.

Trwy deilwra ymatebion i anghenion unigol, bydd pobl yn derbyn gofal mwy amserol ac effeithiol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Diben y model ymateb ambiwlansys newydd hwn yw sicrhau bod pawb yn cael y gofal cywir ar gyfer eu cwyn neu eu cyflwr.

Drwy wella'r broses o wneud penderfyniadau clinigol a chyflwyno categorïau ymateb newydd, byddwn yn darparu canlyniadau a phrofiadau gwell i bobl ledled Cymru.

Bydd y dull newydd yn cael ei werthuso i sicrhau ei fod yn cyflawni'r gwelliannau yr ydym yn eu disgwyl mewn gofal cleifion.

Rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol o'r newidiadau a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf ac rydym am weld y system hon yn achub mwy o fywydau ac yn sicrhau profiadau gwell i bobl ledled Cymru.

Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

Yn draddodiadol, mae galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael eu categoreiddio fel coch, ambr neu wyrdd, ond mae wedi dod yn amlwg bod y categorïau hyn wedi ehangu dros amser, gan arwain at ddefnydd aneffeithlon o adnoddau ambiwlansys.

Nid yw'r categori ambr presennol – sy'n cynrychioli tua 70% o gyfanswm y galw – yn caniatáu ymateb wedi'i dargedu i gyflyrau difrifol fel strôc neu glun wedi torri, sy'n golygu bod rhai cleifion yn aros yn llawer hirach nag y byddai unrhyw un ohonom yn ei hoffi.

Mae natur y galwadau 999 y mae pobl yn eu gwneud wedi newid ac mae’n bwysig adlewyrchu hyn yn y ffordd rydyn ni’n ymateb, yn gyntaf oll i gynyddu nifer yr ambiwlansys sydd ar gael ar gyfer y rhai sydd wir eu hangen ond hefyd i sicrhau bod pobl y gellir gofalu amdanyn nhw yn agosach i’r cartref yn cael y cyfle hwnnw.